Sefyll yn y bwlch yn erbyn hiliaeth a senoffobia mewn llenyddiaeth

Roedd yn ddifyr darllen llythyr Rod Richards yn Golwg lle mae’n cwyno i ddarn ‘hiliol’ o Cyn Oeri’r Gwaed, Islwyn Ffowc Elis gael ei adrodd mewn rhyw gystadleuaeth neu’i gilydd yn yr Eisteddfod eleni.  Mae’n flynyddoedd ers i mi ddarllen y llyfr a fedra i ddim cofio unrhyw gyffyrddiadau hiliol, ond os ydi Rod yn dweud bod y darn yn hiliol, dwi’n siwr ei fod.

‘Dydi Rod erioed wedi fy nharo fel rhyw Al Sharpton o berson sy’n chwilio am dystiolaeth o hiliaeth ym mhob twll a chornel er mwyn creu helynt ynglyn a’r dywydiedig hiliaeth.  Ond dyna fo, mae’n dda deall bod Rod bellach yn gwneud defnydd cynhyrchiol o’i amser yn plismona hiliaeth a senoffobia mewn llenyddiaeth.  ‘Dwi’n siwr bod Rod yr un mor awyddus i blismona hiliaeth a senoffobia mewn llenyddiaeth Saesneg hefyd – er bod hynny’n debygol o fod yn dasg hynod feichus a maith. Beth bynnag, fel arwydd o barch ac ewyllys da ‘dwi’n fwy na pharod i’w roi ar ben ffordd ynglyn a lle i ddechrau chwilio.

Merchant of Venice (Shakespeare) – Iddewon
The Jew of Malta (Marlow) – Iddewon
God Save the Queen  (Anhysb) – Albanwyr a thramorwyr yn gyffredinol.
My Neighbours (Caradoc Evans) Cymry.
Adventures of the Wishing Chair (Enid Blyton) – pobl China.
The Adventures of Huckleberry Finn (Mark Twain) – pobl croenddu.
The Battle of Maldon (Anhysb) – Llychlynwyr.
The Horse and his Boy (CS Lewis)  – Arabiaid / Indiaid.
The Lord of the Rings (Tolkien)  – pobl dywyll eu croen.
Oliver Twist (Charles Dickens) – Iddewon – er bod Dickens yn casau bron i bawb nad oeddynt yn Saeson.
Black Mischief (Evelyn Waugh) – trigolion Ethiopia.

T James Jones a’r syndrom S4C




Ymddengys bod yr Archdderwydd – dyn o’r enw T James Jones dwi’n deall – yn meddwl ei bod yn warth bod rhai Cymry Cymraeg wedi cadw draw o’r Eisteddfod oherwydd ei bod yn yn cael ei chynnal yn yr hen Sir Fynwy eleni – Rwy’n credu ei bod yn warth bod pobol yn dewis pa Eisteddfod i’w chefnogi oherwydd ardal. Mae’n bwysig dod i weld ardal newydd a dysgu amdani.

‘Rwan mae’n debyg fy mod i’n un o’r bobl mae Mr Jones yn eu lambastio, er fy mod wedi dreifio un o’r genod acw i’r maes pebyll, a ‘dwi’n bwriadu ymweld a’r maes ‘fory. Serch hynny mi hoffwn nodi un neu ddau o bethau sy’n weddol amlwg i’r rhan fwyaf ohonom, hyd yn oed os nad ydynt yn bethau mae Mr Jones o anghenrhaid yn eu sylweddoli.

Yn gyntaf ‘dydi’r Eisteddfod ddim yn rhan greiddiol o hunaniaeth y mwyafrif llethol o Gymry Cymraeg naturiol. Mae yna deip o Gymro a Chymraes sy’n gweld y jambori fawr flynyddol fel rhyw ganolbwynt i’w cenedligrwydd – ond lleiafrif cymharol fach ydi’r rheiny, a lleiafrif nad ydynt yn aml mor amlwg eu hunaniaeth am hanner cant ac un wythnos arall y flwyddyn. I’r rhan fwyaf ohonom rydym yn mynd pan y gallwn, ond mae gennym bethau eraill i wneud efo’n hamser megis gweithio, mynd am beint, palu’r ardd, darllen llyfr, gwneud beth bynnag mae pobl yn ei wneud efo ipads, crwydro’r mynyddoedd, mynychu gig neu ddrama a mynd ar wyliau er enghraifft.

Nid dweud ydw i na ddylai pobl wneud ymdrech i gefnogi’r Eisteddfod – mi fyddaf i’n ceisio gwneud hynny pob blwyddyn i ryw raddau neu’i gilydd, er nad ydi trampio trwy’r mwd, bysnesu mewn gwahanol stondinau a sgwrsio efo pobl nad ydwyf wedi eu gweld ers oes yr arth a’r blaidd at fy nant mewn gwirionedd. Dweud nad ydi hunaniaeth pobl, ac felly eu hagwedd tuag at faterion eisteddfodol, mor syml a mae Mr Jones yn awgrymu ydw i. Rhywbeth ategol i’n hymdeimlad o fod yn Gymry ydi’r Eisteddfod i’r rhan fwyaf ohonom – nid calon yr ymdeimlad hwnnw. O ganlyniad mae lleoliad yr Eisteddfod yn rhwym o effeithio ar faint o bobl sy’n ymweld a hi.

Os ydi’r lleoliad yn y Gogledd yna mae yna ddegau o filoedd o Gymry Cymraeg yn byw o fewn pellter rhesymol ati, ac mi fydd llawer yn ymweld – hyd yn oed os nad yr Eisteddfod ydi eu prif ddileit mewn bywyd. Mae hynny’n benderfyniad rhesymol a rhesymegol i rhywun sydd eisiau cefnogi’r sefydliad, hwyrach nad ydi treulio rhai oriau yn profi pleserau’r A470 mor resymol na rhesymegol i Eisteddfodwr llugoer.

O leoli’r digwyddiad yng Nghaerdydd, er enghraifft mi fydd mwy o bobl yn mynd oherwydd bod pob math o bethau aneisteddfodol i’w gwneud hefyd – a gellir cael wythnos o wyliau gyda’r Eisteddfod yn rhan o’r profiad. Mae Glyn Ebwy, a Blaenau Gwent yn gyffredinol yn ddiddorol i’r sawl yn ein plith sy’n ymddiddori mewn hanes – ond gyda phob parch nid dyma’r lle gorau yng Nghymru i fynd ar wyliau iddo. Mae hefyd ymhell o’r Gymru Gymraeg. Mae felly’n dilyn y bydd yna llai yn mynychu – yn arbennig os ydi pawb lleol wedi cael mynd i mewn am ddim ar gychwyn yr wythnos. ‘Dydi hyn ddim yn golygu na ddylid cynnal yr wyl mewn llefydd fel Blaenau Gwent wrth gwrs – i’r gwrthwyneb, mae’n dda gweld y Gymru Gymraeg yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’w ffiniau naturiol am ychydig ddyddiau. Ond mae’n golygu y dylai awdurdodau’r Eisteddfod fod yn realistig ynglyn a’r hyn y gellir ei ddisgwyl o ran y niferoedd sy’n mynychu. Golyga hefyd ymatal rhag harthio ar bobl i ymddwyn mewn ffordd arbennig ar y sail eu bod nhw yn Gymry Cymraeg a dim arall.

Daw hyn a ni at S4C. Un o wendidau diweddar y sianel ydi canfyddiad ar ran yr awdurdodau sy’n ei rhedeg bod y Gymru Gymraeg yn ddiwylliannol fonolithig, ac mai priod le y sianel ydi darparu rhaglenni Cymraeg, ac mai priod ddyletswydd Cymry Cymraeg ydi ymgynnull o gwmpas y teledu liw nos – yn union fel y byddai teuluoedd yn ei wneud yn saith degau’r ganrif ddiwethaf pan fyddai Z Cars, Dixon of Dock Green, Alf Garnett a Steptoe a’i fab druan yn ymwthio i mewn i’w hystafelloedd byw trwy sgrin fach ddu a gwyn.

Mae’r byd hwnnw wedi hen farw wrth gwrs – mae yna gystadleuaeth gan lu o sianeli eraill a chan gyfryngau eraill bellach. Mae’r Gymru Gymraeg yn yr ystyr bod llawer ohonom yn anabl neu’n anghyfforddus yn defnyddio’r Saesneg wedi marw hefyd. Wnawn ni byth weld rhyw bedwaredd ganrif ar bymtheg arall lle’r oedd degau, os nad canoedd o filoedd ohonom yn darllen papurau newydd Cymraeg am na allem ddarllen yr un iaith arall. Mi’r ydym i gyd bron yn rhannol Seisnig bellach – mi fedrwn ni gael mynediad i, a mwynhad o’r oll sydd gan y cyfryngau Seisnig i’w cynnig. Yn y cyd destun yma, mae cymryd bod dyletswydd ar bobl i flasu pob llwyaid o uwd llwyd, di flas S4C yn gamgymeriad. Mae gosod disgwyliad i bobl ymddwyn mewn ffordd sylfaenol afresymegol yn ystod eu horiau hamdden – fel mae T James Jones yn ei wneud, hefyd yn gamgymeriad.

Dydi hyn oll ddim yn golygu nad ydi’r ffaith bod cynnyrch S4C yn Gymraeg o ran iaith ac yn Gymreig o ran cynnwys a pherspectif yn ychwanegu at apel y sianel i lawer ohonom. Ond mae angen mwy na hynny – mae angen cystadlu o ran ansawdd ac yn wir difyrwch a gwreiddioldeb.

Mae bod yn Gymro neu’n Gymraes Gymraeg ei iaith / hiaith yn yr oes sydd ohoni yn gallu bod yn feichus – baich a ddylai fod yn fater o falchder i ni gael y cyfle – y fraint – o’i hysgwyddo, ond baich serch hynny. ‘Dydi cael dyn mewn oed mawr yn ein dwrdio am ymddwyn mewn ffordd digon rhesymegol, ac yn rhoi hynny yng nghyd destun rhyw hen hollt rhwng Cymru a Sir Fynwy nad oes fawr neb ohonom (hyd yn oed fi) yn ddigon hen i’w gofio ddim yn rhywbeth sy’n ychwanegu at yr ymdeimlad bod ein baich torfol yn un sy’n werth ei chario. Dydi diwylliant sy’n mynnu bod arnom ddyletswydd i edrych ar raglen deledu, gwrando ar rhywbeth ar y radio neu ddarllen cofnodolyn neu lyfr oherwydd ei fod yn y Gymraeg ddim yn ychwanegu at yr ymdeimlad yna chwaith. Yn waeth – mae creu disgwyliad i bobl ymddwyn mewn ffordd sylfaenol afresymegol oherwydd eu bod nhw’n Gymry Cymraeg yn y pen draw yn niweidiol i’r iaith oherwydd bod ymddygiad felly yn ein troi ni’n stereoteip yn hytrach na grwp diwylliannol – ac mae’n anodd meddwl am unrhyw beth mwy niweidiol i’r iaith.

Llafur – dim presenoldeb yn yr Eisteddfod

Wedi bod i’r Eisteddfod ddoe, a trampio o gwmpas fel mae dyn yn ei wneud. Diddorol oedd nodi bod tair o’r pedair brif Blaid yng Nghymru gyda stondinau, ac mai’r un a fethodd y tro hwn oedd y Blaid Lafur. Hyd y gwelaf ‘does ganddyn nhw ddim presenoldeb o unrhyw fath yn Eisteddfod y Brifddinas.

Mae hyn yn rhyfedd ar sawl cyfri, cawsom glywed mwy nag arfer am ymroddiad Cymdeithas Cledwyn i’r Gymraeg eleni, a chafwyd adroddiad hir a diwerth fel rhyw gofgolofn geiriol i nodi bodolaeth cymdeithas gwbl ddiwerth. Eto doedd yna ddim tystiolaeth o fodolaeth y gymdeithas honno ym mhrif ffocws blynyddol y Gymru Gymraeg.

Mae’n rhyfedd hefyd oherwydd bod pob math o feicro fudiadau a chymdeithasau yn ymddangos yn flynyddol gyda’u stondinau – Cymry Llundain, Ambiwlans Cymru, Emmaus De Cymru, Scope Cymru ac ati ac ati. Y Blaid Lafur ydi plaid fwyaf Cymru o ran cefnogaeth, aelodau (mae honna ychydig yn ddadleuol erbyn heddiw), cynghorwyr, cefnogaeth, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol. Mae ganddynt hefyd fynediad di ddiwedd i arian gan unigolion hynod gyfoethog ac undebau Llafur fel mae’r symiau rhyfeddol o arian y byddant yn eu gwario ar etholiadau yng Nghymru yn dangos.

Rwan ‘dwi ddim yn cymryd arnaf bod sicrhau presenoldeb ar faes y ‘Steddfod yn ffordd wych o ennill pleidleisiau mewn etholiadau tros y blynyddoedd dilynol, ond mae diffyg presenoldeb yn arwydd o ddiffyg trefn neu ddiffyg ymroddiad i gyfathrebu gyda’r etholwyr – ac mae yna resymau penodol pam y dylai Llafur geisio bod mor weledol a phosibl yn yr wyl arbennig yma. Rhestraf nhw isod:

• Caerdydd ydi’r brif ddinas – mae yna ffocws ychwanegol ar eisteddfod yn y Brif Ddinas.

• Mae’r Blaid Lafur o dan bwysau sylweddol yn y brifddinas. Maent yn dal tair o’r bedair sedd ar hyn o bryd , ond mae eu cynrychiolaeth ar gyngor y ddinas wedi cwympo’n rhyfeddol tros y ddwy etholiad diwethaf. Roedd llawer iawn, iawn o bobl o Gaerdydd ar y maes eleni.
• Bydd sedd Julie Morgan yng Ngogledd Caerdydd yn sicr o gael ei cholli yn yr etholiad cyffredinol nesaf i’r Toriaid. Mae eu dwy sedd arall hefyd o dan fygythiad – yn arbennig Gorllewin Caerdydd lle mae Plaid Cymru yn bwyta i mewn i’w cefnogaeth dosbarth gweithiol a’r Blaid Geidwadol yn gwneud yr un peth i’r gefnogaeth ddosbarth canol. Mae lle i gredu nad ydi’r Cymry Cymraeg mor driw i Blaid Cymru yma ag ydyw mewn rhannau eraill o Gymru. Perfformiodd y Blaid yn gryfach o lawer yn ardaloedd llai Cymreig yr etholaeth yn yr etholiadau lleol, a Chymry Cymraeg ydi aelodau Cynulliad a Seneddol Llafur. ‘Dydi hi ddim yn anodd gweld y Toriaid yn ennill y sedd San Steffan oherwydd i’r Blaid gymryd sleisen sylweddol o’r bleidlais Llafur, ac i’r Blaid hithau wedyn fod mewn safle cryf i ennill yr etholiad Cynulliad. Bydd mwyafrif llethol Cymry Cymraeg yr etholaeth wedi bod yn yr wyl.

Mater cymharol fach efallai ond mae’n arwydd o ddiffyg ynni ac ymroddiad plaid sydd mewn trafferthion gwirioneddol yng Nghymru a thu hwnt. Byddwn yn poeni petai fy mhlaid i methu trefnu rhyw fath o bresenoldeb yn yr Eisteddfod tra bod Cymru Cuba / Ymgyrch Gefnogi Niceragua Cymru gyda phresenoldeb teilwng.