Fydda i ddim yn ymweld a blog y Tori o Ynys Mon, Paul Williams ag y byddwn i, ond mi gefais gip ddoe. Yr hyn aeth a fy sylw oedd y blogiad ffuantus braidd yma.
Rwan mae Paul yn honni mai rhywun arall anhysbys sydd wedi ‘sgwennu’r darn, ac os ydi o’n dweud hynny mae’n rhaid i ni dderbyn mai rhywun ag eithrio fo ei hun sy’n gyfrifol am y blogiad. Beth bynnag prif neges y darn ydi bod y Blaid yn colli tir ar lefel seneddol a lleol yng Ngwynedd a thu hwnt oherwydd mai pleidiau Prydeinig sy’n gwireddu agenda’r Blaid – pleidiau fel plaid Paul wrth gwrs.
Rwan, mae gan awdur y darn gymaint o hawl i’w farn na neb arall, ond yr hyn sydd yn fy mhoeni ydi’r defnydd o ffeithiau ac ystadegau ffug i gefnogi’r ddadl. Er enghraifft mae’r canlyniad cymharol agos yn Arfon yn etholiad cyffredinol 2010 yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth o ogwydd yn erbyn y Blaid yng Ngwynedd. Ond mewn gwirionedd gogwydd tuag at y Blaid o 3.7% a gafwyd yn etholaeth newydd Arfon o gymharu a chanlyniad damcaniaethol 2005. Does yna ddim cyfeiriad at fuddugoliaeth swmpus Ffred yn yr un etholaeth yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn ganlynol. Byddai hynny’n difetha’r propoganda.
Ceir cyfeiriadau at etholiadau a gollwyd gan y Blaid ar Fai 3 – Deiniolen, Bethel a Llanwnda, ond dim cyfeiriad at rai a enillwyd – Menai, Waunfawr, Gogledd Pwllheli, Brithdir ac ati. Ceir hefyd awgrym i’r Blaid symud yn ol rhwng etholiadau 2008 a 2012. Y gwrthwyneb sy’n wir. Enillwyd 35 sedd yn 2008 a 37 yn 2012.
Y gwir ydi nad oedd y Blaid yn rheoli’r hen Gyngor Gwynedd cyn 1999. Doedd gan y Blaid ddim mwyafrif yn y rhannau hynny o’r hen Wynedd a drosglwyddwyd i’r Gwynedd newydd chwaith. Doedd yna ddim mwyafrif – nag unrhyw beth tebyg i fwyafrif – yn y wardiau o gynghorau dosbarth Arfon, Meirion a Dwyfor a drosglwyddwyd i’r sir newydd chwaith. Doedd yna ddim mwyafrif nes i’r Cyngor newydd ddod i fodolaeth yn 1999.
Ers ffurfio’r Gwynedd newydd mae’r Blaid wedi ennill y canrannau canlynol o’r seddi oedd ar gael: 1999 – 52%, 2004 – 55%, 2008 – 46%, 2012 – 50%. Yn wir gellir dadlau mai tri phatrwm sy’n nodweddu hanes etholiadol Cyngor Gwynedd – llwyddiant rhannol Llais Gwynedd yn 2008 a 2012, cysondeb rhyfeddol y gynrychiolaeth Plaid Cymru ac Annibynnol a methiant llwyr y pleidiau unoliaethol i gystadlu. ‘Dydi’r Toriaid erioed wedi ennill sedd, ac mae’r gynrychiolaeth Llafur wedi syrthio o 14.5% yn 1999 i 4.5% eleni, tra bod y gynrychiolaeth Lib Dem wedi syrthio o 7% i 1.5% tros yr un cyfnod.
Ymhellach ceir sylw bod nifer o wardiau trefol yn agos iawn. Mae hynny’n wir – ond roedd y wardiau agosaf yn tueddu i fod yn rhai a gollwyd o drwch blewyn gan y Blaid. Gallai mymryn o lwc fod wedi sicrhau’r etholiad gorau erioed i’r Blaid yng Ngwynedd. Collodd y Blaid mewn chwe gornest agos iawn – tair ym Mangor (ail sedd Menai), Garth a Dewi), Tregarth, Botwnnog a Nefyn. Byddai tua 100 pleidlais ychwanegol wedi ei ddosbarthu’n gywir yn y chwe sedd fod wedi sicrhau 58% o’r seddi ar y cyngor.
Mae gan flog Paul hanes o adeiladu naratifau gwleidyddol ar gobyldigwc ystadegol, ac rydym wedi edrych ar hynny yn y gorffennol. Dwi’n deall bod blogwyr eisiau gwthio eu gweledigaeth wleidyddol eu hunain – ‘does yna neb yn fwy euog na fi o wneud hynny. Ond mae’n bwysig gwneud hynny ar sail ffeithiol. Un o gryfderau blogio gwleidyddol ydi bod gwybodaeth ar gael nad yw ar gael gan y cyfryngau prif lif. Mae cyflwyno gwybodaeth ffug yn niweidio hygrydedd y cyfrwng.


