Blogiadau o’r gorffennol – rhif 4

Fel llywodraeth Tony Blair (yn ol Alistair Campell) dydi Blogmenai ddim yn ‘gneud’ crefydd fel arfer, ond cafwyd ambell i eithriad prin. Daw’r blogiad isod sy’n cymharu dirywiad crefydd yng Nghymru efo nerth ymddangosiadol Islam yn Nhwrci o fis Ebrill 2008.

Mae gen i flog arall ar gyfer ysgrifennu nodiadau am deithiau, ond wedi ‘sgwennu hwn a’i ddarllen, ‘dwi’n rhyw feddwl mai blogmenai ydi’r lle mwyaf addas ar ei gyfer rhywsut.

Newydd dreulio deg diwrnod yn Istanbul – cyn brif ddinas yr ymerodraeth Ottoman, un o brif ganolfanau masnach y byd am filoedd o flynyddoedd, ac un o ddinasoedd mwyaf poblog y byd (poblogaeth swyddogol o 9 miliwn – gwir boblogaeth unrhyw beth hyd at 18m). Er bod Twrci yn wladwriaeth seciwlar o ran cyfansoddiad, ac er bod yr elit cymdeithasegol a’r fyddin (sefydliad hynod bwerus yn Nhwrci) yn driw iawn i werthoedd y cyfansoddiad hwnnw, Mwslemiaid pybyr ydi’r mwyafrif llethol o drigolion y wlad.

Nid yw’r ffaith yma’n gwbl amlwg ym mhrif ganolfanau twristaidd canol y ddinas. Lleiafrif o’r merched ar y strydoedd hyn sy’n gwisgo yn null traddodiadol merched Islamaidd Twrci – ffrogiau llaes at eu traed a sgarff i guddio eu gwalltiau. Mae’r actorion yn yr operau sebon a darllenwyr y newyddion ar deledu’r gwesty yn ymddangosiadol gwbl Orllewinol. Mae siopau, bariau a thai bwyta sy’n gwerthu alcohol yn gyffredin iawn.

Gwir bod tyrau mosgiau i’w gweld i bob cyfeiriad, a gwir bod y llafarganu sy’n cymell pobl i weddio yn atseinio tros y ddinas bum gwaith pob dydd – yn unol a gorchymyn y Koran. Serch hynny y prif ymdeimlad a geir yn y lleoedd hyn yw o ddinas brysur, fywiog, gosmopolitaidd, seciwlar ei natur.

Ond nid oes rhaid i ddyn grwydro ymhell o’r prif strydoedd masnachol i weld darlun arall cwbl wahanol. Mae Istanbul wedi ei lleoli ar gyfres o fryniau sydd wedi eu hamgylchu a moroedd a sianeli dwr mor sylweddol – Y Corn Aur, Y Bosfforus a Mor Marmara. Tuedda’r canolfannau sy’n boblogaidd gyda thwristiaid fod ar ben rhai o’r bryniau hyn. Ar y llethrau sy’n arwain i lawr at y moroedd ceir clytwaith enfawr o gymdogaethau tlawd – rhai ohonynt yn ymddangosiadol dlawd iawn. Mae’n fyd cwbl, cwbl wahanol.

Daw’r Trydydd Byd a’r Byd Cyntaf at ei gilydd ar y bryniau yma. Tra bod is strwythur modern effeithiol ar bennau’r bryniau, is strwythur treuenus o wael sydd ar y llethrau – y palmentydd yn dadfeilio mewn aml i le, a’r ffyrdd mewn cyflwr sal. Dim trafnidiaeth cyhoeddus, goleuadau ffordd anigonnol a chyflenwad trydanol na ellir dibynu arno. Mae’r trigolion yn byw mewn adeiladau sy’n ganoedd o flynyddoedd o ran oed, a phrin bod llawer ohonynt mewn cyflwr digonol i gadw’r glaw a’r oerni allan. Ceir ambell i dan yn llosgi ar y palmentydd ac mae’r pentyrau o sbwriel sydd ar ochr y lon yma ac acw yn awgrymu nad ydi’r gwasanaeth hel sbwriel yn effeithiol iawn chwaith.

Mae ethos Islamaidd y cymdogaethau hyn yn gwbl amlwg. Ychydig iawn o fariau neu gaffis sy’n gwerthu alcohol. Ceir mosg ar bron i bob bloc, a phan fydd yr uchel seinyddion sydd ar eu tyrau yn galw pobl i weddio, mae’r swn sy’n syrthio o bob cyfeiriad ar yr un pryd yn fyddarol ac yn ymylu ar fod yn ormesol. Mae’r merched bron yn unffurf o ran dillad yn eu parchusrwydd Moslemaidd.

Ac eto – wedi dweud hyn oll, dydi’r cymdogaethau hyn ddim yn llefydd anymunol i fod ynddynt. Mae dyn yn teimlo’n gwbl ddiogel yno (diogel oddi wrth y trigolion o leiaf – mae’r tyllau yn y ffyrdd a’r dreifio lloerig yn faterion cwbl wahanol). Ni ellir dweud hyn am lawer o gymdogaethau tlawd, a rhai sydd ddim mor dlawd, yn ninasoedd mawr Lloegr. Mae nifer o gymunedau felly gyda pheryglon i’w thrigolion ei hun, heb son am i bobl sy’n gwbl amlwg yn dramorwyr. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl o’r diwylliant cyffuriau sy’n creithio cymaint o gymdogaethau tlawd yn y DU.

Maent yn gymdogaethau distaw a chymdeithasegol drefnus yr olwg. Yr unig yfed cyhoeddus sydd i’w weld ydi dynion (a dynion yn unig) yn yfed yn y tai te. Bydd ychydig o laslanciau yn chwarae peldroed ar y ffordd yma ac acw. Byddant yn llusgo plant man i’w canlyn, neu’n cario babis yn eu breichiau (dydi’r palmentydd ddim digon da i ddefnyddio coets). Ceir ychydig o fusnesau yma ac acw – siop cebab, becws neu siop llysiau a ffrwythau – ac yma ceir y dynion (neu’r rhai nad ydynt yn yfed te o leiaf). Anaml iawn, iawn y gwelir dynes yn gweithio.

Wrth gerdded trwy’r strydoedd hyn roedd yn anodd peidio a meddwl am fy nyddiau Sul yn ystod y deg blynedd a dreuliais i yn byw mewn cymuned lle’r oedd crefydd yn rhan o’i gwead. Deg blynedd cyntaf fy mywyd ym Mhenisarwaun, Arfon rhwng 1960 ac 1970 oedd y rhain.

Mae’n debyg gen i nad ydi Cristnogaeth yng Nghymru wedi treiddio i bob agwedd ar fywyd pob dydd pobl yn y ffordd mae Islam yn gwneud hynny ers yr Oesoedd Canol. Serch hynny roedd crefydd yn y Gymru Anghydffurfiol yn rhan o wead naturiol bywyd – yn arbennig felly ar y Sul, a pharhaodd pethau i fod felly nes iddi farw yn ddisymwth oddeuty 1970 – pan oeddwn i’n ddeg oed. Mae’n debyg gen i mai fy nghenhedlaeth i fydd yr un olaf i gofio’r Gymru, Gymraeg Anghydffurfiol.

Roedd dyddiau Sul ym Mhenisarwaun y 60au yn ddigon tebyg i ddyddiau Sul Oes Fictoria. Ar un ystyr goroesodd Oes Fictoria ar hyd llawer o’r Gymru Gymraeg ymhell i mewn i ail hanner y ganrif ddiwethaf.

Teulu Pabyddol oeddym ni – o leiaf i’r graddau bod fy nhad yn Babydd, ac roeddem ninnau yn bedwar o blant wedi ein magu yn y ffydd honno. Roedd hi’n orfodol o dan gyfreithiau’r Eglwys i blant o briodasau cymysg gael eu magu’n Babyddion bryd hynny. Bedyddwraig ydi mam, er ei bod yn un o ddisgynyddion John Elias – un o gymeriadau allweddol Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Un teulu, neu yn hytrach un unigolyn Pabyddol arall oedd yn byw ym Mhenisarwaun tan tua 1967. Symudodd teulu Pabyddol o Lerpwl i’r pentref tua’r adeg honno – rhagflaenwyr cynnar y tonnau mawr o fewnfudo a dorrodd tros rannau mawr o’r Gymru Gymraeg tros y degawdau dilynol. A dyna ni, tri theulu Pabyddol mewn cymuned o ddau neu dri chant o deuluoedd Protestanaidd – Anghydffurfwyr gan fwyaf. Oherwydd ein bod mewn lleiafrif mor fychan, roedd ein gwerthoedd cymunedol yn cydymffurfio yn agos a rhai’r gymuned yr oeddym yn byw ynddi – a chymuned Brotestanaidd oedd honno.

Roedd ein cymdogion yn addoli’n lleol – yn yr Eglwys Anglicanaidd leol, neu yn un o’r pedwar capel Anghydffurfiol lleol. Roeddem ni’n addoli y tu allan i’r pentref – mam yn Neiniolen am nad oes capel Bedyddwyr ym Mhenisarwaun a ninnau yn yr eglwys Babyddol yng Nghaernarfon gan amlaf. Weithiau byddem yn mynd i Fangor pan oedd Offeren Gymraeg yno.

Ond ym mhob ffordd arall roedd ein Suliau ni yn union fel rhai ein cymdogion. Nid oeddym yn mynd allan i chwarae – roedd clo ar giat cae swings pob dydd Sul ac nid oeddym yn cael chwarae yn yr ardd ffrynt chwaith. Ar ddiwrnodiau braf yn yr haf byddwn yn cael chwarae yn yr ardd gefn, ar yr amod ein bod yn gwneud hynny’n ddistaw bach. ‘Dydi Pabyddion ddim yn poeni rhyw lawer am hamddena ar y Sul, ond roeddym ni yn plygu i ddisgwyliadau’r gymuned ehangach. Yn yr un modd byddem yn gwisgo dillad dydd Sul – yn union fel ein cymdogion, er bod Pabyddion mewn gwledydd Pabyddol yn aml yn gwisgo’n ddigon anffurfiol mewn gwasanaethau cyffredin.

‘Doedd yna ddim tafarn ym Mhenisarwaun bryd hynny, er bod nifer wedi bod yn y cylch yn y gorffennol. Cafwyd cais i agor clwb yn y pentref gan Sais o’r enw Jack Nix yn y blynyddoedd hyn, gyda’r bwriad o gymryd mantais o’r ffaith bod tafarnau pentrefi cyfagos i gyd ar gau ar y Sul yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd fy rhieni ynghanol ymgyrch chwyrn i atal y datblygiad – ac roedd yr ymgyrch yn un chwyrn, cafodd yr adeilad ei fomio ar un adeg. Unwaith eto roedd hyn yn agwedd ryfedd i Babyddion – ‘dydi yfed alcohol ar ddydd Sul nac ar unrhyw ddiwrnod arall ddim yn bechod i Babyddion. Roedd Crist yn yfed alcohol wedi’r cwbl. Pechu o ganlyniad i yfed fyddai’r broblem yn hytrach na’r weithred ei hun.

O ran diddordeb, llwyddo wnaeth y cais am drwydded clwb yn y pen draw, a bu canolfan yfed digon llwyddianus ym Mhenisarwaun am flynyddoedd. Yn eironig ddigon canlyniad y refferendwm ar agor tafarnau ar y Sul yn y saithdegau a laddodd y lle yn y pen draw. Y digwyddiad hwn oedd cloch cnul y Gymru Anghydffurfiol yn Arfon – er bod y Gymru honno wedi marw erbyn hynny mewn gwirionedd. Roedd y sefydliad yn ddibynol iawn ar yfywyr dydd Sul o Ddeiniolen, Llanrug a Llanberis. Gydag agoriad y Bull, Pen Bont a’r Victoria ar y Sul, collodd y clwb ei farchnad. Cartref hen bobl sylweddol iawn o ran maint sydd ar y safle erbyn heddiw.

Ar y pryd roedd pethau yn edrych yn ddigyfnewid ac yn barhaol. Ar un wedd mae’n rhyfeddol i’r Gymru honno farw mor ddi symwth a mor ymddangosiadol ddi rybudd. O edrych yn ol, fodd bynnag, mae’n weddol hawdd arenwi’r grymoedd hynny oedd ar waith yn tanseilio’r seiliau.

Roedd gwrthdaro mewnol yn rhan o’r fframwaith deallusol oedd yn cadw’r holl sioe Anghydffurfiol ar ei thraed. Wedi’r cwbl cyfaddawd efo seciwlariaeth ydi Protestaniaeth yn ei hanfod – gwahoddiad agored i ddyn ddod o hyd i Dduw ar ei ben ei hun. Pan roedd y dylanwadau diwylliannol oedd yn effeithio ar bobl yn gyfyng, a phan roedd y traddodiad crefyddol Cymreig yn bwysicach na’r un o’r dylanwadau hynny, roedd canfyddiad pobl o Dduw yn weddol unffurf.

Ond pan gynyddodd yr amrediad o ddylanwadau diwylliannol y tu hwnt i bob disgwyliad yn ail hanner y ganrif ddiwethaf (yn rhannol yn sgil twf enfawr rhai o’r cyfryngau torfol), newidiodd y canfyddiad o Dduw hefyd – ac wrth gwrs mae’r traddodiad Protestanaidd yn gwahodd pobl i ddiffinio eu Duw eu hunain. Pan mae’r byd yn gymhleth, mae’r diffiniad o Dduw hefyd yn gymhleth – a ‘dydi Duw cymhleth ddim o unrhyw werth i neb. ‘Dydi Duw o’r fath ddim gwerth credu ynddo, ac yn bwysicach na hynny ni all Duw o’r fath gynnal gwerthoedd cymunedol cytunedig.

Roedd yn afresymol credu y gallai cestyll cyfundrefn grefyddol oroesi yn yr hir dymor ar fryniau tywod seciwlar – ac felly cyfnewidiol. Roedd y cestyll yn sicr o gael eu sgubo i’r mor gan donnau seciwlariaeth yn hwyr neu’n hwyrach.

‘Dydi Islam ddim yn wynebu’r problemau hyn wrth gwrs. Yn gwahanol i is strwythur diriaethol strydoedd Istanbul, mae’r is strwythur diwynyddol a deallusol yn gadarn. ‘Does yna ddim cyfaddawd efo systemau rhesymu seciwlar – mae’r canfyddiad o Dduw yn cael ei ddiffinio’n allanol – a Duw syml iawn ydi hwnnw.

‘Dydi’r gwledydd Mwslemaidd ddim wedi bod trwy chwyldro Ffrengig chwaith – yn gwahanol i dir mawr Ewrop. O ganlyniad nid oes fframwaith ideolegol seciwlar i gystadlu efo’r un grefyddol. Mae’r cestyll Islamaidd yn gwbl ddiogel ar hyn o bryd – nid ydynt wedi eu seilio ar dywod fel Anghydffurfiaeth Cymreig, ac nid oes cystadleuaeth o du ideolegau seciwlar megis y Chwyldro Ffrengig.

Capeli Penisarwaun – Jehofa Jeira – Wesleiaid – wedi ei droi’n dy.

Bosra – Annibynwyr – yma o hyd.

Glasgoed, Hen Gorff – wedi ei droi’n dy.

Mae Ysgoldy – Hen Gorff wedi ei ddymchwel.

A pherfedd y Mosg Glas yn Istanbul.

Crefydd a’r Cymry

Rhestr a geir isod o hunaniaeth crefyddol pobl yn yr Alban, Cymru a Lloegr – hynny yw sut mae pobl yn diffinio eu hunain o ran crefydd.

Lloegr Cymru Yr Alban Y DU
Cristnogaeth 71.4 69 72.3 71.4
Bwdiaeth 0.4 0.3 0.2 0.4
Hindwiaeth 1.5 0.4 0.4 1.4
Iddewiaeth 0.6 0.1 0.1 0.5
Mwslemiaeth 4.7 1.2 1.2 4.2
Siciaeth 0.7 0.1 0.1 0.6
Arall 1.1 0.9 0.9 1.1
Di Grefydd 19.6 28 24.7 20.5

Yr hyn sy’n drawiadol ydi bod Cymru yn llai crefyddol, ac yn llai Cristnogol na’r gwledydd eraill. Dylid ychwanegu efallai bod y DU yn un o’r gwladwriaethau lleiaf crefyddol yn Ewrop – sy’n golygu bod Cymru yn un o wledydd lleiaf crefyddol Ewrop – os nad y Byd.

Mae hyn yn gryn newid o fewn cyfnod o ddwy genhedlaeth. Hyd 1960au’r ganrif ddiwethaf roedd Cymru ymysg y rhannau mwyaf crefyddol o Ewrop ar sawl cyfrif. Rydym wedi ceisio cynnig eglurhad am y newid syfrdanol yma.

Os oes gennych ddiddordeb mewn sut mae eich rhan chi o Gymru yn cymharu a gweddill y wlad, gweler isod:

Crefyddol Di grefydd
Ynys Mon 77 23
Blaenau Gwent 67 33
Penybont 71 29
Caerffili 67 33
Caerdydd 71 29
Caerfyrddin 72 28
Ceredigion 77 23
Conwy 71 29
Dinbych 76 24
Fflint 81 19
Gwynedd 72 28
Merthyr Tydfil 75 25
Mynwy 77 23
Castell Nedd Port Talbot 68 32
Casnewydd 77 23
Penfro 73 27
Powys 72 28
Rhondda, Cynon, Taf 69 31
Abertawe 67 33
Torfaen 69 31
Bro Morgannwg 75 25
Wrecsam 71 29

Roedd rhaid i mi edrych ddwywaith o weld mai Fflint ydi’r ardal fwyaf crefyddol yn y wlad – ond erbyn meddwl, Fflint o bosibl ydi’r ardal fwyaf Seisnig yng Nghymru – ac mae’n dilyn felly bod eu canran nhw yn nes at un Lloegr nag ydyw at un Cymru.

Data i gyd o’r Integrated Household Survey.

Ymweliad y Pab a Llais Gwynedd

Mae’n ddiddorol nodi i Lais Gwynedd ddangos amheuon ynglyn ag ymweliad y Pab a Phrydain (neu a’r Ynys a defnyddio term anarferol braidd Llais Gwynedd) yn ddiweddarach eleni. Mae’r meicroblaid mewn cwmni eithaf da yn eu amheuon – mae Urdd Oren Iwerddon yn gwrthwynebu’r ymweliad yn llwyr, tra bod sefyllfa Urdd Oren yr Alban ychydig yn fwy cymodlon (ond cymhleth) – ‘dydyn nhw ddim yn croesawu’r ymweliad, ond dydyn nhw ddim yn gwrthwynebu chwaith. Mae’r ddau fudiad yn credu mai’r Pab ydi’r Gwrth Grist. Tra bod y gred yna’n un rhyfedd o safbwynt y rhan fwyaf o bobl, mae’n debyg ei bod yn rhesymegol i’r Urddau Oren wrthwynebu ymweliad gan y Gwrth Grist os ydynt yn credu mai dyna pwy sy’n dod yma ym mis Medi mewn gwirionedd.

Dyna’n sicr mae Ian Paisley yn ei gredu, ond ar sail sgandalau diweddar yn yr Eglwys mae’n gwrthwynebu’r ymweliad y tro hwn. Roedd o hefyd yn gwrthwynebu’r ymweliad gan y Pab diwethaf yn ol yn ol ym 1982 cyn bod yna son am sgandalau. Y busnes Gwrth Grist oedd yn ei boeni y tro hwnnw. Dyna oedd yn ei boeni yn ol yn 1963 pan ddaeth i sylw’r cyhoedd am y tro cyntaf wrth arwain gwrthdystiad y tu allan i Neuadd y Ddinas yn Belfast oherwydd bod Jac yr Undeb yn chwifio ar hanner mast yn dilyn marwolaeth y Pab Ioan.

Gwrth Babyddiaeth sydd y tu ol i wrthwynebiad Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban hefyd, mae mynychu cynhebrwng Pabyddol yn ddigon i gael rhywun wedi ei daflu o’r Eglwys honno. Ar y llaw arall mae’r anffyddwyr milwriaethys Richard Dawkins a Christopher Hitchins yn edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad oherwydd eu bod nhw’n gobeithio manteisio ar y cyfle i arestio’r Pab am droseddau yn erbyn dynoliaeth.

Os ydw i’n deall safbwynt Llais Gwynedd yn iawn, ‘dydyn nhw yn ddim gwrthwynebu’r ymweliad ond maent o’r farn mai’r Eglwys Babyddol ddylai dalu am pob dim sy’n ymwneud a hi. Mi fyddai’n hynod o anarferol os nad unigryw disgwyl i arweinydd gwleidyddol, gwladol neu grefyddol sydd wedi derbyn gwahoddiad gan lywodraeth Prydain i ymweld a’r wladwriaeth i dalu am y trefniadau – yn wir byddai gwahoddiad o’r fath yn bur sarhaus. Fel mae’n digwydd yr Eglwys Babyddol sydd yn talu am yr agweddau defosiynol ar yr ymweliad – bydd hyn yn tua £7m. Codir yr arian trwy garedigrwydd noddwyr a thrwy gynnal casgliadau arbennig mewn Eglwysi yn ystod yr Offeren. Bydd y wladwriaeth Brydeinig yn cyfranu (mae’n debyg) £10m i £12m yn ogystal a chostau plismona. Mae’r llywodraeth bresenol ynghyd a’r un flaenorol wedi mynegi eu bod yn hapus efo’r trefniant yma.

‘Rwan a bod yn deg a Llais Gwynedd mae ganddyn nhw pob hawl i’w barn ynglyn a threfniadau talu am yr ymweliadau swyddogol a’r DU. Ond mae hefyd yn deg gofyn pam eu bod yn cymryd yr agwedd yma tuag at yr ymweliad arbennig yma? Wedi’r cwbl anaml y bydd Llais Gwynedd yn mynegi barn ynglyn a gwariant ar lefel Brydeinig (mae hyn yn hollol ddealladwy wrth gwrs – grwp lleol ydynt), er eu bod yn gwneud datganiadau anisgwyl ynglyn a gwariant cyhoeddus ar lefel ehangach na Chymru weithiau – dadlau na ddylid anfon pobl i’r lleuad tra bod pobl yn llewygu ar y Ddaear er enghraifft, neu ddadlau yn erbyn trydaneiddio’r rheilffyrdd.

Mae hefyd yn deg peidio a hoffi rhywbeth neu’i gilydd – gwleidyddion, chwaraeon, crefyddau ac ati (er nad yw’n dderbyniol i fod a rhagfarnau yn erbyn aelodau grwpiau crefyddol wrth gwrs). ‘Dydw i ddim yn hoffi peldroed, ac mae’r gem yn ddrud iawn i’r wladwriaeth. Mae’n anodd cyfrifo beth ydi’r gost i’r wladwriaeth o blismona’r canoedd o gemau peldroed sy’n digwydd yn wythnosol – mae’n debyg ei fod yn ugeiniau o filiynau yn flynyddol. Ond fyddwn ni ddim yn codi hynny fel rhyw fater mawr – mae mynychu gemau peldroed yn rhan digon di niwed o wead bywydau llawer iawn o bobl – yn union fel mae ymarfer y ffydd Babyddol yn rhan o ddiwylliant llawer iawn o bobl hefyd.

Ond pam – o bob dim – mynd ar ol ymweliad gan arweinydd crefyddol fel esiampl o wastraff ariannol ar lefel San Steffan? Bydd gwariant cyhoeddus yn y DU eleni oddeutu £661,000,000,000 neu 55,000 o weithiau’r swm mae Llais Gwynedd yn poeni amdano. Mae yna pob math o wastraff oddi mewn i’r gyllideb yna. Er enghraifft bydd £44,000,000,000 yn cael ei wario ar, ahem, ‘amddiffyn’ eleni. Hwyrach bod yna eitem neu ddwy i fynd ar eu ol yna – yr £8,800,000 sy’n cael ei wario’n flynyddol ar y Red Arrows efallai? Roedd gwariant y llywodraeth (Brydeinig) ar hysbysebu yn £540,000,000 y llynedd. Mae adrannau o’r llywodraeth yn gwario tua £40,000,000 yn flynyddol ar lobio. Mae’n bosibl y bydd adnewyddu Trident yn costio £100,000,000,000 tros y blynyddoedd nesaf (tua 6 gwaith cyllideb flynyddol Cymru). Mae’r rhestr yn un diddiwedd – ond ymweliad y Pab a’r ‘Ynys’ sy’n poeni Llais Gwynedd.

Mae’r hyn yr ydym yn poeni’n gyhoeddus amdano a’r hyn nad ydym yn trafferthu gwneud fawr ohono yn aml yn dweud llawer iawn am ein hagweddau a’n gwerthoedd gwaelodol.

John Dixon (yr un Lib Dem) a’i broblem fach grefyddol

Ymddengys bod y Cynghorydd Lib Dem o Gaerdydd, John Dixon mewn mymryn o ddwr poeth efo’r Ombwdsman llywodraeth leol am gyfeirio at yr Eglwys Scientoleg fel un stupid. Mi gewch chi benderfynu pa mor afresymol ydi canfyddiad John, a pha mor briodol ydi o i’r Ombwdsman wario pres y cyhoedd yn ymchwilio i’r mater.

Awdur oedd yn yfed i raddau ychydig yn ormodol o’r enw L Ron Hubbard ydi tad, mam, nain a thaid y lobs sgows o syniadau yma. Mae’n debyg iddo gymryd bet tra yn ei ddiod y gallai greu ‘crefydd’, cael hanner Hollywood i gredu ynddo a thaflu pres i’w gyfeiriad. Enilliodd y bet.

Dyma’r fytholeg sydd y tu ol i’r crefydd yn fras:

Roedd yna broblem gor boblogi mewn rhyw blaned neu’i gilydd felly dyma’r prif ddyn, Xenu yn mynd a llawer o’r bobl oedd yn ormodol yno i’r Ddaear cyn mynd ati i’w chwythu i abergofiant gyda bomiau niwclear mewn ogof. Yn naturiol ddigon dihangodd eu heneidiau, a adwaenir fel Thetans, ond roedd Xenu gam o’u blaenau – llwyddodd i’w dal nhw i gyd mewn ‘magl eneidiau’, a’u gorfodi i wylio ffilmiau propoganda. O ganlyniad i edrych ar y dywydiedig ffilmiau daeth y Thetans druan i gredu mewn Duw, Iesu Grist a’r Diafol ac maent o gwmpas y lle i gyd yn ceisio gweithio eu ffyrdd i mewn i’n cyrff mewn clystyrau gan achosi pob math o broblemau anymunol i ni oll. Yr ateb i’r holl broblemau a achosir gan hyn ydi rhywbeth o’r enw Dianetics – cysyniad nad oes gan Flogmenai yr ynni i’w drafod yr amser yma o’r nos.

Esgob Bangor

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn ystyried pwy fydd yr Esgob Bangor nesaf.

Ymddengys bod rhai’n poeni y gallai dewis Jeffrey John, Deon St Albans fod yn broblem sylweddol i’r Eglwys Anglicanaidd yn ei chyfanrwydd oherwydd ei fod yn hoyw. Gallai yn wir arwain at hollt yn yr Eglwys honno.

‘Dwi ddim am gynnig cyngor ar y mater i’r Eglwys yng Nghymru – dydw i ddim yn aelod, a fydda i byth.

Serch hynny efallai y dyliwn dynnu sylw at y ffaith bod rhestr yr Eglwys o ymgeisyddion yn un gweddol hir (yn ol y son) – ac mai nid Jeffrey John ydi’r unig ymgeisydd hoyw (lled agored) sydd arni.

Glasgow East a chrefydd – y gwir sefyllfa

Bu cryn dipyn o drafodaeth yn y wasg ac ar y We am effaith tebygol yr hollt gwleidyddol ar ganlyniad is etholiad Glasgow East ddydd Iau. Mae’r erthygl eithaf treiddgar hon yn Sunday Independent heddiw yn eithaf nodweddiadol. Mae’r erthygl yn llygaid ei lle bod perthynas agos rhwng patrymau pleidleisio a chefndir crefyddol yn y rhan yma o’r Alban – ac mae’n briodol ystyried hyn oll wrth geisio darogan canlyniad yr etholiad.

Ond ceir camgymeriad eithaf sylfaenol yn yr erthygl, fodd bynnag – mae’n disgrifio Glasgow East fel Catholic constituency. Mae’r Sunday Times a’r Guardian wedi disgrifio’r lle fel overwhelmingly Catholic constituency tros yr wythnosau diwethaf.

‘Rwan, etholaeth San Steffan newydd ydi Glasgow East – mae’n cwmpasu tua un etholaeth a hanner yn senedd Holyrood, sef Glasgow Baillieston a rhan o Glasgow Shettleston

Yn ol cyfrifiad 2001 y canran o Babyddion yn Shettleston oedd 34.6%, a’r ganran yn Baillieston oedd 32.8%. Mae 32.5% o’r boblogaeth yn Brotestanaidd yn Shettleston a 40.6% yn Baillieston. Mewn geiriau eraill mae’r hollt yn weddol gyfartal, gydag efallai mwyafrif bach o Brotestaniaid. Mae’r ganran o Babyddion yn uchel – yr uchaf yn yr Alban mae’n debyg – ond nid yw’n fwyafrif.

Mae’n gymharol hawdd deall pam bod y camgymeriad yn cael ei wneud. Cysylltir yr etholaeth gyda Glasgow Celtic ac mae rhannau o’r etholaeth gydag awyrgylch iddynt sy’n ddigon tebyg i ardaloedd dosbarth gweithiol Pabyddol Belfast. Ond y gwir amdani ydi nad Glasgow ydi Belfast. Yno mae’r Pabyddion bellach mewn mwyafrif, ac mae’r boblogaeth wedi ei segrigeiddio bron yn llwyr, gyda llawer o strydoedd a chymdogaethau yn 100% Pabyddol neu Brotestanaidd. ‘Dydi Glasgow heb ei rannu yn y ffordd yma – ac nid yw wedi ei rannu felly ers cryn amser.

Mae’n ddisgwyladwy i bapurau tabloid symleiddio pethau er mwyn creu stori syml, ond mae’n siomedig nad ydi’r Guardian, Indie a’r Sunday Times yn trafferthu gwneud eu gwaith ymchwil. Yn yr oes sydd ohoni clic neu ddau ar gyfrifiadur mae’n ei gymryd i wirio pethau.

Pam bod Islam yn mynd o nerth i nerth, tra bod yr Hen Gorff yn gorff?