Ymweliad a Chatalonia

Nid blog gwyliau ydi Blogmenai wrth gwrs, felly ‘dydw i ddim yn cyhoeddi lluniau gwyliau yn aml iawn, ond gan mai i Gatalonia es i ar fy ngwyliau, a chan bod y dyddiau hyn yn rhai diddorol o ran gwleidyddiaeth Catalonia, mi wnawn ni eithriad bach.

Y peth cyntaf i’w ddweud ydi bod gwleidyddiaeth y wlad yn weledol iawn os ewch  oddi wrth y Costa Brava a gweddill yr arfordir.  Baneri Catalonia, a baneri annibyniaeth (y L’Estelada Vermella a’r Estelada Blava)  yn cael eu crogi o falconi fflatiau ydi un o’r nodweddion gweledol hynny.


Nodwedd arall ydi’r graffiti gwleidyddol sy’n dew ar hyd llawer o ardaloedd trefol.  Roedd graffiti felly yn gyffredin iawn yng nghefn gwlad Cymru ers talwm wrth gwrs – ond Byd arall llawer llai parchus, a mwy diddorol nag un heddiw oedd hynny.




Mae’r murlun gwleidyddol yn un o nodweddion gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon – ‘does yna ddim cymaint ohonynt yng Nghatalonia, a ‘dydyn nhw ddim mor grefftus na’r rhai Gwyddelig, ond maent i’w gweld yma ac acw.

Ac mae annibyniaeth yn bwnc llosg yn y papurau newydd – polau piniwn a’r brif ddadl economaidd tros adael yr undeb – y gost i Catalonia o aros – sydd dan sylw yma.


Er nad ydi annibyniaeth yn bwnc llosg yng Nghymru fel ydyw yng Nghatalonia a’r Alban, mae’r ddadl ym Nghatalonia yn berthnasol i ni yma. Mae gwledydd tebyg yn tueddu i ddilyn yr un trywydd yn aml. Er enghraifft arweiniodd dymchweliad y Bloc Dwyreiniol yn negawdau olaf y ganrif ddiwethaf at greadigaeth bedair gwladwriaeth ar hugain newydd yn Nwyrain Ewrop.

Mae Cymru’n perthyn yn llawer nes at Gatalonia nag at wledydd Dwyrain Ewrop wrth gwrs – mae’r ddwy wlad yn endidau yng Ngorllewin Ewrop na ddaeth yn wladwriaethau yn y dyddiau hynny pan rannodd y cyfandir yn gyfres o wladwriaethau, ond a lwyddodd i gynnal hunaniaeth annibynnol serch hynny.

A dyna pam bod hynt a helynt gwleidyddol gwledydd di wladwriaeth eraill yn Ewrop o ddiddordeb i ni yma yng Nghymru. Os ydi datganoli yn arwain at annibyniaeth mewn gwledydd eraill yng Ngorllewin Ewrop, mae’n ddigon posibl y bydd yr un peth yn digwydd yma maes o law.

Mwy o lwyddiant rhyngwladol i Gymru!

Ond ‘tydi hi’n amser dy i fod yn Gymro dywedwch? 

I ddechrau dyna’r llwyddiant (cymharol) yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd, ac rwan mae Golwg wedi dod ar draws y newyddion gwirioneddol gynhyrfus bod trelar o Gymru am fod yn dilyn rhywun o’r enw Rihanna o gwmpas Ewrop

Am amser gwych i fod yn fyw – ‘does yna ddim pendraw i’r rhesymau sydd ar gael i fod yn falch o fod y Gymro.

Pam bod rhai marwolaethau yn fwy arwyddocaol i ni nag ydi eraill

Ar ddiwrnod pan roedd y sefydliad gwleidyddol Cymreig yn coffau’r pedwar a fu farw ym Mhwll y  Tarenni Gleision yng Nghwm Tawe, efallai y byddai’n ddiddorol holi pam bod y drychnideb yma yn cydio yn y dychymyg yng Nghymru a thu hwnt i’r fath raddau. Ar un olwg ‘dydi’r holl sylw ddim yn gwneud synnwyr – mae yna lawer o bobl yn marw yn flynyddoedd mewn damweiniau yng Nghymru, a dydi llawer o’r marwolaethau hynny prin yn derbyn unrhyw sylw yn y newyddion cenedlaethol.

Er enghraifft, bu farw 95 o bobl ar ffyrdd Cymru y llynedd, gan gynnwys  4 o ddynion ar yr un pryd mewn damwain car ym Mhorthcawl.  Anafwyd bron i 1,000 o bobl yn ddifrifol mewn damweiniau car yn ystod yr un blwyddyn, ac roedd yna 6,856 damwain a arweiniodd at farwolaeth neu anaf o rhyw fath neu’i gilydd.  Roedd cyfanswm yr anafiadau neu farwolaethau yn 9,961.  ‘Dydi damwain sydd yn arwain at nifer o farowlaethau ddim yn arbennig o anarferol Lladdwyd pedair o ferched 15 ac 16 oed o Flaenau Gwent mewn damwain yn Llangynidr, Powys yn 2007, er enghraifft.  Mae yna gyfartaledd o ugain bobl yn marw yn eu tai eu hunain o ganlyniad i danau pob blwyddyn yng Nghymru.

Mae’r ffaith bod marwolaethau mewn pwll glo yn anarferol iawn yng Nghymru bellach yn  un o’r rhesymau am yr holl sylw wrth gwrs, ond ‘dydi marwolaethau anarferol eraill ddim yn cynhyrchu’r fath gyhoeddusrwydd.  Bu farw tri o’r un teulu ym Mhontllanfraith o ganlyniad i effeithiadau carbon monocseid yn 2010 er enghraifft, a chafodd y stori honno ddim llawer o sylw.

Mae yna resymau eraill, ac mae’r rheiny’n ymwneud a’r ffordd yr ydym yn gweld ein hunain, a’r ffordd mae eraill yn ein gweld – maen nhw’n gweddu i naratifau sy’n ymwneud a’r hyn ydi Cymru..  Mae’r diwydiant glo yn ganolog i ddatblygiad yr hyn ydi Cymru heddiw, y diwydiant hwnnw a’r diwylliant a dyfodd yn ei sgil sy’n diffinio’r hyn rydym – i lawer ohonom beth bynnag – yn annad unrhyw ddylanwad arall.   

Mae’r Gymru gyfoes (ol ddiwydiannol yn aml) yn gymharol gymhleth, a ‘does gennym ni ddim naratif syml sy’n ein diffinio.  Mae digwyddiad trist fel un yr wythnos ddiwethaf yn gweddu’n dwt i naratif sydd wedi dyddio, ond sydd serch hynny yn un pwerus a syml – naratif y Gymru dlawd, ddiwydiannol lle mae dioddefaint a marwolaeth disymwth yn rhan o fywyd pob dydd.  Er mor ddirdynol yr amgylchiadau maent yn seicolegol gyfforddus i ni i’r graddau eu bod yn gweddu i hen ddealltwriaeth yr hyn rydym – ac maent yn ein cysylltu efo’r trychinebau mawr hynny sy’n rhan o’n cof torfol.  ‘Dydi marwolaethau o ganlyniad i dan, nwyon, boddi ac ati ddim yn gwneud hynny, felly dydyn ni ddim yn priodoli’r un arwyddocad iddyn nhw.

Dydi rhoi mwy o arwyddocad i rai marwolaethau nag i rai eraill ddim yn nodwedd unigryw Gymreig wrth gwrs – mae pob diwylliant yn gwneud hynny.  Er enghraifft roedd America yn cofio ymysodiadau 9/11 yn ddiweddar.  Mae’n gwbl wir i lawer iawn o bobl farw o ganlyniad i’r ymysodiadau ar yr efaill dyrau – tros i dair mil mae’n debyg.  Ond bu farw llawer, llawer mwy o bobl Irac o ganlyniad i ymysodiadau yr UDA a’i chyfeillion yn dilyn yr ymysodiadau hynny.  Mae’n debyg i tua 112,000 o sifiliaid farw yn ystod ac yn dilyn ymgyrch y cynghrieriaid – tua 28 o sifiliaid am pob un a fu farw yn ystod yr ymysodiadau yn Efrog Newydd a Washington.  ‘Doedd a wnelo Irac (heb son am ei sifiliaid) ddim oll a’r ymysodiadau wrth gwrs.

Doedd yna ddim cydnabyddiaeth o hynny o gwbl yn ystod y seremoniau yn America, nag yn  y sbloets fawr a wnaeth y cyfryngau Prydeinig o’r holl beth.  Mae yna resymau am hynny wrth gwrs, ond rhaid i’r rheiny aros am flogiad arall.  . 

Beth mae Barry Island yn ei ddweud wrthym am y Gymru gyfoes.

Aeth y Mrs a finnau a’r fam yng nghyfraith am dro i Barry Island heddiw.  Doeddwn i heb fod yn y lle yn ystod yr haf ers talwn iawn.  Rwan ‘dwi’n gwybod nad heddiw oedd y diwrnod gorau i dorheulo – ond roedd y traeth yn ddigon agos at fod yn hollol wag.

‘Dydw i ddim yn cofio Barry Island yn y 60au a’r 70au –  Rhyl oedd Barry Island pobl ochrau G’narfon- ond mae’r wraig yn cofio’n dda gorfod cyrraedd y traeth yn gynnar ar ddiwrnod braf neu ni fyddai yna ddigon o le i roi tywel i lawr, oherwydd y niferoedd o bobl fyddai yno erbyn hynny..

Ychydig o bethau sy’n dangos fel mae’r byd yr ydym yn byw ynddo wedi newid mewn ychydig ddegawdau yn well na’r cyferbyniad rhwng y lluniau.  Roedd yna amser pan roedd y rhan fwyaf ohonom yn gwneud fwy neu lai yr un peth ar fwy neu lai yr un pryd.  Roedd hynny yn adlewyrchiad o gymdeithas gydlynus iawn.  Erbyn heddiw mae pobl yn chwalu  i bedwar ban Byd yn ystod yr haf – neu yn aros yn eu gerddi cefn efo’r barbiciw.  Adlewyrchiad ydi hynny yn ei dro o gymdeithas sydd wedi colli llawer o’i chydlyniad.

Dichon bod De Ffrainc yn brafiach lle i dreulio diwrnod neu ddau yn yr haf na Barry Island  – ond roedd y tyrfaoedd o bobl oedd yn ymhel ynghanol y candi fflos, y swn aflafar a’r reids drud cyn gorwedd trwy’r prynhawn ar y traeth i losgi nes eu bod yn edrych fel cimychiaid, yn dod o gymunedau oedd yn fwy unedig ac yn fwy sicr ohonynt eu hunain na’r rhai yr ydym ni’n byw ynddynt heddiw.

Ystadegau hunaniaeth genedlaethol plant ysgol

Bu ychydig o ddadlau yma yn ddiweddar ynglyn ag ystadegau iaith a hunaniaeth. I’r sawl sydd a diddordeb, rhyddhawyd ystadegau hunaniaeth plant ysgol (yn ol diffiniad rhieni) fesul etholaeth seneddol a rhanbarth etholiadol heddiw.

Albaneg
Cymreig Seisnig Gwyddelig Prydeinig Arall
Gogledd Cymru 52.1 13.0 0.4 32.1 2.3
Aberconwy 56.2 4.7 0.4 37.0 1.7
Alyn a Glannau Dyfrdwy 25.8 30.8 0.8 40.6 1.9
Arfon 76.7 6.3 0.2 14.0 2.8
De Clwyd 53.2 10.5 0.3 34.2 1.9
Gorllewin Clwyd 46.9 10.0 0.5 40.9 1.7
Delyn 50.1 16.1 0.5 31.4 1.8
Dyffryn Clwyd 48.2 16.1 0.3 33.0 2.4
Wrecsam 55.0 8.4 0.5 31.2 4.9
Ynys Môn 66.6 8.2 0.4 23.7 1.1
Gorllewin a’r Canolbarth 57.3 10.9 0.4 29.1 2.3
Brycheiniog a Maesyfed 48.0 14.9 0.5 34.1 2.5
Dinefwr / Dwyrain Caerfyrddin 62.2 6.5 0.2 30.1 1.0
Grlln Caerfyrddin / De Penfro 62.1 11.3 0.4 23.8 2.4
Ceredigion 63.3 12.1 0.5 20.3 3.7
Dwyfor Meirionnydd 71.7 9.8 0.2 17.4 0.9
Llanelli 64.9 4.3 0.4 27.3 3.0
Trefaldwyn 37.4 22.3 0.5 38.0 1.8
Preseli Penfro 51.5 7.1 0.4 38.8 2.3
Gorllewin De Cymru 68.5 4.2 0.3 24.1 3.0
Aberafon 72.2 4.2 0.3 21.8 1.6
Penybont 65.7 4.7 0.2 27.3 2.2
Gwyr 69.8 4.1 0.3 23.7 2.0
Castell Nedd 74.7 3.8 0.3 20.3 1.0
Ogwr 78.7 3.2 0.2 16.5 1.3
Dwyrain Abertawe 62.9 3.9 0.2 28.7 4.3
Gorllewin Abertawe 53.3 5.7 0.4 30.7 9.8
Canol De Cymru 60.4 2.8 0.3 31.8 4.7
Canol Caerdydd 50.5 2.5 0.4 36.6 10.0
Gogledd Caerdydd 54.7 1.7 0.4 37.0 6.3
De Caerdydd / Penarth 54.6 3.9 0.6 32.4 8.4
Gorllewin Caerdydd 55.0 3.4 0.4 33.4 7.9
Cwm Cynon 74.2 1.9 0.1 22.7 1.0
Pontypridd 67.3 2.4 0.1 28.5 1.6
Rhondda 81.1 2.5 0.1 15.4 0.8
Bro Morgannwg 49.1 3.5 0.4 45.0 1.9
Dwyrain De Cymru 60.4 4.0 0.2 32.8 2.6
Blaenau Gwent 76.5 2.8 0.1 19.4 1.2
Caerffili 70.6 2.5 0.2 25.8 0.8
Islwyn 65.9 2.2 0.1 31.2 0.6
Merthyr Tydfil a Rhymni 78.9 1.8 0.2 16.4 2.7
Mynwy 36.7 9.5 0.5 51.3 2.0
Dwyrain Caerfyrddin 45.1 5.2 0.2 44.6 4.8
Gorllewin Casnewydd 52.1 4.0 0.4 37.2 6.2
Torfaen 61.0 3.7 0.2 33.8 1.3
Cymru 59.5 6.8 0.3 30.3 3.0

‘Dwi’n nodi ambell i bwynt sy’n fy nharo fi – yn ddi amau bydd eraill yn gweld rhywbeth arall yn y ffigyrau.
Bulleted List

  • Hunaniaeth Gymreig ar ei wanaf yng Ngogledd Cymru, ac ar ei gryfaf yng Ngorllewin De Cymru.
  • Arfon, Ogwr, Rhondda, Blaenau Gwent a Merthyr ydi’r etholaethau sydd a mwy na tri chwarter plant yn cael eu diffinio o dan y categori Cymreig – pob un yn etholaethau gyda chanran uchel o’u poblogaeth yn ddosbarth gweithiol a threfol.
  • Dim ond Alyn a Glannau Dyfrdwy sydd a mwy o blant Seisnig na Chymreig.
  • Aberconwy, Gorllewin Clwyd, Alyn a Glannau Dyfrdwy, Brycheiniog a Maesyfed, Trefaldwyn, Preseli Penfro, Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg, Mynwy, Gorllewin a Dwyrain Casnewydd gyda mwy na thraean plant yn cael eu diffinio yn Brydeinig. Mae etholaethau mwyaf dosbarth canol Cymru ymysg y rhain.
  • Arfon – lleoliad yr arwisgiad – ydi’r etholaeth efo’r hunaniaeth Brydeinig wannaf.

Ffigyrau i gyd yn ganrannol data llawn ar gael yma.

Cymru fach mewn taenlen


Poblogaeth
(miloedd)
2009

Newid 04 – 09 (%) Canran o’r boblogaeth o oed pensiwn Genedigaethau am pob 1,000 o’r boblogaeth 2008 (%) Genedigaethau byw ysgafnach na 2.5kg 2008 (%)
Cymru 2999 1.9 21.7 11.9 7.8
Ynys Mon 69 0.7 25.6 11.3 8.2
Gwynedd 119 0.4 23.7 10.8 7.5
Conwy 111 0.4 28 10.4 7.9
Sir Ddinbych 97 1.8 25.1 11 7.3
Sir Fflint 150 0.5 20.8 11.5 6.8
Wrecsam 133 2.7 20.3 13.5 8
Powys 132 2.1 26.6 9.7 7.8
Ceredigion 76 0.9 24.7 7.7 4.5
Penfro 117 1.6 25.4 10.5 7
Caerfyrddin 181 2.3 24.3 10.9 6
Abertawe 231 2.2 21.5 11.9 5.9
Castell Nedd Port Talbot 137 0.7 22.1 11.3 9.7
Pen y Bont 134 2.6 21.2 12.1 13.3
Bro Morgannwg 125 2.6 21.5 11.9 8.4
Caerdydd 336 6.8 15.5 14.1 7.1
Rhondda, Cynon, Taf 234 0 20.1 12.4 8.2
Merthyr Tydfil 56 0.6 20.2 14 8.2
Caerffili 173 1.1 19.7 12.9 7.7
Blaenau Gwent 69 -0.4 21.5 12.5 8.7
Torfaen 91 0.3 21.6 11.6 8.3
Mynwy 88 1.2 24.3 10.4 6.4
Casnewydd 140 1.3 19.6 14.2 8.4


Marwolaethau babanod am pob 1,000 genedigaeth 2006 – 2008 (%) Marwolaethau am pob 1,000 o bobl 2008 (%) Diweithdra 2007 / 2008 (%) Canran sy’n hawlio un o’r prif fudd daliadau 2009 Cyflog cyfartalog (£)
Cymru 4.5 10.7 5.6 20.3 444.9
Ynys Mon 5.3 11.3 6.1 18.3 439
Gwynedd 4.4 11.6 5.6 15.1 408.3
Conwy 6.1 13.7 4.8 19.3 421.3
Sir Ddinbych 3.5 12.4 5.4 19.6 432
Sir Fflint 5.6 9.5 4.1 15.7 458.4
Wrecsam 2.8 10.3 5 18.2 459.7
Powys 4.7 10.8 4.1 14.3 410.5
Ceredigion 2.1 9.5 5 12.8 406.4
Penfro 4.8 11.8 4.3 17.8 431.7
Caerfyrddin 4.1 12.1 5.1 20.8 421.8
Abertawe 4.2 10.7 5.9 21 460.3
Castell Nedd Port Talbot 4.4 11.8 6.2 27.1 479.3
Pen y Bont 4 10.7 6 23.6 427.6
Bro Morgannwg 5.4 9.8 5.3 16.8 534.9
Caerdydd 4.2 8.5 6.3 17.7 483.2
Rhondda, Cynon, Taf 4.9 11.1 6 25.8 423
Merthyr Tydfil 5 11.3 7.5 30.6 388.6
Caerffili 4.5 10.3 6.7 26 412
Blaenau Gwent 5 12.1 7.4 30.1 361.6
Torfaen 5.4 11 7 22.8 427.7
Mynwy 5 10.1 3.5 13.8 509.9
Casnewydd 4.4 9.8 6.4 21.6 443.6

Data i gyd o datablog

Os ydych chi eisiau byw i fod yn hen _ _ _

_ _ _ ewch i fyw i Sir Geredigion _ _ _

Disgwyliad bywyd dynion 0 oed Disgwyliad bywyd dynion 65 oed Disgwyliad bywyd merched 0 oed Disgwyliad bywyd merched 65 oed
Cyfartaledd Cymru 77.2 17.4 81.6 20.1
Ynys Môn 76.7 17.4 81.9 20.4
Gwynedd 77.3 17.4 82 20.4
Conwy 77.1 17.9 81.5 20.5
Sir Ddinbych 77.9 18.2 81.3 20.1
Sir y Fflint 78.1 17.5 82 20.2
Wrecsam 77.4 17.4 81.2 19.8
Powys 79.5 18.6 83.2 21.4
Ceredigion 80.4 19.9 84.1 22.3
Sir Benfro 77.3 17.6 82.2 20.3
Sir Gaerfyrddin 77.3 17.3 81.3 20
Abertawe 76.9 17.5 81.6 20.2
Castell-nedd Port Talbot 76.2 16.9 80.7 19.6
Pen-y-bont ar Ogwr 76.4 16.9 81.2 19.9
Bro Morgannwg 78.2 18 82.6 20.9
Caerdydd 77 17.2 81.8 20.3
Rhondda Cynon Taf 75.5 16.4 80 18.8
Merthyr Tudful 74.6 16 79.3 19
Caerffili 76.1 16.5 81.1 19.5
Blaenau Gwent 75.6 16.4 79.1 18.5
Tor-faen 76.8 17 81 20
Sir Fynwy 79.5 18.7 83.3 21.5
Casnewydd 76.7 17 81.8 20.3

_ _ _ a pheidiwch a dweud nad ydych yn dysgu unrhyw beth defnyddiol ar flogmenai chwaith!

Data i gyd o datablog.

Ydi Rod Liddle yn hilgi?


Fedra i ddim peidio sylwi bod nifer ar y blogosffer Cymreig yn flin oherwydd i rhywun nad oeddwn erioed wedi clywed amdano tan ddoe o’r enw Rod Liddle, wneud sylwadau gwrth Gymreig. Yn wir mae Mabon wedi mynd mor bell a riportio’r creadur rhyfedd i’r heddlu am hiliaeth. Ymddengys mai erthygl ganddo sy’n argymell taflu S4C i fin sbwriel hanes sydd wedi codi’r holl stwr. Mae’r dyfyniad isod yn rhoi blas o oslef yr erthygl:

What an epic waste of money just to assuage the sensibilities of some of those miserable, seaweed munching, sheep-bothering pinch-faced hill tribes who are perpetually bitter about having England as a next door neighbour. S4C has become a state funded sinecure for the utterly talentless, the dregs who cannot even get a job at HTV (Cymru);

Os ydych (am rhyw reswm neu’i gilydd) eisiau darllen y campwaith yng nghyflawnder ei ogoniant llachar, gallwch edrych yma.

Mae’n gwestiwn digon diddorol os ydi Rod yn hilgi neu beidio. Ar un llaw mae Syniadau yn gwbl gywir i nodi mai gwlad ydi Cymru, ac nid hil, ac nad ydi sylwadau Rod yn rhai hiliol felly.

Ar y llaw arall mae rhywbeth digon anymunol yn ymgais Rod i briodoli nodweddion corfforol (pinch faced), moesol (sheep-bothering), cymeriadol (miserable, bitter, talentless dregs), anymunol i’r Cymry. ‘Dydi hyn ddim yn ei wneud yn hiliol wrth gwrs, ond mae’n awgrymu bod ganddo ffordd ryfedd iawn o edrych ar y byd.

Mae ymgais i gysylltu’r Cymry efo nodweddion corfforol, emosiynol a moesol anghynnes yn eithaf cyffredin ymysg criw bach o ysgrifenwyr gwrth Gymraeg. Ystyrier AA Gill er enghraifft:

(The Welsh are) oquacious, dissemblers, immoral liars, stunted, bigoted, dark, ugly, pugnacious little trolls.

Neu Jeremy Clarkson:

It’s entirely unfair that some people are born fat or ugly or dyslexic or disabled or ginger or small or Welsh. Life, I’m afraid, is tragic

Mi fedrwn fynd ymlaen am dipyn yn dyfynnu’r math yma o beth (yn arbennig yn achos Clarkson). Rwan, yr hyn sydd yn drawiadol (ac ychydig yn sbwci) am y bobl ‘ma ydi’r ymdrech maent yn mynd iddo i geisio creu gwahaniaethau hiliol rhwng Cymry a Saeson. Mae yna gyd destun hanesyddol i hyn wrth gwrs. ‘Dydi o ddim yn ormodiaeth i ddweud bod hiliaeth yn un o syniadaethau creiddiol yr Ymerodraeth Brydeinig yn ystod Oes Fictoria, a bod chwilio am fan wahaniaethau hiliol yn rhywbeth o obsesiwn cenedlaethol.

Roedd damcaniaethau yn ymwneud ag uwchraddoldeb ac is raddoldeb hiliol yn gyffredin iawn ar y pryd – roedd Phrenology yn esiampl o hyn. Roedd llyfrau lu yn cael eu hysgrifennu ar y pwnc. Yr enwocaf efallai oedd Robert Knox – The Races of Men 1850, ond roedd llawer iawn o rai eraill hefyd.

Un o ddeilliannau hyn oedd bod y Fictorianiaid gyda ffordd wahanol iawn i ni o edrych ar y Byd. Roeddynt yn graddio pobl yn ol eu deallusrwydd – ac yn wir yn ol eu hawl i gael eu hystyried yn ddynol. Roedd y Celtiaid yn gymharol uchel yn nhrefn pethau – tua hanner ffordd i lawr yr ysgol – pobl dywyll iawn eu crwyn oedd ar y gwaelod – gyda’r Hotentots druan yn dal yr holl bentwr i fyny. Nid oes rhaid dweud wrth pwy oedd ar ben y rhestr.

Mae’r adroddiad a adwaenir fel Brad y Llyfrau Gleision yn adlewyrchu’n aml rhai o’r rhagfarnau Seisnig yn erbyn y Cymry – diffyg moesoldeb rhywiol ac ati. Mae’r un rhagfarnau i’w gweld yng ngwaith Caradoc Evans.

Roedd y rhagfarnau gwrth Wyddelig yn fwy eithafol wrth gwrs. Er enghraifft, mewn llythyr at ei wraig nododd Charles Kingsley wedi ymweliad a Sligo yn 1860:

I am haunted by the human chimpanzees I saw along that hundred miles of horrible country. I don’t believe they are our fault. I believe … that they are happier, better, more comfortably fed and lodged under our rule than they ever were. But to see white chimpanzees is dreadful; if they were black, one would not feel it so much, but their skins, except where tanned by exposure, are as white as ours.

Er gwaethaf y newidiadau sylweddol mewn agweddau cymdeithasol tuag at hil a hiliaeth yn ddiweddar, mae’r hen agweddau hiliol wedi eu gwreiddio’n dwfn, ac maent yn llawer, llawer mwy cyffredin nag y byddech yn ei gredu o’r cyfryngau torfol.

Rwan dydi’r gyfraith ddim yn caniatau dilorni pobl o hiliau eraill bellach, felly ‘dydi hi ddim yn hawdd i bobl fel Clarkson, Liddle a Gill wneud sylwadau hiliol am bobl sydd o hiliau gwahanol iddyn nhw eu hunain. Felly maent yn gwneud sylwadau hiliol am bobl sydd o’r un hil a nhw eu hunain, ac yn chwilio am wahaniaethau hiliol er mwyn cyfiawnhau’r rheini.

Rhyw fath o siwdo hiliaeth ydi hyn mewn gwirionedd. Yr hyn y byddant yn hoffi ei wneud mewn gwirionedd fyddai gwneud sylwadau cyhoeddus sy’n dilorni pobl o Bacistan, India, y Caribi a’r gwledydd Arabaidd. Ond fedra nhw ddim – felly maent yn gwneud y peth agosaf posibl at hynny.

Felly ydi sylwadau Liddle am y Cymry yn hiliol? Nac ydynt wrth gwrs, mae Liddle yn perthyn i’r un hil a’r Cymry. Ond – serch hynny – mae’n gwbl rhesymol i gasglu bod Liddle, Gill, Clarkson et al yn hilgwn mewn gwirionedd gan eu bod yn mynd o’u ffordd i ddod mor agos a phosibl i wneud sylwadau hiliol yn gyhoeddus. Hiliaeth yr hilgi llwfr o bosibl – hilgwn sydd heb y gyts i sefyll yn gyhoeddus tros eu daliadau anymunol. Yn wir mae’r tri wedi cael eu cyhuddo o hiliaeth ar sawl achlysur yn y gorffennol. Ni fyddai’n syndod o fath yn y byd deall bod eu hagweddau a’u hymgom preifat yn uwd o hiliaeth – yn union fel eu hen deidiau Fictorianaidd.

Acenion a ‘ballu eto

‘Dwi wedi son am hyn o’r blaen, ond mae sylwadau Simon, yn nhudalen sylwadau y blogiad diwethaf, am eiriau Cymraeg yn diflanu o ganlyniad i gael eu defnyddio mewn ffordd ychydig yn wahanol yn y Saesneg wedi gwneud i mi feddwl am y busnes acenion yma eto.

Mae acenion yn dweud mwy wrthym am bobl nag o ble maent yn dod – maent hefyd yn dweud wrthym am sut mae pobl yn gweld eu hunain, a sut maent am i eraill eu gweld. Mae acenion hefyd yn newid yn barhaus. Er enghraifft, ‘dwi ddim yn amau nad ydi fy acen i ychydig yn wahanol pan ‘dwi wrth fy ngwaith o gymharu a phan rwyf yn siarad gyda phobl oedd yn ffrindiau ysgol i mi. Yn sicr byddaf yn sylwi ar hyn mewn pobl eraill. Pan ‘dwi i ffwrdd o’r Gogledd ‘dwi’n ddiarwybod i mi fy hun bron yn meirioli fy acen Ogleddol gref yn y Saesneg a’r Gymraeg fel ei gilydd.

Mae’r wraig wedi ei magu yng Nghaerdydd, ond mae wedi byw y rhan fwyaf o’i bywyd yng Nghaernarfon. Pan fydd yn siarad ei hiaith gyntaf – Saesneg – mae ganddi acen Gaerdydd gref, pan mae’n siarad y Gymraeg mae’n siarad efo acen sy’n ddigon nodweddiadol o bobl ochrau Caernarfon. ‘Dwi’n ‘nabod llawer o fewnfudwyr eraill sy’n siarad y Saesneg yn eu hacenion rhanbarthol (Seisnig gan amlaf), ond sy’n siarad y Gymraeg yn ddigon tebyg i’r ffordd y byddaf i yn gwneud hynny. Mae gen i bump o blant, ac mae yna wahaniaeth yn eu hacenion hwy. Mae dau yn defnyddio acen mwy dosbarth gweithiol na’r tri arall. ‘Dwi’n meddwl mai pwy oedd yn digwydd bod yn ffrindiau efo nhw yn yr ysgol oedd yn gyrru hyn.

Ac mae acenion rhanbarthol yn newid wrth gwrs. Yr esiampl mwyaf enwog o hyn mae’n debyg gen i ydi ymlediad Estuary English ar hyd a lled De Lloegr. Acen (neu grwp o acenion efallai) ydi hon sydd yn defnyddio llawer o nodweddion acen ddosbarth gweithiol Llundain, ond sydd eto’n wahanol iddi. Mae’r acen hon nid yn unig wedi ymwthio i ardaloedd daearyddol gwahanol ond mae hefyd wedi ymwthio i fyny’r ysgol gymdeithasol hefyd. Mae yna ddylanwad Estuary English ar y ffordd y bydd wyrion brenhines Lloegr yn siarad.

Mae’n debyg mai newidiadau cymdeithasol sydd y tu cefn i hyn. Mae yna lawer iawn o deithio i’r gwaith a mudo mewnol yn Ne Lloegr y dyddiau hyn, ac efallai bod hynny wedi torri rhai o’r hen raniadau daearyddol, a bod hynny yn ei dro yn rhoi llai o reswm i bobl fod eisiau diffinio eu hunain trwy ddefnyddio acen sy’n gysylltiedig a rhannau cyfyng o Dde Lloegr. Yn yr un ffordd mae newidiadau economaidd tros yr hanner can mlynedd diwethaf wedi gwneud y llinellau rhwng pobl o ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol yn llai eglur o lawer, ac o ganlyniad ‘dydi pobl ddim yn teimlo’r angen i ddefnyddio eu hacen i fynegi eu statws dosbarth.

‘Dwi’n meddwl i mi son o’r blaen ei bod yn ymddangos i mi bod y gwahaniaeth rhwng acenion lleol yn y Gogledd Orllewin yn llai nag y buont. Pan oeddwn i yn yr ysgol roedd gwahaniaeth amlwg iawn rhwng acen tref Caernarfon, ac acen y pentrefi chwarel o’i gwmpas. Roedd yna hyd yn oed wahaniaeth rhwng y gwahanol bentrefi chwarel. Mae hyn yn wir o hyd, ond ‘dwi’n meddwl ei fod yn llai amlwg nag y bu. Ers talwm roedd pobl y chwareli a phobl Caernarfon yn gweithio mewn llefydd gwahanol, ond ‘dydi hyn ddim yn wir ers i’r chwareli gau – maen nhw’n gweithio yn yr un llefydd. Mae acen Cofis Dre wedi effeithio ar acen Cofis Wlad, ac mae acen Cofis Wlad wedi effeithio ar acen Cofis Dre. Mae’r gwahaniaeth yn fwy rhwng acen Arfon ag un Dwyfor, ond (yn fy marn i) mae acenion pobl ifanc yn Nwyfor wedi dechrau magu rhai o nodweddion ochrau Caernarfon.

Roeddwn yn digwydd siarad efo rhywun o Bontyclun ddoe. Mae’r pentref wrth gwrs i’r Gogledd Orllewin o Gaerdydd, ac heb fod ymhell o’r M4. Roedd yn mynegi’r farn bod acen y pentref wedi Cymreigio llawer ers iddo fod yn blentyn yno (ac wedi mynd yn fwy tebyg i acen y Cymoedd am wn i). Yn rhyfedd ‘dwi wedi rhyw sylwi bod swn llawer mwy Cymreig i acen pobl ifanc sydd wedi eu magu yng Ngogledd Caerdydd nag y bu. Mae cariad un o’r meibion yn dod o Ogledd Caerdydd, a thra nad yw ei hacen fel un (dyweder) Pontypridd, mae’n llawer mwy nodweddiadol o’r Cymoedd nag ydi un fy ngwraig. Mae’n debyg bod pobl Caerdydd yn y gorffennol yn ystyried eu hunain ychydig yn wahanol i weddill Cymru, a bod eu hacen yn adlewyrchu hynny. Mae’n debyg mai mudo mewnol yn y De sydd wedi erydu’r canfyddiad yma i raddau, ond mae ffactorau eraill ar waith – mae Caerdydd ei hun wedi Cymreigio o ran agweddau ei thrigolion cynhenid hefyd – mae’n debyg yn sgil ei datblygiad fel prif ddinas.

Oes yna unrhyw un arall efo sylwadau ynglyn a newidiadau mewn acenion mewn rhannau eraill o Gymru?

Pam na chaiff Cymru ostyngiad yn y Dreth Gorfforiaethol?

Mi wnes i ddigwydd dod ar draws y dyfyniad yma o gytundeb clymbleidiol y Lib Dems a’r Toriaid. Yn amlwg, cyfeirio at Ogledd Iwerddon mae’r darn:

We will work to bring Northern Ireland back into the mainstream of UK politics, including producing a government paper examining potential mechanisms for changing the corporation tax rate in Northern Ireland.

A gadael o’r neilltu idiotrwydd ceisio dod a Gogledd Iwerddon i’r mainstream of UK politics trwy greu cyfundrefn drethiannol wahanol i Ogledd Iwerddon nag i weddill y DU, mae’r datganiad yn codi mater digon diddorol, a pherthnasol i ni yma yng Nghymru.

Un o’r prif bileri sy’n cynnal cyfoeth diweddar Iwerddon ydi’r ffaith bod y wlad wedi llwyddo i ddenu cyfanswm anhygoel o fuddsoddiad tramor i mewn i’r wlad. Yn y gorffennol roedd hyn yn anodd – wedi’r cwbl pa fusnes fyddai’n trafferthu lleoli ar ynys anghysbell ar gyrion Ewrop sydd ymhell o farchnadoedd mawr Ewrop a thalu am yr holl gostau trafnidiaeth? Llwyddodd y Weriniaeth i wneud iawn am y broblem ddaearyddol yma trwy osod y raddfa dreth corfforiaethol (hy y dreth mae cwmniau yn ei dalu ar eu helw) yn is na’r unman yn Ewrop. Mae treth corfforiaethol y Weriniaeth yn 12.5% o gymharu a 21% i 28% yn y DU (yn ddibynnol ar faint y cwmni), 37.5% yn yr Eidal neu 33.33% yn Ffrainc er enghraifft.

Rwan, mae’n hawdd gweld pam bod hyn yn broblem yng Ngogledd Iwerddon. Does yna’r un cwmni cynhyrchu am leoli yn Newry (dyweder) pan y gallent leoli ychydig filltiroedd tros y ffin yn Dundalk a thalu efallai hanner y dreth corfforiaethol. Un o’r rhesymau am dlodi Gogledd Iwerddon ydi nad ydynt yn gallu cystadlu am fuddsoddiad efo eu cymydog agosaf. Mi fyddai gostwng y dreth corfforiaethol yno yn gwneud synnwyr economaidd llwyr.

Ond y gwir amdani ydi nad ydi ein sefyllfa ni yng Nghymru yn wahanol iawn i un Gogledd Iwerddon. Rydym ymhell o farchnadoedd Ewrop, ond mae gennym yr un dreth corfforiaethol na sydd gan De Lloegr – rhanbarth sy’n agos at farchnadoedd y cyfandir, a sydd hefyd yn ddigon poblog a chyfoethog i fod yn farchnad sylweddol ar ei liwt ei hun. Rydym hefyd yn cystadlu efo’e economi dreth isel sydd i’r Gorllewin i ni. Os ydi’r glymblaid yn ystyried ei bod yn syniad da i ostwng y dreth yma yng Ngogledd Iwerddon, beth ydi’r broblem os caiff ei gostwng yng Nghymru?