Araith Leanne

Dydi blogmenai ddim yn dyfynnu areithiau yn eu cyfanrwydd, nag yn dyfynnu heb sylwebaeth fel rheol – ond gan mai araith Leanne ddydd Gwener oedd ei haraith gyntaf i’r gynhadledd fel arweinydd, a chan ei bod yn rhoi’r cnawd ar yr esgyrn i ni ynglyn a chyfeiriad y Blaid tros y pedair blynedd nesaf mi’r ydw i am ei dyfynnu yn ei chyfanrwydd.

Mae’n sail gadarn i adeiladu llwyddiant arno tros y blynyddoedd nesaf.

Conference,

It’s an honour to stand here today and address you in my first Leader’s speech to our Annual Conference.

It is, of course, an opportunity to present myself to a new audience.

What you hear and what you see is what you get with me.

No varnish, no veneer. Just Wood!

I promise that is the last Wood joke I will make until I can address you all as the first Plaid Cymru First Minister!

Those of you in the hall, of course, know the kind of leader you elected.

Someone not afraid to speak her mind.  Someone who puts principle at the core of her politics.

There are times when that isn’t easy. Times even when it’s maybe not to our advantage in the short-run. 

But in the long-run of political life– and politics is a marathon, never a sprint – I’ll tell you this – people have seen through politicians that say one thing, and do another – who promise the earth, and leave nothing but the bitter taste of disappointment in their wake. 

People are thirsting for something new, and I’m determined that is what we are going to give them. 

I’ve always said I wanted to do politics a little differently, and for me our conference is a space for the leader, not just to speak, but also to listen. 

– and I’d like to thank you so much for the words of advice and encouragement you have sent to me over the last few months. 

We have four exciting years ahead of us. 

And it is my aim to cross the finishing line in 2016 as the winner – leading Plaid, the Government of Wales. 

We have got to get over that finishing line together – I’m going to need each and every one you to roll up your sleeves and commit to the hard work necessary to build the organisation and the momentum we will need to get over that line as winners. 

The world champion cyclists speeding through this mid-Wales town today are in the race to win! Not to do well. To win. And Plaid Cymru wishes good luck to them all.

—————————————————-

 

Felly,rynniwedidodyma, igalon Cymru, am hoe fach..Fel yr Eisteddfod, mae cynhadledd Plaid Cymru yn symud o gwmpas y wlad, fel arfer rhwng y gogledd a’r de. 

Pan nes i ymuno gyda Phlaid Cymru, rhan o’r hwyl i fi, fel aelod ifanc, oedd dod i nabod fy ngwlad. Nath y Blaid job well yn dysgu Daearyddiaeth Cymru i fi nag unrhyw lyfrau. 

Ond wrth ddod i nabod Cymru, des i i’w charu, ac wrth ei charu, ysu am weld ei thrawsnewid.Ddim jyst syniad niwlog yw hwn. Bywydau pobl dyn ni’n nabod, a’r cymunedau ble dyn ni’n byw, sy’n galw, ni i weithredu. 

Y dyn anabal yng Nghwm Cynon dw i’n nabod sy’n gaeth yn ei gartref gan bod dim llety addas iddo fe yn ei ardal leol, neu’r fenyw gwrddes i, oedd yn crio “I can now feed my family”, wrth ddiolch am barsel brys o fwyd o’r banciau bwyd. neu’r dyn nath gysylltu gyda fy swyddfa i yn meddwl am ladd ei hunan pan glywodd e bod ei fudd-daliadau yn mynd i gael eu torri. 

Un peth sydd ddim yn mynd i weithio, yw aros a gobeithio bydd y problemau yn mynd i ffwrdd. 

Dyn ni’n byw mewn amser anodd iawn. Ond mae hefyd yn amser sy’n llawn posibiliadau. 

Mae ‘na ddewis arall, ffyrdd gwahanol o weithio. 

…Dyna beth gallwn ni, Plaid Cymru, gynnig. 

Mae hon yn flwyddyn arbennig i Blaid Cymru. Oes, mae gyda ni arweinydd newydd. Ond yn fwy pwysig, mae’n amser ar gyfer dechrau newydd, tîm newydd. Mae’n amser i ni baratoi cynlluniau newydd, a llwybr newydd i’r genedl. 

A dyn ni’n dod â’r gobaith newydd yna gyda ni i Aberhonddu wrth ddod at ein gilydd yn y gynhadledd yma heddiw. 

Yn fan hyn, chwe chan mlynedd yn ôl i’r haf yma, enillodd Owain Glyndŵr ei frwydr olaf. Cafodd Dafydd Gam ei ddal, gelyn mawr i Glyndŵr oedd wedi cynllunio i’w ladd yn Machynlleth. Cafodd Dafydd Gam ei ryddhau heb anaf gan Glyndŵr, ond marw fu ei hanes, yn Agincourt, ddim y Cymro cyntaf na’r olaf i golli ei fywyd, yn brwydro yn bell o gartref dros wlad rhywun arall. 

Felly yn fan hyn, yn Aberhonddu, cafodd Glyndŵr ei weld am y tro olaf. Mae’n addas iawn bod y Gynhadledd yn fan hyn felly ar gyfer Diwrnod Glyndŵr eleni. 

Mae’r ‘dewin mawr’ – fel nath Shakespeare ei alw – yn diflannu i niwl hanes. 

Ond mae ei ysbryd yn fyw.

Pan nath y Sunday Times arolwg yn 1999, i enwi ffigurau mwyaf y mileniwm, daeth Owain Glyndŵr yn rhif saith, uwchben Isaac Newton, Abraham Lincoln a Galileo.. 

Yn dangos mai cenedl fach ydyn ni, sy’n gallu gwneud pethau mawr. 

Ac o dan lywodraeth Plaid Cymru mae pethau mawr iawn yn bosibl. 

Wrth gwrs, ryn ni’n cofio Cymro Mawr arall eleni hefyd. Gwynfor Evans nath droi gobaith Glyndwr yn realiti trwy ennill ein sedd gyntaf yn San Steffan. 

Can mlynedd yn ôl i’r wythnos diwethaf, cafodd Gwynfor ei eni, yn y Barri. 

Symudodd e i’r Gogledd ac wedyn i’r Gorllewin, do. Ond, roedd yn holl-bwysig iddo fe bod Cymru yn un, a drwy bopeth, roedd e dal yn un o foisy Barri. 

Meddyliwch beth fyddai e wedi meddwl o glywed am Ian Johnson yn ennill ei ward e yn y Barri i’r Blaid, gyda swing o un-deg-chwech y cant? Newyddion gwych, yn syth ar ôl buddugoliaeth ardderchog Vaughan Hughes yn Llanbedr-goch. Mae Plaid Cymru yn ennill o Fôn i’r Fro – y dasg nawr yw ennill pob man yn y canol. 

Felly, dyn ni wedi dod i Bowys, y darn mawr yn y canol. 

Mewn sir sy’n ymestyn o’r Mers i’r Fro, o’r Mynyddoedd Dui’r Mynydd Du, o Glawdd Offa i’r môr, mae’n bwysig cofio ein undod ni fel cenedl. Mae rhai yn trio ein rhannu

– Gogledd a De, Siaradwyr Cymraeg a Siaradwyr Saesneg, cefn gwlad a’r cymoedd.

Mae Plaid Cymru yn gwrthod y rhaniadau yma, yn gwrthod pob rhaniad. Ryn  ni’n caru pob darn o’r wlad, a pawb sy’n byw yma, fel ei gilydd. 

Ar Fynydd Epynt, ddim yn bell o fan hyn, mae  dal arwyddion ‘Dim Mynediad’ roedd Gwynfor yn gwrthwynebu mor gryf. Ond credwch chi fi, does dim ardaloedd “Dim Mynediad” i Blaid Cymru – does byth wedi bod, a fydd na ddim chwaith. 

Ni yw’r unig blaid o Gymru, gan Gymru, i Gymru. Ni yw’r unig blaid sy’n gallu dweud ein bod ni’n siarad, bob amser, er lles Cymru. 

A dyn ni ddim yn mynd i stopio tan bod Llywodraeth gyda ni hefyd sydd o Gymru, gan Gymru, i Gymru. Llywodraeth fydd yn siarad, bob amser, er lles ein gwlad.

 

Wales now needs more than ever a government that thinks ahead and plans to protect all those people who are at risk of sinking beneath this terrible tide of austerity – wave after wave of cuts in jobs, cuts in benefits, cuts in services, in pay and in real income. 

Wales now needs a government that takes responsibility – that tries to solve the problems not just blame others…

What does that mean?

It means a government that protects Welsh pensioners from cuts in council tax benefit by doing a deal with local government – like the one reached in Scotland – rather than simply acting as the Tories’ henchmen.

A government that makes sure it gets the budget for Remploy factories devolved to Wales before the factories are closed down. 

We need a government that will ease the burden on that mother who has too much week left at the end of the money.

She needs a Welsh government that makes sure her kids are fed and well-educated, that makes sure her family are warm enough in the winter, one that will legislate to make sure the loan sharks get off her back – that’s what she needs. 

And we need her to know that it’s a Plaid Cymru government that will deliver it. 

As a party we have four years of hard work ahead of us. 

Like all those Olympian and Paralympians, the prize we seek for Wales won’t be won in the final two weeks of the race itself. It will be won in all those months and years of door-knocking in all weathers, tweeting all hours, in the million conversations we need to have to win the trust of a nation. 

So we’ve come to Brecon, the town where two rivers meet – the Usk and the Honddu, is a fitting meeting place for this party, where two rivers of thought also mingle. 

Two tributaries of the great Welsh radical tradition: the green of Welsh nationalism, green because of our love for our native land, but green too for the love of a planet we share; and the red of socialism, red like our blood to symbolize our common humanity. 

If we add the white of peace, we get the red, white and green – three colours united under one banner. The colours of our country.

Geology bequeathed Wales with mineral riches that should have been a blessing but for too many turned out to be a curse.

We cannot make the same mistake again. 

We have learned from our history. 

Our national, natural resources are our inheritance, ours to harness for the benefit of the people of Wales. 

The green economy can be a motor for our economic progress, powering our second industrial revolution. It already employs over 40,000 people, more than financial services and telecommunications combined.

And we can be innovators too. A Cardiff-based company is the first in the world to use a process similar to photosynthesis in its patented solar film. It is also the first in the world to use 100% renewable energy to produce renewable technology. Now that’s what I call sustainability! 

But as the Welsh Government’s own Sustainability commissioner, Peter Davies, has argued we are not realising our full potential. 

Opportunities are being wasted. 

So what will we do? 

One of the first acts of a Plaid Cymru government will be to establish our own national powerhouse, a Glas Cymru for green energy, investing in national infrastructure from tidal energy to community-owned wind and hydro power, focused on our own energy needs and yes, where appropriate, exporting this valuable commodity but, and here’s the difference, repatriating the profits and reinvesting them for the benefit of all the people of Wales. 

Not like before. 

Over the years, people have sacrificed so much, like the miners who lost their lives this time last year in the tragedy at the Gleision mine in the Swansea valley. For many those images unfolding in front of us on the rolling news media stoked deep memories and emotions for those old enough to remember a time when peoples’ lives were littered with such cruel events. Our thoughts are with the families and friends of those whose lives were so tragically cut short. 

As Gwyn Alf Williams once said, we as a nation have been around for a millennium and a half, it’s about time we had the keys to our own front door. 

It’s time, as [one of Plaid’s founders and economist] DJ Davies said, for us to cultivate our own garden. 

We must now take control of our economic destiny.

We must take responsibility for where we are going. And what better way than to seed and support our own homegrown businesses. 

Locally owned, family owned, co-operatively owned, community- owned – these are the businesses we want to see become the bedrock of our economy.

Here in rural Wales I am very much mindful of the crisis in Welsh agriculture, particularly in the dairy industry. It’s a crisis that has driven people to the edge of desperation. Many Welsh farmers were on the brink of going under with the milk price dispute earlier this summer. But this crisis which strikes to the very heart of our local food system has the potential to hurt us all in the long-run. We need more people producing food not fewer – we must be helping not hindering what is by definition this most essential of all industries.

2013 across the world will be a year of a global food crisis. Extremes of temperatures and drought in places as far apart as the American Mid-West, the Russian Steppes and the Australian Outback will mean food shortages on an unprecedented scale. Already corn prices have risen by 25% worldwide and are set to rise higher. In parts of Africa and Asia this may trigger famine and social upheaval on a vast scale. 

We are fortunate to live in a green, fertile, wind-and-rain-swept land. You can tell it’s summer in Wales – the rain is warmer. But we should never take that for granted. Being at the end of a long and distant food chain or relying on oil imports to power our cars or heat our homes is neither sustainable nor ecologically resilient in the long run. 

We have the capacity to be energy independent.  We have the capacity to be self-sufficient in water – if Westminster allows us – and we can be food-secure, producing more of our food locally for local consumption. 

An early action of a Plaid Cymru Government would be to set ambitious but achievable targets to get us powering our cars and our futures renewably, weaning ourselves off our addiction to oil. After all it was Wales that gave the world the fuel cell; let’s now show them how to use it. 

You know it’s important in politics as in life to get the right perspective. We may see Wales as a small country, standing on the Brecon Beacons it’s not smallness we see. Behind you stretch the southern seaboard and the valleys. Look north and west and there you’ll see the low green hills of the uplands, and beyond them the mountains of the north. Look at that landscape and reject any doubts you may have. This small nation has it within vast reservoirs of potential.

 

We have and we can achieve the greatest of things. But first comes those two critical ingredients:  hard work and self-belief.  

Nowhere has this been more evident than in the Olympics this year. Wales achieved its highest ever tally of golds in the Olympic and Paralympic games. In the two games,  we won more medals per head than any other nation in Europe. 

Glasgow 2014 here we come! 

There we’ll have Welsh athletes in a Welsh team, representing Wales. They will focus all their energy on winning for Wales. And we will do the same. 

Their success has allowed us some small distraction from what continue to be very difficult times. 

To us in Plaid Cymru, it was obvious from the start that the Westminster Coalition’s strategy was never going to work.

Wales needs jobs. It’s as simple as that. And there’s plenty of work that needs doing. Like Roosevelt and his economic plans in the United States of the ’30s, Wales needs a new New Deal. A green New Deal – aiming to provide skill, work, hope and opportunity for a new generation who have a right to believe that life can be better. 

The policies being pursued by the UK Government in Wales have taken a crisis and turned it into a disaster. 

And we know all too well who has been hurt the most by austerity.

Look at the victims of welfare reform to see who is paying. 

So let’s be clear. Austerity has nothing to do with economics; it has everything to do with politics. The recession has given this Government a golden opportunity to attack the Welfare State and those who rely on it…and attack they have. 

Where is the opposition? Who is defending the unemployed from these savage attacks? From what I can see, the official opposition offers Austerity Lite. Hardly surprising after Labour gave us light-touch regulation, the Private Finance Initiative and regional pay. Their latest idea is pre-distribution, which is short-hand for undoing the mistakes that Labour made while in Government.  

Plaid Cymru’s economic commission has laid bare the extent of the challenge we face. 

Everywhere we look we see the symptoms of our predicament. 

Wales has the highest brain drain of all the nations of Britain. Almost 40% of the graduates of universities in Wales have left Wales within six months of graduating – that compares with just 6% in England and 7% in Northern Ireland. They leave – and still leave disproportionately for London – because the opportunities simply aren’t here. 

It’s important to remember, and continue to instil in young people the importance of education. Throughout our recent history, those who went before us understood education’s value, especially as a route out of poverty. ‘The miners gave us libraries’ the Manics said, My mother encouraged me – well, nagged would be another word for it –  to work hard in school by holding up her hands to me after another shift at the factory, asking me if I wanted my hands to be red-raw like hers.  When I think of the fate of this country, I often think of her message to me written in the lines of those outstretched hands. 

That was 25 years ago – in the 80s – at a time every bit as challenging as this. Then we in Wales were creating new businesses at the same rate as the rest of the United Kingdom. Now we generate less than two thirds the number of new businesses per person than the rest of the UK. The situation is even worse when it comes to inward investment.

In the early 90s Wales, with just 5% of the population, was securing one in every five of all foreign investment projects into the UK. Now we’re managing less than 2%, one tenth of what we managed twenty years ago – and Mrs Romney’s Welsh cakes are doing a better selling job for Wales abroad than anything done by this Welsh Government.

How did that happen? 

It is plain to see that the Welsh economy is seriously under-performing. Our economic under-development is the single biggest hurdle to our progress as a nation. It condemns us to dependence on a Government in Westminster, of whichever hue, that will never have Wales’ interests as its over-riding priority. 

It doesn’t have to be this way. Our decline, our poverty, is not, and never has been, inevitable. 

It is for all these reasons that we have declared raising Welsh economic performance to a level equal to the rest of the UK the over-riding priority of this party for the decade to come. 

To get there we need to use all the skills at our disposal – public, private and voluntary. In a small nation we cannot hide away in our sectoral silos. We have to work together. 

Our Economic Commission is looking at a comprehensive strategy. But I have asked the Commission specifically to look at three sets of measures that a Plaid Cymru Government could implement: 

Firstly, establishing a new mutual, Innovation and Enterprise Wales – I.E. Wales – IE drosGymru – bringing together the best of the skills of the public and private sectors – to push forward a Welsh New Deal.  It was D.J. Davies in the 30s that first called for a development authority for Wales.  It’s time again to reinvigorate, regenerate and recreate a new catalyst for creativity in a form fit for the Wales of the 21st century. 

Secondly, if the London-based banks won’t lend to Welsh businesses, then we need to create our own financial system, so that more of the money made in Wales stays in Wales. Channel Four has its Bank of Dave – let’s have our Bank of Dai! 

Let’s free Finance Wales to become a real development bank, create a wholesale bank for the social enterprise sector, build up a network of business credit unions, and turn the existing patchwork of community lenders into a national savings super-mutual. 

Public sector pension funds in Wales have billions in assets, six billion in total, hardly any of which is invested in Wales. Surely we can do better.  As part of our further recommendations to the Silk Commission we will seek the power to offer tax breaks – similar to those currently available in Canada – to those pension funds prepared to invest in their own communities. Investing 2 or 3% of our own workers assets in Wales would help transform the Welsh economy while representing no risk at all to the future returns to scheme members.

That’s a flavour of some of what we can and will do in Government. We can do great things. 

With hard work. And self-belief. 

At Westminster our team led by Elfyn will continue to offer up alternatives to the UK government’s strategy. 

And believe me, I will do the same when I meet the new Welsh Secretary.

 But the sad truth is that Plan B may be a long time coming. 

Government after Government in Westminster believed there was only one game in town, one industry in one City, and that industry was the City and the City was London. And now that industry has been found wanting and so the cupboard is bare. 

There is no point looking to London for our salvation. Changing the head of UK Plc will make as much difference to Wales as changing the head of Barclays has done for the culture of the City of London. Personalities come and go in London’s corridors of power but the policies and priorities and the problems for Wales persist.

Aelodaeth y pleidiau gwledyddol

Mae’n ddiddorol nodi o flog Michael Crick bod aelodaeth y Toriaid a’r Lib Dems wedi syrthio yn sylweddol tros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ffigyrau Crick fel a ganlyn:

Lib Dems 48,934
Llafur 193,000
Toriaid 130,000 (er eu bod nhw yn gwrthod datgelu eu ffigyrau yn swyddogol)
SNP 23,376
UKIP 17,184

Dydi Crick ddim yn dweud wrthym beth ydi ffigyrau’r Blaid – ond 7,863 oedd yr aelodaeth ym mis Ionawr.

Mae’n anodd cymharu ffigyrau’r pleidiau unoliaethol a rhai’r pleidiau cenedlaetholgar oherwydd bod y rhan fwyaf o aelodau’r pleidiau unoliaethol yn byw yn Lloegr. Ond os ydym yn cyfrifo cymhareb poblogaeth:aelod gan ddefnyddio poblogaeth y DU ar gyfer cymarebau’r pleidiau unoliaethol a phoblogaethau’r gwledydd Celtaidd ar gyfer y Blaid a’r SNP, dyma’r darlun:

Lib Dems 1:1,280
Llafur 1:324
Toriaid 1:481
SNP 1:224
UKIP 1:3,645
Plaid Cymru 1:389

Felly’r SNP sy’n perfforio orau o ddigon ar y mesur hwn, gydag UKIP efo llai nag un aelod am pob 3,000 o bobl a’r Lib Dems efo llai nag un am pob mil. Dydi’r Blaid ddim yn gwneud yn ddrwg o gwbl.

Y wers i’r Blaid o boblogrwydd parhaus yr SNP

Mae’n ddiddorol nodi bod y pol piniwn diweddaraf yn yr Alban yn rhoi’r SNP ymhellach ar y blaen nag oedd yn ystod etholiadau 2011 hyd yn oed.. Byddwch yn cofio i’r SNP berfformio yn rhyfeddol o dda yn yr etholad hwnnw, a llwyddo i ennill mwyafrif llwyr – er bod y system etholiadol wedi ei gynllunio i sicrhau na allai hynny ddigwydd.

Mae’r blog yma wedi nodi yn y gorffennol bod y prif bleidiau cenedlaetholgar yn y DU – yr SNP a Sinn Fein yn polio yn sylweddol uwch na’r Blaid, er bod y pleidiau hynny wedi bod yn hanesyddol yn llawer mwy agored ynglyn a’u delfryd o ennill annibyniaeth i’w gwledydd. Yr hyn sy’n ddiddorol o safbwynt y Blaid yn y pol hwn ydi bod cefnogaeth yr SNP yn llawer uwch na’r gefnogaeth i annibyniaeth.

Rwan, gellir darllen hyn mewn sawl ffordd – ond efallai mai’r wers y dylai’r Blaid ei chymryd ydi nad oes o reidrwydd gysylltiad uniongyrchol rhwng poblogrwydd annibyniaeth a phoblogrwydd plaid sy’n arddel y polisi hwnnw. Conglfaen poblogrwydd etholiadol yr SNP ydi’r canfyddiad ei bod yn llywodraethu’n effeithiol.

Mae’r canfyddiad hwnnw yn ei dro wedi ei adeiladu ar y canfyddiad bod y blaid yn wrthblaid effeithiol a chyson yn y blynyddoedd cyn 2007. Un o brif lwyddiannau’r SNP ydi bod yn hollol agored ynglyn a’u polisi o annibyniaeth, ond gwneud hynny mewn modd sydd ddim yn atal y sawl nad ydynt am fynd cyn belled a gweld gwlad gwbl annibynnol rhag pleidleisio iddi.

Ac efallai mai dyna ddylai prif flaenoriaeth y Blaid fod – gwrthbleidio yn effeithiol, tra’n bod yn agored am ei delfrydau creiddiol. Ond cyn y gellir gwneud hynny mae’n rhaid ymddangos yn unedig a dangos undod pwrpas. Dal llywodraeth Carwyn Jones i gyfri mewn ffordd unedig a phwrpasol ddylai fod yn brif flaenoriaeth i ni tros y misoedd nesaf.

Pam na ddylai’r Blaid gynnig cefnogaeth anffurfiol i’r Blaid Lafur

Mae Valleys Mam yn gwbl gywir – fel y bydd yn amlach na pheidio – i nodi bod creu canfyddiad bod y Blaid yn rhyw fath o blaid atodol i’r Blaid Lafur yn codi cwestiwn hynod niweidiol i’r Blaidif you can vote for the real thing, why vote for the middle man?. Mae yna wirionedd hefyd yn yr hyn mae Gareth Hughes yn ei awgrymu ynglyn a’r perygl o droi Cymru yn rhyw fath o wladwriaeth un plaid os ydi’r Blaid yn ymwrthod a’i dyletswydd i fod yn wrthblaid effeithiol.

Serch hynny fy mhrif wrthwynebiad yn bersonol i lyfu a llempian o gwmpas y Blaid Lafur ydi’r ffaith bod y blaid honno wedi methu, methu a methu eto. Rydym – fel gwlad – wedi pleidleisio trosti ym mhob etholiad o bob math yn ddi eithriad ers 1918 – ac eto mae ein perfformiad economaidd cymharol (a chymharu a gweddill y gweddill y DU) yn waeth nag ydi wedi bod ers hynny. Mae’r rhesymau am hynny yn ddigon hawdd i’w harenwi – ‘does gan Llafur ddim diddordeb o gwbl mewn gadael i Gymru gael ei dwylo ar y lefrau trethiannol a chyllidol fyddai’n caniatau iddi fynd i’r afael efo’i phroblemau strwythurol.

Mae’n iawn i’r Blaid glymbleidio o bryd i’w gilydd efo Llafur pan mae manteision amlwg i’r Blaid ac i Gymru o wneud hynny, ond ddylai hynny byth ein dallu i’r ffaith mai’r ffordd orau i symud Cymru yn ei blaen ydi trwy ddifa cefnogaeth etholiadol Llafur – plaid sydd wedi bod yn faen melin o gwmpas gwddf Cymru ers yn agos i ganrif bellach.

Helynt diweddaraf y Blaid – gwers neu ddwy

Dwi wedi bod yn edrych ar y sioe dan gwyllt bach ym Mae Caerdydd o fwy o bellter nag arfer y tro hwn – dwi ym Madrid fel ‘dwi’n sgwennu hyn o eiriau. Beth bynnag os ydych chi’n edrych ar bethau o bell neu agos, mae yna nifer o wersi i’w cymryd o’r holl strancio – dyma nhw – ddim mewn trefn arbennig.

1). Dydi fotio yr un ffordd a’r Toriaid ar rhyw bleidlais neu’i gilydd ddim yn gwneud y Blaid yn gwn bach, ail ffidil nag unrhyw drosiadau eraill tebyg yr ydych eisiau eu cymysgu. Dydi fotio efo Llafur ddim yn ein gwneud yn ddarostyngedig i’r rheiny chwaith. Mae plaid yn dangos ei hannibyniaeth trwy bleidleisio yn unol a’i barn – gyfansawdd – ei hun. Yn wir mae pleidleisio efo’r Blaid Lafur yn rhy gyson yn wrth gynhyrchiol o ran y sawl sydd eisiau mynd i lywodraeth efo Llafur. ‘Dydi gallu bod yn sicr o gefnogaeth anffurfiol ond cyson gan Blaid Cymru ddim yn rhoi unrhyw bwysau ar Carwyn Jones i ddod i drefnint mwy ffurfiol. Ar ben hynny mae rhoi ffocws ar beth mae’r naill blaid fawr unoliaethol yn ei wneud yn Prydaineiddio gwleidyddiaeth ym Mae Caerdydd.

2). ‘Dydi’r etholwyr ddim yn hoff o bleidiau sy’n rhanedig, ac maent yn amlach na pheidio yn eu cosbi. Yn wahanol i’r 70au hwyr pan roedd hollt yn y Blaid Lafur ynglyn a’i pholisiau economaidd creiddiol, neu’r un yn y Blaid Doriaidd yn y 90au ynglyn ag Ewrop, dydi’r hollt oddi mewn i’r Blaid ddim yn un pwysig – mae’n ymwneud a phersonoliaethau ag ol flas yr etholiad arweinyddol. Serch hynny mae’n edrych fel hollt go iawn – a gall hynny fod yn niweidiol ynddo’i hun.

3). A thra rydan ni’n son am yr etholiad arweinyddol, mae hi drosodd, finito, kaput, finished. Beth bynnag ydi teimlad un o’r ymgeiswyr ynglyn a’r hyn ddigwyddodd mae aelodaeth y Blaid wedi mynegi barn cwbl glir ynglyn a’r angen am broffeil newydd a chyfeiriad i’r Blaid. Mae’r dis arbennig yna wedi ei daflu – beth bynnag arall ddigwyddith, fydd Dafydd Elis-Thomas byth yn arwain Plaid Cymru eto. ‘Does yna ddim am newid hynny. Mae’n amser i symud ymlaen.

4). A daw hynny a ni at ‘aeddfedrwydd’. Mae yna gryn dipyn o gyfeirio at hynny wedi bod yn ystod yr holl helynt. Un o brif nodweddion aeddfedrwydd mewn unigolyn ydi’r gallu i asesu a derbyn sefyllfa newydd – da neu ddrwg – a symud ymlaen a gwneud y gorau o bethau. ‘Dydi gogrdroi o gwmpas sefyllfa nad ydym yn ei chroesawu, ond na fedrwn ni wneud dim oll i’w newid, ddim yn arwydd o aeddfedrwydd emosiynol. Mae angen i bawb symud yn eu blaenau a chymryd y sefyllfa sydd ohoni fel eu man cychwyn – nid y sefyllfa fel yr oedd chwe mis yn ol.

5). Beirniadu’n gall. Fyddai neb am i Blaid Cymru fod fel Plaid Gomiwnyddol Stalin, neu Blaid Lafur Blair lle nad oedd neb yn cael beirniadu polisiau’r arweinyddiaeth. Fyddwn i ddim yn dymuno i fy ngelyn pennaf gael y profiad o ddisgwyl am ymweliad gan Peter Mandelson neu Vyacheslav Molotov liw nos. Mae’n briodol i bobl fod a gwahaniaethau barn, ac mae’n iach pan mae gan blaid wleidyddol y gallu i adael i’r gwahaniaethau barn hynny gael eu gwyntyllu. Yr hyn sy’n broblem efo’r ffordd mae Dafydd Elis-Thomas yn mynegi ei farn, fodd bynnag ydi ei fod yn dod i gasgliadau pellach – a hynod niweidiol i’r Blaid. Mae dweud y dylai’r Blaid gydweithredu mwy efo’r Blaid Lafur yn un peth. Mae priodoli amharodrwydd i wneud hynny i anaeddfedrwydd ar ran yr arweinyddiaeth yn fater arall – mae’n gwneud pethau’n bersonol ac mae’n cynnig naratif i bleidiau eraill. Ni ddylai hynny fod yn dderbyniol i neb.

6). Dydi ymddangosiad ffigyrau patriarchaidd ar y tonfeddi radio yn cynnig cyngor i arweinyddiaeth y Blaid ynglyn a’r ‘ffordd ymlaen’ ddim yn helpu pethau – ta waeth pa mor nodedig cyfraniad y patriarch yn y gorffennol. Mae’n adgyfnerthu’r canfyddiad o rwyg yn rhengoedd y Blaid, a ‘dydi cyngor sydd wedi ei fynegi ar Radio Cymru ddim yn cario mymryn mwy o bwysau na chyngor sydd wedi ei gynnig trwy’r strwythurau priodol.

7). Dylai aelodau etholedig y Blaid wrando ar ei gilydd, a gwneud hynny trwy gyfrwng y strwythurau priodol. ‘Dydi cyfathrebu trwy’r cyfryngau torfol ddim yn ffordd dda i aelodau grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad siarad efo’i gilydd. Parch sydd wrth wraidd cyfathrebu yn effeithiol- os ydym yn parchu ein gilydd gallwn fynegi a derbyn gwahaniaeth barn yn rhwydd a thrwy ddulliau anffurfiol. Os oes yna sefyllfa lle mae un neu fwy o aelodau grwp yn ei chael yn anodd parchu’r gweddill, neu rai o’r gweddill, yna mae strwythurau ffurfiol o gyfathrebu’n bwysig er mwyn hyrwyddo cyfathrebu effeithiol. Ond ‘dydi’r rheiny’n dda i ddim os na wneir defnydd ohonynt.

8). Mae Leanne Wood wedi bod yn gall – feiddia i ddweud aeddfed – i dynnu’r gwenwyn o’r holl sefyllfa. Beth bynnag arall y gallwn ei ddweud am Dafydd Elis-Thomas, mae’n wleidydd talentog, sydd wedi gwasanaethu Cymru a’r Blaid yn effeithiol yn y gorffennol, a gall wneud hynny eto yn y dyfodol. Mae’n adlewyrchu yn dda ar Leanne iddi werthfawrogi hynny er gwaethaf emosiwn y dyddiau diwethaf.

Sylwadau pellach ar y stori hon gan:

Paul Flynn
HoR
Syniadau
Dyfrig
Gareth Hughes

DET a’r chwip

Mae gwrthryfel meinciau cefn yn rhywbeth sy’n digwydd o bryd i’w gilydd – fel y gwelwyd yn San Steffan wythnos ddiwethaf. Diffyg mewn arweinyddiaeth gwleidyddol sy’n aml yn arwain at wrthryfeloedd sylweddol. Dyna arweiniodd at ddigwyddiadau diweddar San Steffan.

Yr hyn sy’n nodweddu gwrthryfel Dafydd Elis-Thomas ydi ei fod yn wrthryfel un dyn – a bod yr un dyn hwnnw nid yn unig yn atal ei bleidlais, ond yn mynd ati i fynegi barn negyddol ynglyn ag aeddfedrwydd ei blaid wrth y wasg. Mae hynny’n awgrymu nad diffyg arweinyddiaeth ydi’r broblem yn yr achos yma, ond rhywbeth arall.

Y broblem sylfaenol efo helynt diweddaraf aelod Meirion Dwyfor ydi ei fod yn awgrymu nad oes ganddo’r rhinweddau a’r ddisgyblaeth sydd eu hangen i fod yn rhan effeithiol o grwp gwleidyddol. Mae gwyleidd-dra yn rhinwedd sy’n cael ei thanbrisio yn rhy aml. Mae angen gwyleidd-dra arnom i allu cyd fyw yn hapus efo’r bobl o’n cwmpas, ac mae angen gwyleidd-dra arnom i fod yn rhan effeithiol o unrhyw grwp – gwleidyddol neu fel arall. Rydym angen gwyleidd-dra i sylweddoli y gall ein barn fod yn anghywir, ac i sylweddoli bod barn gyfansawdd grwp yr ydym yn perthyn iddo yn aml yn bwysicach na’n barn ni ein hunain.

Y ffaith syml ydi hyn – Leanne Wood ac nid Dafydd Elis-Thomas enillodd yr etholiad arweinyddol eleni. O ganlyniad nid Dafydd sy’n arwain y Blaid, ond Leanne. Efallai bod Dafydd o’r farn bod dal y llywodraeth i gyfrif yn dystiolaeth o anaeddfedrwydd, ac efallai ei fod o’r farn mai priod bwrpas y Blaid ydi cefnogi’r Blaid Lafur. Mae ganddo pob hawl i’w farn.

Ond y gwir amdani ydi bod trwch aelodaeth y Blaid wedi dangos trwy bleidlais bod ganddynt fwy o ffydd ym marn gwleidyddol Leanne nag ym marn gwleidyddol Dafydd Elis-Thomas. Efallai ei fod o’n meddwl mai fo sy’n gwybod orau – mae hynny’n ddigon teg.

Yr hyn sydd ddim yn ddigon teg mewn cyfundrefn bleidiol ydi i aelodau etholedig roi eu barn eu hunain uwchben barn y grwp maent yn perthyn iddo. Petai pawb o fewn grwp y Blaid yn gweithredu yn yr un ffordd, ac yn aros o’r Cynulliad i agor archfarchnad, urddo myfyrwyr, cynnal syrjeris neu beth bynnag pob tro mae’n meddwl ei fod o / hi ei hun yn ‘gwybod yn well’ na’r farn gyfansawdd, mi fyddai’r grwp yn gwbl aneffeithiol.

Mae perthyn i grwp gwleidyddol yn golygu bod rhaid i’w aelodau unigol dderbyn bod y farn gyfansawdd yn bwysicach na’r farn unigol. Os ydi grwp yn cynnwys aelodau sy’n ddigon trahaus i ddyrchafu eu barn unigol nhw uwchben barn y grwp, yna mae gan y grwp hwnnw broblemau. Mae’r problemau hynny’n waeth os oes gan y grwp aelodau sy’n ei feirniadu’n allanol yn ogystal ag yn fewnol.

Bethan Jenkins, trydar, McGuinness a’r Blaid Lafur

Mae sylwadau Bethan ynglyn a ‘naifrwydd’ Martin McGuinness yn amlwg yn amhriodol. Mae arweinyddiaeth y blaid mae’n perthyn iddi yn wahanol i bob un arall yn yr ynysoedd yma i’r graddau iddi gael ei chreu gan ryfel. Dogherty, Adams, Murphy, Ferris, McGuinness, Kelly, Anderson, Morgan, Ellis, O’Toole – mae’r cwbl wedi treulio lwmp o’u bywydau yn agos at galon grwp parafilwrol cymharol fach a lwyddodd i gadw tros i 50,000 o aelodau lluoedd diogelwch y DU yn brysur am ddeg mlynedd ar hugain. Gellir meddwl am sawl ansoddair i ddisgrifio Martin McGuinness, ond ‘dydi ‘naif’ ddim yn eu plith.

Ond mater ymylol ydi hynny yng nghyd destun y stori fach yma. Mae’n dweud mwy am y Blaid Lafur Gymreig na dim arall. Mae’r blaid honno yn tueddu i wleidydda trwy geisio efelychu’r merched hysteraidd rheiny yn The Crucible, Arthur Miller – chwilio am esgys i chwifio eu breichiau o gwmpas yn lloerig a sgrechian yn uchel a hysteraidd rhywbeth megis I saw Goody Jenkins dance with the divil in the dead of night.

Gan i Bethan feirniadu McGuinness mae’r ffatri sterics yn Cathedral Road yn pedlera stori am danseilio’r broses heddwch – ac awgrymu ei bod am ddod a rhyfel yn ol i strydoedd Belfast. Petai wedi dweud rhywbeth ffeind am McGuinness byddai’r ffatri sterics wedi honni ei bod yn Provo cudd gan awgrymu bod ganddi lond bocs o semtex yn y garej.

Mae Bethan yn drydarwraig hynod doreithiog, ond y drwg efo’r fformat 140 llythyren ydi nad yw’n rhoi’r cyfle i’r trydarwr fod yn gwbl glir ynglyn a’r hyn mae’n geisio ei ddweud. O ganlyniad mae’n hawdd i wleidydd sy’n defnyddio’r cyfrwng adael ei hun yn agored i rwdlan afresymegol ac anghymedrol y criw bach hysteraidd sy’n amgylchu Peter Hain. ‘Dwi’n meddwl bod Bethan yn ddoeth i gymryd gwyliau bach o drydar i ystyried sut y gall wneud y defnydd mwyaf effeithiol a di risg o’r i hyrwyddo achos y Blaid.

Cyfieithu holl drafodaethau’r Cynulliad i’r Gymraeg

Rhyw ymgais ar ymateb i ‘gais arbennig’ gan Ifan yn nhudalen sylwadau blogiad ddoe am rhywbeth ar benderfyniad grwp y Blaid yn y Cynulliad i bleidleisio yn erbyn cyfieithiad llawn o’r cofnod i’r Gymraeg ydi’r isod. ‘Dwi’n siwr na fydd Ifan yn meindio os ydw i hefyd yn defnyddio y blogiad i led ymateb i sylwadau wnaeth ar ei gyfri Trydar yn cwestiynu pwrpas y Blaid os nad ydi’n cefnogi cofnod Cymraeg cyflawn.

Y peth cyntaf i’w ddweud mae’n debyg ydi bod perthynas y Blaid a’r iaith Gymraeg yn gymhleth a bod natur y berthynas honno o bosibl yn niweidiol i’r ddau. Yn y gorffennol mae’r gyfrifoldeb am amddiffyn a hyrwyddo’r Gymraeg wedi syrthio i raddau helaeth ar ysgwyddau’r Mudiad Cenedlaethol (hynny yw y Blaid + mudiadau iaith). Mae hynny wedi bod yn anisgwyl o lwyddiannus ar sawl gwedd, ac mae statws y Gymraeg – a’i delwedd – wedi eu trawsnewid yn llwyr. Nid yn unig hynny, ond ceir lled gonsensws bellach ymysg gwleidyddion Cymreig ynglyn a phwysigrwydd y Gymraeg – mae pob plaid – i rhyw raddau neu’i gilydd yn gefnogol i’r Gymraeg bellach.

Serch hynny roedd cost i’w dalu am y llwyddiant hwnnw – cost etholiadol o safbwynt y Blaid. ‘Does gen i ddim pwt o amheuaeth i’r canfyddiad bod y Blaid yn endid sy’n ymwneud yn bennaf a’r iaith Gymraeg wedi ei gwneud yn llawer llai etholadwy mewn rhannau mawr o’r wlad. O ganlyniad mae’r hyn a ddylai fod yn amcan creiddiol i fudiad cenedlaethol – annibyniaeth – ymhell ar ol yng Nghymru o gymharu a’r Alban neu Ogledd Iwerddon. ‘Dydi hynny ddim yn golygu bod cefnogaeth di amwys i’r Gymraeg wedi bod yn gamgymeriad, ond mae’r ffaith bod y faich o’i chefnogi ar lefel gwleidyddol bellach yn gallu cael ei rannu efo’r pleidiau unoliaethol yng Nghymru yn cynnig cyfle i’r Blaid ehangu ei hapel etholiadol, a symud ymlaen efo’r agenda annibyniaeth yn sgil hynny. Mae’n debygol y bydd rhaid i’r Blaid wneud addasiadau yn sgil hynny – ac mae hyfyd yn debygol y bydd rhai o’r addasiadau hynny yn anghyfforddus i’r sawl yn ein plith sydd a’u gwreiddiau yn y mudiad iaith.

Mae’n debyg bod yr hyn rwyf wedi ei sgwennu hyd yn hyn yn awgrymu fy mod am gytuno nad oes angen cyfieithu’r cofnod yn ei gyfanrwydd, ond nid dyna fy marn. ‘Dwi’n meddwl fy mod wedi dadlau yn y gorffennol bod y syniadaeth sydd ynghlwm a chenedlaetholdeb Cymreig yn weddol fas a di sylwedd o gymharu a syniadaethau cenedlaetholgar rhai gwledydd eraill. Mae hynny’n wir hefyd am y consensws lled wladgarol sy’n nodweddu ein dosbarth gwleidyddol yn ei gyfanrwydd. Mae’r pleidiau unoliaethol yng Nghymru yn wlatgarol Gymreig mewn rhyw ffordd neis, neis a phoenus o gymhedrol bellach, ac mae hynny yn ei dro yn adlewyrchu adfywiad ehangach mewn ymwybyddiaeth cenedlaethol yng Nghymru. Agwedd amlwg ar hyn ydi’r cydymdeimlad gweddol gyffredinol tuag at yr iaith.

Ond, sobr a arwynebol ydi hyn oll, mae llawer o’r camau sydd wedi eu cymryd i hybu’r Gymraeg yn arwynebol hefyd. Mae llawer o’r adfywiad cyhoeddus yn y defnydd o’r iaith wedi ei sylfaenu ar neidio trwy gylchoedd er mwyn ymddangos i fod yn gefnogol iddi. Dyna pam y ceir archfachnadoedd gyda’u harwyddion i gyd yn ddwyieithog, ond sydd heb yr un o’u staff yn gallu siarad a’r cwsmeriaid yn y Gymraeg. Dyna pam nad yw’n bosibl cynnal ymholiad yn y Gymraeg i gynghorau sydd a gwefannau cwbl ddwyieithog, a dyna pam y ceir llinellau cymorth Cymraeg sydd ond yn gallu cynnig cymorth i ddatrys y broblem mwyaf elfennol. Dyna pam bod rhaid gofyn am ffurflenni Cymraeg mor aml, tra bod y ffurflen Saesneg wedi ei harddangos yn hollol glir. A dyna pam bod yr hawl i addysg Gymraeg i lawer o Gymry ond ar gael os ydynt yn fodlon rhoi eu plant ar fws am awr y naill ben i’r diwrnod ysgol a’r llall.

A (sori am fod yn ailadroddus) dyna pam ei bod yn bwysig i’r Cynulliad osgoi gadael ei hun yn agored i’r cyhuddiad o neidio trwy gylchoedd. Mae dyn yn gobeithio – yn hyderu – y bydd y Cynulliad tros y blynyddoedd nesaf yn disgwyl ac yn mynnu mwy gan gyrff cyhoeddus o ran darpariaeth Gymraeg. Bydd llawer o’r cyfryw gyrff yn gwneud y lleiaf bosibl tra’n ceisio ymddangos i wneud llawer mwy – neidio trwy gylchoedd mewn geiriau eraill. Os ydi’r cyfryw gyrff i gymryd eu dyletswyddau o ddifri, mae’n bwysig bod y Cynullad yn dangos iddynt ei fod yntau yn cymryd y Gymraeg o ddifri. Nid trwy neidio trwy gylchoedd a gwneud ychydig tra’n ceisio ymddangos i wneud llawer mae gwneud hynny. Os ydi’r Cynulliad am i eraill gymryd y Gymraeg o ddifri, rhaid iddo wneud yn siwr nad oes amheuaeth ei fod yntau’n cymryd yr iaith o ddifri.

Mae’n wir yn bryd i’r Blaid symud ymlaen a pheidio a gweld ei hun fel yr unig blaid sy’n amddiffyn y Gymraeg. Ond ‘dydi’r amser heb gyrraedd i drystio’r pleidiau unoliathol i wneud joban iawn ar eu pennau eu hunain chwaith.

Mi ddylai’r Blaid wneud safiad ar y mater yma am y rhesymau a amlinellwyd uchod os nad ar yr un arall.