Y Mesur Iaith a Chymru’n Un

Felly mae’r llywodraeth wedi cynnig gwelliant i’r Mesur sydd wedi derbyn croeso gan lawer o’r sawl oedd yn feirniadol hyd yma. Ceir eglurhad gan Guto, gan blog Golwg 360 a nifer o wefannau eraill. Newyddion da di gymysg mi dybiwn. ‘Dwi wedi rhybuddio yn y blogiad diwethaf bod modd gwneud gormod o’r hyn y gall deddfwriaeth ei wneud i gynnal iaith, ond ‘does yna ddim dwywaith bod y cam yn un hanesyddol, a bod statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru bellach yn gadarnach nag y bu ers canrifoedd lawer.

Mae’r cam yma ymlaen yn digwydd mewn cyd destun ehangach wrth gwrs – ers ffurfio’r glymblaid Llafur / Plaid Cymru mae nifer o gamau wedi eu cymryd sydd wedi symud achos yr iaith, ac achos Cymru yn fwy cyffredinol yn eu blaenau – refferendwm ar bwerau, strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg, cychwyn ar y broses o ffurfio Coleg Ffederal Cymraeg, Cymreigio polisi grantiau Cadw, datblygu’r is strwythur trafnidiaeth o’r De i’r Gogledd ac ati. Arweiniodd Comisiwn Holtham yn ei dro at led gonsensws bod Cymru yn cael ei than gyllido (nid bod y glymblaid yn Llundain yn fodlon gweithredu ar hynny wrth gwrs).

Canlyniadau Cymru’n Un ydi’r datblygiadau hyn, ac mae’r cytundeb heb amhaeaeth wedi creu fframwaith sydd wedi galluogi’r llywodraeth i fynd ati i weithredu mewn ffordd llawer mwy radicalaidd, arloesol a Chymreig na’r un o’r ddau lywodraeth blaenorol. Mi fyddwn i hefyd yn dadlau bod gweithredu oddi mewn i fframwaith felly wedi rhoi’r hyder i’r llywodraeth dorri ei gwys ei hun mewn materion sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol a Chytundeb Cymru’n Un – mae datganiad yr wythnos diwethaf ynglyn a ffioedd myfyrwyr yn esiampl diweddar o hynny.

Bu cryn dipyn o feirniadu ar Gymru’n Un gan genedlaetholwyr ar gwahanol achlysuron. Mae cyhoeddiad heddiw, (ynghyd a rhai o’r datblygiadau rwyf wedi cyfeirio atynt uchod) yn ateb pwerus iawn i’r beirniadaethau hynny. Rhoddodd cyfnod cyntaf Plaid Cymru mewn llywodraeth ddimensiwn cwbl newydd i’r ffordd mae Cymru’n cael ei llywodraethu. Mae’n bwysig bod y Blaid yn parhau a rol lywodraethol ar ol Fis Mai’r flwyddyn nesaf – byddai mynd yn ol at lywodraeth tebyg i un 2003 – 2007 yn gam sylweddol yn ol i Gymru.

Ydi’r Blaid Doriaidd Cymreig yn blaid addas i glymbleidio a hi?

Mi’r oeddwn i’n rhyw gefnogol i’r syniad o Glymblaid yr Enfys – hy un rhwng Plaid Cymru, y Lib Dems a’r Toriaid – ond ‘dwi wedi newid fy meddwl ers hynny, yn bennaf oherwydd i gytundeb Cymru’n Un symud achos Cymru yn ei flaen cymaint. Trafodwyd hyn yma.

Mae’r blogiad yma gan Geidwadwyr Aberconwy yn atgyfnerthu fy marn. Y broblem efo’r Toriaid (a’r pleidiau unoliaethol eraill i raddau llai) ydi eu bod yn ddall i’r ffaith bod tan berfformiad economaidd Cymru yn ganlyniad anochel i’r ffaith ein bod yn cael ein trin fel rhanbarth o wlad arall. A chymryd y myopia yma i ystyriaeth, am wn i ei bod hi’n hollol ddealladwy bod Ceidwadwyr Aberconwy yn credu y dylai Plaid Cymru fod wedi tynnu allan o’r glymblaid oherwydd i hanner y cynnydd mewn diweithdra yn y DU ddigwydd yng Nghymru y mis diwethaf (er bod y cynnydd wedi bod yn gymharol isel yn gynharach yn ystod y dirwasgiad wrth gwrs).

Mae’n dilyn felly, am wn, i y byddai’r Toriaid wedi tynnu allan o ‘Gytundeb yr Enfys’ petai newyddion drwg economaidd cyffelyb wedi dod i’r fei – ac mae newyddion drwg economaidd yn rhywbeth sy’n tarro pob llywodraeth rhywbryd neu’i gilydd – hyd yn oed yn ystod amserau ‘da’.

Efallai nad ydi’r Toriaid eto’n aeddfed i bleidiau eraill ystyried mynd i lywodraeth efo nhw – byddai’r olwynion yn syrthio oddi ar y wagen lywodraethol gyda y byddai cwmwl du yn ymddangos yn y ffurfafen wleidyddol, gan adael y wlad yn ddi lywodraeth. ‘Dwi ddim yn meddwl y byddwn i eisiau partner felly mewn llywodraeth.

Mwy o lwyddiant yn sgil Cymru’n Un


Mae Cymru’n Un eisoes wedi symud yr agenda genedlaetholgar yn ei blaen:

  • Strategaeth addysg Gymraeg,
  • LCO iaith ar y ffordd
  • Y polisi treftadaeth mwyaf cenedlaetholgar yn hanes Cymru
  • Coleg ffederal yn yr arfaeth

Ac ‘rwan mae cil y drws yn fwy nag agored i refferendwm ar bwerau deddfu llawn i’r Cynulliad.

Ychwanegwch at hyn y ffaith bod llywodraeth Cymru yn llawer mwy poblogaidd a chyda llawer mwy o hygrededd iddi nag un y DU, ac mae’n amlwg mai dyma’r llywodraeth mwyaf effeithiol o lawer iawn, iawn o ran hyrwyddo buddiannau Cymru i ni ei chael hyd yn hyn.

Cymru’n Un – buddugoliaeth ddeallusol i genedlaetholdeb?

Mae un o fy hoff blogs – Welsh Ramblings – yn tynnu sylw at yr elfennau cenedlaetholgar sydd yn apel dau o ymgeiswyr Llafur yn ras y crwbanod.

Dadl Ramblings ydi bod syniadau Huw Lewis am bartneriaeth gymdeithasol yn tynnu ar syniadau cyffelyb gan Blaid Cymru. Mae cydweithrediad glos rhwng y llywodraeth, busnes, undebau llafur, y sector wirfoddol a phartneriaid cymdeithasol eraill yn nodwedd o’r ffordd mae pethau’n cael eu gwneud mewn nifer o wledydd ‘llai’ Ewrop – ac yn un o’r rhesymau am lwyddiant economaidd y gwledydd hynny. Mae magu cydweithrediad felly yn ddibynol i raddau helaeth ar ymdeimlad o genedlaetholdeb ymysg y partneriaid – ymdeimlad sy’n caniatau iddynt weld ymhellach na gofynion un rhan o gymdeithas yn unig. Mae Huw’n gofyn am fwy o genedlaetholdeb – os ydi o’n sylweddoli hynny neu beidio.

Mae agenda Edwina Hart hyd yn oed yn fwy cenedlaetholgar – addasu Barnett mewn ffordd sy’n caniatau i’r fformiwla ymateb i angen (ac felly cynyddu’r adnoddau cyhoeddus yng Nghymru), cynyddu pwerau’r Cynulliad, diwygio gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd neilltuol Gymreig, cryfhau cysylltiadau rhwng gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

A fyddai brwydr am arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru yn cael ei ymladd ar y tirwedd yma ychydig flynyddoedd yn ol?

‘Dwi ddim yn meddwl. Mae’r tirwedd gwleidyddol a deallusol yng Nghymru wedi mynd yn raddol fwy gwyrdd ers datganoli, ac mae Cymru’n Un wedi cyflymu’r broses honno.

A oes gwersi i’w dysgu o’r ‘trai Spring’?


Blogmenai ydi’r unig flog yn y byd mawr crwn sy’n gwneud arfer o gymharu gwleidyddiaeth etholiadol Cymru a gwleidyddiaeth etholiadol Iwerddon – hyd y gwn i. ‘Dwi ddim yn siwr bod cymharu dwy wlad sydd mewn rhai ffyrdd yn debyg, ond sydd o ran system etholiadol a diwylliant gwleidyddol yn gwbl wahanol, yn syniad da. ‘Dwi’n rhyw led ymddiheuro pob tro ‘dwi’n gwneud cymhariaeth, a ‘dwi’n gwneud hynny eto y tro hwn.

Beth bynnag – mae clymbleidio yn rhan anatod o ffurfio llywodraeth yn Iwerddon – y dyddiau hyn mae’n ymylu at fod yn amhosibl ffurfio llywodraeth heb wneud hynny. Mae clymbleidio yn gysyniad newydd yng Nghymru, ac mae’n amlwg o nifer o sylwadau diweddar ar y We a thu hwnt nad ydi oblygiadau bod mewn tirwedd etholiadol sy’n gorfodi clymbleidio wedi treiddio’n llawn i’r ymwybyddiaeth dorfol eto.

‘Rydym eisoes wedi edrych ar sut y llwyddodd John A Costello i achub ei blaid – Fine Gael – trwy ffurfio clymblaid llywodraethol ym 1948. Y ddadl pan gynhyrchais y blogiad hwnnw oedd os oedd yn briodol i’r Blaid glymbleidio o gwbl. Y ddadl y tro hwn ydi os y dylai’r Blaid dynnu allan o glymblaid, neu newid partneriaid mewn clymblaid lywodraethol. Efallai y gall dau etholiad Gwyddelig mwy diweddar fod o gymorth i ni.

Yn fy marn bach i etholiad 1992 yng Ngweriniaeth Iwerddon oedd yr un mwyaf dramatig ers un 1918, pan sgubodd y wlad gan Weriniaethol anferth. Ton etholiadol o fath gwahanol a gafwyd ym 1992. Dwblodd y Blaid Lafur Wyddelig ei chynrychiolaeth yn y Dail o 15 i 33. Dwblwyd hefyd y bleidlais i bron i 20%. Yn yr ardaloedd trefol oedd y rhan fwyaf o’r gefnogaeth newydd, ond llwyddodd y blaid ryddfrydig yma i gael mwy na 10% o’r bleidlais yn rhai o geiri ceidwadiaeth Pabyddol Gwyddelig – llefydd fel Donegal North East er enghraifft. I mi roedd hyn yn fwy syfrdanol na’r buddigoliaethau trefol anferth.

‘Roedd llawer (gan fy nghynnwys i) yn darogan ar y pryd bod newid strwythurol, hir dymor ar ddigwydd yng ngwleidyddiaeth yr ynys. Hyd hynny roedd yr ymgiprys gwleidyddol yn Iwerddon wedi croni o gwmpas yr hafn a agorwyd mewn cymdeithas Gwyddelig gan y Rhyfel Cartref. Roedd gwleidyddiaeth i raddau helaeth yn llwythol – gyda’r sawl oedd a’u teuluoedd wedi gwrthwynebu’r Cytundeb Eingl Wyddelig yn cefnogi Fianna Fail, a’r sawl a’i cefnogodd yn pleidleisio i Fine Gael. Roedd mwy iddi na hynny wrth gwrs – ond goroesodd y Rhyfel Cartref yng ngwleidyddiaeth Iwerddon am ddegawdau wedi i’r bwled olaf gael ei danio. Byddai aml i un yn dadlau bod y rhyfel yn waelodol i wleidyddiaeth y Weriniaeth hyd heddiw.

Canlyniad hyn oedd system oedd yn cynhyrchu dwy blaid – Fine Gael a Fianna Fail – oedd i rhywun o’r tu allan yn edrych yn ddigon tebyg i’w gilydd. Roeddynt yn ddwy blaid adain Dde – y naill efallai ychydig yn fwy rhyddfrydig yn gymdeithasol, a’r llall yn gogwyddo ychydig i’r Chwith weithiau mewn polisiau economaidd. ‘Doedd yr hollt De / Chwith oedd yn nodweddu gwleidyddiaeth etholiadol gweddill Ewrop ddim yn ffactor ar yr Ynys Werdd.

Ac yna daeth etholiad 1992. ‘Doedd y polau piniwn ddim wedi darogan yr hyn ddigwyddodd – ond roedd perfformiad rhyfeddol o gryf y Blaid Lafur a’u harweinydd carismataidd, Dick Spring – yn rhoi lle gwirioneddol i gredu bod yr hen drefn ar ddymchwel. Fianna Fail oedd y blaid gryfaf o hyd – ac wedi ychydig wythnosau o’r hym hymian arferol, cafwyd clymblaid FF / Llafur. Cafodd Llafur 6 o’r 15 sedd yn y cabinet, a gwnaethwyd Spring yn Tánaiste – dirprwy brif weinidog. Albert Reynolds, arweinydd FF oedd y prif weinidog. Cafodd Spring fuddugoliaeth bersonol anferth yn ei etholaeth ei hun – Kerry North. Bathwyd y term Spring Tide – llanw Spring i ddisgrifio’r hyn oedd wedi digwydd.

Cafwyd newidiadau sylweddol yn fuan iawn mewn polisi cyhoeddus – cynllunwyd ar gyfer refferendwm i gyfreithloni ysgariad, cyfreithlonwyd rhyw hoyw am y tro cyntaf, cafwyd deddfwriaeth i ddelio efo llygredd llywodraethol, caniatawyd gwethiant offer atal cenhedlu ac ati.

Syrthiodd yr olwynion oddi ar y wagen ym 1994. Yn dilyn un neu ddwy o is etholiadau gwael i Lafur, cafodd Spring homar o ffrae efo Reynolds ynglyn a phenodiad llywodraethol. Wna i ddim mynd i mewn i’r mater yma – mae’n gymhleth. Bu’n rhaid i Reynolds ymddiswyddo, a chymerwyd ei le gan Bertie Ahern a’r disgwyl oedd y byddai llywodraeth FF / Llafur newydd yn cael ei ffurfio – ond nid dyna beth ddigwyddodd. Y diwrnod cyn roedd y trafodaethau i fod i ddod i ben, newidiodd Spring ei feddwl – ac aeth ati i ffurfio clymblaid anhebygol efo Fine Gael a’r Democratic Left. Roedd rhaid i Bertie Ahern ddisgwyl tair blynedd arall cyn gwireddu uchelgais oes.

Ac wedyn daeth 1997 ag etholiad arall yn ei sgil. Collodd Llafur yr oll roeddynt wedi ei ennill yn 92 – fwy neu lai. Yng ngeiriau’r Irish Independent, roedd hi’n Payback Time. Cadwodd Spring ei sedd, ond bu’n rhaid iddo ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Lafur. Collodd ei sedd yn yr etholiad canlynol – un 2002 i wleidydd carismataidd arall – Martin Ferris – dyn oedd wedi treulio cyfran dda o’i fywyd fel oedolyn mewn carchar, ac a oedd yn ol pob tebyg yn un o uchel swyddogion yr IRA. ‘Dydi’r Blaid Lafur byth wedi ad ennill y tir a gollwyd, ac mae strwythurau gwaelodol gwleidyddiaeth Gwyddelig yn dal yn ddigon tebyg i’r hyn a fuont ers dau ddegau cynnar y ganrif ddiwethaf.

‘Rwan, nid y neidio o un gwely gwleidyddol i’r llall oedd yr unig reswm tros berfformiad sal y Blaid Lafur Wyddelig, ond roedd yn sicr yn ffactor pwysig. Llwyddodd y blaid i dynnu blewyn o drwyn pawb oedd yn gogwyddo tuag at FF, pawb oedd yn gogwyddo tuag at FG a phawb nad oeddynt yn hoff o’r Chwith eithafol mewn un tymor llywodraethol. Gwnaethant hefyd i’r blaid ymddangos yn ddi gyfeiriad ac yn anwadal.

Byd gwleidyddol hollol wahanol? Efallai. Trefn etholiadol hollol wahanol? Efallai – ond dim ond ffwl fyddai’n dweud nad oes yna wers i’w hystyried o gwbl.

Dyfrig, carchar C’narfon a Chymru’n Un

‘Dwi wedi darllen blogiad ddiweddaraf Dyfrig dair neu bedair gwaith, a ‘dwi’n dal i grafu fy mhen. Mae’n datgan – Tydw i ddim am eiliad yn dadlau bod penderfyniad Llywodraeth Prydain i beidio ac adeiladu carchar yng Nghaernarfon yn reswm dros dorri Cytundeb Cymru’n Un, a ildio’n lle yn Llywodraeth Cymru – ac yna’n mynd ati i son am pob dim mae’n ei ddrwg leicio am y ffordd mae’r Cytundeb yn mynd rhagddo hyd yn hyn ac yna datgan – Mae’n bryd i ni wynebu y ffaith bod Llafur wedi methu a chadw ei bargen gyda Phlaid Cymru, a gadael y glymblaid.

‘Rwan dydi corff y blogiad ddim yn nodweddiadol o’r ffordd y bydd Dyfrig yn dadlau fel rheol, i’r graddau ei fod yn rhestr o gwynion sydd heb eu didoli na’u gwerthuso – tipyn bach fel petai yn un o flogiadau blogwyr Llais Gwynedd. Hynny yw, mae mwy o sylwedd i rai o’r cwynion na’r lleill – ond maent i gyd yn cael eu cyflwyno i’n sylw yn un lwmp bler fel petaent i gyd yn ddiymwad, ac i gyd yn gyfartal o ran difrifoldeb. Mae hefyd yn bwysig cofio ein bod dim ond hanner ffordd trwy’r Cytundeb.

Ydi hi mewn gwirionedd yn onest i ollwng y gyfrifoldeb am beidio a symud ymlaen efo papur dyddiol ar stepan drws Rhodri Morgan, pan mai Rhodri Glyn oedd yn gyfrifol am y penderfyniad? Ydi cynlluniau’r llywodraeth i sefydlu Coleg Ffederal mewn gwirionedd yn dystiolaeth o ‘fethiant’ Cymru’n Un. Ydi’r ddadl LCO iaith yn dal dwr pan mae’n amlwg bod pwyllgor deddfwriaeth y Cynulliad yn credu y dylai’r cynulliad gael y cwbwl lot o’r pwerau deddfu ynghylch yr iaith?

‘Dydw i ddim yn gwybod beth i’w wneud o ddadl Dyfrig – mae o’n codi’r ddadl y dylid torri Cymru’n Un yng nghyd destun y penderfyniad ynglyn a charchar Caernarfon, ac yna’n honni y dylid tynnu allan o’r cytundeb oherwydd nad ydi Cymru’n Un wedi gwireddu ei holl amcanion hanner ffordd trwy gyfnod y cytundeb.

‘Dydw i’n onest ddim yn gwybod beth i’w wneud o’r ddadl.