Os ydi fy syms i ‘n gywir mae’r Blaid Lafur Brydeinig wedi cael 22 arweinydd gwahanol ers 1908. Pedwar yn unig o’r rheony sydd wedi cael eu hethol mewn etholiad cyffredinol yn brif weinidog – Ramsey McDonald, Clem Atlee, Harold Wilson a’r erchyll Tony Blair. Dydi pedwar prif weinidog mewn 107 o flynyddoedd ddim yn record wych. Mae’r Toriaid wedi cael 11 prif weinidog tros yr un cyfnod.
Tag: Llafur
Aelodaeth y Blaid Lafur yng Nghymru
11,118 o aelodau oedd ganddynt bryd hynny – ac maent wedi eu dosbarthu tros y wlad fel a ganlyn:
|
Aberafon. 325 |
|
| Aberconwy | 155 |
| Arfon | 154 |
| Alyn a G Dyfrdwy | 305 |
| Blaenau Gwent | 310 |
| Pen y Bont | 288 |
| Caerffili | 315 |
| Canol C/dydd | 324 |
| Gog C/dydd | 408 |
| De C/dydd | 375 |
| Gorll C/dydd | 454 |
| Dwyrain C/fyrddin | 203 |
| Gorll C/fyrddin | 207 |
| Ceredigion | 146 |
| De Clwyd | 252 |
| Gorll Clwyd | 161 |
| Cwm Cynon | 309 |
| D/for / Meirion | 89 |
| Llanelli | 276 |
| Merthyr | 317 |
| Trefaldwyn | 86 |
| Castell Nedd | 391 |
| Dwyrain Casnewydd | 250 |
| Gorll Casnewydd | 346 |
| Islwyn | 275 |
| Pontypridd | 333 |
| Preseli / Penfro | 201 |
| Rhondda | 404 |
| Dwyr Abertawe | 212 |
| Gorll Abertawe | 325 |
| Torfaen | 359 |
| Bro Morgannwg | 373 |
| Wrecsam | 209 |
| Ynys Mon | 160 |
| Gwyr | 383 |
| Delyn | 269 |
| Brych a Maesyfed | 220 |
| Mynwy | 329 |
| Ogwr | 359 |
| Dyffryn Clwyd | 261 |
Rwan, tra’n cydnabod bod gan y Blaid Lafur Gymreig fwy o aelodau na’r un blaid arall yng Nghymru, dydi 11,000 ddim yn llawer o bobl. Meddyliwch am y peth am funud. Mae’r blaid yma yn dominyddu bywyd cyhoeddus yng Nghymru, yn dominyddu grym gwleidyddol yng Nghymru, yn cymryd mantais o’i gafael ar rym gwleidyddol i enwebu ei phobl ei hun i ‘wasanaethu’ ar gyrff cyhoeddus o Fon i Fynwy.
Ac eto does ganddyn nhw ddim llawer mwy o aelodau na sydd yna bobl yn byw yng Nghaernarfon, neu faint o bobl sy’n mynd i Barc y Sgarlets i weld gem ddarbi efo’r Gweilch. Mae’n anodd gen i feddwl bod prin unrhyw wlad ddemocrataidd arall efo criw mor fach o bobl yn tra arglwyddiaethu tros fywyd cyhoeddus yn ei gyfanrwydd na sy’n digwydd yng Nghymru. Mae yna fwy o seiri rhyddion yng Nghymru nag aelodau o’r Blaid Lafur – sy’n beth rhyfedd braidd ag ystyried mai pobl sydd ar ol grym a dylanwad nad ydynt yn ei haeddu ydi’r mesyns yn amlach na pheidio. Byddai ymuno efo’r Blaid Lafur yn llawer gwell ffordd o ennill dylanwad anheg yn y Gymru sydd ohoni na mynd i lawr i’r loj i gymryd rhan mewn ymarferiad mymbo jymbo.
Ffigyrau wedi ei cymryd o’r fan hyn. Amcangyfrif gen i ydi’r rhifau am y ddwy etholaeth gyntaf – am resymau amlwg.
Cadw pethau yn y teulu
Mae’n un o nodweddion rhyfedd y Blaid Lafur Brydeinig bod cymaint o’i gwleidyddion yn perthyn i’w gilydd – y Benns, y Millibands, Ed Balls ac Yvette Cooper ac ati.
Mae hyn yn arbennig o wir am Gymru fach – meddyliwch am y peth:
Neil a Glenys Kinnock
Huw Lewis a Lynne Neagle
Rhodri a Julie Morgan
Naz a Gwion Malick
Alun a Tal Michael
Rwan does yna ddim byd o’i le fel y cyfryw mewn perthnasau yn gwneud yr un gwaith – mae’n digwydd ym mhob maes – o gigyddion i ffermwyr i athrawon i fecanics. Yr hyn sy’n gwneud dyn yn anghyfforddus pan mae’n digwydd efo gwleidyddion dro ar ol tro ar ol tro ydi bod mynd ymlaen yn wleidyddol oddi mewn i blaid yn dibynnu ar aelodau eraill o’r blaid honno, ac mae aelodau plaid yn agored i ddylanwad gan wleidyddion proffesiynol. O ganlyniad mae’r cwestiwn yn codi os ydi pawb yn cael yr un cyfle – os ydi pawb yn cael cyfle teg?
Mae enwebiaeth Tal Michael wedi ei nodweddu gan benderfyniad rhyfedd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur i beidio a gadael i’r ffefryn lleol fynd ymlaen i hystings. Rwan does yna neb yn awgrymu am eiliad bod tad Tal wedi defnyddio ei ddylanwad i sicrhau’r deilliant yma. Ond mae’n bosibl dylanwadu heb wneud hynny’n fwriadol. Mae adnabyddiaeth ynddo’i hun yn gallu dylanwadu yn ddiarwybod i’r sawl sy’n dylanwadu. Ac mae’n debyg gen i y bydd amheuaeth o ddylanwad felly yn gysgod tros ymgeisyddiaeth Tal Michael oni bai bod Pwyllgor Gwaith y Blaid Lafur Gymreig yn cyhoeddi’r rhesymau pam na chafodd John Chorlton sefyll. Ond rhywsut dwi ddim yn rhagweld y bydd hynny’n digwydd.
Vaughan Gething a seremoniau rhyfedd
Mae Vaughan yn tueddu i ymateb yn emosiynol a hysteraidd i unrhyw dystiolaeth o genedlaetholwyr Cymreig yn cymryd rhan mewn rhyw seremoni neu’i gilydd. Yr hyn sydd efallai’n anghyfarwydd iddo ydi bod seremoniau braidd yn bisar yn bethau cyffredin iawn yn y DU, a bod llawer o’r seremoniau hynny yn ymwneud a milwriaeth, Mrs Windsor neu’r ddau.
Dwi ddim yn siwr pam nad ydi Vaughan yn ymwybodol o hyn – er iddo gael ei eni yn Zambia, mae ei dad yn Gymro, a bu’n byw yn y DU ers iddo fod yn ddyflwydd, ac yn wir mae bron yn sicr iddo gymryd rhan mewn seremoniau ei hun, megis seremoni graddio – digwyddiad bisar os bu un erioed.
Efallai ei fod yn greadur anarferol o sal am sylwi ar bethau nad ydynt yn ymddangos ar YouTube. . Ta waeth, mae Blogmenai pob amser yn awyddus i helpu – felly dyma restr bach o seremoniau rhyfedd yn y DU:
Swan Upping – Seremoni sy’n ymwneud a chyfri elyrch ar Afon Tafwys. Ymddengys bod y frenhiniaeth yn hawlio pob alarch sydd heb ei marcio, ac mae gan y sefydliad swyddogion sy’n cyfri’r cyfryw elyrch ar hyd Afon Tafwys yn flynyddol. Un o ddefodau bach difir y seremoni ydi bod y cyfrwyr elyrch yn saliwtio Mrs Windsor efo’u rhwyfau wrth fynd heibio Castell Windsor.
Beating Retreat – Rhywbeth neu’i gilydd i’w wneud efo cofio cau sefydliadau milwrol ar ddiwedd diwrnod. Mae’n ymwneud a llwythi o filwyr yn dod at ei gilydd ar gefn ceffylau a ballu ac yn saliwtio Mrs Windsor a’i theulu.
Y Datguddiad – Seremoni flynyddol ar Ionawr 6 lle mae Mrs Windsor, neu ei chynrychiolwyr yn cyflwyno aur, thus a mur i Iesu Grist.
Gun Salutes – Seremoniau lle saethir rhwng 20 a 124 o ergydion o ynnau mawr – fel arfer i ddathlu penblwydd Mrs Windsor, ei gwr neu aelod arall o’r teulu brenhinol – neu i ddathlu genedigaeth babi i aelod o’i theulu.
Garter Thistle Services – Rhywbeth i’w wneud efo dynion yn gwisgo mentyll, capiau felfed du efo plu arnyn nhw ac yn mynd o gwmpas mewn cerbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau.
Dwi ddim wedi son am y mesyns, yr Urdd Oren, Yr Eglwys Anglicanaidd, yr Eglwys Babyddol sydd efo amrediad rhyfeddol o seremoniau bisar eu hunain rhag rhoi hartan i Vaughan druan.
Beth fyddai’n digwydd _ _ _
Wel – efo’r ffiniau presenol byddai Llafur yn ennill pob sedd yng Nghymru ag eithrio Meirion / Dwyfor, Brycheiniog a Maesyfed, Ceredigion a Maldwyn.
Mi fyddai hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa digon tebyg i’r penllanw Llafur ymhell yn ol yn 1966.
Rwan dydi polau ‘cenedlaethol’ na rhaglenni darogan fel yr un mae’r lincs yn arwain ati ddim yn gweithio yn dda yng Nghymru oherwydd nad ydynt yn mesur cefnogaeth Plaid Cymru. Hefyd rydan ni ychydig ddyddiau ar ol cynhadledd y Blaid Lafur a thua hanner ffordd trwy’r senedd yma. Gallai llawer iawn ddigwydd rhwng rwan a 2015.
Ond – ond dylai’r polau diweddaraf fod yn rhybudd i aelodau seneddol pob plaid ag eithrio Llafur yng Nghymru – os am oroesi i’r senedd nesaf bydd rhaid i’r rhan fwyaf ohonynt berfformio’n well na’u pleidiau yn ehangach. Dyma’r amser i feddwl sut i wneud hynny – bydd 2014 yn rhy hwyr.
Llongyfarchiadau Rob_ _ _
_ _ _ ar fod yn gyntaf (hyd y gwn i) i ddefnyddio TeamGB i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Cynghorydd Llafur o’r Bari ydi Rob Curtis, ac mae’n ymddangos nad yw’n rhy hapus bod ei blaid wedi cael cweir gan Plaid Cymru mewn is etholiad yn y dref yrwythnosdiwethaf.
Mewn llythyr bach chwerw i’r Echo mae Rob yn mynd i’n rhybuddio o beryglon annibyniaeth:
Every Plaid councillor elected will become a cheer leader for petty short sighted nationalism and an advocate of destroying our unique & mostly successful partnership with the rest of the United Kingdom _ _ _ that means an end to team GB.
A gadael o’r neilltu’r ffaith bod Rob yn ystyried trefniant sydd wedi dod a thlodi, tlodi a mwy o dlodii Gymru yn successful partnership, mae’r llythyr yn adrodd cyfrolau wrthym am sut mae’r sefydliad Cymreig yn gweithio.
Rydym yn cael un colofn sefydliadol Gymreig (BBC Cymru / Wales) yn treulio misoedd lawer yn clodfori ac yn heipio’r jambori mawr Llundeinig yn gyffredinol a TeamGB yn benodol, tra bod colofn arall (y Blaid Lafur Gymreig) yn portreadu llwyddiant i blaid arall mewn is etholiad cyngor fel bygythiad i’r hyn sydd wedi ei heipio cymaint gan ei chyd golofn sefydliadol.
Mae pwt o lythyr Rob yn adrodd cyfrolau am wleidyddiaeth Cymru.
Aelodaeth y pleidiau gwledyddol
Mae ffigyrau Crick fel a ganlyn:
Lib Dems 48,934
Llafur 193,000
Toriaid 130,000 (er eu bod nhw yn gwrthod datgelu eu ffigyrau yn swyddogol)
SNP 23,376
UKIP 17,184
Dydi Crick ddim yn dweud wrthym beth ydi ffigyrau’r Blaid – ond 7,863 oedd yr aelodaeth ym mis Ionawr.
Mae’n anodd cymharu ffigyrau’r pleidiau unoliaethol a rhai’r pleidiau cenedlaetholgar oherwydd bod y rhan fwyaf o aelodau’r pleidiau unoliaethol yn byw yn Lloegr. Ond os ydym yn cyfrifo cymhareb poblogaeth:aelod gan ddefnyddio poblogaeth y DU ar gyfer cymarebau’r pleidiau unoliaethol a phoblogaethau’r gwledydd Celtaidd ar gyfer y Blaid a’r SNP, dyma’r darlun:
Lib Dems 1:1,280
Llafur 1:324
Toriaid 1:481
SNP 1:224
UKIP 1:3,645
Plaid Cymru 1:389
Felly’r SNP sy’n perfforio orau o ddigon ar y mesur hwn, gydag UKIP efo llai nag un aelod am pob 3,000 o bobl a’r Lib Dems efo llai nag un am pob mil. Dydi’r Blaid ddim yn gwneud yn ddrwg o gwbl.
‘Chwyldro’ Bro Morgannwg
Dwi ddim eisiau swnio yn grintachlyd rwan – da chi’n fy ‘nabod i’n ddigon da i wybod hynny – ond mae’n fy nharo bod Carwyn Jones yn mynd braidd yn bell i ddisgrifio cynnydd yn y ganran o blant 7 oed sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mro Morgannwg o 10.9% i 13.7% fel ‘chwyldro’.
Ond erbyn meddwl efallai bod cynnydd o 1.8% tros ddeg mlynedd yn dipyn o chwyldro ym myd bach eliffantaidd o araf Carwyn a’i blaid.
Pam na ddylai’r Blaid gynnig cefnogaeth anffurfiol i’r Blaid Lafur
Mae Valleys Mam yn gwbl gywir – fel y bydd yn amlach na pheidio – i nodi bod creu canfyddiad bod y Blaid yn rhyw fath o blaid atodol i’r Blaid Lafur yn codi cwestiwn hynod niweidiol i’r Blaid – if you can vote for the real thing, why vote for the middle man?. Mae yna wirionedd hefyd yn yr hyn mae Gareth Hughes yn ei awgrymu ynglyn a’r perygl o droi Cymru yn rhyw fath o wladwriaeth un plaid os ydi’r Blaid yn ymwrthod a’i dyletswydd i fod yn wrthblaid effeithiol.
Serch hynny fy mhrif wrthwynebiad yn bersonol i lyfu a llempian o gwmpas y Blaid Lafur ydi’r ffaith bod y blaid honno wedi methu, methu a methu eto. Rydym – fel gwlad – wedi pleidleisio trosti ym mhob etholiad o bob math yn ddi eithriad ers 1918 – ac eto mae ein perfformiad economaidd cymharol (a chymharu a gweddill y gweddill y DU) yn waeth nag ydi wedi bod ers hynny. Mae’r rhesymau am hynny yn ddigon hawdd i’w harenwi – ‘does gan Llafur ddim diddordeb o gwbl mewn gadael i Gymru gael ei dwylo ar y lefrau trethiannol a chyllidol fyddai’n caniatau iddi fynd i’r afael efo’i phroblemau strwythurol.
Mae’n iawn i’r Blaid glymbleidio o bryd i’w gilydd efo Llafur pan mae manteision amlwg i’r Blaid ac i Gymru o wneud hynny, ond ddylai hynny byth ein dallu i’r ffaith mai’r ffordd orau i symud Cymru yn ei blaen ydi trwy ddifa cefnogaeth etholiadol Llafur – plaid sydd wedi bod yn faen melin o gwmpas gwddf Cymru ers yn agos i ganrif bellach.
Dwy draean o bobl Cymru eisiau ‘difa’r genedl’
Byddwch yn cofio ymateb hysteraidd Peter Hain i awgrymiadau gan Cheryl Gillan y dylai Cymru gael y pwer i drethu – yn ol Peter byddai grymoedd o’r fath yn ‘difa’r genedl’. Ymddengys bod y rhan fwyaf o ddigon o bobl Cymru yn anghytuno efo’i ‘ddadansoddiad’.
Darllenwch yr adroddiad ICM/John Curtice/Richard Wyn Jones – mae ymysg yr astudiaethau mwyaf cynhwysfawr o’r farn gyhoeddus yng Nghymru ynglyn a datganoli i gael ei gyhoeddi erioed.
Drysu rhwng y Blaid Lafur Gymreig a Chymru mae Peter wrth gwrs – pechod sy’n gyffredin i lawer o aelodau’r Blaid Lafur yng Nghymru. Byddai datganoli grym trethu i Gymru yn peri problemau sylweddol i’r Blaid Lafur Gymreig, ond byddai’n newyddion da i Gymru.
Mae’r blog yma wedi tynnu sylw hyd at syrffed at y ffaith y byddai cyfundrefn drethiant Gymreig yn sefydlu perthynas rhwng trethiant a gwariant cyhoeddus, ac y byddai hynny yn ei dro yn arwain at leihad yng nghefnogaeth y Blaid Lafur Gymreig. Sail eu cefnogaeth yng Nghymru ar hyn o bryd ydi’r ffaith eu bod yn cael galw am fwy a mwy o wariant cyhoeddus, heb orfod codi ffadan goch o dreth ar neb i dalu am hynny.
O sefydlu cysylltiad rhwng faint yr ydym yn ei dalu mewn trethi yng Nghymru a faint yr ydym yn ei wario, byddai reid wleidyddol rhad ac am ddim Llafur ar ben, a byddem mewn sefyllfa i esblygu gwleidyddiaeth mwy aeddfed a chyfrifol nag oes gennym ar hyn o bryd.
Byddai hefyd yn gyfle i leihau dylanwad y maen melin o blaid wleidyddol sydd wedi dal y wlad yn ol am gyhyd.





