Yr etholiad mewn delweddau – rhan 1

Dwi wedi rhyw addo ers tro postio ychydig o ddelweddau ynglyn ag etholiad cyffredinol mis diwethaf – a heb wneud llawer – felly dyma ddechrau arni.

Dyma stopri’r ymgyrch yn ol y polau.  Mae’r graff cyntaf yn dynodi canfyddiadau Survation tros Brydain.  Survation oedd y cwmni polio mwyaf cywir.

Mae’r ail yn dangos canfyddiadau YouGov yng Nghymru.  Wnaethon nhw ddim yn rhy ddrwg chwaith.

Beth ydi’r busnes Deddf Iaith ‘ma yng Ngogledd Iwerddon?

Mae yna nifer o bobl dwi wedi siarad efo nhw tros y dyddiau diwethaf wedi mynegi syndod bod Deddf Iaith Wyddeleg yn un o’r esgyrn cynnen sy’n atal cytundeb i atgyfodi Stormont a’r weinyddiaeth yng Ngogledd Iwerddon.  Wedi’r cwbl ychydig iawn o bobl sy’n siarad yr iaith yn y Gogledd. 

Mae’r canfyddiad yma yn ddealladwy – ond mae’n anwybyddu un o’r elfennau lled unigryw i wleidyddiaeth y rhan fach yma o’r Byd.  Mae yna rhyw ran bach o feddylfryd y Canol Oesoedd wedi goroesi yng Ngogledd Iwerddon yn yr ystyr bod yna elfen ‘totemic’ cryf i’r ffordd mae pobl yn gweld eu gwleidyddiaeth – hynny yw bydd un peth gweddol gyfyng a phenodol yn aml yn cynrychioli cysyniad neu egwyddor ehangach o lawer.  Dyna sydd ar waith yma – symbol ydi’r iaith – a thrwy estyniad y Ddeddf Iaith.

Efallai mai’r lle i ddechrau yma ydi efo’r ddelwedd o Martin McGuiness yn sefyll yn sigledig ar ei draed yn Stormont i ymddiswyddo fel ail weinidog Gogledd Iwerddon, a Michelle O’Neil yn codi ar ei thraed hithau i ddweud nad oedd Sinn Fein (SF) yn bwriadu enwebu unrhyw un yn ei le.  Daeth hynny a’r Weinyddiaeth a’r Cynulliad ei hun i lawr – mae consensws wrth galon y ffordd mae’r sefydliad yn gweithredu, ac roedd y consensws wedi chwalu. Gwnaeth y gwleidyddion eu ffyrdd i’w hetholaethau i ymladd etholiadad – a chafodd ei hymladd mewn ffordd mwy chwerw ac ymysodol na’r un etholiad ers chwarter canrif.
Y fersiwn ‘swyddogol’ ydi mai’r rheswm pam y digwyddodd hyn oedd oherwydd i SF golli ffydd yn y DUP yn sgil y sgandal Cash for Ash.  Ond yn ol llawer nid dyna oedd y gwelltyn olaf – penderfyniad gan ddyn o’r enw Paul Givan oedd hwnnw.  Roedd Givan yn weinidog cymunedau DUP, ac roedd ganddo ddiddordeb obsesiynol a hynod elyniaethus tuag at y sector (hynod fach) addysg Gwyddelig yn ei bortffolio.  Penderfynodd y byddai’n syniad gwych arbed pres trwy ddiddymu grant bach o £100,000 i helpu plant tlawd i fynd i’r Gaeltacht yn yr haf i loywi eu Gwyddeleg.  Yn fuan wedi’r penderfyniad hwnnw  gyrrodd Gerry Adam i o’i gartref yn Dundalk i Derry i weld Martin McGuinness – oedd erbyn hynny yn amlwg yn marw.  Gyrwyd hwnnw i Belfast y diwrnod canlynol i ddymchwel Stormont.
I ddeall beth ddigwyddodd mae angen deall dau beth.  Yn gyntaf roedd SF wedi bod yn gogr droi yn etholiadol ers deuddeg mlynedd.  Daeth yn blaid bwysig yn etholiadol yn sgil yr ymprydiau newyn yn 1981, ond ni lwyddodd i oresgyn y blaid genedlaetholgar gyfansoddiadol yr SDLP y tu allan i Belfast a rhai o’r cymunedau gorllewinol gwledig tan Gytundeb Dydd Gwener y Groglith.  Tyfodd yn sydyn am sbel wedyn a goddiweddyd yr SDLP gyda throad y mileniwm.  Y disgwyl oedd y byddai’r blaid yn parhau i dyfu gan fod y boblogaeth Babyddol / genedlaetholgar yn tyfu.  
Ond ni ddigwyddodd hynny – wnaeth y bleidlais genedlaetholgar yn ei chyfanrwydd ddim tyfu llawer rhwng dechrau’r ganrif a 2016.  Mae’r rheswm am hynny yn hawdd i’w arenwi – roedd yna lawer o bobl yn fodlon pleidleisio i SF pan roeddynt yn wrth sefydliadol ac yn herio’r sefydliad unoliaethol – ond roeddynt yn llai tebygol o lawer i bleidleisio i blaid oedd yn cael ei hystyried yn rhan o’r sefydliad.  Roedd y tueddiad yma’n cael ei gryfhau gan ganfyddiad cynyddol nad oedd y wladwriaeth yn parchu’r traddodiad cenedlaetholgar yn unol a gofynion Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.
A daw hyn a ni at y Ddeddf Iaith.  Yng ngwleidyddiaeth Gogledd  Iwerddon mae’r iaith Wyddeleg yn dotem sy’n sefyll tros y diwylliant Gwyddelig ehangach.  Byddai Deddf Iaith yn ymgyrfforiad cyfreithiol o barch y wladwriaeth at y traddodiad diwylliannol Gwyddelig yn ei gyfanrwydd, ac mae diffyg Deddf – i lawer o genedlaetholwyr – yn adlewyrchiad o ddiffyg parch y wladwriaeth at eu diwylliant ehangach.
A daw hyn yn ei dro a ni yn ol at etholiadau Stormont eleni.  Cynyddodd SF ei phleidlais yn sylweddol iawn trwy ymladd yr etholiad mwyaf ffyrnig, cwynfanllyd a negyddol iddynt ei hymladd ers y dyddiau pan roeddynt yn canfasio i gyfeiliant hofrenyddion a chydag arogl nwy CS yn cael ei gario yn yr awel o’u cwmpas.  Roeddynt wedi uno llawer o’r tir canol a gweriniaethwyr di gyfaddawd o gwmpas y cysyniad o orfodi’r wladwriaeth i fynegi parch at eu diwylliant yn ffurfiol trwy ddeddfu.

Ond byddai derbyn Acht na Gaelige yn anathema llwyr i’r DUP – byddai’n troi eu gwladwriaeth fach yn rhywbeth nad ydynt am iddi fod.  Mae’r ddwy ochr wedi cyrraedd unwaith eto at wraidd y broblem – ac mae am fod yn anodd iawn symud o’r fan honno.



Canlyniadau’r etholiad o berectif ychydig yn wahanol

Dyma ganlyniadau Etholiad Cyffredinol 2017 o berspectif ychydig yn wahanol.  Mae’r graff cyntaf yn dangos hynt a helynt y pleidiau gwleidyddol yn y pum sedd mwyaf Cymraeg o ran iaith – Ynys Mon, Arfon, Meirion Dwyfor, Ceredigion a Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr.  Mae’r ail graff yn dangos hynt a helynt y pleidiau yn y 31 etholaeth arall. 
Os oes unrhyw un yn amau bod yna ddau ddiwylliant gwleidyddol gwahanol yng Nghymru – dydych chi ddim angen edrych dim pellach na’r ddwy ddelwedd isod i gael gwared o’r canfyddiad hwnnw.

Beth bynnag ddywedwch chi am y DUP _ _ _

 _ _ _ maen nhw wedi bod yn gyson trwy’r blynyddoedd.  Mae’n debyg mai yn y blaid yma yn unig mae gwleidyddiaeth Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn parhau i fyw, ac mae’r DUP mewn safle o gryn ddylanwad ar hyn o bryd.
Ond efallai bod yna bwynt ehangach i’w gymryd o’r etholiad cyffredinol diweddar.  Os ydym yn edrych tua’r Alban neu Ogledd Iwerddon y pleidiau mwyaf bellach ydi’r rhai llai ‘parchus’ a’r rhai sydd heb symud ymhell iawn oddi wrth egwyddorion creiddiol – a hynod amhoblogaidd o safbwynt y cyfryngau prif lif.
Mae Gogledd Iwerddon yn cael ei dominyddu gan blaid unoliaethol sy’n coleddu’r wleidyddiaeth fwyaf rhagfarnllyd ac ansoffisdigedig yn Ewrop a phlaid genedlaetholgar sy’n ddi edifar am ei rhan mewn cyfres o wrthryfeloedd milwrol digon gwaedlyd tros y ganrif ddiwethaf.  Dydi’r blaid sy’n rheoli yn yr Alban ddim mor lliwgar na’rddwy sy’n rhedeg y sioe yng Ngogledd Iwerddon, ond mae honno wedi glynu yn ddigon di ildio at ei hegwyddor creiddiol o ennill annibyniaeth i’r wlad.  

Ac i edrych tua Lloegr (a Chymru o ran hynny), llwyddiant mawr yr etholiad oedd creadur oedd yn cael ei ystyried yn gwbl anaddas i reoli gan y cyfryngau prif lif – a llawer yn ei blaid ei hun – oherwydd ‘amharchusrwydd’ ei ddaliadau.

Mae’n siwr bod yna wers yn rhywle yn hyn oll.

Etholiadau lleol – rhan 1

Fel dwi wedi son eisoes dwi’n gwneud pwt o gyflwyniad ac yn bwriadu postio ambell i siart neu fap yma.

Mae’r mapiau isod wedi eu dwyn o wikipedia, mae’r map ar y chwith pob tro yn dangos pa blaid sy’n rheoli’r siroedd (du = dim rheolaeth) ac mae’r mapiau ar y dde  yn dangos dosbarthiad wardiau llywodraeth leol yn ol maint cyfnogaeth y gwahanol bleidiau.

Maent yn siarad trostynt eu hunain i raddau helaeth.  O safbwynt y Blaid y pwyntiau diddorol mae’n debyg ydi anghydbwysedd rhwng ei chefnogaeth yn nwyrain a gorllewin y wlad a’i thwf ar lefel lleol yn Ynys Mon a Chaerfyrddin.
2017

2012
2008
2004

Ynglyn a chynllun Llafur i foddi ardal Penrhosgarnedd efo tai

Datganiad i’r Wasg gan Blaid ynglyn a chynllun Llafur i foddi ardal Penrhosgarnedd efo tai.


Siom bod llais trigolion a Phlaid Cymru Bangor wedi ei ddiystyru am ddatblygiad 366 o dai ym Mangor
Mae trigolion lleol a Phlaid Cymru Bangor yn hynod siomedig bod Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Llafur y Cabinet dros yr Amgylchedd wedi derbyn argymhelliad yr Arolygaeth Gynllunio i ganiatáu’r cais i ddatblygu 366 o dai ym Mhen y Ffridd, Bangor, Gwynedd.

Gweithiodd Plaid Cymru Bangor yn ddiflino i wrthod y cynllun i ddatblygu cynifer mor fawr o dai mewn un lleoliad ym Mangor. Roedd Cynghorwyr yn gwrthwynebu ar sail y buddsoddiad angenrheidiol fyddai ei angen i isadeiledd yr ardal, y pwysau dybryd sydd eisoes ar wasanaethau cyhoeddus, megis y gwasanaeth iechyd ac ysgolion lleol yn ogystal â’r cynnydd mawr ddaw yn sgil y traffig ychwanegol i’r ardal.

Un arall o’r prif ffactorau i’r Blaid ym Mangor wrthod y cynnig i ddatblygu cynifer o dai mewn un ardal oedd effaith andwyol datblygiad o’r fath ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal.

Cynhaliwyd trafodaethau lu ac ymgynghoriad cyhoeddus gyda thrigolion lleol yr ardal i wyntyllu barn a gwrthododd aelodau Plaid Cymru’r cais mewn cyfarfod cynllunio rhai misoedd yn ôl.

Yn ôl Gareth Roberts Y Cynghorydd Sir sy’n cynrychioli trigolion Ward Dewi ar Gyngor Gwynedd: “Buom yn gadarn ein barn o’r dechrau cyntaf. Doedd trigolion yr ardal ddim am weld datblygiad o’r maint yma yn dod i’r Ward. Mae’n sicr o newid ein hamgylchedd a’n cymuned ac rydym yn siomedig iawn iawn gyda phenderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru.”

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Ward ym mis Hydref 2016 i glywed barn bobl leol, a chynrychiolwyd y trigolion lleol gan Y Cynghorydd Roberts, yn ogystal ag aelodau eraill o gynghorwyr Plaid Cymru Bangor mewn cyfarfod apêl.

“Does dim amheuaeth y bydd datblygiad o’r maint yma’n cael effaith enfawr ar fywydau trigolion o Fangor, a dwi’n pryderu nad yw’r seilwaith yn ei le i ni allu delio â’r cynnydd yn y boblogaeth ddaw yn sgil cymeradwyo datblygiad o’r maint hwn yn yr ardal,” meddai Cynghorydd Elin Walker-Jones, Ward Glyder, Bangor.

“Dadleuwyd yr achos yn gryf wrth wrthwynebu’r cais bod potensial enfawr i ddatblygiad mor fawr gael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth y gymuned. Mae’n siom enfawr nad yw Ysgrifennydd Llafur Cabinet Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn cydnabod y pryder am y Gymraeg yn ei llythyr. Mae’n dangos difaterwch llwyr gan Llywodraeth Cymru.”


Yn ôl Y Cynghorydd Gareth Roberts: “Mae gwasanaethau cyhoeddus eisoes yn gwegian, mae ein hysgolion yn llawn, mae sicrhau apwyntiadau gyda meddygfeydd yn anodd, mae nifer y cerbydau sydd eisoes ar ein lonydd yn broblemus, a thydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod nifer y tai a gynigir o fewn y cynllun yn gymesur â’r ardal.”

“Bydd y gwaith yn parhau i sicrhau bod aelodau’r Ward yn cael tegwch, bod ardal Bangor yn cael chwarae teg a bod Gwynedd gyfan ddim yn cael ei heffeithio’n andwyol gan ddatblygiad o’r maint hwn,” ychwanegodd Y Cynghorydd Gareth Roberts.

Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon: “Does dim amheuaeth bod angen tai newydd ar gyfer pobl leol, ond mae angen iddynt fod yn gartrefi o’r math cywir yn y lleoliad cywir ac ar raddfa sy’n dderbyniol i’r ardal leol. Yn anffodus, dwi’n siomedig iawn bod y cais wedi ei ganiatáu ac yn bryderus bod y datblygiad hwn yn llawer rhy fawr i’r ardal.

“Fel Plaid, byddwn yn parhau i gydweithio a phwyso ar y llywodraeth yn Llundain i ddatganoli grym cynllunio o Lundain i Gymru. Dim ond bryd hynny y gall trigolion lleol fod yn hyderus bod Cymru yn cael y grym yn ôl i’w dwylo eu hunain gan benderfynu tynged ein cymunedau gyda sustem gynllunio Gymreig.”

Etholiad Cyffredinol 2017 – rhan 1

Am resymau na wnaf eich blino efo nhw dwi’n paratoi cyfres o graffiu ac ati sydd wedi eu seilio ar ganlyniadau etholiad Mehefin 8.  ‘Dwi’n bwriadu cyhoeddi un ar y blog pob hyn a hyn.
Mi wnwn ni ddechrau efo ‘r isod – mae’n dangos lle enillodd y Blid bleidleisiau a lle collwyd pleidleisiau yn ol rhanbarth Cynulliad.  
Yr hyn sy’n drawiadol ydi i’r Blaid ennill pleidleisiau yn y Canolbarth a’r Gorllewin a Dwyrain De Cymru – gyda’r enillion i gyd bron ym Mlaenau Gwent yn achos yr ail.  Collwyd pleidleisiau yn y rhanbarthau eraill.