Enillydd y wobr wythnosol am am bowldrydd ydi _ _

_ _ _   David Hume – un o arweinwyr yr Urdd Oren yng Ngogledd Iwerddon.

Ymddengys bod David o’r farn y dylai pobl sy’n ystyried eu hunain yn drigolion Ulster o dras Albanaidd gael pleidleisio yn y refferendwm ar ddyfodol cyfansoddiadol yr Alban.  Unoliaethwyr ydi pobl sy’n ystyried eu hunain yn drigolion Ulster o dras Albanaidd wrth gwrs.  


Felly ymddengys bod rhai o arweinwyr  yr  Urdd Oren yn credu y dylai Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon gael atal annibyniaeth i’r Alban yn ogystal ag atal ail uno’r Iwerddon.



Cof gwallus y Bib

Mae’r Bib (Newyddion 6) newydd ddweud wrthym mai’r llofruddiaethau ym Maenceinion heddiw ydi’r tro cyntaf i ddwy blismones gael eu lladd ar yr un pryd yn ‘unrhyw le yn y DU’. Dydi hynny ddim yn wir – lladdwyd dwy blismones – Ivy Kelly a Rosemary McGookin – ynghyd a saith o heddweision gwrywaidd ar Chwefror 28, 1985 mewn ymysodiad ar orsaf heddlu Newry gan un o unedau’r IRA o Dde Armagh.

Rwan mae’r ffaith nad ydi’r BBC yn cyfri’r ddwy Wyddeles yn adrodd cyfrolau am agweddau gwaelodol y Gorfforaeth. Trwy gydol y rhyfel yng Ngogledd Iwerddon roedd y Bib yn cael ei ddefnyddio yn feunyddiol i’n hargyhoeddi mai problem droseddol ac nid un wleidyddol oedd un Gogledd Iwerddon, ac o ganlyniad mai plismona effeithiol oedd un o’r prif atebion.

Rwan roedd yn weddol amlwg nad oedd yr hyn roedd y Bib yn ei honni yn dal dwr. Roedd y gwasanaeth heddlu yn anferth, yn llwyr Brotestanaidd i bob pwrpas ac yn aml wedi ei barafilwreiddio. Roedd hyfyd yn llwyr ddibynol ar gefnogaeth milwrol – milwyr, gwasanaethau cudd wybodaeth, hofrenyddion, tyrau gwylio, cerbydau arfog ac ati ac ati. Ar un adeg roedd yna 50,000 o aelodau lluoedd diogelwch yn ceisio cadw trefn ar y lle. Roedd y system droseddol yn llwyr ddibynol ar gyfreithiau ‘arbennig’ i ganiatau iddo weithio – llysoedd di reithgor, carcharu heb achosion llys, hawliau i’r heddlu nad oedd ar gael yn yr unman arall, talu am dystiolaeth celwyddog ac ati.

Yn y diwedd – wedi chwarter canrif – cafwyd datrysiad i’r broblem – Cytundeb Dydd Gwener y Groglith – datrysiad gwleidyddol i broblem wleidyddol. Roedd propoganda di ddiwedd y BBC – propoganda oedd yn troi problem oedd yn ei hanfod yn un wleidyddol yn un droseddol – yn un o’r rhesymau pam aeth y sefyllfa rhagddi cyhyd.

Ond rwan bod problem Gogledd Iwerddon yn diflannu i’r gorffennol mae’r Bib wedi anghofio am yr heddlu a laddwyd yno. Roedd Ivy Kelly a Rosemary McGookin yn ddwy blismones oedd yn cyflawni swyddi milwrol. Ar wahan i ddangos amharch digon anymunol mae’r ffaith nad ydi’r Bib yn gwybod dim oll amdanynt yn awgrymu nad ydi’r Gorfforaeth yn credu ei phropoganda ei hun.

Bethan Jenkins, trydar, McGuinness a’r Blaid Lafur

Mae sylwadau Bethan ynglyn a ‘naifrwydd’ Martin McGuinness yn amlwg yn amhriodol. Mae arweinyddiaeth y blaid mae’n perthyn iddi yn wahanol i bob un arall yn yr ynysoedd yma i’r graddau iddi gael ei chreu gan ryfel. Dogherty, Adams, Murphy, Ferris, McGuinness, Kelly, Anderson, Morgan, Ellis, O’Toole – mae’r cwbl wedi treulio lwmp o’u bywydau yn agos at galon grwp parafilwrol cymharol fach a lwyddodd i gadw tros i 50,000 o aelodau lluoedd diogelwch y DU yn brysur am ddeg mlynedd ar hugain. Gellir meddwl am sawl ansoddair i ddisgrifio Martin McGuinness, ond ‘dydi ‘naif’ ddim yn eu plith.

Ond mater ymylol ydi hynny yng nghyd destun y stori fach yma. Mae’n dweud mwy am y Blaid Lafur Gymreig na dim arall. Mae’r blaid honno yn tueddu i wleidydda trwy geisio efelychu’r merched hysteraidd rheiny yn The Crucible, Arthur Miller – chwilio am esgys i chwifio eu breichiau o gwmpas yn lloerig a sgrechian yn uchel a hysteraidd rhywbeth megis I saw Goody Jenkins dance with the divil in the dead of night.

Gan i Bethan feirniadu McGuinness mae’r ffatri sterics yn Cathedral Road yn pedlera stori am danseilio’r broses heddwch – ac awgrymu ei bod am ddod a rhyfel yn ol i strydoedd Belfast. Petai wedi dweud rhywbeth ffeind am McGuinness byddai’r ffatri sterics wedi honni ei bod yn Provo cudd gan awgrymu bod ganddi lond bocs o semtex yn y garej.

Mae Bethan yn drydarwraig hynod doreithiog, ond y drwg efo’r fformat 140 llythyren ydi nad yw’n rhoi’r cyfle i’r trydarwr fod yn gwbl glir ynglyn a’r hyn mae’n geisio ei ddweud. O ganlyniad mae’n hawdd i wleidydd sy’n defnyddio’r cyfrwng adael ei hun yn agored i rwdlan afresymegol ac anghymedrol y criw bach hysteraidd sy’n amgylchu Peter Hain. ‘Dwi’n meddwl bod Bethan yn ddoeth i gymryd gwyliau bach o drydar i ystyried sut y gall wneud y defnydd mwyaf effeithiol a di risg o’r i hyrwyddo achos y Blaid.

Etholiad arlywyddol Iwerddon 3

Gan nad ydw i’n debygol o gael cyfle i flogio llawer am ychydig ddyddiau waeth i ni gael cip hynod frysiog ar y pum ymgeisydd nad ydym wedi edrych arnynt hyd yn hyn.

I ddechrau dyna i ni Martin McGuinness – ‘dydw i ddim angen dweud gormod amdano fo mae’n debyg, ond ni fydd yn ennill – yn rhannol oherwydd ymateb rhyfeddol o hysteraidd y wasg a’r darlledwr cenedlaethol, RTE i’w ymgeisyddiaeth, ond yn bwysicach oherwydd methiant ei blaid i ddeall nad ydi naratif sy’n gweithio yn y Gogledd ddim o anghenrhaid yn gweithio yn y De.  .

Ac wedyn dyna i ni Dana, neu Rosemary Scallon sydd fwyaf enwog am ennill yr Eurovision Song Contest i’r Iwerddon ddeugain mlynedd yn ol. Ers hynny mae wedi cymryd dinasyddiaeth Americanaidd, wedi mabwysiadu gwleidyddiaeth nid anhebyg i un y Tea Party, wedi bod yn aelod seneddol Ewropiaidd, wedi sefyll am yr arlywyddiaeth ac wedi sefyll i fod yn aelod seneddol Gwyddelig.  ‘Does ganddi hi ddim gobaith o gwbl.

Ymgeisydd plaid fwyaf poblogaidd y Weriniaeth, Fine Gael ydi Gay Mitchell. Yn anffodus Gay ydi un o wleidyddion lleiaf poblogaidd y Weriniaeth, ac o ganlyniad fydd o ddim yn cael ei ethol. Duw yn unig a wyr pam gafodd ei ddewis.

Ar y llaw arall un o blediau lleiaf poblogaidd Iwerddon ar hyn o bryd ydi Fianna Fail
. ‘Dydyn nhw heb hyd yn oed gynnig ymgeisydd swyddogol, ond maen nhw wedi ceisio sleifio ymgeisydd tua’r arlywyddiaeth heb i neb sylwi – rhywbeth nodweddiadol o’r blaid.  Gwnaed hyn trwy gefnogi Sean Gallagher –  rhywun oedd hyn yn ddiweddar iawn ar eu pwyllgor gwaith cenedlaethol, ond sydd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Er bod yna pob math o’r straeon am y misti manars ariannol arferol o’i gwmpas mae’r cyn ddyn o Dragon’s Den Iwerddon yn hynod boblogaidd – ac yn edrych yn debygol o ennill ar hyn o bryd. Byddai llwyddo i gael eu dyn eu hunain yn Phoenix Park yn yr amgylchiadau sydd ohonynt yn gryn dysteb i allu Fianna Fail i wneud y gorau o’r gwaethaf.

Yr ymgeisydd olaf ydi Mary Davis. Mae’r ymgeisydd annibynnol wedi gwneud pob math o bethau teilwng iawn, megis trefnu’r gemau Olympaidd i’r anabl yn Iwerddon yn 2003 – ond mae pob dim o bwys mae wedi ei wneud oherwydd ei bod ar ryw gwango neu’i gilydd. Bydd y canfyddiad ei bod yn frenhines y cwangos yn sicrhau na fydd yn dod yn agos at ennill yr arlywyddiaeth.

Arlywyddiaeth Iwerddon – David Norris

Gan bod Blogmenai yn cael ychydig o hwyl o bryd i’w gilydd yn trafod gwleidyddiaeth Iwerddon, hwyrach y dylid cael golwg achlysurol ar yr ymgeiswyr am yr arlywyddiaeth. Bydd etholiad arlywyddol yn cael ei chynnal yn y Weriniaeth ar ddydd Iau, Hydref 28.

Mi wnawn ni ddechrau efo David Norris – ymgeisydd sydd wedi nodweddau ei hun trwy ymgyrchu tros hawliau sifil a hawliau hoyw tros gyfnod maith.

Ers mis Mehefin mae wedi rhoi ei enw ymlaen am yr etholiad, a’i dynnu yn ol a’i roi ymlaen unwaith eto. Fel y gwelwch o’r fideo mae ganddo’r holl urddas y byddai dyn yn dymuno ei weld mewn arlywydd.

Twitter i agor swyddfa ryngwladol yn Nulyn – y wers i Gymru

Cyhoeddodd Twitter gynlluniau heddiw i agor swyddfa yn Nulyn.  Mae’n debyg i brifddinas y Weriniaeth ennill y buddsoddiad – a allai dyfu i fod yn un arwyddocaol mewn amser – yn wyneb cystadleuaeth chwyrn o Berlin a Llundain.  Mae gan Google a Facebook eisoes bresenoldeb sylweddol yn y Weriniaeth. 

Mae Iwerddon wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd y llanast economaidd mae wedi cael ei hun ynddo.  Canlyniad i or fenthyg ar ran ei banciau oedd hynny wrth gwrs.  Yr hyn nad yw wedi cael cymaint o sylw ydi bod y wlad wedi llwyddo i barhau i ddenu buddsoddiad tramor sylweddol, hyd yn oed yn yr amgylchiadau economaidd sydd ohonynt.  Y gallu cyson  i wneud hynny yn y gorffennol cymharol agos oedd sail y Teigr Celtaidd wrth gwrs.

Mae’n anodd dychmygu Google, Facebook a Twitter yn lleoli eu swyddfeydd rhyngwladol yng Nghaerdydd yn hytrach na Llundain neu Berlin.  Maent yn mynd i Ddulyn fodd bynnag – ac er bod nifer o resymau eilradd am hynny – y prif reswm ydi bod treth corfforaethol y Weriniaeth yn 12.5%,  llai na hanner y gyfradd yn y DU.  Mae gallu’r wlad i ddigolledu ei hun am ei hanfanteision daearyddol yn greiddiol i’w gallu i ddenu cwmniau o ansawdd uchel.  Mae diffyg gallu Cymru i amrywio trethi fel eu bod yn cwrdd a’i anghenion ei hun wrth wraidd ei diffyg gallu i ddenu buddsoddiad tramor.

Mae’r sawl sydd yn gwrthwynebu i Gymru gael pwerau trethu llawn – ac mae hynny’n cynnwys llywodraeth Cymru – mewn gwirionedd yn datgan nad ydyn nhw o ddifri ynglyn a denu buddsoddiad i’r wlad. 

Etholiad arlywyddol Iwerddon a phroblemau Fianna Fail

Mi’r oeddwn i’n anghywir yn y blogiad hwn ynglyn ag ymgeisydd Sinn Fein ar gyfer yr etholiad arlywyddol yn Iwerddon.  Roeddwn wedi credu mai ymgeisydd cymharol ifanc gyda phroffeil gweddol feddal fyddai’n cael ei dewis yn hytrach nag ymgeisydd proffeil uchel gyda’i gefndir yn yr IRA.  Mae ymgeiswyr sydd yn wahanol i’r norm o ddynion canol oed (neu hyn na hynny) wedi gwneud yn dda mewn etholiadau arlywyddol yn ddiweddar. Benywod fydd wedi trigo yn yr Aras am un mlynedd ar hugain pan ddaw arlywyddiaeth Mary McAleese i ben.

Mae dewis McGuinness yn awgrymu mai bwriad Sinn Fein ydi ceisio bwyta i mewn i gefnogaeth Fianna Fail, eu prif elynion yng ngwleidyddiaeth y Weriniaeth, yn hytrach na chwilio’n ehangach am bleidleisiau.  Mae’r ddwy blaid yn tueddu i ddenu pobl sydd efo’r un math o wleidyddiaeth – a’r frwydr fwyaf diddorol yng ngwleidyddiaeth y Weriniaeth tros y blynyddoedd nesaf fydd yr un am yr hawl i gario baner y traddodiad gweriniaethol.  Mae’n debyg na fydd Fianna Fail yn cynnig ymgeisydd ar gyfer yr arlywyddiaeth a byddai SF wrth eu bodd yn cael ychydig wythnosau i apelio i’w cefnogwyr yn ddi dramgwydd.

Eamon O’Cuiv

Ac nid cyd ddigwyddiad ydi’r ffaith bod bygythiad o ryfel cartref ar y gweill oddi mewn i Fianna Fail yn dod o Orllewin Galway, cartref gwleidyddol Eamon O’Cuiv,   Mae sibrydion yn awgrymu bod O’Cuiv yn bygwth hollti’r blaid, a chychwyn  o’r newydd.  Yn ol y son mae Fianna Fail yn gweithio bymtheg y dwsin ar hyn o bryd i geisio’i atal rhag cynnal cyfarfod o’i blaid leol i ddatgan ei fwriad ‘fory.  Mae yna gryn dipyn o symboliaeth yn perthyn i’r sefyllfa – mae O’Cuiv yn wyr i sylfaenydd Fianna Fail, Eamon de Valera – y dyn a greodd Fianna Fail yn 1926 trwy hollti Sinn Fein.

Y newidiadau yn y ffiniau etholiadol

Tra bod sylwebwyr yn Lloegr yn crafu eu pennau ynglyn a goblygiadau etholiadol y newidiadau arfaethiedig yn ffiniau’r etholaethau seneddol, mae pethau’n symlach yng Ngogledd Iwerddon – mae ganddyn nhw yr anhygoel Nick Whyte. i ddarparu dadansoddiad rhyfeddol o gysact.

Yn ol Nick bydd y DUP yn colli 1 sedd a’r SDLP yn colli 1 yn etholiadau San Steffan.  Mae hefyd o’r farn y bydd y DUP i lawr 5 ar lefel Cynulliad, SF i lawr 2, yr UUP i lawr 2, yr SDLP i lawr 1, Alliance 7 i lawr 1 tra bod y Gwyrddion a’r TUV yn canw eu hunig seddi..

Gair bach arall am wleidyddiaeth Iwerddon

Bydd etholiad arlywyddol Gweriniaeth Iwerddon yn cael ei gynnal ar Hydref 27 eleni.  Mae bron yn sicr y bydd Michael D Higgins o’r Blaid Lafur, neu Gay Mitchell o Fine Gael yn cael ei ethol i’r swydd sydd i bob pwrpas yn un symbolaidd. Mae dau ymgeisydd annibynnol hefyd yn debygol o gael eu henwebu i sefyll. 

Cymhlethdod diddorol ydi ei bod bellach yn debygol bydd Sinn Fein yn datgan bwriad i gynnig ymgeisydd yn ystod y dyddiau nesaf.  ‘Does gan y blaid ddim digon o aelodau yn seneddau Iwerddon i fedru enwebu ymgeisydd (mae angen 20 aelod – 14 sydd ganddynt yn y Dail a 2 yn y senedd) – ond mae nifer o aelodau annibynnol y Dail yn agos at SF yn wleidyddol, ac mae’n debyg bod y rhifau ar gael os oes angen.

Mae sawl enw wedi ei awgrymu i sefyll ar eu rhan – Adams, McGuinness, Mickey Harte (rheolwr tim pel droed Gwyddelig Tyrone a gafodd ei hun yn y newyddion ddechrau’r flwyddyn pan lofryddwyd ei ferch, Michaela McAreavey ar ei mis mel yn Mauritius) yn ogystal a nifer o wleidyddion etholedig o’r Weriniaeth.  Y son diweddaraf fodd bynnag ydi mai Michelle Gildernew, aelod seneddol Fermanagh / South Tyrone (yn y Gogledd) fydd y dewis. 

Ar un olwg byddai’n ddewis rhyfedd – er ei bod yn adnabyddus iawn yn y Gogledd, ychydig o drigolion y Weriniaeth sy’n gwybod fawr ddim amdani.  Ond mae ganddi ei chryfderau fel ymgeisydd.  Yn wahanol i lawer o wleidyddion etholedig eraill ei phlaid ‘does ganddi hi ddim cefndir milwrol – mae ei chefndir gwleidyddol yn y mudiad hawliau sifil, ffaith sydd wedi peri i lawer o gefnogwyr naturiol yr SDLP bleidleisio iddi.  Yn ychwanegol mae ei phroffeil yn dra gwahanol i broffeil y ddau brif ymgeisydd – mae’n fenywaidd, yn gymharol ifanc ac yn magu teulu ifanc – mae ymgeiswyr felly wedi gwneud yn dda yn erbyn gwleidyddion mwy confensiynol mewn etholiadau arlywyddol yn ddiweddar..

‘Dydi Gildernew nag unrhyw ymgeisydd arall y bydd SF yn ei ddewis ddim yn debygol o ennill yr etholiad, ond mae’r ffaith nad ydi Fianna Fail yn bwriadu cynnig ymgeisydd yn rhoi cyfle gwych i’r blaid weriniaethol geisio dwyn pleidleisiau ei phrif gystadleuydd am  bleidlais ‘werdd’ yn y Weriniaeth, a’u cadw.  Y gystadleuaeth rhwng FF a SF am y bleidlais wereniaethol draddodiadol fydd nodwedd fwyaf diddorol gwleidyddiaeth y Weriniaeth tros y ddegawd nesaf – degawd fydd yn cael ei dominyddu ar lefel llywodraethol gan elynion traddodiadol gwereniaethwyr Gwyddelig.