Problemau anarferol Senedd Cymru

Dwi dipyn yn hwyr ar hon, ond dyma bwt ar 20fed penblwydd y Cynulliad / Senedd.

Yn sylfaenol mae gan y Cynulliad / Senedd ddwy broblem waselodol: 
1). Y ffaith ei fod yn ddi eithriad yn cael ei redeg gan y Blaid Lafur.
2). Y ffaith bod y pwerau sydd ganddo yn gyfyng – yn arbennig felly mewn perthynas a materion economaidd.
Wna i ddim son am 2) ar hyn o bryd – ond mae yna ychydig gen i i’w ddweud am 1).
Ar un ystyr mater democrataidd ydi o bod Llafur pob amser mewn grym.  Os ydi etholwyr Cymru eisiau llywodraeth sy’n cael ei harwain gan Lafur er bod perfformiad y llywodraeth yna’n ddifrifol o wael, ac wedi bod yn wael am y rhan fwyaf o hanes y sefydliad, yna mater i’r etholwyr ydi hynny.  
Ond mae yna broblemau systemaidd hefyd – ac mae nhw’n rhai anarferol o’u cymharu a gwledydd eraill.  Dwi wedi torri’r canlynol o wikipedia – mae’r ffigyrau yn dangos perfformiad Llafur ers 1999.  

2016:

Last election 30 seats
Seats won 29
Seat change Decrease1
Constituency Vote 353,866
 % and swing 34.7% Decrease7.6%

2011:
Last election 26 seats
Seats won 30
Seat change Increase4
Constituency Vote 401,677
 % and swing 42.3% Increase10.1%

2007:

Last election 30 seats
Seats won 26
Seat change Decrease4
Constituency Vote 314,925
 % and swing 32.2% Decrease7.8%

2003: 
Last election 28 seats
Seats won 30
Seat change Increase2
Constituency Vote 340,515
 % and swing 40.0% Increase2.4%
1999:
Seats won 28
Constituency Vote 384,671
Percentage 37.6%

Felly tros y cyfnod o 20 mlynedd mae canran pleidlais (etholaethol) wedi amrywio rhwng 32.2% a 42.3%  o’r bleidlais genedlaethol.  Mae hynny’n amrediad mawr.  Ond cymharol fach ydi’r amrediad mewn seddi – 4 a bod yn fanwl – 26 ydi’r lleiaf iddynt ei gael a 30 ydi’r mwyaf.  Mae’r system etholiadol ynghyd a dosbarthiad cefnogaeth Llafur yn creu cyfundrefn etholiadol sy’n gyndyn iawn i ymateb i newid etholiadol.

Ond nid y system etholiadol ydi’r unig broblem.  Problem arall ydi bod y rhan fwyaf o bobl Cymru ‘n cael eu newyddion o Loegr.  O ganlyniad maent yn edrych ar wleidyddiaeth Cymru trwy brism gwleidyddiaeth Lloegr.  O ganlyniad i hynny mae Llafur yng Nghymru yn tueddu i fod yn boblogaidd pan mae Llafur Lloegr yn boblogaidd, ac yn amhoblogaidd pan mae Llafur Lloegr yn amhoblogaidd.  Felly gall Llafur wneud yn gymharol dda yng Nghymru yn etholiadol hyd yn oed os ydynt yn perfformio’n sal mewn llywodraeth oherwydd eu bod yn cael eu beirniadu mewn cyd destun Cymru / Lloegr. 

 ‘Dydi sefyllfa lle nad oes yna gysylltiad uniongyrchol a chlir rhwng perfformiad mewn llywodraeth a’r broses etholiadol ddim yn cynnig cymhelliad i lywodraeth berfformio’n dda, ac felly mae’n cynhyrchu cyfundrefn sydd yn ddiffygiol o safbwynt democrataidd.

Heriau’r Blaid tros y blynyddoedd nesaf

Mae gan pob plaid ei phroblemau – neu i fod yn fwy cadarnhaol heriau.  Dydan ni ddim yn gwybod os fydd yna Etholiad Cyffredinol yn y flwyddyn neu ddwy nesaf – ond os bydd y senedd presenol yn cael tymor llawn, etholiadau Senedd Cymru yn 2021 fydd yr etholiad Cymru gyfan nesaf.  Yn fy marn i y canlynol ydi’r prif heriau sy’n ein hwynebu rhwng rwan a 2021.


1). Sut i wahaniaethu’n glir rhyngom ni a phawb arall, ac yn arbennig felly Llafur.  Roedd ethol Corbyn yn arweinydd y Blaid Lafur yn hynod anghyfleus o safbwynt y Blaid.  Dydi hi bellach ddim yn bosibl lleoli’n hunain i’r Chwith i Lafur.  Mae hi fodd bynnag yn bosibl amlygu’r dwr gwyrdd rhyngom ni a Llafur, ac mae’n bosibl gwneud rhywbeth i wahaniaethu ein hunain a gwleidyddiaeth Adain Chwith hen ffasiwn ‘top down’ Corbyn a’r ffaith nad yw’n deall datganoli.

2). Sut i ddod tros y ffaith bod yna ganfyddiad nad oes gennym y gallu i wireddu’n hamcanion.  Mae hyn yn arbennig o wir am San Steffan?   Roedd yr hyn roedd y Blaid yn ei addo yn 2015 yn eithaf tebyg i’r hyn roedd Llafur yn ei addo yn 2017, ond wnaeth o ddim cynhyrchu’r un lefelau o gefnogaeth newydd o bell ffordd.  Y prif reswm am hynny ydi bod pobl yn credu bod gan Llafur y gallu i weithredu ar eu addewidion pan nad oes gennym ni.  Efallai y gall hyn newid rhyw gymaint os bydd pobl yn mynd i arfer at y syniad o glymbleidio rheolaidd.
3). Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cael eu holl newyddion, neu’r rhan fwyaf o’u newyddion gan gyfryngau Seisnig. Dydi’r Blaid prin yn ymddangos yn y cyfryw gyfryngau.  Mae cyfryngau Cymru yn atgyfnerthu’r sefyllfa hon i raddau helaeth oherwydd eu bod yn sefydliadol iawn ac amharod i herio’r sawl sy’n dal grym.  Yn wir mae’n hawdd credu weithiau bod yn well gan y cyfryngau Cymreig feirniadu’r hwrthbleidiau ac yn arbennig felly Plaid Cymru, na herio’r sawl sy’n ymarfer grym.  I’r graddau yna mae yna rhywbeth Dwyrain Ewropiaidd iawn am wleidyddiaeth Cymru.  
4). Fel bron i pob mudiad cenedlaethol mae’n rhaid i’r Blaid apelio at amrediad eang o bobl – pobl sydd yn cytuno ynglyn a’r diwylliant Cymreig a statws cyfansoddiadol Cymru ond sy’n anghytuno ynglyn a materion cymdeithasol ac economaidd eraill.  Mae rheoli hyn yn heriol, ac mae’n nesaf peth i amhosibl plesio pawb.
5). Torri allan o’r Gymru Gymraeg.  Mae hyn yn digwydd i raddau weithiau – ond ddim am hir.  Mae pobl sy’n byw yn yr etholaethau Cymraeg eu hiaith yn llawer mwy tebygol o bleidleisio i’r Blaid – ac mae hynny’n cynnwys pobl sydd ddim yn siarad y Gymraeg ond sy’n byw mewn ardaloedd Cymraeg.  Mae cael caer Orllewinol yn bwysig pan mae perhau’n anodd (cymharer a’r Dib Lems sydd ddim efo demograffig naturiol sy’n eu cefnogi), ond mae apelio yn eang wedi bod yn broblem i’r Blaid am y rhan fwyaf o’i hanes – ac mae’n dal i fod yn broblem.
7). Rydan ni’n gwleidydda mewn ffordd rhy gadarnhaol.   Mae Llafur wedi ennill pob Etholiad Cyffredinol yng Nghymru ers bron i ganrif, mae wedi rheoli’r Cynulliad / Senedd ers sefydlu datganoli ac mae nhw bron yn ddi eithriad yn rheoli mwy o gynghorau na’r un blaid arall ac mae ei haelodau’n britho cyrff cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.  Ac eto rydym – fel gwlad – yn agos at waelod bron i pob tabl rhyngwladol – mewn perthynas a gwledydd cyffelyb o leiaf.  Mae gwleidyddiaeth negyddol yn gweithio, ac mae yna lawer iawn, iawn i fod yn negyddol amdano ynglyn a phlaid fwyaf Cymru.

Ynglyn a’r nepotistiaeth yn y Bae

Rwan peidiwch a cham ddeall – does gen i ddim problem o gwbl efo cyflogau Aelodau Cynulliad – mae £64,000 y flwyddyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y gwaith ac yn sicrhau bod ymgeiswyr addas yn rhoi eu henwau ymlaen.  Mae hefyd yn gyflog is na’r hyn enillir gan Aelodau Seneddol (£74,000) am wneud gwaith digon tebyg.
Ond mae yna botensial i Aelod Cynulliad elwa yn anuniongyrchol o’i swydd hefyd trwy gyflogi aelod o’i d / theulu.  Mae’r arfer yma yn rhyfeddol o gyffredin yn y sefydliad  – ac mae cyflogau pobl sy’n gweithio i Aelodau Cynulliad yn ddigon parchus.
Rhestraf yr ACau sy’n cyflogi aelodau o’u teuluoedd isod.

Mohammad Asghar (Tori)

Mae ei wraig Firandus yn cael ei chyflogi fel gweithiwr achos am 22.2 awr yr wythnos ac mae ei ferch, Natasha yn cael ei chyflogi am 22.2 awr yr wythnos fel Uwch Swyddog Cyfathrebu.
Michelle Brown (UKIP)
Cafodd ei brawd, Richard Baxendale ei gyflogi o Fehefin 2016 hyd fis Ionawr 2017 am 37 awr yr wythnos fel Gweithiwr Achos.
Angela Burns (Tori)
Cyflogir ei gwr, Andrew am 18.5 awr pob wythnos fel ymchwilydd a gweithiwr achos.
Andrew RT Davies (Tori)
Cyflogir ei wraig Julia am 37.5 awr fel Cymhorthydd Personol ac Ymchwilydd.
Rebecca Evans ( Llafur)
Cyflogir ei gwr Paul am 37.5 awr pob wythnos fel Rheolwr Swyddfa a’i chwaer Claire Stowell am 18.5 awr fel Cymhorthydd Swyddfa.
John Griffith (Llafur)
Cyflogir ei wraig, Alison am 37 awr fel Gweinyddydd.
Neil Hamilton (UKIP)
Cyflogir ei wraig, Christine fel Cynorthwy – ydd personol am 37 awr.
Mark Isherwood (Tori)
Mae ei wraig Hilary yn gweithio am bump awr pob wythnos fel Gweithiwr Achos.
Darren Miller (Tori)
Cyflogir ei wraig, Rebekah am 22.2 awr fel Gweinyddwr a Gweithiwr Achos.
Mark Reckless (Duw a wyr)
Mae ei wraig, Catriona yn gweithio iddo fel Uwch Gynghorydd.
David Rees (Llafur) 
Mae Angharad ei ferch yn gweithio iddo fel Ymchwilydd a Swyddog Cyfathrebu ac Ymchwilydd am 22.3 awr.

David Rowlands (UKIP) 

Mae ei wraig, Keryn yn gweithio iddo am 37 awr fel Pennaeth Swyddfa.

Joyce Watson (Llafur) 

Mae ei merch, Fiona Openshaw yn gweithio iddi am 14 awr fel Ymchwilydd.

Felly os ydi fy syms i’n gywir mae yna 5 Tori, 4 AC a etholwyd yn enw UKIP a 4 Llafurwr yn cyflogi aelodau o’u teulu.

Rwan petai’r Aelodau Cynulliad yn defnyddio eu pres eu hunain i gyflogi aelodau o’u teuluoedd eu busnes nhw a neb arall fyddai hynny.  Ond maent yn eu cyflogi efo pres cyhoeddus.  Ym mhob rhan arall o’r sector cyhoeddus  mae canllawiau caeth o ran cyflogi pobl – a dwi’n siwr bod yna ganllawiau caeth yn y Cynulliad i sicrhau mai’r person gorau i swydd sy’n cael ei benodi – ond bod na thrwy gyd ddigwyddiad hapus mae llawer o ACau yn cael mai aelodau o’u teuluoedd eu hunain ydi’r bobl gorau i weithio yn y swyddi maent yn gyfrifol am eu llenwi.

Mae’n eithaf digri mai’r Dde sydd fwyaf euog o hyn – y sawl sy’n honni bod defnydd effeithiol o bres cyhoeddus yn bwysig iddynt.  Ymddengys mai ystyr ‘defnydd effeithiol o bres cyhoeddus’ i nifer ohonynt ydi sicrhau bod cymaint a phosibl o bres cyhoeddus yn gwneud eu ffordd i’w coffrau nhw a’u teuluoedd.


Stwj Cymreig Putin

Bydd darllenwyr cyson Blogmenai yn cofio’r blogiad yma ynglyn ag arfer y Tori Felix Aubel i ail drydar stwff o gyfri trydar yr eithafwr Adain Dde, David Jones.  Ers iddo fynd i drafferthion efo’r cyfryngau am geisio dechrau trafodaeth efo eithafwr Adain Dde arall – o Sweden y tro hwn – ynglyn ag ail redeg y Spanish Inquisition, mae wedi carthu ei gyfri a chael gwared o lawer o stwff Mr Jones.

 Petai Felix yn perthyn i blaid arall wrth gwrs byddai’n cael ei hel allan – ond mae’r Toriaid yn eithaf llac am y math yma o beth yn eu plaid eu hunain – maent yn canolbwyntio’n hytrach ar frefu’n groch am ymddiswyddiadau pan mae aelodau pleidiau eraill yn crwydro o fewn hyd braich i’r math yma o beth.
Ta waeth, dwi’n crwydro.  Os ydi’r Independent i’w gredu mae  cyfri trydar David Jones yn cael ei redeg o Moscow.  Felly, ymddengys bod Felix wedi bod wrthi’n brysur yn ail drydar propoganda Rwsiaidd. 

Llythyr i Golwg

Waeth i mi adael hwn yma rhag iddo beidio ymddangos yn y cylchgrawn.
Annwyl Olygydd
Pleser anisgwyl oedd cael fy hun yn cytuno efo Gwilym Owen (Awst 24).  Mae Mr Owen yn gwbl gywir i nodi bod gormod o’r cyfryngau cyfrwng Cymraeg  yn ddibynnol ar arian cyhoeddus, ac mae’n gywir hefyd i ddatgan nad ydi’r cyfryw gyfryngau yn ddigon parod i feirniadu a herio’r sawl sy’n ymarfer grym yng Nghymru.
Yn anffodus mae colofn Mr Owen yn Golwg yn rhan o’r broblem, ac nid yn rhan o’r datrysiad i’r graddau ei bod yn esiampl dda o’r hyn mae Mr Owen yn cwyno amdano.  
Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi ennill pob etholiad cyffredinol ers bron i ganrif, mae wedi llywodraethu ym Mae Caerdydd ers sefydlu datganoli, ac mae’n ddi eithriad yn rheoli mwy o gynghorau lleol na’r un blaid wleidyddol arall. Mae aelodau’r Blaid Lafur yn britho cyrff cyhoeddus yng Nghymru.  Ac eto mae colofn Mr Owen yn osgoi herio deiliaid y grym go iawn  ac yn hytrach yn canolbwyntio ar feirniadu un o’r gwrthbleidiau sydd a chymharol ychydig o rym.
Yn gywir
Cai Larsen

Gwario mawr ar Senedd Cymru

Mae’n dda deall bod Darran Hill yn cadw llygad barcud ar wariant Llywodraeth Cymru ac yn cwyno’n groch am wariant o £1.8m ar rhywbeth neu’i gilydd yn Senedd Cymru.

Mae’n siwr ei fod yn gywir i ddadlau bod £1.8m yn swm sylweddol.  Wedi’r cwbl mae’n tua 1/200 o’r hyn mae’r trethdalwr yn cael y fraint o’i dalu am beth sydd i bob pwrpas yn annedd breifat yn Llundain.
Neu’n 1/3,900 o’r hyn y gallai’r gwariant ar ddeddfwrfa arall fod – yr un yn Llundain. 

Ynglyn a’r sibrydion am arweinyddiaeth y Blaid

Wna i ddim treulio llawer iawn o amser yn trafod arweinyddiaeth Plaid Cymru – mae’r cyfryngau wedi bod wrthi trwy gydol Mis Awst, er bod eu straeon wedi eu hadeiladu ar fawr ddim o sylwedd – fel sy’n aml yn wir yr amser yma o’r flwyddyn   

Yn fy marn bach i – ac roedd fy marn bach  i’n llawer mwy cywir nag un y cyfryngau prif lif yn ol yn 2012 – ychydig iawn o awydd sydd i newid arweinydd ymysg aelodau’r Blaid – yr unig bobl sydd ag unrhyw rym i wneud hynny.
 Dydi hynny ddim yn golygu nad ydi’r cyfryngau prif lif am ddweud y gwrthwyneb wrth gwrs.  A dydi hynny ddim am gau cegau’r fflyd o bobl sydd erioed wedi codi bys i helpu’r Mudiad Cenedlaethol, ond sydd yn teimlo mai eu cenhadaeth nhw ydi cynnig cyngor di ddiwedd o hirbell ar sail beth bynnag sy’n troelli yn eu pennau ar y pryd.

Mae’r Blaid wedi ei ‘bendithio’ gan amrediad anhygoel o bobl sy’n torri eu boliau eisiau dweud eu pwt am sut y dylai wneud pethau – o’r cyfryngau, i’r bobl ecsentrig hynny sy’n teimlo’r angen i ddweud eu pwt ar derfyn straeon Golwg360 i bobl ar ymylon diog y Mudiad Cenedlaethol i arweinyddiaeth UKIP (i’r graddau y gellir rhoi’r geiriau ‘UKIP’ ac ‘arweinyddiaeth’ yn yr un frawddeg heb chwerthin).  Yr ymateb priodol i’r brefu yma gan amlaf ydi ei anwybyddu.
Serch hynny mi ddyweda i bwt am y storm Awst dila ddiweddaraf.  Dydi Plaid Cymru yn hanesyddol ddim wedi bod yn arbennig o lwyddiannus yn etholiadol.  Yn wir gallwn ddweud bod pawb sydd erioed wedi arwain y Blaid wedi ei harwain i etholiadau sydd heb bwt o amheuaeth wedi bod yn aflwyddiannus – gydag un eithriad.  Yn wir mae rhai o’n cyn arweinwyr wedi ‘methu’ yn etholiadol  ym mhob un etholiad maent wedi arwain y Blaid iddi.  Wna i ddim mynd i fanylion i osgoi gwneud i unrhyw un wrido.  Mae hefyd yn wir bod y Blaid yn draddodiadol wedi bod yn barod iawn i faddau i’w harweinwyr am fethu’n etholiadol.  Mae maddeuant am fethiant etholiadol wedi bod yn rhywbeth hawdd iawn i’w gael ym Mhlaid Cymru.
Yr eithriad wrth gwrs ydi Leanne – does yna ddim methiant etholiadol clir wedi bod yn ystod ei chyfnod fel arweinydd er mai sail arferol y galw am newid arweinyddiaeth ydi ‘methiant’ etholiadol honedig.
Mae’r tabl isod yn dangos y sefyllfa etholiadol a etifeddwyd gan Leanne ochr yn ochr a pherfformiad diweddaraf y Blaid:

Fedra i ddim dod o hyd i ffigyrau sy’n caniatau i mi roi cymhariaeth ystyrlon o bleidlais a chanran y Blaid yn etholiadau lleol 2017, ond aeth nifer y cynghorwyr a etholwyd i fyny o 170 yn 2012 i 203 – perfformiad sy’n ymylu ar fod y gorau yn hanes y Blaid.  Etholwyd dau gomisiynydd heddlu yn 2016 hefyd. Daeth y Blaid yn ail i Lafur yn yr etholiadau cyngor, yr etholiadau Cynulliad a’r etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu.  
Mae’n wir i’r bleidlais  syrthio yn etholiad cyffredinol 2017 o gymharu ag un 2015 – ond mae bron yn reol di feth yng ngwleidyddiaeth Cymru bod y Blaid yn ei chael yn anodd pan mae Llafur allan o rym yn San Steffan, ond yn boblogaidd.  Ar ben hynny roedd yr etholiad diweddaraf wedi ei nodweddu gan wasgfa na welwyd ei thebyg ers degawdau ar bleidiau llai. Cynyddodd y nifer aelodau seneddol o dri i bedwar tros y cyfnod hwnnw wrth gwrs.
Collwyd tua 17,000 o bleidleisiau, o gymharu a cholled o bron i 27,000 i’r Lib Dems, 170,000 i UKIP a 33,000 i’r Gwyrddion.  

O edrych y tu allan i Gymru collodd yr SNP 477,000 o bleidleisiau a 21 sedd.  Yng Ngogledd Iwerddon collodd y pleidiau llai – yr UUP a’r SDLP eu holl seddi.  Wrth ymyl y gyflafan yma roedd perfformiad y Blaid yn well na boddhaol – llawer gwell.
Beth felly ydi’r gwir reswm am y galwadau am newid arweinyddiaeth?  Yn fy marn i mae wedi ei wreiddio yng nghanfyddiad rhai pobl – yn genedlaetholwyr ac yn unoliaethwyr – o’r hyn y dylai’r Blaid fod.  Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr y Blaid wedi bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl oedd wedi ymgartrefu yng Ngorllewin neu Ogledd Orllewin y wlad.  Roeddynt hefyd yn ddi eithriad yn ddynion.  Roeddynt  yn adlewyrchu’n gywirach yr hyn y teimla llawer y dylai’r Blaid fod.  Dyna yn y bon beth sydd y tu ol i’r grwgnach, nid ‘methiant’ etholiadol.

ARFOR – y ffigyrau

Mae ail gyflwyniad  y syniad o sefydlu ARFOR- sef un awdurdod ar gyfer y Fro Gymraeg (Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin) yn un diddorol.  Syniad Adam Price ydi o wrth gwrs – fe gyflwynodd y syniad gyntaf tua pedair blynedd yn ol pan roedd ail strwythuro awdurdodau lleol ar agenda Llywodraeth Cymru.

Cyd destun ail godi’r syniad ydi bod Llywodraeth Cymru eisiau i awdurdodau lleol ddod at ei gilydd i greu endidau sy’n cymryd cyfrifoldeb am gynllunio traws-sirol gan gynnwys datblygu economaidd a’r iaith gyda’i gilydd yn ogystal ag elfennau megis tai, amaeth, bwyd a diod, a thwristiaeth.

Mae  nifer o’r unedau newydd sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn croesi ffiniau ieithyddol – a diwylliannol hefyd.

O safbwynt rhywun sydd eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu mae’r syniad yn un i’w groesawu – cyn belled a bod cynllunio ar gyfer y Gymraeg yn ganolog i genhadaeth yr endid newydd a bod y Gymraeg hefyd yn ganolog i’r ffordd mae’r endid yn cael ei weinyddu a’i reoli.

Yn ei gyfarfod yn yr Eisteddfod i drafod y syniad cafwyd awgrym gan Adam Price gallai Penfro a Chonwy fod yn rhan o’r awdurdod newydd yn ogystal a siroedd Cymreiciach Ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.  Y broblem efo cynnwys Conwy a / neu Penfro ydi y byddai gwneud hynny’s Saesnigeiddio’r endid newydd yn sylweddol.

Os ydi’r awdurdod arfaethiedig i lwyddo – o safbwynt y Gymraeg mae’n rhaid iddo fod mwy – llawer mwy – fel Gwynedd na Chaerfyrddin neu Geredigion o ran ei ethos ac o ran ei iaith weithredol a rheolaethol.   Mae’n rhaid iddo hefyd flaenori amddiffyn a hyrwyddo’r Gymraeg.  Mae’n bosibl dadlau tros hynny os ydi mwyafrif y bobl sy’n byw o fewn tiriogaeth yr awdurdod siarad y Gymraeg.  Mae’n anos gwneud hynny os ydi’r siaradwyr Cymraeg mewn lleiafrif.  
Os ydym yn edrych ar y bedair sir Orllewinol ag eithrio Penfro mae yna fwyafrif bach sy’n siarad y Gymraeg.  Mae’n bosibl dadlau bod y mwyafrif hwnnw’n uwch na’r ffigyrau swyddogol oherwydd eu bod yn cymryd i ystyriaeth niferoedd cymharol uchel o fyfyrwyr – yn arbennig felly yng Ngwynedd a Cheredigion.  Mae’n debyg gen i bod sylwedd i’r ddadl honno yng nghyd destun y mater yma.

Os ydym yn ychwanegu Penfro i’r endid newydd mae’r sawl sy’n siarad y Gymraeg mewn lleiafrif.
Ac os ydym yn ychwanegu Conwy mae’n lleiafrif llai eto.

A beth am Ynys Mon, Conwy, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin?  Wel, unwaith eto mae gennym leiafrif.

Felly yn fy marn bach i, os ydi ARFOR ilwyddo fel erfyn i gryfhau’r Gymraeg, bydd rhaid iddo fod yn endid 4 sir – ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.

Cylch rhagfarn y Bib

Reit ‘ta cyn bod yr eitem ar Newsnight wedi codi’n ddiweddar waeth i ni ddweud gair neu ddau am y mater.  
Wna i ddim dweud llawer am Mr Ruck – mae  wedi bod wrthi’n gwyntyllu ei ragfarnau yn erbyn y Gymraeg ers blynyddoedd maith ar unrhyw blatfform sy’n fodlon ei gymryd.  Yr unig gysylltiad dwi wedi ei gael efo’r dyn mewn gwirionedd oedd pan enillodd y blog yma rhyw fan wobr neu’i gilydd flynyddoedd yn ol, ac aeth ati i gysylltu efo fi ar lein i gwyno bod fy mlog yn derbyn ffafriaeth, ac i holi beth ddylai fo ei wneud i gael gwobr.  Awgrymais y byddai’n syniad da iddo ysgrifennu blog mae pobl yn mwynhau ei ddarllen a rhoi cyhoeddusrwydd iddo.  Chlywais i ddim byd pellach.

Ta waeth, mae’r holl stori yn ddiddorol am resymau amgenach nag ansicrwydd gwaelodol yng nghymeriad Mr Ruck – mae’n dweud wrthym rhywbeth am ragfarnau Seisnig a sefydliadol.
Roedd y drafodaeth ar Newsnight wedi ei sbarduno gan newidiadau arfaethedig gan Lywodraeth Cymru yn ei darpariaeth ar gyfer hybu’r Gymraeg.  Dylai trafodaeth ar hynny wedi bod yn drafodaeth gweddol gysact a thechnegol – ond rhywbeth llawer mwy cyffredinol ac amrwd  a gafwyd. 
Mae thesis canolog yr eitem – bod y Gymraeg yn rhwystr i Gymru – yn hen, hen ragfarn.  Mae’n mynd yn ol – o leiaf – i’r Ddeddf Uno, ac roedd yn ganolog i’r feddylfryd roddodd Brad y Llyfrau Gleision i ni. Y rheswm i’r eitem gael ei fframio o gwmpas y rhagfarn yma ydi nad oedd y sawl oedd gan yn ymchwilio ar gyfer yr eitem fawr o wybodaeth am y Gymraeg, doedd ganddi hi ddim diddordeb mewn dysgu unrhyw beth am y Gymraeg, felly ‘doedd ganddi ond ei rhagfarnau i dynnu arnynt.  Ac wedyn aeth ati i gael dau berson nad oedd yn gwybod fawr ddim am y Gymraeg i drafod y pwnc – gydag un ohonynt efo casineb obsesiynol tuag at y Gymraeg.
Mae gennym gylch ar waith yma sy’n atgyfnerthu ei hun.  Mae’r Bib (yn Lloegr) yn tynnu ar ragfarnau Seisnig wrth ymdrin a’r Gymraeg, maent yn darlledu stwff sy’n adlewyrchu’r rhagfarnau hynny, ac mae hynny yn ei dro yn adgyfnerthu’r rhagfarnau gwaelodol hynny.  Ac wedyn maent yn tynnu arnynt eto _ _.
Mae rhai o’r rhagfarnau Seisnig a chyfryngol tuag at y Gymraeg yn creu cyd  gwenwynig lle mae’n eithaf hawdd mynegi safbwyntiau hynod hyll mewn perthynas a’r iaith.  Y gwaethaf o’r rhain ydi’r canfyddiad nad oes fawr neb yn siarad yr iaith a’i bod yn cael ei chynnal yn llwyr gan bres cyhoeddus.  
Hynny yw mae’r iaith yn cael ei chynrychioli fel rhywbeth sydd ddim yn ymwneud a phobl – rhywbeth ar wahan, rhywbeth sy’n byw mewn geiriadur.  Mae’r Bib yn deall yn iawn bod ymosod ar Fwslemiaeth, neu Iddewiaeth neu Babyddiaeth yn ymosodiadau ar gymunedau o bobl, ond dydi’r geiniog bod ymysod ar y Gymraeg yn annad dim yn ymysodiad ar y bobl sy’n ei defnyddio wrth ryngberthnasu efo’i gilydd ddim wedi syrthio – a’r rheswm am hynny ydi’r cylch o ragfarn sy’n gyrru ymdriniaeth y Bib o Gymru.
Mae yna ragfarnau ehangach yn Lloegr (ac ym mhob man arall wrth gwrs), ond at ei gilydd mae’r Bib yn ceisio ymdrin yn gyfrifol a’r rheiny – fyddwn ni ddim yn cael dyn mewn gwisg Klu Klux Klan yn trafod cyfraniad Iddewon i fywyd Prydain, ‘dydan ni ddim yn cael dau Sais dosbarth canol yn trafod tensiynau ar strydoedd Gogledd Iwerddon ac mae’r amrywiaeth barn ynglyn a’r amrywiaeth mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cael ei adlewyrchu – i raddau o leiaf.
Mae’r ffaith bod y math yma o beth yn digwydd yng nghyd destun Cymru ynddo’i hun yn adlewyrchu rhagfarn gwrth Gymreig oddi mewn i’r Bib – dydi’r wlad a’i phethau ddim gwerth trafferthu llawer ynglyn a nhw -mater dibwys, ymylol – rhyfedd braidd.   
Ymddengys bod y rhagfarn hwnnw hyd yn oed yn amlygu ei hun yn y ffordd mae’r Gorfforaeth yn rhyngberthnasu’n fewnol.  Mae’n hen thema ar y blog yma bod y Bib yng Nghymru yn gweld ei hun fel cydadran o’r sefydliad yng Nghymru a bod hynny’n lliwio’r ffordd mae’n ymdrin ag endidau sefydliadol eraill yng Nghymru.  Ond ‘does yna ddim amheuaeth bod ganddi gyfoeth o bobl sydd a dealltwriaeth o’r tirwedd cymdeithasol a gwleidyddol yma.  Ond – o safbwynt y Bib yn ganolog – ‘doedd eu cyngor nhw ynglyn a pharatoi’r eitem ddim gwerth mynd ar ei ol.  I’r rhagfarnllyd mae canfyddiad bras, cwrs, cyffredinol pob amser yn well na manylder, ffeithiau ac ymwybyddiaeth  o nuance
Mae’n ddiddorol gyda llaw mor rhyfeddol o gyndyn oedd staff y Bib yng Nghymru i feirniadu’r rhaglen yn gyhoeddus – bron fel petaent yn ofn gwneud hynny.  Dwi’n gwybod bod yna’r fath beth a theyrngarwch corfforaethol  – ond mewn cylchoedd gwaith eraill mae beirniadaeth adeiladol yn dderbyniol – hyd yn oed pan mae’r feirniadaeth honno’n gyhoeddus.  Mae’n ymddangos bod yr hogiau a’r genod yng Nghymru yn ymwybodol o’u statws oddi mewn i’r Gorfforaeth.
A chyn gorffen – a rhag i mi fod yn rhy garedig efo staff y Bib yng Nghymru – dydi mynd o gwmpas yn gofyn i bobl ‘What do you think of the Welsh language’ ddim yn syniad da.  ‘Dydi’r Gorfforaeth ddim yn anfon gohebwyr o gwmpas yn holi ‘What do yoy think of Urdu’ neu Bengali neu beth bynnag.  ‘Dydyn nhw yn sicr ddim yn anfon neb o gwmpas yn holi beth ydi barn pobl am grefyddau, a dydyn nhw ddim yn anfod pobl o gwmpas yn holi pobl beth yw eu barn am wahanol leiafrifoedd ethnig.  Mae yna reswm da am hynny – ymarferiad mewn troi’r drol neu wthio’r cwch i’r dwr fyddai fo – creu trwbl.  Nid dyna ydi pwrpas y Bib – ac mae’r ffaith bod gohebwyr o Gymru yn gwneud hyn yn awgrymu bod rhai o ragfarnau’r Bib yn Lloegr yn ymestyn i Gymru hefyd.