Etholiadau lleol 2 – Ynys Mon

Ar bapur Ynys Mon ddylai fod y sir fwyaf hawdd i ‘r Blaid ennill grym ynddi ar ol Gwynedd – roedd pethau’n agos yn 2013 – a 2013 oedd y dyddiad oherwydd i’r etholiadau gael eu gohirio yn sgil camau gan Llywodraeth Cymru i ddelio efo’r blynyddoedd o lanast yn sgil rheolaeth gan gwahanol grwpiau annibynnol lliwgar.
Cyn dechrau efallai y dylid nodi nad ydi edrych ar ystadegau moel ddim yn ddigon da ar Ynys Mon – mae gwleidyddiaeth yn llawer mwy personol yma, dwy egwyddor bwysig:
1). Rhaid wrth ymgeiswyr poblogaidd – beth bynnag y blaid.
2). Dydi etholwyr Mon ddim yn cael gwared o aelodau etholedig yn aml.
Roedd 2013 yn arwyddocaol am mai dyma’r tro cyntaf i’r Blaid dorri drwodd go iawn ar lefel lleol.
Ac mae pethau’n addawol i’r graddau bod yna lawer o lwybrau i ‘r Blaid ennill.  Yn y bon yr hyn sydd rhaid ei wneud ydi: 
1). Dal yr hyn sydd ganddi yn barod
2). Ennill 4 sedd arall i fynd o 12 i 16.
Ar bapur ni ddylai hyn fod yn ofnadwy o anodd.
Gwnaeth y Blaid yn dda – yn dda iawn yn 2013.  Ond roedd ein pleidlais yn llawer is nag un Rhun ap Iorwerth yn etholiadau’r Cynulliad y llynedd.  Cafodd y Blaid 12 yn 2013 ar 32%.  Cafodd y Blaid  55% o’r bleidlais yn etholiadau’r Cynulliad.  Byddai symudiad gweddol fach oddi wrth y 32% a thuag at y 55% yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran nifer y seddi.

Pleidleisiodd rhwng 9000 a 10,000 o bobl wahanol tros y Blaid yn 2013 – roedd pobl efo mwy nag un bleidlais wrth gwrs.  Roedd pleidlais RhaI yn 13,788 yn 2016 – os ydi’r rhain yn rhoi o leiaf un bleidlais i’r Blaid dylai fod yn ddigon i ennill grym yn eithaf hawdd.

O grenshan y ffigyrau dyma fyddai symudiadau tuag at y Blaid yn ei wneud.
1). Byddai cynnydd cyson o 1% ar draws yr ynys  yn rhoi rhoi 3 aelod ychwanegol – Aethwy, Bro Rhosyr, Seiriol.  Dydi hyn ddim yn symudiad mawr – ac mae’n cael ei wneud yn haws gan y ffaith bod cynghorwyr o bleidiau eraill yn ymddeol ym mhob un o’r tair ward.  Byddai hyn yn rhoi 15 aelod – union hanner aelodaeth y cyngor.
2).  Byddai 3% o gynnydd cyson yn rhoi 3 arall – 1 yn Twrcelyn  a 2 yn Lligwy.  Byddai hyn yn rhoi 18.
3). Byddai 5% o gynnydd yn rhoi 1 arall petai ymgeiswyr ychwanegol yn sefyll – Talebolion. 
4). Byddai 8% yn rhoi seddi eraill yn Llifon, Bro Aberffraw a Chaergybi.  
Mae’r symudiadau yma i gyd yn bosibl – ag ystyried maint pleidlais graidd y Blaid.  Yr her yn Ynys Mon fydd cael digon o ymgeiswyr mewn lle i fanteisio’n llawn ar gynnydd yn y bleidlais. O wneud hynny nid oes rheswm pam na ddylai ‘r Blaid reoli yma hefyd.

Etholiadau lleol 1 – Gwynedd

Mae’r Blaid yn rheoli Gwynedd ar hyn o bryd ar ei liwt ei hun.  Methodd wneud hynny o drwch blewyn yn 2012, ond mae cyfres o is etholiadau llwyddiannus a rhai o gynghorwyr Llais Gwynedd yn croesi’r llawr wedi rhoi grym i ‘r Blaid.  

Dylai ddal at y rheolaeth hwnnw ym mis Mai.  Mae yna nifer o resymau tros gredu hynny:
1). Mae’n dra thebygol y bydd llawer mwy o ymgeiswyr gan y Blaid yn 2017 na gafwyd yn 2012 – neu mewn unrhyw etholiad arall yn hanes y sir. Mae’r dyddiau lle’r oedd lleiafrif gweddol fawr o seddi yn y sir  ddim yn cael eu hymladd gan y Blaid yn y gorffennol.
2). Mae is etholiadau cyngor diweddar wedi bod yn hynod o gadarnhaol i’r Blaid.
3). Roedd pleidlais y Blaid yn Arfon ar lefelau hanesyddol uchel iawn yn 2015 a 2016.
4). Fel yng ngweddill Cymru, ‘dydi Llafur ddim mewn lle da.
5). Dydi pethau ddim yn edrych yn wych i Lais Gwynedd chwaith.  Cawsant gryn gweir ym mhob is etholiad diweddar maent wedi llwyddo i ddod o hyd i ymgeisydd ar eu cyfer.  
Serch hynny mae yna fwy o ymdrech nag arfer gan y grwp annibynnol i ddod o hyd i  lechen lawn o ymgeiswyr – yn arbennig felly yn Arfon.  Gallai hyn fod yn broblem – ond gallai hefyd fod yn gyfle i’r Blaid.  Yn wahanol i weddill Cymru, mae gan y Blaid bleidlais graidd eithaf uchel yn y rhan fwyaf o Wynedd.  I’r graddau hynny mae’n llesol iddi os ydi’r bleidlais wrth Plaid Cymru wedi hollti i gymaint o gydrannau gwahanol a phosibl.  Hynny yw mae gobeithion y Blaid o ennill yn well os oes yna wrthwynebwyr Llafur, Llais Gwynedd ac Annibynnol yn hytrach nag un ohonynt yn unig.  
Dylai’r Blaid gryfhau ei gafael yng Ngwynedd.

Etholiadau’r cynghorau – rhan 1

Tros yr ychydig ddyddiau nesaf rwyf yn bwriadu edrych ar yr etholiadau nesaf sydd ar y gweill – yr etholiadau ar gyfer 22 cyngor sir Cymru.  Fel arfer byddaf yn edrych ar bethau o safbwynt Plaid Cymru – a fel arfer byddaf yn ceisio bod mor wrthrychol a phosibl.  

Mi wnawn ni gychwyn efo sut aeth hi’n ol yn 2012.  Mewn gair roedd hi’n etholiad arbennig o dda i Lafur gyda’r blaid yn ennill tir yn sylweddol.  Yn wir dyma’r etholiadau lleol gorau i Lafur ers dyddiau Neil Kinnock.  
Llafur 304,296 pleidlais 36.0% +9.4% 10 cyngor +8 577 cynghorydd + 237.  
Annibynnol  190,425 pleidlais 22.5% + 0.5% 2 + 1 284 cynghorydd – 27
Plaid Cymru 133,961 pleidlais 15.8% -1.0% 0 158 cynghorydd – 41 
Toriaid 108,365 pleidlais 12.8% 2.8% 0 -2 105 cynghorydd – 66
Liberal Democrat pleidlais 68,619 8.1% – 4.9% 0 72  cynghorydd – 91
UKIP – 0
Ni fyddant yn gwneud cystal y tro hwn – yn wir gallwn ddisgwyl iddyn nhw golli nifer sylweddol o gynghorwyr a nifer o gynghorau.  Yn draddodiadol mae perfformiad Llafur mewn etholiadau yng Nghymru yn adlewyrchu eu perfformiad yn y polau piniwn Prydeinig.  Roeddynt yn gwneud yn dda iawn wrth y mesur hwnnw yn 2012 ac maent ar lefelau hanesyddol isel ar hyn o bryd.  
Ta waeth – o ran y Blaid gallwn edrych ar bethau fel a ganlyn.  Mae Haen 1 o gynghorau yn rhai lle mae ganddi gyfle da o ennill grym.  Ar hyn o bryd Gwynedd yn unig a reolir ganddi.  Maent wedi eu gosod yn nhrefn y tebygrwydd o ennill grym.
 
Haen 1:
Mae gan y Blaid gyfle da neu dda iawn o ennill grym yn y cynghorau canlynol – mewn trefn o debygrwydd:  Gwynedd / Ynys Mon / Caerfyrddin / Ceredigion / Caerffili.  
Mae haen 2 yn amlinellu dau gyngor lle gallai’r Blaid symud ymlaen yn sylweddol – ond lle mae ennill neu rannu grym yn llai tebygol.  Yn y cynghorau yma mae’n ras dau geffyl llwyr – rhwng Plaid Cymru a Llafur.
Haen 2:
Rhondda Cynon Taf / Castell Nedd Port Talbot.
Yn haen 3 ceir cynghorau lle gallai’r Blaid hefyd yn hawdd gael ei hun yn rhannu grym, lle gallai fod yn blaid fwyaf, ond bod hynny oherwydd bod cefnogaeth wedi ei rannu yn eithaf eang rhwng nifer o grwpiau.
Haen 3:
Conwy / Dinbych / Caerdydd.
Cofier hefyd ei bod yn bosibl rhannu grym gyda nifer cymharol fach o seddi.  Er enghraifft roedd y Blaid 
yn rhannu grym yn Wrecsam efo 4 cynghorydd yn unig.  
Cofier hefyd bod cynghorau lle mae’n bosibl i’r Blaid wneud argraff am y tro cyntaf – Powys a Blaenau Gwent er enghraifft.

Brexit ac etholiadau Gogledd Iwerddon

Felly dyna ni – mae’r DU yn wynebu tri argyfwng cyfansoddiadol ar yr un pryd – negydu termau ymadawiad y DU a’r UE, ail refferendwm tebygol ar ymadawiad yr Alban a’r DU a cheisio adgyfodi Stormont.  Mae’n fwy na phosibl y bydd delio efo galwadau am refferendwm i ail uno’r Iwerddon yn cael ei ychwanegu at hynny yn y man.  Mae’r bleidlais Brexit yn gysylltiedig a’r tri argyfwng mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

Cyn mynd ymlaen, gair brysiog am ddigwyddiadau echdoe.  Rydym eisoes wedi edrych ar y rhesymau tros ddymchwel Stormont.  Yn fyr roedd y cyfraddau pleidleisio ymysg cenedlaetholwyr
wedi bod yn gostwng oherwydd bod y brif blaid genedlaetholgar – Sinn Fein – wedi bod mewn llywodraeth am gyfnod maith.  Roedd plaid sydd a chefnogwyr naturiol hynod o wrth sefydliadol yn ymddangos yn sefydliadol iawn.  Canlyniad i ymdrech lwyddiannus i ail fwtio’r blaid a mynd a hi’n ol at ei gwreiddiau gwrth sefydliadol – ac yn wir chwyldroadol – oedd canlyniadau ysgytwol yr etholiad.  Mae’r tablau isod yn gwneud hynny’n gwbl glir.  

A roeddynt yn ysgytwol hefyd – mewn un diwrnod chwalwyd y mwyafrif etholiadol unoliaethol i pob pwrpas.  Mae wedi sefyll ers ffurfio’r wladwriaeth bron i ganrif yn ol – beth bynnag arall ddaw, mae’r tirwedd gwleidyddol wedi ei drawsnewid yn llwyr.  Am y tro cyntaf yn hanes y dalaith mae’r unoliaethwyr wedi methu ag ennill mwyafrif yn Stormont a mwyafrif o ran y bleidlais.
Rwan, mae’r rhesymau am yr hyn ddigwyddodd yn eithaf cymhleth – y gwelltyn olaf oedd penderfyniad bach eithaf sbeitlyd gan weinidog addysg y DUP i gael gwared o grant (bychan iawn) i helpu plant sydd yn dysgu Gwyddeleg a sy’n rhy dlawd i dalu am fynd i’r Gaeltacht ar wyliau astudio.  O fewn oriau roedd Adams ar y ffordd i Derry i siarad efo McGuinness, penderfynwyd yn eithaf cyflym nad oedd gan y DUP bellach ddiddordeb mewn dilyn egwyddorion cydraddoldeb Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, ac roedd Stormont wedi ei dynnu i’r llawr o fewn dyddiau.
Ond roedd Brexit yn gefndir i hyn oll.  Mae gadael yr UE yn broblem ym mhob rhan o’r DU, ond mae’n fwy o broblem yng Ngogledd Iwerddon nag yw yn unman arall.  Mae ffin rhyngwladol ‘galed’ yn debygol o niweidio Gogledd Iwerddon yn economaidd – bydd yn hawdd iawn i gwmniau sy’n allforio i Ewrop adleoli yng Ngweriniaeth Iwerddon.  Yn ychwanegol at hynny bydd yn creu rhwystr i bobl fynd o gwmpas eu bywyd pob dydd – bydd yn rhwystro pobl rhag symud yn rhwydd at eu ffrindiau a’u teuluoedd – bydd yn creu rhwystr rhyngddyn nhw a’u gwaith, eu tafarnau, eu hanifeiliaid a’u eglwysi. Yn yr etholaethau sy’n agos at y ffin oedd rhai o’r symudiadau mwyaf ysgytwol tuag at SF trwy’r dalaith.  Mae 19 o’r 25 sedd ar hyd y ffin bellach yn nwylo Cenedlaetholwyr neu Weriniaethwyr.
Mae yna lawer o oblygiadau anfwriadol i Brexit – ac un o’r rheiny ydi straen ychwanegol sylweddol ar bensaerniaeth y wladwriaeth Brydeinig ei hun – ac mae hynny ‘n wir am Ogledd Iwerddon o leiaf cymaint a’r Alban erbyn hyn.

Y DUP ac ariannu’r ymgyrch i adael Ewrop

Rhywbeth sydd wedi ei fethu gan cyfryngau Prydeinig (ond nid rhai Iwerddon) ydi’r stori fach ryfedd yma.

Yn ei hanfod yr hyn sydd yn y stori ydi bod y DUP – prif blaid unoliaethol Gogledd Iwerddon – wedi cyfrannu swm anferthol – £435k i’r ymgyrch i adael Ewrop.
Cafodd y pres ei wario yn hwyr yn ystod yr ymgyrch.  Fel rheol mae’r DUP gyda meddylfryd  blwyfol iawn ac mae’n gweithredu ar lefel hollol leol.  Fodd bynnag yn yr achos yma cafodd y pres ei wario – ymysg pethau eraill – ar hysbyseb anferth yn y Metro – papur sy’n cael ei ddarllen yn eang iawn ar dir mawr y DU – lle nad oes gan y DUP unrhyw ASau a lle nad ydynt yn sefyll mewn etholiadau.  Yn wir cafodd i bron i’r cwbl o’r pres ei wario y tu allan i Ogledd Iwerddon.

Ymddengys i grwp o gefnogwyr cyfoethog Brexit  (o bosibl cyn lleied ag un cefnogwr)  roi’r pres i’r blaid unoliaethol.  Y rheswm mae’n debyg ydi bod yr ymgychoedd i adael Ewrop wedi hen wario yr hyn roedd ganddynt hawl i’w wario yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ond bod hawl gan y DUP i wario o hyd. 
A beth ydi ffynhonnell wreiddiol yr arian?  Wel y tebygrwydd ydi bod cysylltiad efo Saudi Arabia. 
Rwan mae yna nifer o gwestiynau wedi eu codi eisoes am ariannu’r ymgyrch Gadael – mae yna ymchwiliadau i drefniadau ariannu’r ddwy ymgyrch ar hyn o bryd.  
Ond mae’r stori hefyd yn codi un neu ddau o bwyntiau diddorol.  

Yn gyntaf mae’n ymddangos bod y DUP wedi caniatau iddynt eu hunain gael eu defnyddio i alluogi i rywbeth ddigwydd sy’n groes i ddymuniadau pobl Gogledd Iwerddon a sy’n debygol o beri niwed economaidd sylweddol i ‘r dalaith.  Mae’n debyg y bydd yna bris i’w dalu am hynny wythnos nesaf.

Yn ail mi fydd y cysylltiad Saudi Arabia yn anghyfforddus i rai o’n cyfeillion Islamoffobaidd.  Ymddengys bod y wlad Islamaidd mwyaf anrhyddfrydig yn ystyried Brexit fel rhywbeth cadarnhaol o’u safbwynt nhw.

Mwy o ‘Fake News’ gan Gwilym Trump Owen

Mae ‘Fake News’ yn derm sydd wedi dod yn gyfarwydd iawn yn ddiweddar – yn arbennig felly yn sgil ethol Donald Trump.  Cafwyd enghraifft eithaf da yn ddiweddar pan aeth ati i honni bod ymysodiad terfysgol newydd ddigwydd yn Sweden oherwydd ei fod wedi gweld rhyw stori neu ‘i gilydd am Sweden y noson cynt ar Fox News.  Roedd Donald eisiau cael dweud bod ymysodiad terfysgol wedi digwydd yn Sweden cymaint nes bod stori anghysylltiedig a therfysgaeth wedi cael ei throi yn stori felly yn ei feddwl.  Mae’n debyg mai rhywbeth felly sydd wedi digwydd efo Donald Trump Cymru, sef Gwilym Owen.  


Yn y golofn ‘Plaid Cymru Bad’ ddiweddaraf mae Golwg yn gadael iddo gyhoeddi pob pethefnos mae’n mynd trwy ei bethau yn ol ei arfer cyn gorffen efo’r honiad cwbl anhygoel bod hanner miliwn o gwynion ffon wedi eu gwneud i Gyngor Gwynedd’ y llynedd, a bod 145,000 o’r rheiny wedi mynd ar goll.  Rwan mae hwn yn ffigwr hynod, hynod anhebygol – a byddai unrhyw un sy’n hanner o gwmpas ei bethau yn gwybod hynny.  123,000 o drigolion sy’n byw yng Ngwynedd, ac mae’n debyg bod Gwilym yn credu bod pob dyn, dynes, plentyn a babi sy’n byw yn y sir yn cwyno ar gyfartaledd bedair neu bum gwaith am y cyngor pob blwyddyn ar y ffon yn unig. 

Gan nad ydi Donald, sori Gwilym yn dweud o lle mae wedi cael y wybodaeth ryfeddol yma, mae’n debyg bod rhaid i ni geisio dyfalu.  Yr unig beth diweddar y gallaf i ddod ar ei draws ydi papur a gyflwynwyd i un o bwyllgorau craffu Cyngor Gwynedd wythnos diwethaf yn edrych ar ansawdd yr ymateb i alwadau ffon i’r cyngor.  Mae hwnnw’n nodi i tua 540,000 galwad gael eu gwneud i gyd efo’i gilydd y llynedd.  Does yna ddim gair yn yr adroddiad i awgrymu mai cwynion ydi’r galwadau – jyst y galwadau mae’r cyngor yn eu cymryd ydyn nhw.   Mae pob cyngor yn cymryd cannoedd o filoedd o alwadau pob blwyddyn.  Yn ddiamau mae rhai o’r galwadau yn gwynion – ond gallwn fod yn eithaf sicr mai cyfran bychan iawn o’r galwadau ydi ‘r rheiny.  Yn wir, os ydi rhywun eisiau cwyno mae’n llawer saffach ebostio neu ‘sgwennu.

Mae’r golofn yma’n llwyddo i osod safonau is ac is mewn newyddiaduriaeth pob pethefnos erbyn hyn mae gen i ofn.

Saga Ysgol Llangennech a’r Cynllun Miliwn o Siaradwyr

Dwi ddim yn canmol gweinidogion Llafur yn aml iawn, ond mae Cynllun Miliwn o Siaradwyr Alun Davies yn haeddu canmoliaeth.  Mae’r ddogfen ymgynghorol yn uchelgeisiol, mae’n drylwyr ac mae’n gyson a pholisiau eraill Llywodraeth Cymru.  

Ond mae yna un man gwan – neu fan cryf – dibynnu sut rydym yn edrych ar bethau.  Yn gyffredinol mae proffil demograffig y Gymraeg yn eithaf iach yn yr ystyr bod yr ifanc yn llawer mwy tebygol o siarad y Gymraeg na’r hen.  Mae hyn yn awgrymu y bydd y niferoedd sy’n siarad y Gymraeg yn cynyddu yn y dyfodol.  Y rheswm am hyn ydi bod y system addysg yn cynhyrchu Cymry Cymraeg.  Yn wir erbyn hyn mae tua 80% o blant sy’n siarad y Gymraeg wedi ei dysgu yn yr ysgol yn hytrach na’r cartref.  Mae’r rhan fwyaf o bobl fy oed i a phobl hyn na hynny hyd yn oed wedi dysgu’r Gymraeg yn y cartref.  Fodd bynnag dydi’r niferoedd plant sy’n cael eu haddysgu trwy’r Gymraeg ar hyn o bryd ddim yn agos at fod yn ddigon i fod yn ddigon i gynhyrchu miliwn o siaradwyr erbyn 2050. 
I gwrdd a’r targed hwnnw byddai’n rhaid cynyddu’r nifer o blant sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg yn sylweddol.  Mae’r ddogfen yn cydnabod hynny.  Ar un olwg ddylai hynny ddim bod mor anodd a mae o bosibl yn edrych.  Rydym yn gwybod bod cryn dipyn mwy o alw am addysg Gymraeg na sy’n cael ei ddarparu mewn rhannau sylweddol o Gymru.  Dylai fod yn fater syml i orfodi awdurdodau lleol i asesu’r galw lleol am addysg cyfrwng Cymraeg a’i ddarparu.  Mae yna fecanwaith i wneud hynny eisoes yn bodoli – sef y gwasanaeth arolygu.  Y ffaith nad ydi hwnnw’n cael ei fygwth yn y cynllun ydi ‘r gwendid.  Byddai’r posibilrwydd o fethu arolygiadau oherwydd diffyg trefniadau i asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg  ac ymateb i’r galw hwnnw yn gorfodi pob awdurdod addysg yng Nghymru i fynd i ‘r cyfeiriad mae Alun Davies am iddynt fynd.
Ond mae yna broblem arall – sef agwedd llawer o aelodau, dilynwyr ac actifyddion Llafur ar lawr gwlad.    Rwan – a bod yn deg – mae Llafur Cymru wedi dod ymhell yn eu hagwedd tuag at y Gymraeg yn ystod fy mywyd i.  Mae’r casineb a welwyd yn y gorffennol tuag at yr iaith yn y gorffennol yn llawer llai cyffredin erbyn heddiw.  Serch hynny mae yno o hyd ymysg lleiafrif, a dydi’r lleiafrif hwnnw ddim yn un di nod o bell ffordd.
Mae’r stori am actifyddion Llafur yn cydweithio efo’r Dde eithafol i wrthwynebu troi Ysgol Llangennech yn esiampl o hyn wrth gwrs, ac mae’r ffaith bod Cyngor (Llafur) Rhondda Cynon Taf yn gwario bron i’r cwbl o’u harian cyfalaf yn awgrym ohono hefyd.  
Yr hyn sy’n wirioneddol boenus am y sefyllfa Llangennech ydi ymateb y sefydliad Llafur i’r sefyllfa.  Mae Cyngor Caerfyrddin yn dilyn y trywydd mae Llywodraeth Cymru am iddo ei ddilyn.  Mae rhai o aelodau Llafur yn lleol yn cydweithredu efo’r Dde eithafol i chwystrellu gwenwyn i mewn i’r holl sefyllfa.  Y gorau y gellid ei ddweud am yr AC a’r AS Llafur lleol ydi eu bod yn edrych i’r cyfeiriad arall – a gallwn fod yn llawer, llawer llai caredig na hynny.  A gallwn ddweud rhywbeth tebyg am Lywodraeth Cymru – doedd yna ddim condemnio ymddygiad cwbl bisar eu haelodau lleol.  Cofier bod Llafur u DU wedi bod yn taflu pobl allan o’r blaid – neu’n eu gwahardd rhag pleidleisio yn yr etholiad arweinyddol  – am aildrydar negeseuon cwbl ddi niwed gan aelodau o’r Blaid Werdd.  Ddigwyddodd ‘na ddim byd nes i Jonathan Edwards dynnu sylw Jeremy Corbyn at y sefyllfa – a phan ddigwyddodd hynny cafwyd gweithredu o fewn oriau.  A wedyn cyhoeddwyd ymchwiliad i Blaid Lafur Llanelli.
A dyna ydi’r risg i Gynllun Miliwn o Siaradwyr Llywodraeth Cymru mewn un stori fach dwt.  Mae’n un o nodweddion Llafur Cymru bod osgoi gwrthdaro mewnol yn flaenoriaeth iddi – yn wir gellir dadlau mai dyna ei phrif flaenoriaeth.  Oni bai ei bod yn wynebu’r elfennau gwrth Gymraeg yn ei rhengoedd ei hun ac yn cefnogi awdurdodau – o pa bynnag blaid – sy’n gweithredu ar ei ddymuniadau fydd yna ddim tri chwarter miliwn siaradwr Cymraeg erbyn 2050 heb son am filiwn.  
Dydi gorffennol y Blaid Lafur Gymreig ddim yn rhoi llawer o le i ni fod yn obeithiol mae gen i ofn.

Dirgelwch diweddaraf yr Egin

Roedd yna bwt byr iawn heno ar Newyddion 9 am hynt a helynt yr Egin.  

Yn ol y stori ‘dydi’r Theatr Genedlaethol – sydd wedi ei leoli ar hyn o bryd mewn adeilad cyfagos – ddim yn bwriadu symud i’r Egin oherwydd ‘diffyg lle addas’. 
Rwan, ar yr olwg gyntaf ‘dydi hon ddim yn edrych fel fawr o stori, ond o ail ystyried efallai ei bod hi.  Y syniad efo ‘r Egin ydi creu clwstwr o ddiwydiannau ‘creadigol’ ar safle Coleg y Drindod.  Ond hyd y gwyddom, unig denant y datblygiad arfaethedig hyd yn hyn ydi S4C – ond ymddengys nad oes lle i denant newydd – hyd yn oed un sy’n sicr yn ‘greadigol’ a sydd ddim angen llawer iawn o le.  ‘Dydw i erioed wedi clywed am glwstwr sydd ond ag un cydadran o’r blaen.
Dwi’n siwr bod yna eglurhad rhesymegol – ond fedra i ddim yn fy myw a meddwl am un.  Oes gan unrhyw un awgrym?