Ynglyn a’r etholiad a darlith Roger Scully yn yr Eisteddfod

Ymddiheuriadau i ddechrau – dwi yn y ‘Steddfod a does gen i fawr o fynediad i drydan, ac oherwydd hynny mae charjio ffon yn hunllef braidd.
Ta waeth am son peddwn i am ddarlith gan Roger Scully yn yr eisteddfod ar ymgyrch a chanlyniad etholiad mis Mai ydw i.  Fel pob dim arall mae Roger yn ei gynhyrchu roedd y ddarlith yn drylwyr a diddorol – neu o leiaf roeddyn ddiddorol i’r anoraciaid yn ein plith.  Roedd y dadansoddiad o’r canlyniadau yn gryno ac yn drylwyr iawn ar yr un pryd – rhywbeth sy’n eithaf anoddi’wwneud.
Yr hyn dwi eisiau ei drafod fodd bynnag ydi’r ymdriniaeth a pham ddigwyddodd yr hyn ddigwyddodd – neu i fod yn fwy penodol o bosibl pam y gwnaeth Llafur mor dda yng Nghymru a’r tu hwnt i Gymru.
Roedd Roger yn cydnabod bod tipyn o ddirgelwch o gwmpas yr etholiad arbennig yma, a bod y canlyniad yn torri’n gwbl groes i’r  hyn y gellid ei ddisgwyl petai rheolau arferol etholiadol yn cael eu dilyn.  Ond un o’r elfennau roedd yn ei hystyried yn bwysig oedd y ffaith i’r Toriaid benderfynu ymladd yr etholiad ar y thema o arweinyddiaeth gadarn a dibenadwy, ond i’r arweinydd ‘implodio’ – chwedl yntau – yng nghanol yr ymgyrch.
Dwi’n tueddu i anghytuno – a dwi’n credu yn bersonol bod yr etholiad yn un mwy confensiynol na mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu.  Yn fy marn i mae’r rhesymau am y canlyniad fel a ganlyn:
1). Cychwynodd yr etholiad gyda chanfyddiad nad oedd gan Lafur gyfle i’w hennill a bod Jeremy Corbyn yn anobeithiol.  Yn ychwanegol at hynny roedd y syniad bod llymder – a goblygiadau hynny i fywydau pobl wedi hen wreiddio.  Roedd y cyfryngau hefyd wedi portreadu May fel rhyw greadures effeithiol iawn.
2). Newidiodd pethau yn weddol gyflym.  Mewn etholiad cyffredinol mae arweinwyr yn cael sylw uniongyrchol ar y teledu a’r radio – sydd heb fynd trwy ffiltyr y Mail a’r Express, a gyda dechreuodd hynny ddigwydd cynyddodd poblogrwydd Corbyn ar draul poblogrwydd May.
3). Roedd y Toriaid wedi ceisio gwneud Brexit yn unig bwnc yr etholiad (ag eithrio cymeriad yr arweinydd).  Mae hanes yn dangos i ni nad ydi hi’n bosibl cyfyngu ymgyrch etholiadol i un pwnc – crwydrodd yr ymgyrch hir hon i bynciau eraill – gan gynnwys yr economi.
4). Dechreuodd pobl gael y neges bod posibilrwydd y gallai Corbyn ennill pan ddechreuodd y polau symud a dechreuodd carfanau sylweddol o bobl gymryd sylw am y tro cyntaf – yn arbennig felly pobl ieuengach – y bobl oedd wedi dioddef fwyaf yn sgil bron i ddegawd o lymder.
5). Erbyn diwedd yr etholiad roedd llawer o bobl nad oedd wedi pleidleisio yn 2015 yn gwneud hynny’r tro hwn.  Mae’n  debyg bod tros hanner y bleidlais ‘newydd’ Llafur yng Nghymru wedi dod gan bobl na bleidleisiodd yn 2015. 
A dyna ddigwyddodd am wn i – roedd llawer o bobl wedi dioddef oherwydd safonau byw statig (ar y gorau) am bron i ddegawd, ac yn fwyaf sydyn roedd Corbyn yn cynnig ffordd allan ohoni.  Roedd ceisio dianc yn siwr o ddigwydd yn hwyr neu’n hwyrach beth bynnag – ond daeth yr etholiad ar yr union amser pan roedd pobl yn dechrau sylweddoli nad oedd gan y Brenin Llymder ddim dillad.  Roedd polisiau economaidd Corbyn yn ddarniog, a ddim yn gwneud llawer o synnwyr ar sawl cyfri – ond roeddynt yn wahanol i’r hyn a gafwyd am bron i ddegawd ac yn cynnig ffordd allan o’r gors. Nid polisiau llymder mohonynt.
Rwan dwi ddim yn amau nad yr economi a llymder oedd yn dod ar frig materion etholiadol pobl pan oedd YouGov yn gofyn iddynt – ond roedd y cyfryngau eisoes wedi dweud wrth bobl beth oedd themau’r etholiad hyd at syrffed.
Ond materion economaidd sy’n symud niferoedd mawr o bobl mewn etholiadau cyffredinol fel rheol – a dyna ddigwyddodd y tro hwn.  Mae safon byw pobl, a’u canfyddiad o sut y bydd hwnnw’n gwella neu waethygu yn effeithio’n sylfaenol ar bobl – am y ffordd maent yn meddwl am y Byd, ac yn bwysicach ar sut maent yn ei deimlo am y Byd ac amdanyn nhw eu hunain a’u teuluoedd.
Efallai bod pobl yn dweud wrth y sawl oedd yn holi ar ran YouGov mai Brexit neu’r Gwasanaeth Iechyd neu beth bynnag oedd yn bwysig iddynt – ond roeddynt yn pleidleisio yn unol a sut roeddynt yn teimlo – nid yn unol a dadansoddiad y cyfryngau o’r etholiad.  Ac roeddynt yn teimlo eu bod wirioneddol angen newid eu byd.

Mymryn o Schadenfreude

Dwi wedi treulio’r diwrnod yn symud recordiau 78″ – miloedd ohonyn nhw (peidiwch a gofyn pam, da chi).  Mae feinyl ar y gorau yn drwm, ond mae’r hen finyl a ddefnyddwyd mewn recordiau 78″ tua dwywaith trymach na’r record finyl gyfoes.  Dwi’n brifo trostaf.  Felly i godi fy nghalon ychydig dyma fynd ati i gael ychydig o hwyl i edrych ar berfformiad y Dib Lems bach ‘na yn eu – ahem – cadarnle yn rhanbarth Gogledd Cymru.

Gogledd Cymru ydi rhanbarth mwyaf poblog ac mewn rhai ffyrdd mwyaf amrywiol Cymru.  Byddai dweud bod perfformiad y Dib Lems yma yn erchyll yn sylw caredig.  Mae yna 9 etholaeth yn y Gogledd ac roedd cyfanswm y blaid yn amrywio o 479 yn Ynys Mon i 1089 yng Ngorllewin Clwyd.  Roedd eu canran o’r bleidlais yn amrywio o 1.3% yn Ynys Mon i 2.9% yng Ngorllewin Clwyd.  
Gan bod angen 5% o’r bleidlais i gadw ernes collwyd pob ernes yn y Gogledd – ond aeth y Dib Lems gam yn well na hynny – rhywsut llwyddwyd i fethu cael mwy na hanner hynny – 2.5% – mewn 6 o’r 9 etholaeth, a llwyddwyd i gyrraedd y mil yn yr etholaethau hynny.

Os ydym yn adio pob pleidlais gafodd y Lib Dems ym mhob etholaeth yn y Gogledd cawn gyfanswm o 7529. Mae hyn yn llai o bleidleisiau na gawsant yn Wrecsam ar ei ben ei hun yn 2010.  Ni fyddai’r cyfanswm yn ddigon i ennill sedd mewn unrhyw etholaeth yn y Gogledd yn 2017 (nag yn unman arall yng Nghymru).  Yn wir ni fyddai’n ddigon i fod yn ail mewn unrhyw etholaeth – y Toriaid yn Ynys Mon ddaeth yn ail efo’r cyfanswm isaf (10,834).  Fyddai 7529 ddim wedi bod yn ddigon iddynt ddod yn drydydd yno chwaith.  Yn wir cafodd y blaid oedd yn ail fwy na dwywaith gyfanswm y Dib Lems tros y Gogledd mewn nifer o etholaethau.

Rhag eich bod yn meddwl mai ffliwc oedd y perfformiad anhygoel yma, fis ynghynt cawsant 15 sedd tros 5 a 1/2 cyngor y Gogledd allan o 296 cynghorydd – gyda bron i hanner y rheiny ar un cyngor – Fflint. 

Dyna fo – dwi’n teimlo’n well rwan.

Ynglyn a Chynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Mon

Reit – gair neu ddau am ddigwyddiadau ddoe yn siambr Cyngor Gwynedd.

Pwt o gefndir yn gyntaf – gan nad wyf wedi son ar y blog mae’n debyg na fydd llawer o ddarllenwyr Blogmenai yn ymwybodol i mi gael fy ethol ar Gyngor Gwynedd fel cynghorydd Plaid Cymru ym mis Mai yn un o wardiau Caernarfon.  A dweud y gwir ‘doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy ethol, ond digwyddodd yr hyn ddigwyddodd.  
Rwan go brin bod unrhyw un yn fwy o greadur llwythol bleidiol na fi fy hun – os oes yna unrhyw rai wedi eu geni i Blaid Cymru, mae’n debyg fy mod i’n un o’r rheiny  – ac ar ben hynny dwi’n gredwr cryf mewn disgyblaeth bleidiol.  Serch hynny – er cryn loes i mi – cefais fy hun yn pleidleisio yn erbyn penderfyniad fy grwp ddoe, ynghyd a lleiafrif, ond lleiafrif sylweddol o’r grwp hwnnw.  
Dwi hefyd yn boenus o ymwybodol nad oes botwm o ots gan rai – rhai – o’r  sawl oedd yn pleidleisio efo ni am yr iaith, nag yn wir unrhyw un o werthoedd y Blaid.  Mae yna nifer fach – pedwar neu bump – o gwn Pavlov ar ochr y gwrthbleidiau o’r siambr sydd yn gwrthwynebu unrhyw beth mae’r Blaid yn ei gynnig neu’i wneud ac roeddwn i’n hynod anghyfforddus i fod yn yr un corlan rhai o’r rhain.  Wnes i erioed feddwl y byddwn yn cael fy hun yn y sefyllfa yma a dwi’n mawr obeithio na fydd yn digwydd eto.

Roedd yr anghydfod ynglyn a pharatoi Cynllun Datblygu Lleol – dogfen (neu ddogfennau a bod yn fanwl gywir) sydd rhaid i pob cyngor ei pharatoi i bwrpas gosod fframwaith i wneud penderfyniadau ynglyn a chynllunio.  Mae’r hen gynllun wedi dod i ben, ac mae yna angen statudol am un newydd.  Wedi paratoi’r cynllun mae’n rhaid mynd ati i’w anfon i arolygydd a bydd yntau’n dod i gasgliadau ynglyn a’i briodoldeb a’i gyfreithlondeb.  Bydd wedyn yn cael ei anfon yn ol i’r cyngor i’w fabwysiadu – neu i beidio gwneud hynny.  Dyma ble’r oeddem ddoe.

Cyn mynd ati i egluro sut a pham hoffwn ddadgysylltu fy hun oddi wrth yr ieithwedd sydd wedi ei ddefnyddio am rai o fy nghyd gynghorwyr a bleidleisiodd o blaid y cynllun.  Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw – a’r cwbl o fy ochr i o’r siambr – yn ymrwymedig i werthoedd creiddiol y Blaid, ac mae hynny’n cynnwys ymrwymiad i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.  Mae pethau wedi polareiddio mewn ffordd na ddylid bod wedi digwydd, ac mae yna bethau wedi eu dweud – gan bobl nad ydynt yn aelodau o’r grwp – am y sawl bleidleisiodd o blaid y cynllun – na ddylid bod wedi eu dweud

Rydan ni hefyd yn gytun nad ydi’r cynllun yn berffaith, ac mai’r rheswm am hynny ydi natur y Ddeddf Cynllunio – ac mae’r bai am hynny yn syrthio ar ysgwyddau’r weinyddiaeth Lafur ym Mae Caerdydd.  ‘Dwi’n credu bod hyd yn oed yr unig gynghorydd Llafur sydd ar Gyngor Gwynedd yn derbyn hynny.  

Mae’n debyg gen i ein bod hefyd yn gytun bod yna risg i’r iaith Gymraeg oherwydd gor ddatblygu o dderbyn y cynllun neu o’i wrthod.  Mae yna wahaniaeth serch hynny yn ein dehongliad o pa gwrs fyddai’n creu’r risg mwyaf.  Mae’r sawl a bleidleisiodd o blaid y cynllun yn credu bod risg sylweddol o fod heb gynllun cyfredol, tra bod y sawl a bleidleisiodd yn ei erbyn yn credu bod gormod yn cael ei wneud o’r risg hwnnw, a bod y cynllun yn rhagdybio lefel o fewnfudo fyddai ynddo’i hun yn niweidiol i’r iaith.

O’m rhan fy hun roeddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig oherwydd nad oeddwn yn credu bod y broses a arweiniodd ato wedi gwneud digon i gwrdd a dau o amcanion creiddiol y Blaid – hyrwyddo cydraddoldeb cymdeithasol (trwy gynllunio ar gyfer mwy o dai fforddadwy) ac amddiffyn yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.  Roedd rhagdybiaeth o beth fyddai’r arolygydd cynllunio yn ei dderbyn ynghlwm a’r broses o baratoi’r cynllun – ac ysgrifenwyd y cynllun gyda’r rhagdybiaeth yma mewn golwg.

O’m safbwynt fy hun – cyn bod y cynllun yn cyffwrdd a rhai o amcanion creiddiol y Blaid – byddai wedi bod yn fwy priodol i geisio gwthio’r ffiniau cyn belled a phosibl i wireddu’r amcanion hynny.  Gellid bod wedi gwneud hyn trwy gynnig nifer uwch o dai fforddiadwy, a herio’r arolygydd i’w wrthod os oedd am wneud hynny, a chynnig nifer is o dai ar gyfer mewnfudiad tebygol ac eto herio’r arolygydd i wrthod.  Petai’n gwrthod byddem yn dawel ein cydwybod ein bod wedi gwneud yr hyn allwn i hyrwyddo rhai o amcanion gwaelodol y Blaid.  Petai’n derbyn byddem wedi llwyddo i hyrwyddo’r amcanion hynny.

Ond er gwell neu er gwaeth mae’r hyn a wnaed wedi ei wneud.  Oni bai bod yna rhywbeth anisgwyl iawn yn digwydd yn Llangefni ddydd Llun dyma fydd y fframwaith cynllunio y byddwn yn ddarostynedig iddo yn y dyfodol.  ‘Does yna fawr o bwrpas edrych yn ol – bydd rhaid i ni symud ymlaen efo’n gilydd fel grwp – a hynny er lles y sir a’i phobl ac er lles y Blaid.  

‘Does yna ddim pwrpas dal dig chwaith.  Bydd rhaid i ni i gyd gymryd y gyfrifoldeb o sicrhau bod y cynllun yn gweithio’n briodol, a chywiro pethau os nad ydynt.  Bydd rhaid i ni hefyd fynd i’r afael a’r problemau a’r cyfleoedd fydd yn wynebu’r sir tros y pum mlynedd nesaf – tros y Blaid, tros Wynedd a thros Gymru.

Mae’n bryd i symud ymlaen – efo’n gilydd ac yn gytun.








Yr etholiad mewn delweddau – rhan 3

Dwi wedi addo blogio ychydig ar yr etholiad cyffredinol – ond am wahanol resymau dwi heb gael cyfle i wneud hynny – felly dyma wneud hynny.

Dydi’r ymarferiad isod ddim yn un sydd a hygrededd mathemategol llwyr iddi.  
Yr hyn ‘dwi’n ei wneud ydi edrych ar y gostyngiadau mewn pleidleisiau gwahanol bleidiau rhwng 2015 a 2017 a’r nifer o bleidleisiau ‘newydd’ yn 2017 (oherwydd twf yn y gofrestr etholwyr a phobl nas bleidleisiodd yn 2015 yn gwneud hynny yn 2017. 
Wedyn dwi’n edrych ar sut mae’r bleidlais yn cael ei hail ddosbarthu yn 2017.
Dydi’r model yma ddim mewn gwirionedd yn cymryd i ystyriaeth y newid mewn pleidleisiau rhwng y Toriaid a Llafur – nag un neu ddau o bethau eraill – ond mae’n rhoi syniad go lew i ni i’r patrymau cyffredinol mewn gwahanol rannau o Gymru.
Mae’r graff cyntaf yn dangos o ble y daeth y 340k o bleidleisiau ychwanegol a newidiodd dwylo rhwng 2015 a 2017.  Daeth tua hanner o chwalfa pleidlais UKIP, chwarter ar ffurf pleidleisiau ‘newydd’ Daeth y gweddill oddi wrth y Blaid Werdd, y Dib Lems, Plaid Cymru a phleidiau eraill yn y drefn yna.

A fel hyn y cafodd y bleidlais ei hail ddosbarthu tros Gymru – gyda thua 2/3 yn mynd i Lafur a 1/3 i’r Toriaid.

A fel hyn y cafodd y pleidleisiau eu dosbarthu yng Nghastell Nedd – mae’n debyg iawn i’r patrwm Cymru gyfan, ac mae hynny’n nodweddu’r rhan fwyaf o Gymoedd y De.

Ond yn Arfon aeth tua tri chwarter y bleidlais ‘newydd’ i Lafur a chwarter i’r Toriaid.

Roedd yr ail ddosbarthiad yn dra gwahanol ym Meirion /Dwyfor.

Ac yn wahanol eto ym Mrycheiniog a Maesyfed.

 A wele’r patrwm yng Nghanol Caerdydd – gydag 80% yn mynd i Lafur.


Mae’n ddiddorol bod yr holl ardaloedd yn Ne Cymru a bleidleisiodd i aros yn Ewrop yn refferendwm y llynedd  wedi torri i Lafur mewn amrediad 80% i 100%. 

ON – dwi’n sylwi y bydd rhai o ddarllenwyr Blogmenai yn disgwyl rhywbeth am y ddadl heddiw yn siambr Cyngor Gwynedd am y Cynllun Datblygu Lleol.  Dwi wedi osgoi’n fwriadol trafod y mater yma cyn y bleidlais, ond byddaf yn gwneud sylw yma mewn diwrnod neu ddau.

Beleek a Brexit

Dwi’n digwydd bod yn teithio Iwerddon ar hyn o bryd, ac o ganlyniad mae blogio’n ysgafn iawn.  Serch hynny, hyd yn oed pan ar wyliau mae rhywbeth perthnasol i wleidyddiaeth Cymru’n codi.  

Yr hyn gododd y tro hwn oedd aros yn nhref fechan Beleek ger Lough Erne sydd wedi ei lleoli ar y ffin rhwng Swydd Fermanagh sydd yng Ngogledd Iwerddon  a Swydd Donegal sydd yn y Weriniaeth.  Yr bont tros yr Afon Erne ydi’r ffin.   Mae pob dim sydd i’r gorllewin i’r bont felly yn y Weriniaeth a phob dim sydd i’r gorllewin iddi yng Ngogledd Iwerddon.  Mae mwyafrif llethol y trigolion yn Babyddion ac felly yn genedlaetholwyr, er bod eglwys Brotestanaidd fechan yn y pentref – fel sydd yn y rhan fwyaf o drefi bach Fermanagh a Donegal.  
Mae tua tri chwarter y pentref wedi ei leoli yng Ngogledd Iwerddon tra bod y gweddill yn y Weriniaeth.  Mae’r ddwy eglwys, yr ysgol a’r rhan fwyaf o’r siopau a’r tafarnau yng Ngogledd Iwerddon, mae’r garej, y siop gwerthu olew, nwy a mawn a rhai o’r siopau a thafarnau eraill yn y Weriniaeth.  Petai’r bont yn troi’n ffin galed byddai’n ei gwneud yn anodd symud o un rhan i’r dref i’r llall i ymgymryd a busnes pob dydd – ymweld a theulu a ffrindiau, siopa, rhoi petrol yn y car, mynd am beint neu fynd i addoli. 
Roedd yna ffin o fath yn y gorffennol cymharol agos wrth gwrs. Roedd gan y fyddin wersyll wrth y bont a bu tipyn o dywallt gwaed o gwmpas a thu fewn i’r gwersyll yn dilyn ymysodiadau gan yr IRA o’r Weriniaeth.  Ond pwrpas y rhwystr hwnnw oedd atal symud arfau ac actifyddion Gweriniaethol o un wladwriaeth i’r llall. Roedd y rhan fwyaf o bobl y rhan fwyaf o’r amser yn cael croesi’n eithaf di dramgwydd – er bod yna adegau – yn dilyn ymysodiad er enghraifft – pan roedd croesi’n anodd i bawb.  
Y gwahaniaeth efo ffin galed ydi y gallai’n hawdd arwain at angen i reoli symudiadau pawb a phob dim.  Dyna allai methiant i ddod i gytundeb masnach rydd ynghyd ag atal symudiad rhydd pobl ei olygu i drigolion trefi fel Beleek.  Kesh ydi’r gymunded cymharol fawr agosaf i Beleek yng Ngogledd Iwerddon – mae hi tua ugain milltir i’r de ddwyrain – ac a barnu oddi wrth y mor o faneri’r Undeb sydd yno mae’n gymuned wahanol iawn i Beleek. 
Ac mae yna gymunedau eraill yn yr un sefyllfa wrth gwrs  – mae cymunedau yn aml yn tyfu o gwmpas pontydd, ac mae afonydd yn aml yn ffiniau rhyngwladol.  Mae Pettigo i’r gogledd o Beleek ac mae wedi ei rannu’n ddau gan yr Afon Ternon – sydd hefyd yn ffin rhyngwladol, ac wedyn mae Lifford i’r gogledd eto ar y ffin rhwng Donegal a Tyrone. 
Mae hyn oll yn ymddangos yn bell iawn o Gymru  ac yn broblem i rhywun arall – ac mae hynny’n wir i raddau.  Ond mae’r ffin wedi bod yn ardal hynod o ymfflamychol ers gwahanu’r wlad – ac yn wir cyn hynny.  Does yna ddim tystiolaeth well o hynny na’r cofebau i gofio pobl sydd wedi colli eu bywydau ar hyd y degawdau yn ymladd ar hyd y ffin.  
Mae ffin galed am ddad sefydlogi cymunedau fel Beleek, Lifford, Aughnocloy a Belcoo – ac mae dadsefydlogi un rhan o Ogledd Iwerddon yn hanesyddol wedi arwain at ddadsefydlogi ehangach yn eithaf cyflym – ac mae i hynny oblygiadau i bawb sy’n byw ar yr ynysoedd yma.

Gwilym Owen rhif _ _ _ beth bynnag

Agwedd y Blaid at Wylfa Newydd ydi testun hefru Gwilym Owen yn Holwg yr wythnos yma, methiant Cyngor Cenedlaethol y Blaid i ganiatau i’r grwp yng Nghonwy i glymbleidio efo ‘r Toriaid oedd hi bethefnos yn ol, cwyno bod y Blaid yn cyd weithio efo’r Toriaid ydi hi weithiau, rhyw nonsens dychmygol am Gyngor Gwynedd yn cymryd 500,000 o gwynion mewn blwyddyn ydi hi dro arall, erthygl wedi ei chanoli ar gam ddealltwriaeth llwyr o adroddiad ar arferion ieithyddol plant yn ysgolion Gwynedd ydi hi dro arall ac ati, ac ati ac ati.

Rwan fel mae’r blog yma wedi dangos sawl gwaith mae llawer o’r hyn sydd yn erthyglau Gwilym Owen yn esiamplau o newyddiaduriaeth wael sydd wedi ei seilio ar wybodaeth ddiffygiol neu anwybodaeth llwyr yr awdur –  er bod ambell i beth yn llai rhagfarnllyd, ac felly o safon uwch. Ond nid dyna sydd gen i’r tro yma – yn hytrach yr hyn mae’r holl sefyllfa yn ei ddatgelu am gyflwr y wasg Gymraeg.
Gair bach yn gyntaf am pam bod Golwg yn rhoi rhwydd hynt i Gwilym Owen rwdlan yn rhagfarnllyd ac anwybodus pob pethefnos.  Dydan ni ddim yn gwybod i sicrwydd wrth gwrs – ond mae’n ffaith bod Golwg yn ddibynnol ar arian cyhoeddus, bod y Blaid Lafur yn rheoli i lle mae’r rhan fwyaf o arian cyhoeddus yng Nghymru yn mynd a bod y blaid honno yn anoddefgar iawn o’r sawl sy’n ei herio a’i beirniadu, ond yn hoff o’r sawl sy’n ymosod ar ei gelynion.  Mae dau a dau yn gwneud rhywbeth tebyg i bedwar gan amlaf.
Ychydig iawn o herio gwleidyddol sydd yna yn y wasg Gymraeg a Chymreig at ei gilydd.  Mae’r papurau Saesneg ‘Cenedlaethol’ efo mwy o ddiddordeb mewn newyddiaduriaeth storiol nag ymhel a gwleidyddiaeth – heb son am herio gweinyddiaethau gwleidyddol.  Ychydig iawn o wasg cyfrwng Cymraeg sydd yna bellach ag eithrio Golwg.  Gwilym Owen ydi un o’r ychydig bobl sydd yn herio yn wleidyddol – ac mae’r herio hwnnw bron i gyd wedi ei gyfeirio at un blaid, ac un blaid yn unig.
Y Toriaid sydd yn rheoli yn San Steffan, Llafur sydd yn rheoli ym Mae Caerdydd – ond mae cyfran chwerthinllyd o uchel  o’r beirniadu a herio gwleidyddol yng Nghymru wedi ei gyfeirio – nid at lywodraeth Cymru, na llywodraeth y DU – ond at blaid sydd yn rhedeg fawr ddim ag eithrio ychydig o gynghorau yng ngorllewin gwleidig Cymru, ac at Gyngor Gwynedd yn benodol.
Mae’n anodd iawn dychmygu bod llawer o wledydd eraill yn y Gorllewin lle mae’r wasg yn rhoi llonydd fwy neu lai i’r gweinyddiaethau llywodraethol, ond sy’n treulio eu hamser yn beirniadu a herio pleidiau lleiafrifol – er bod digon o sefyllfaoedd cyffelyb yn Nwyrain Ewrop wrth gwrs. 

Dathlu Prydeindod

Mae’r traddodiad unoliaethol – a chyfeillion Thereasa May wrth gwrs – wrthi’n dathlu eu Prydeindod heno yn y modd arferol – llosgi delweddau o’r hyn nad ydynt yn ei hoffi.  Ar ddiwrnod pan mae bygwth a sarhau gwleidyddion yn y newyddion yn San Steffan, mae’n drawiadol cymaint o ddelweddau o wleidyddion sy’n cael eu llosgi.  
Rhag ofn eich bod eisiau gwybod, mae KAT yn sefyll tros Kill All Taigs.  Gair sarhaus iawn am Babyddion ydi taigs.