Polio diweddar – PC vs Llafur

Mae yna gryn dipyn o sylw wedi ei roi i ddau bol piniwn diweddar – y naill gan YouGov a’r llall gan ICM – sy’n awgrymu bod y gefnogaeth i’r Blaid ar gynnydd tra bod cefnogaeth Llafur yn lleihau.  Wna i ddim edrych arnyn nhw’n fanwl – mae eraill wedi gwneud hynny – yma er enghraifft.

Yn hytrach na hynny ceisiaf edrych ar yr hyn mae’r polau yn ddweud wrthym mewn cyd destun hanesyddol.  Mi wnawn ni gychwyn efo cip ar y ddau bol:

ICM  Llafur 34 %  Plaid Cymru 27%  Torïaid 23%  UKIP 5% Dib Lems 7% 

YouGov  Llafur 32 %  Plaid Cymru 23%  Torïaid 26%%  UKIP 7% Dib Lems 8% 

Efallai mai’r meincnod gorau os ydym eisiau dod i farn ynglŷn a pherfformiad pa mor dda ydi hwn  ydi etholiadau gorau’r Blaid erioed – etholiad Cynulliad 1999.

1999 Llafur 37.6 %  Plaid Cymru 28.4%  Torïaid 15.8%  Dib Lems 13.5%

Yn amlwg mae’r perfformiad ICM yn arbennig yn cymharu’n dda efo hyn – ac mae’n cymharu’n dda iawn efo perfformiad y Blaid yn 2016.

2016 Llafur 34.7%  Plaid Cymru 20.5%  Torïaid 21.1% UKIP 12.5% Dib Lems 7.7%

Os ydym eisiau edrych ar y newid mewn termau gogwydd oddi wrth Llafur tuag at Plaid Cymru mae’r pol YouGov yn awgrymu gogwydd o 2.6% tra bod y pol ICM yn awgrymu gogwydd o 3.6%. 

O edrych ar bethau yn y ffordd yna dydi’r gogwydd at y Blaid yn y polau ddim yn arbennig o fawr. Yn 2016 roedd gogwydd oddiwrth Llafur tuag at y Blaid yn 4.4% – er mai cwymp yn y gefnogaeth i Lafur oedd yn gyfrifol am hynny i raddau helaeth yn hytrach na chynnydd yng nghefnogaeth y Blaid.  Aeth canran Llafur o’r bleidlais i lawr  7.6% ac aeth canran Plaid Cymru i fyny 1.2%.

Felly sut oedd y Blaid yn gwneud o gymharu a Llafur yn 2016?

Yn amlwg roedd y Blaid o flaen Llafur yn y 6 etholaeth sy’n cael ei gynrychioli ganddi ar hyn o bryd – Ynys Mon, Arfon, Meirion Dwyfor, Ceredigion, Dinefwr / Dwyrain Caerfyrddin a’r Rhondda.  Mae’r gwahaniaeth mwyaf (37.8%) mewn etholaeth sy’n cael ei chynrychioli gan Lafur yn San Steffan gyda llaw – Ynys Mon.

Ond mae tair etholaeth arall lle cafodd y Blaid fwy o bleidleisiau na Llafur, ond lle na enillwyd yr etholaeth gan y naill blaid na’r llall.  Aberconwy, Maldwyn a Gorllewin Clwyd ydi’r rhain.  Mae’r Blaid ymhell y tu ôl i’r Torïaid ym Maldwyn, yn nes atynt yng Ngorllewin Clwyd ac o fewn tafliad carreg yn Aberconwy.  

Rydym eisoes wedi edrych ar y gogwyddau tuag at y Blaid sy’n cael eu hawgrymu mewn polau diweddar.  Ond beth mae hynny’n ei awgrymu am faint o seddi (etholaeth) ychwanegol mae’r Blaid yn debygol o’u hennill.

Byddai gogwydd o 1% i’r Blaid yn arwain at fuddugoliaeth yn Llanelli.

Byddai Blaenau Gwent a Gorllewin Caerdydd yn syrthio ar ogwydd o 2%.

Ar ogwydd o 3% byddai Caerffili’n syrthio.

Byddai gogwydd o 4% o Lafur i’r Blaid yn arwain at ennill Aberconwy – cyn belled a bod pleidlais y Torïaid yn aros yn gyson neu’n syrthio.

Byddai gogwydd o 6% yn arwain at fuddugoliaeth i’r Blaid yng Nghastell Nedd.

Felly byddai gogwydd cyson ar draws y wlad o 6% yn arwain at ddwblu seddi etholaeth y Blaid.  Pa mor aml mae gogwydd felly yn digwydd?  Wel – dydi o ddim yn beth mor brin a hynny yng nghyd destun llywodraethau datganoledig.   Roedd gogwydd ychydig yn uwch na hynny o Lafur i’r SNP yn 2007 – y tro cyntaf i’r SNP ffurfio llywodraeth yn Holyrood.  Roedd yna ogwydd tebyg oddi wrth Lafur tuag at  yr SNP eto yn 2011 ac roedd yna ogwydd ychydig yn llai (tua 5%) oddi wrth Llafur i’r SNP yn 2016.  Roedd y gogwydd oddi wrth y Blaid tuag at Lafur yn 4.8% yn 2016.  Felly mae gogwydd o 6% – a dwblu seddi uniongyrchol y Blaid yn ddigon posibl – ond beth am ogwyddau mwy na hynny?

Mae gogwyddau mwy yn brin mewn etholiadau cyffredinol Prydain gyfan, ond mae’n digwydd weithiau.  Y symudiad mwyaf oedd gogwydd o 14.4% oddi wrth Lafur i’r Llywodraeth Genedlaethol yn 1931.  Cafwyd gogwyddau o 11.8% a 10.2% oddi wrth y Torïaid at Lafur yn 1945 a 1997.

Ac os ydi’r Blaid i ddod yn agos at yr 20 sedd sydd eu hangen i gael hanner y seddi uniongyrchol mae angen gogwydd sylweddol uwch na 6%.  Byddai dwblu’r gogwydd i fymryn mwy na 13% yn ychwanegu 4 sedd arall yn unig – Wrecsam, Islwyn, Gorllewin Abertawe a Phontypridd.  Mae’n rhaid i ni fynd at 15% i gyrraedd yr 20 – byddai Torfaen, De Caerdydd, Bro Morgannwg a Merthyr yn syrthio efo gogwydd felly.  Mae’n werth nodi bod y Blaid lai nag 20% y tu ôl i’r Torïaid yng Ngorllewin Clwyd hefyd – byddai’r math yma o symudiadau tuag at y Blaid yn ei rhoi efo cyfle yn y fan honno.

Ydi gogwydd o 15% yn digwydd yn aml?  Wel ydi a nag ydi – fel rydym wedi gweld.  Ond mae’n digwydd yn rheolaidd mewn is etholiadau – yn wir mae 23 esiampl o ogwydd o fwy na 20% yn y ganrif ddiwethaf mewn is etholiadau San Steffan.  Ond mae’n anodd meddwl am lawer o esiamplau etholiadau gwlad gyfan.  Ac efallai mai dyma fydd yr her i’r Blaid yn 2021 – ceisio atgynhyrchu rhai o amodau is etholiad.  Mae’n fwy na phosibl y bydd amgylchiadau ôl Brexit yn rhoi cyfle unigryw i wneud hynny.

*Ffigyrau etholiadau Cynulliad i gyd yn cyfeirio at y bleidlais etholaethol a nid y bleidlais ranbarthol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s