Symud ymlaen

Roedd yn ddiddorol bod y cyfarfod efo Leanne Wood yn y Galeri, Caernarfon yn orlawn – yn llythrennol.  Pwrpas y cyfarfod oedd trafod y map mae’r Blaid yn ei llunio iddi ei hun, ac i Gymru tros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn sgil yr hyn ddigwyddodd yn refferendwm Ewrop.  Mae’n un o gyfres o ddigwyddiadau tebyg mewn gwahanol rannau o Gymru, a byddant yn dod i ben gyda chynhadledd arbennig yng Nghaerfyrddin, ddydd Sadwrn nesaf i drafod y ffordd ymlaen.  
Mae peth gwaith manwl wedi ei wneud ar y map – ac mae llawer mwy eto i’w wneud.  Ond mae’r cyferbyniad rhwng ymateb Plaid Cymru a Llafur yn boenus o glir.  Mae’r naill blaid wedi ymateb yn gyflym gan hawlio’r agenda, tra bod y llall ar lefel Prydeinig wedi troi arni hi ei hun, ac ar lefel Cymreig wedi gwthio ei phen yn dwfn, dwfn i mewn i’r tywod, melyn, meddal cyfforddus.  

Y Cymry sydd a chyfrifoldeb am ryfel Irac

Does yna ddim cytundeb ynglyn a faint o Iraciaid fu farw o ganlyniad i ryfer Irac, mae’r amcangyfrifon yn amrywio o 150,000 i dros i filiwn.  Mae’n debyg bod y gwir rif rhywle yn y canol.  Mae’r Dwyrain Canol wedi ei ansefydlogi’n llwyr o ganlyniad i’r rhyfel, ac mae eithafiaeth Mwslemaidd yn rhemp ar hyd y rhanbarth, a thu hwnt.  Mae Irac wedi ei hollti i lawr y canol ar sail secteraidd.  Mae hygrededd y sefydliadau gwleidyddol wedi eu niweidio’n sylweddol.
Bu farw milwyr o’r gwledydd oedd yn ymosod ar Irac hefyd – tua 4,500 o Americaniaid a 318 o wledydd eraill – y rhan fwyaf ohonyn nhw o’r Deyrnas Gyfunol.  Bu farw tua 4,500 o adeiladwyr a 136 o ohebwyr. 
Mae bron i pob canlyniad o’r ymysodiad ar Irac wedi bod yn gwbl negyddol – a doedd yna ddim cyfiawnhad o gwbl am y rhyfel hwnnw.  
Roedd gan Gymru fach ei rhan yn yr idiotrwydd yma, gyda nifer o’i Haelodau Seneddol yn pleidleisio tros y gorffwylldra.  Mae rhai ohonyn nhw’n dal i ddoethinebu heddiw – gyda Kim Howells ond ddoe diwethaf yn tantro yn erbyn y syniad o fwy o ddatganoli i Gymru a Wayne David yn egluro i ni bod arweinyddiaeth Corbyn – a bleidleisiodd yn erbyn y rhyfel wrth gwrs – yn drychineb llwyr.
Beth bynnag – dyma nhw – gydag ymddiheuriadau os ‘dwi wedi gadael rhywun allan.

Nick Ainger – Llafur

Chris Bryant – Llafur
Ann Clwyd – Llafur
Wayne David – Llafur
Peter Hain – Llafur
Alan Howarth – Llafur
Kim Howells – Llafur
Huw Irranca Davies – Llafur
Jackie Lawrence – Llafur
Alun Michael – Llafur
Chris Ruane – Llafur
Don Touhig – Llafur
Donald Anderson – Llafur
David Hanson – Llafur
Paul Murphy – Llafur
Mark Tami – Llafur
Gareth Thomas – Llafur

Pa flwyddyn ydi hi – 1918 ‘ta 1983?

Roedd y cyfnod 1922-23 yn un anodd yn hanes Iwerddon – a dweud y lleiaf.  Cafwyd rhyfel cartref – a fel pob rhyfel cartref roedd hynod chwerw.  Achosodd y rhyfel hwnnw hollt trwy ganol bron i pob cymuned yn y wlad, ac adlewyrchwyd yr hollt hwnnw yn etholiad cyntaf y wladwriaeth newydd – ac ym mhob etholiad arall yn y Wladwriaeth Rydd, ac yn hwyrach y Weriniaeth, am naw deg o flynyddoedd.  Doedd y drefn bleidiol a ffurfwyd ddim yn addas i anghenion Iwerddon – cafwyd dwy blaid geidwadol yn dominyddu am ddegawdau – ac mae’n debyg i hynny fod yn niweidiol i ddatblygiad y wlad.  Ond parhau wnaeth y gyfundrefn.

Roedd y Rhyfel Cartref – a’r digwyddiadau yn ystod y chwe mlynedd flaenorol wedi achosi trawma cenedlaethol, ac arweiniodd y trawma hwnnw daflu’r holl gyfundrefn wleidyddol i’r awyr, a phan syrthiodd y darnau i ‘r llawr, a phan gliriodd y llwch roedd y drefn wleidyddol yn gwbl wahanol i’r hyn ddaeth o’i flaen.  Erbyn i’r drefn honno ddechrau dadfeilio ar ddiwedd y ddegawd diwethaf, doedd yna prin neb yn cofio’r Rhyfel Cartref.
Cafwyd newid etholiadol syfrdanol yn y Deyrnas Unedig ychydig flynyddoedd yn gynharach – yn 1918.  Arweiniodd etholiad y flwyddyn honno at gwymp sylweddol yng nghefnogaeth etholiadol y Rhyddfrydwyr, ac yn ddiweddarach at ei diflaniad fel grym gwleidyddol arwyddocaol yn y DU.  Roedd y blaid wedi dominyddu yn wleidyddol am ddegawdau cyn hynny.  Roedd y rhesymau am yr hyn ddigwyddodd yn y DU yn fwy cymhleth na’r rhesymau am y newid yn Iwerddon – daeth nifer o bethau at ei gilydd i newid y tirwedd gwleidyddol – ond trawsnewidwyd y gyfundrefn etholiadol bryd hynny hefyd.
Yn 1983 roedd pethau yn yr awyr eto yn dilyn argyfyngau ariannol yn y 70au a symudiad i’r Chwith gan Lafur ar yr union adeg pan oedd y DU yn symud i’r Dde.  Holltodd y Blaid Lafur, ac roedd yn edrych am gyfnod fel petai’r tirwedd etholiadol am newid yn llwyr unwaith eto.  Pan syrthiodd y darnau yn ol i’r llawr roedd pethau wedi symud, ond ddim llawer iawn.  
Mae pethau i fyny yn yr awyr eto, a dydan ni ddim yn gwybod sut mae’r darnau am syrthio – mewn lleoedd hollol wahanol fel y gwnaethant yn 1918 ‘ta mewn lle ychydig yn wahanol fel ddigwyddodd yn 1983.  O edrych ar y straen sydd yna ar y pleidiau etholiadol traddodiadol – straen sy’n gadael yr hen gyfundrefn yn gwegian – mae’n rhaid dweud ei bod hi’n edrych yn llawer mwy tebyg i 1918 na 1983.
Yr hyn nad ydym yn ei wybod ydi pwy sy’n mynd i elwa o’r newid sylfaenol a allai’n hawdd ddigwydd.  Mae sefyllfa felly yn arwain at ryddhau grymoedd gwleidyddol nerthol iawn, ac mae’n anodd iawn eu rheoli.  Ond mae’r sawl sydd efo cynllun, efo agenda, efo cyfeiriad pendant efo gwell cyfle na’r sawl sy’n gadael i’r corwynt eu chwythu i pob cyfeiriad.  Ar hyn o bryd mae’r pleidiau unoliaethol traddodiadol yn ymddangos yn ddi gyfeiriad, ac ar drugaredd y gwyntoedd gwleidyddol.  
Fel y dywedais – dydan ni ddim yn gwybod os mai 1918 ‘ta 1983 ydi hi eto –  ond mi fydd gennym syniad reit dda o fewn y flwyddyn – ac mi fydd gennym syniad reit dda o pwy ydi’r collwyr, a phwy ydi’r enillwyr hefyd.

Cyfle rhy dda i’w golli.

Felly mae’r Blaid Doriaidd yn wynebu etholiad mewnol chwerw gyda’r triciau budur, cynllwynio a bradychu arferol.  

Mae’r Blaid Lafur mewn cyflwr o ryfel cartref agored gyda phosibilrwydd gwirioneddol y gallai hollti’n ddwy  blaid fel y gwnaeth yn y gorffennol. 
Mae’r Dib Lems wedi diflanu i’r fath raddau nes bod gan Plaid Cymru fwy o wleidyddion proffesiynol, etholedig yng Nghymru na sydd gan y Dib Lems trwy’r Deyrnas Unedig.
Mae sicrwydd yr ychydig ddegawdau diwethaf wedi ei daflu i’r pedwar gwynt.  Mae’r ychydig flynyddoedd nesaf yn ymddangos yn rhyfeddol ansicr.  Mae’r drefn bleidiol sydd wedi goroesi am bron i ganrif ac ymhell wedi i’r tirwedd cymdeithasegol ac economaidd a roddodd fodolaeth iddi gilio i niwloedd hanes yn gwegian. Ac mae’n hynod debygol y bydd etholiad cyffredinol yn yr hydref – etholiad a gaiff ei chynnal gydag anhrefn a ffraeo mewnol y ddwy blaid fawr unoliaethol yn gefndir iddi.
Ni fu erioed well cyfle i dorri’r gyfundrefn etholiadol sydd gennym ar hyn o bryd – ac mae pleidiau sy’n ymddangos yn unedig, yn drefnus ac yn gytun mewn sefyllfa hynod gryf i wneud hynny.  

Ar fewnfudwyr o Loegr mae’r bai?

Dwi wedi clywed sawl un ers nos Iau yn beio mewnfudwyr o Loegr am ganlyniad refferendwm Ewrop yng Nghymru.  Rwan mae’n wir fy mod i mewn blogiad blaenorol wedi dangos bod peth perthynas rhwng lefelau mewnfudo o Loegr a thueddiad i bleidleisio i Adael yng Ngwynedd.  Ond fel y dywedais yn y blogiad hwnnw – Gwynedd ydi Gwynedd – mae’n gwneud ei pheth ei hun yn etholiadol.  
O edrychach yn ehangach mae yna stori wahanol.  Wrth ochr yr enwau siroedd isod mae dau ganran.  Y ganran o boblogaeth y sir a anwyd yn Lloegr ydi’r cyntaf, y ganran a bleidleisiodd tros adael yr Undeb Ewropiaidd ydi’r ail.  

Ynys Mon – 28.8% / 50.9%

Gwynedd – 27.4% / 41.9%
Conwy – 39.7% / 54%
Dinbych – 36.3% / 54%
Fflint – 44.3% /56.4%
Wrecsam – 23.4% / 59%
Powys – 44.7% / 53.7%
Ceredigion – 37.4% / 45.4%
Penfro -27% / 57.1%
Caerfyrddin 18.9% / 53.7%
Abertawe – 14.1% / 51.5%
Castell Nedd Port Talbot – 9.7% / 56.8%
Pen y Bont – 12.2% / 54.6%
Bro Morgannwg – 18.5% / 49.3%
Caerdydd – 16.9% / 40%
Rhondda Cynon Taf – 8.2% / 53.7%
Merthyr Tydfil – 6.4% / 56.4%
Caerffili – 8.4% /  57.6%
Blaenau Gwent – 7.1% / 62%
Torfaen – 11.3% / 59.8%
Mynwy – 33.5% / 49.6%
Casnewydd – 12.7% / 56%
Mae yna bump sir lle ganwyd llai na 10% yn Lloegr.  Pleidleisiodd 52.5% yng Nghymru tros adael y DU.  Mae’r ganran a bleidleisiodd i Adael yn uwch na’r cyfartaledd hwnnw ym mhob un o’r siroedd hynny – yn sylweddol felly mewn pedwar ohonynt.
Mae nhw i gyd ag eithrio RCT gyda chanran uwch eisiau Gadael na Dinbych, Fflint a Chonwy – tair sir sydd a mwy na thraean eu poblogaeth wedi eu geni yn Lloegr.  Mae nhw i gyd – gan gynnwys RCT – efo canran uwch na Cheredigion, Mynwy a Phowys.  Mae mwy na thraean o bobl y siroedd hynny wedi eu geni yn Lloegr hefyd.  
Mae pedair o’r bum sir a bleidleisiodd i Aros efo canran llawer uwch o bobl sydd wedi eu geni yn Lloegr yn byw ynddynt na chymedr Cymru.  Caerdydd ydi’r eithriad.  
Mae trosglwyddo bai yn un o’r nodweddion cenedlaethol Cymreig lleiaf dymunol.  Dydi trosglwyddo bai  am ganlyniad Cymru ar Saeson o ddim cymorth i neb.  Ni fel Cymry bleidleisiodd tros adael ddydd Iau. Os ydym i symud ymlaen o’r smonach yma mae’n bwysig ein bod yn deall a derbyn hynny.

Gwenwyn

Felly ymateb Llafur i’r argyfwng sydd wedi codi yn sgil canlyniad refferendwm ddydd Iau ydi cael rhyfel cartref.  Canlyniad hynny yn ei dro ydi gadael y DU heb wrthblaid sy’n gallu gweithredu mewn cyfnod lle mae’r llywodraeth ei hun mewn argyfwng a phrin yn weithredol.

Canlyniad hyn oll ydi nad ydi’r llywodraeth yn dangos unrhyw arwydd eu bod yn gwybod sut i ymateb i’r hyn sydd wedi digwydd, a dydi’r brif wrthblaid ddim mewn sefyllfa i ymateb chwaith.  Mae’n fwy na thebyg bod y coup wedi ei gynllunio ymhell cyn y refferendwm – a does yna ddim tystiolaeth uniongyrchol bod angen etholiadol i newid pethau – mae’r unig bol piniwn i’w gymryd wedi’r refferendwm yn awgrymu mai’r Toriaid ac nid Llafur oedd yn dioddef yn sgil canlyniad y refferendwm.  
Mae sefyllfa’r blaid bellach yn anobeithiol.  Os ydi Corbyn yn aros bydd yn wynebu etholiad cyffredinol yn yr hydref gyda’i awdurdod oddi mewn y blaid wedi ei ddryllio.  Os bydd yn gorfod mynd, yna bydd trwch actifyddion y blaid wedi eu pechu a’u dadrithio.
Mae’r Blaid Lafur yn wenwynig ar hyn o bryd – ac mae’n endid i’w osgoi’n llwyr.  Mae gwenwyn yn berygl i bawb sy’n dod i gysylltiad a fo.