Newyddion drwg i’r Toriaid yng Nghonwy

Llai na phum mlynedd ar ol ennill is etholiad yn Neganwy ar ran y Toriaid mae’r Cynghorydd Julie Fallon wedi penderfynu sefyll fel cynghorydd annibynnol.  Mae yna stori y tu ol i ymadawiad o’r fath gan amlaf.  Byddai’n ddiddorol gwybod beth yn union sydd y tu ol i hon – mae’n gyfrinach agored nad oedd y berthynas rhwng yr Aelod Cynulliad a’r cynghorydd yn dda – a bod yn garedig.

Etholiadau’r cyngor – Powys

Mae’n siwr nad oes yna lawer o flogiadau – na dim arall – lle mae’r geiriau Plaid Cymru a Powys yn ymddangos ar yr un pryd.  Serch hynny mae’n fwy na phosibl y bydd etholiadau cyngor 2017 yn torri tir newydd o safbwynt y Blaid.

Yn hanesyddol cafwyd sawl grwp annibynnol ym Mhowys, gan gynnwys rhai oedd yn honni bod yn annibynnol o’r grwpiau annibynnol eraill – un ac oll.  Cafwyd hyd yn oed grwp annibynnol yn ardal Llanwddyn oedd yn datgan  ei fod annibynnol oddi wrth pawb arall, ond yn hapus i ddweud eu bod dan adain y Ceidwadwyr – beth bynnag mae hynny yn ei olygu.  


Mewn geiriau eraill mae yna hanes o lanast – rhywbeth sy’n nodweddu cynghorau sy’n cael eu rheoli gan grwpiau annibynnol.


Gallwn – fodd bynnag – fod yn siwr bod newid am fod y tro hwn.  Mae 14 cynghorydd yn ymddeol  ym Maldwyn yn unig.  Gallai hanner y cynghorwyr presenol yn hawdd ymddeol neu golli eu seddi ym mis Mai.


Nod y Ceidawadwyr ydi bod yn brif blaid y cyngor – ac maent y. targedu pentrefi Dyffryn Hafren a De Powys gan geisio adeiladu ar eu llwyddiant yn  etholiadau San Steffan yn 2015.  Mae ganddynt gyfle rhesymol i wireddu hyn.


O safbwynt Plaid Cymru, does ganddi ddim un aelod ar y cyngor presennol, yn wir dim ond un ymgeisydd oedd ym Maldwyn tro diwethaf a chwpl yn Ne Powys. Y tro hwn bydd o leiaf 12 yn sefyll yng Ngogledd y Sir yn arbennig felly yn ardal Dyffryn Dyfi, yr ardal o gwmpas Llanfair Caereinion a Llanfyllin, ardal y Drenewydd a rhai o bentrefi Dyffryn Hafren. 


Gobaith y Blaid yn yr etholiadau yma ydi ethol cynghorwyr sir am tro cyntaf yn ogystal ag ethol pobl i gynghorau trefi Drenewydd, Llanidloes, Machynlleth a’r Trallwng.


Yn hanesyddol ar lefel San Steffan mae Maldwyn wedi bod yn gadarnle Rhyddfrydol, tra bod Brycheiniog a Maesyfed wedi bod a hanes ychydig yn fwy cymhleth.  Ym Maldwyn mae’r Dib Lems wedi cael cweir gan y Toriaid yn ddiweddar tra bod y Toriaid hefyd wedi ennill tir ym Mrycheiniog a Maesyfed – lle nad Kirsty Williams ydi eu gwrthwynebwraig. 


Mae yna bosibilrwydd y bydd gan y Blaid fwy o ymgeiswyr na’r Dib Lems ym mis Mai.


Ar hyn o bryd mae gan y Dib Lems 3 chynghorydd ym Maldwyn, er bod un ohonynt yn ymddeol y tro hwn. Mae posibilrwydd y gall y Blaid ennill mwy o seddi na’r Dib Lems ym Maldwyn – a byddai hynny’n creu cyfle o lunio naratif mai’r Blaid ydi ‘r prif wrthwynebwyr i’r Toriaid yn y rhan honno o’r sir – canfyddiad o’i wireddu fyddai’n ddigon ynddo”i hun i ennill pleidleisiau yn y dyfodol.  

Byddai chwe sedd yn ganlyniad gwych – ond byddai un yn welliant sylweddol ar y sefyllfa sydd ohoni.  

*Diolch i Elwyn Vaughan am wybodaeth.

Etholiadau cynghorau lleol – Caerdydd

Dwy sedd yn unig enillwyd gan y Blaid yn 2012 – colled o 5 sedd o gymharu a 2008 – er i’r bleidlais ar draws y ddinas ond disgyn y mymryn bach lleiaf.  Ers hynny mae is etholiadau a chynghorwyr yn croesi’r llawr wedi cynyddu’r grwp i 5.  Cynnydd sylweddol yn y bleidlais Lafur oedd yn gyfrifol am y colledion yn hytrach na chwymp yng nghefnogaeth y Blaid.

Yn wir cafodd y Blaid 12.8% o’r bleidlais ar draws y ddinas o gymharu a 16.4% gan y Dib Lems – ond cafodd y rheiny 16 sedd – 8 gwaith cymaint a’r Blaid.  Y rheswm am hynny oedd bod eu cefnogaeth wedi ei ddosbarthu’n fwy effeithiol gyda chefnogaeth trwm mewn nifer cymharol fach o wardiau aml sedd yn agos at ganol y ddinas.
Rwan mae cefnogaeth y Blaid ers hynny hefyd wedi ei ganoli ar wardiau yng Ngorllewin y ddinas a Grangetown yn y De.  Byddai cynnydd o fwy na 5% yn debygol o ddod a nifer dda o seddi iddi – cyn belled a bod y wardiau gorllewinol a Grangetown yn gweld y cynnydd hwnnw.  Mae’r ffaith bod aelodau’r grwp Llafur sy’n rhedeg y cyngor wedi bod wrthi’n ceisio dadberfeddu eu gilydd ers blynyddoedd yn gwneud pethau’n haws.
Beth bynnag dyma’r posibiliadau cryfar:  Grangetown (3), Treganna (3), Tyllgoed (3) Mae’r Blaid eisoes gyda 2 sedd yn y Tyllgoed ac 1 yn Grangetown

Wedyn mae yna bosibilrwydd o ennill rhai o’r canlynol – Caerau (2), Buteown (1), Glanyrafon (3), Trelai (3), Creigiau/St Ffagan (1), Pentyrch (1)
Y nodyn negyddol o bosibl ydi perfformiad y Blaid mewn is etholiadau lleol ers 2012 – mae wedi gwneud yn dda – ond ddim cweit digon da i wneud gwahaniaeth yn unman ond Grangetown – ardal gryfa’r Blaid ag eithrio’r Tyllgoed.  Gall wneud yn dda iawn – ond bydd rhaid iddi wneud mymryn yn well nag a wnaeth mewn is etholiadau diweddar.

Etholiadau Cyngor – Caerfyrddin

Dwi wedi gadael i’r dadansoddiad o etholiadau’r cynghorau lithro braidd – ond mi gychwynwn ni arni unwIth eto gan edrych ar Caerfyrddin.  Wele’r canlyniadau yn 2012:

Yr hyn sy’n drawiadol wrth gwrs ydi perfformiad da Llafur, cwymp bach yn sefyllfa’r Blaid a pherfformiad gwael gan ymgeiswyr annibynnol – ond mae yna fwy i’r stori na hynny.  
O dynnu ardal Llanelli allan o’r stori gwnaeth y Blaid yn eithaf da yn 2012 gan ennill seddi oddi wrth gynghorwyr annibynnol. Ond gwnaeth Llafur yn dda iawn yn ardal Llanelli – yn arbennig felly yn erbyn y Blaid.  Felly roedd y Blaid yn ennill tir yn erbyn annibynnwyr y tu allan i ardal Llanelli ond yn colli tir yn erbyn Llafur yn ardal Llanelli.
Os ydi’r polau piniwn yn gywir bydd Llafur yn colli’r tir a enillwyd ganddynt ar hyd a lled Cymru ym mis Mai, a does yna ddim rheswm pam na fydd hynny’n digwydd yng Nghaerfyrddin.  Petai hynny’n digwydd yn ardal Llanelli a phetai’r Blaid yn parhau i ennill tir yn erbyn cynghorwyr annibynnol mewn wardiau gwledig, byddai gan y Blaid gyfle rhesymol o ddod yn agos iawn at ennill y 38 sedd sydd ei angen i reoli’r cyngor yn llwyr – 8 yn ychwanegol – mae’r Blaid ar 29 ar hyn o bryd.

Athrylith strategol

Felly mae Andrew RT Davies wedi manteisio ar ei araith yng Nghynhadledd Wanwyn ei blaid i ymosod ar Blaid Cymru – ymddengys y byddai pleodlais iddi ym mis Mai yn beryglys ac yn arwaith at annibyniaeth.  Mae wedi defnyddio ei gyfweliadau teledu i bwrpas tebyg.

Rwan, dwi’n gwybod bod Andrew yn dweud bod ei blaid am roi ymgeiswyr i sefyll tros y lle i gyd – ond does yna ddim byd yn hanes y Toriaid yng Nghymru i awgrymu y byddant yn cael fawr o neb i sefyll mewn rhannau eang o’r wlad.  Yn wir, go brin y bydd ganddynt lawer o ymgeiswyr yn sefyll mewn etholaethau maent yn eu cynrychioli yn San Steffan megis Brycheiniog a Maesyfed. 
Ond lle maent yn sefyll mewn niferoedd a lle maent yn gystadleuol Llafur yw eu prif wrthwynebwyr bron yn ddi eithriad – Bro Morgannwg, Mynwy, a rhannau o’r dinasoedd yn bennaf.  Yr unig rannau o Gymru lle bydd Plaid Cymru a’r Toriaid ben ben a’i gilydd yn ol pob tebyg ydi yn rhai o wardiau Conwy a Dinbych, ambell i le ym Mro Morgannwg, ac ambell i ward ar gyrion Caerdydd.  Mae’n debyg y bydd yna ychydig o lefydd eraill ar hyd a lled Cymru.
Yn y rhan fwyaf o Gymru mae’r Blaid yn cystadlu efo Llafur, neu efo ymgeiswyr annibynnol.  Dydi o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i Andrew RT Davies ddefnyddio ei araith a’i gyfweliadau teledu i geisio dychryn etholwyr Rhondda Cynon Taf, Caerffili neu Gastell Nedd Port Talbot rhag pleidleisio i Blaid Cymru – Llafur ac nid ei blaid ei hun fyddai’n ennill petai ei godi bwganod yn gweithio.  Mae’n gwneud llai o synnwyr fyth mewn ardaloedd fel Caerdydd – lle mai’r peth diwethaf mae Andrew angen ei wneud ydi adgyfnerthu’r bleidlais Lafur.  Nid y Toriaid fyddai ail ddewis cefnogwyr y Blaid yn y brif ddinas – na’r trydydd dewis na’r pedwerydd.
Byddai’n ddiddorol gwybod pwy sy’n cynghori’r dyn ar lunio strategaeth etholiadol.

Ddim rhagfarnau crefyddol – dim o gwbl

O gael ei hun yn y cyfryngau prif lif am drydar sylw cwbl boncyrs mae Felix Aubel am i ni ddeall nad oes ganddo unrhyw ragfarnau crefyddol neu hiliol.

Roeddwn i’n gofyn cwestiwn pen agored am sylwadau gwrth-grefyddol y trydariad, ac nid yn gwneud datganiad,

Rwyf o dras cymysg fy hun ac nid ydw i’n cytuno gydag unrhyw ragfarn grefyddol neu hiliol.

Mae hyn yn dda iawn i’w glywed – ond mi adawaf i chi benderfynu pa mor ddidwyll ydi’r datganiad yng ngoleuni’r hyn mae wedi bod yn ei drydar neu ei ail drydar tros y misoedd diwethaf.


Y cyfryngau prif lif a’r Toriaid yn ymateb i lif trydar Aubel – o’r diwedd

Ychydig ddyddiau’n ol roeddem yn trafod trydariad y Tori Felix Aubel oedd yn ein gwahodd i drafod os y dylem efelychu’r hyn ddigwyddodd yn Sbaen yn y Canol Oesoedd a mynd ati i erlid a lladd miliynau o Fwslemiaid ar sail eu crefydd.  Ymddengys bod y trydariad wedi ymddangos yn y cyfryngau prif lif – esiampl brin os nad unigryw o’r rhagfarn a’r anoddefgarwch sy’n nodweddu llif trydar Felix yn cael ei alw i gyfri a’i feirniadu.

Rwan dwi’n gwybod nad ydi Felix yn wleidydd proffesiynol, a hyd y gwn i dydi o erioed wedi cael ei ethol i unrhyw swydd gyhoeddus o gwbl.  Ond mae o’n wyneb cyhoeddus i’r Blaid Doriaidd Gymreig yng Nghymru – yn arbennig felly ar y cyfryngau cyfrwng Cymraeg.  Yn wir mae o’n cael ei anfon i siarad trostynt ar raglenni Cymraeg yn amlach na’r un gwleidydd proffesiynol bron.  Hyd yn oed efo ‘r trydariad diweddar a’i gwestiwn ‘pen agored’ (chwadl Felix) sy’n ymddangos i ofyn os dylid erlid a llofruddio miliynau o Fwslemiaid, y cwbl sydd gan y Toriaid Cymreig i’w ddweud ydi mai mynegi ei farn ei hun mae’r dyn.  Mae’n ryddhad deall nad ydi’r Toriaid Cymreig o blaid agor trafodaeth am erlidigaeth ar sail crefydd, ond dydi’r ymateb ddim ddigon da.

Dwi ddim eisiau gwneud sylw o unrhyw fath ynglyn ag achos Neil McKevoy pan gafodd ei hun mewn trwbwl yn gynharach yn y mis yn sgil sylw a wnaeth yng nghlyw swyddog o Gyngor Caerdydd rai blynyddoedd yn ol.  Ond roedd y cyfryngau ar hyd y stori’n syth bin.  Cychwynwyd ar gamau mewnol gan y Blaid i ymateb i’r sefyllfa –  hefyd yn syth bin.  Roedd y cyfryngau hefyd tros sylwadau eithaf di niwed a wnaed gan Seimon Glyn ar ddechrau’r ddegawd ddiwethaf am fisoedd.
Mae’n ymddangos mai ffordd y Toriaid Cymreig o fynd i’r afael a rhagfarnau crefyddol a chymhelliad posibl i gasineb ydi dweud nad ydi hynny’n safbwynt swyddogol.  Mae’n anodd dychmygu ymateb mor wan a thila?  Tybed os oes ganddyn nhw strwythurau disgyblu o gwbl?
Rwan mae Felix wedi bod yn trydar ac ail drydar negeseuon sydd – ar y gorau – yn dangos anoddefgarwch crefyddol ers misoedd a does neb ag eithrio’r blog yma (pan mae gen i ‘r amynedd i edrych ar y siwar agored o linell trydar mae’n ei gadw) wedi cymryd unrhyw – sylw o’r peth ac mae hynny’n adrodd cyfrolau.  Mae’r cyfryngau Cymreig yn rhyfeddol o sensitif i sylwadau annoeth gan genedlaetholwyr, ac maen nhw’n hynod ansensetif i sylwadau rhagfarnllyd gan wleidyddion unoliaethol.  I gael unrhyw sylw o gwbl rhaid i’r hyn ddywedir fod yn grotesg o eithafol. 
ON – dwi’n sylwi bod yna garthu wedi bod ar gyfri Felix yn ystod y dydd heddiw.  Diolch am screenshot.

O diar

Ymddengys nad ydi Baron Ellis-Thomas of Conway Stream yn awyddus i gefnogi mesur Dai Lloyd i amddiffyn ffurfiau Cymraeg ar enewau – gwrthwynebodd y mesur efo’i ffrindiau Llafur.  Roedd hyd yn oed UKIP a’r Toriaid o blaid.  

A wyddoch chi be?  – mae’r eglurhad yn un cwbl ffuantus a fi fawraidd.  Pwy fyddai’n credu?