Pam bod rhaid gochel rhag cyfaddawdu efo syniadaethau cenedlaetholdeb Prydeinig

Roeddwn yn darllen ymdriniaeth Ifan ar ei flog o’r syniadaeth sydd ynghlwm a chenedlaetholdeb Cymreig yn ychydig ddyddiau’n ol – ac am rhyw reswm gwnaeth hynny i mi feddwl am gyfres o ddigwyddiadau yn Nulyn roeddwn yn dyst iddynt flynyddoedd yn ol. Dylid darllen y blogiad yma yng nghyd destun un Ifan.

Cyn edrych ar y digwyddiadau hynny, efallai y dyliwn ddweud gair neu ddau am gefndir cyfredol blogiad Ifan – y dathliadau brenhinol sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd.

Yr hyn sy’n hynod am boblogrwydd presenol y frenhiniaeth ydi’r ffaith ei fod fel sefydliad yn tynnu mor gyfangwbl groes i syniadaeth yr oes. Mae’r rhan fwyaf o bobl – hyd yn oed ym Mhrydain – yn rhyw led dderbyn gwaddol syniadaethol y Chwyldro Ffrengig – cydraddoldeb, rhyddid yr unigolyn, democratiaeth, hawliau sifil, cyfartaledd cyfle ac ati. Mae’r syniadaeth sydd ynghlwm a’r frenhiniaeth yn gwbl groes i’r rheiny – trefn gaeth o ran dosbarthiadau cymdeithasol, elitiaeth, cyfoeth a phwer wedi ei gyfiawnhau ar sail teuluol ac ati. Pethau sy’n hollol groes i ddaliadau’r rhan fwyaf ohonom.

I’r graddau yna mae’r ffaith bod cymaint o bobl wedi ymgolli’n llwyr mewn delweddau a naratif syml sy’n cuddio gwacter syniadaethol y cwlt brenhinol yn dysteb i rym y cyfryngau i lywio’r ffordd mae pobl yn meddwl – o leiaf mewn perthynas a phethau syml mae’n bosibl eu gwahanu oddi wrth fywyd pob dydd.

Ond ar lefel arall mae’n dysteb i afael cenedlaetholdeb ar bobl. Yn ei hanfod mynegiant modern o hen reddf llwythol o fod eisiau perthyn i grwp yr ydym yn eithaf cyfforddus efo fo ydi cenedlaetholdeb. Yng Nghymru mae yna gymhlethdod oherwydd bod yna hunaniaethau cenedlaethol gwahanol yn ymgiprys efo’i gilydd – un Cymreig ac un Prydeinig. I raddau mae’r ymgiprys hwnnw yn zero sum game – mae’r hyn sy’n cryfhau’r ymdeimlad o Gymreictod yn gwanio’r ymdeimlad o Brydeindod – ac mae’r un peth yn wir i’r gwrthwyneb wrth gwrs. Dyna pam bod yr holl fusnes o ddyrchafu’r frenhiniaeth sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn peri diflastod i lawer ohonom sy’n genedlaetholwyr Cymreig.

Ond mae cenedlaetholdeb amgen ynddo’i hun mewn perygl o efelychu gwacter a diffyg perthnasedd cenedlaetholdeb Prydeinig – ac mae hynny yn arbennig o wir os ydym yn ceisio cyfuno cenedlaetholdeb Cymreig efo ymlyniad i’r teulu brenhinol, a’r syniadaeth sydd ynghlwm a hynny. Priod le cenedlaetholdeb Cymreig yr unfed ganrif ar hugain ydi yn agos at werthoedd yr unfed ganrif ar hugain – nid efo’r gwerthoedd sydd bellach wedi dyddio mae’r frenhiniaeth yn eu cynrychioli. Mae cenedlaetholdeb sydd yn ddim mwy na hynny wedi ei seilio ar syniadaeth digon tenau a di sylwedd yn y pen draw.

Daw hyn a ni at fy mhrofiad hynod fyrhoedlog o’r traddodiad gweriniaethol yn yr Iwerddon. Mae hi’n ddeg mlynedd ar hugain a mwy yn ol ers i mi gael fy hun ynghanol gwrthdaro sylweddol a digon gwaedlyd yn rhai o strydoedd cyfoethocaf Dulyn. Canlyniad i wrthdystiad y tu allan i lusgenhadaeth Prydain yn ystod yr ympryd newyn yn 1981 oedd y gwrthdaro hwnnw. Doeddwn i ddim yn gwybod dim oll am y brotest hyd y noson cynt pan welais hysbyseb mewn clwb Gwyddelig (yn ystyr ieithyddol hynny). Mi es i St Stephen’s Green, lle’r oedd yr orymdaith yn cychwyn, o ran chwilfrydedd mwy na dim arall. Roeddwn wedi synnu dod ar draws torf mor fawr, a mor ymddangosiadol hwyliog – roedd yna hyd 20,000 o bobl yno, ac roedd pedwar o’r ymprydwyr newyn wedi marw, gyda dau arall yn agos at farwolaeth.

Ta waeth, i dorri stori hir yn fyr, diflannodd yr hwyl o gyrraedd y llysgenhadaeth Brydeinig a’r cannoedd o heddlu terfysg oedd yn ei amddiffyn ychydig strydoedd i ffwrdd, a chafwyd rhai oriau o ymladd stryd digon ciaidd rhwng elfennau o’r dorf a’r heddlu. Yr hyn sydd wedi aros efo fi mwy na dim, a’r hyn sy’n berthnasol i’r blogiad yma ydi’r hyn roedd y sawl oedd yn ymladd yn bloeddio ar ei gilydd yn ystod y gwrthdaro – Stand your ground, stand your ground – defend the Republic, defend the Republic.

Rwan, ar un olwg roedd hyn yn rhywbeth eithaf boncyrs i’w weiddi – wedi’r cwbl roeddynt yn ymladd yn erbyn gweision cyflogedig y Weriniaeth Wyddelig swyddogol. Ond – fel llawer o bethau mewn gwleidyddiaeth Gwyddelig, roedd yna gyd destun ehangach. Roedd llawer o’r sawl oedd yn ymladd o’r tu allan i Ddulyn, ond roeddynt yn gwybod mai Stand your ground, defend the Republic oedd aelodau’r IRB yn ei weiddi ar eu gilydd, wrth ymladd y fyddin Brydeinig ychydig strydoedd i ffwrdd o ben y gwahanol adeiladau yr oeddynt wedi eu meddiannu tra’n datgan eu Gweriniaeth wreiddiol yn ol yn 1916.

Ond mewn ystyr arall mae’r gair Republic yn un syniadaethol – ac yn yr ystyr hwnnw roedd protestwyr yn credu eu bod yn amddiffyn rhywbeth haniaethol – rhywbeth roeddynt yn ei gario efo nhw – eu credoau gwleidyddol creiddiol. Mae’r syniadaeth honno i’w gweld ym Mhroclomasiwn 1916 – dogfen sydd wedi ei atgynhyrchu filynau o weithiau, a sydd i’w gweld yn aml ar waliau adeiladau cyhoeddus, tafarnau a thai preifat yn yr Iwerddon.

_ _ _ The Republic guarantees religious and civil liberty, equal rights and equal opportunities to all its citizens, and declares its resolve to pursue the happiness and prosperity of the whole nation and of all its parts, cherishing all the children of the nation equally, and oblivious of the differences_ _ _

Rwan peidiwch a fy ngham ddeall i – mae yna lawer am y traddodiad gweriniaethol Gwyddelig nad ydw i yn ei hoffi – mae’n rhy anhyblyg, rhy barod i ddiffinio ei hun fel gwrth bwynt i Brydeindod, a llawer rhy barod i droi at drais. Ond does yna ddim amheuaeth bod y syniadaeth mae wedi ei seilio arni yn fwy pwerus na’r hyn mae ein cenedlaetholdeb ni wedi ei seilio arno.

Mae’r bobl sydd wedi ei harddel wedi ei chymryd mwy o ddifri o lawer nag ydym ni. Maent wedi bod yn fodlon dioddef (ac achosi dioeddefaint wrth gwrs) trosti mewn ffordd nag ydym ni erioed wedi bod yn fodlon gwneud.

Un o’r pethau trawiadol am y gwrthdaro ar Merion Road yr holl flynyddoedd yna yn ol oedd dewrder pobl – gyda genod bach un ar bymtheg oed yn taflu eu hunain ar heddlu oedd wedi eu harfogi gydag offer atal terfysg. Mae’n debyg i ddegau o filoedd o Wyddelod gael eu lladd a’u carcharu yn ystod y ddau gan mlynedd diwethaf oherwydd eu hymlyniad i’w syniadaeth. Mae’r syniadaeth wedi galluogi llawer iawn o bobl i ddangos dewrder personol sylweddol er ei mwyn. Does dim rhaid i ni gytuno efo’r dulliau treisgar sydd wedi bod yn nodwedd llawer rhy amlwg o’r traddodiad Gwyddelig i allu cydnabod hynny.

Y rheswm am hyn ydi bod y syniadaeth ei hun yn un sy’n apelio at bobl ar sawl lefel. Mae’n bwydo ar y traddodiad gweriniaethol Ewropiaidd ac addewid hwnnw am well bywyd i’r sawl sy’n ei arddel. Mae’n cyfuno delfrydau gwleidyddol pobl, eu gobeithion materol a’r ymdeimlad o chwarae teg a chydraddoldeb mae’r rhan fwyaf ohonom bellach yn ei arddel. O ganlyniad mae ardrawiad emosiynol y syniadaeth yn aml haenog – mae hyn yn ei dro yn ei gwneud yn haws i’w chymryd o ddifri ac i ymroi iddi.

Dwi’n deall pam bod pobl yn dweud y dylai’r Mudiad Cenedlaethol syrthio i mewn i’r consensws sefydliadol ynglyn a’r frenhiniaeth – wedi’r cwbl mae methiant i wneud hynny yn rhwym o arwain at ymysodiadau hysteraidd gan y cyfryngau torfol – ac mae’r rheiny yn hynod bwerus. Ond mae creu syniadaeth genedlaetholgar Gymreig sydd wedi ei seilio ar hanfodion cenedlaetholdeb Prydeinig cyfoes yn debygol o arwain at syniadaeth amherthnasol a di sylwedd – un nad oes neb mewn gwirionedd yn ei chymryd o ddifri.

Cenedlaetholdeb sifig / ethnig a’r Gymraeg

Un o’r problemau efo cynnal dadl trwy flogio yn hytrach nag ar negesfwrdd megis maes e ydi bod y ddadl yn gallu bod yn ddarniog ac mae’n anodd dilyn pob ffrwd o’r ddadl. Mae hefyd yn bosibl cam liwio’r hyn y bydd pobl yn ei ddweud.

Mi fydd rhai ohonoch yn cofio i grwp gwleidyddol arbennig nad ydyw’n hoff iawn o flogmenai wneud mor a mynydd o sylwadau oedd wedi eu cymryd yn gyfangwbl allan o gyd destun dadl ehangach, er mwyn gwneud iddynt swnio fel petaent yn gwneud sylw cyfangwbl groes i’r hyn a ddywedwyd mewn gwirionedd. Yn wir mi aethant mor bell a chreu rhyw swydd i mi oddi mewn i Blaid Cymru oedd yn swnio’n ofnadwy o bwysig , er mwyn prodoli’r sylwadau i’r Blaid yn ogystal ag i fi. O’r holl ddarlledwyr a chyfryngau print a gafodd y stori dim ond Golwg oedd yn ddigon di niwed i redeg efo hi gan nad oedd y stori’n fawr mwy na ‘blogiwr yn dweud rhywbeth i ypsetio gwleidydd’ hyd yn oed wedi’r holl ddethol a throelli gan y grwp gwleidyddol dan sylw.

Gyda’r stori fach yma mewn cof ‘dwi’n gyndyn o ddehongli’r hyn mae Simon Brooks yn ei ddweud i raddau rhy gysact mewn dadl y gellir ei gweld yma, yma ac yma. ‘Dwi ddim yn gwybod os ydi hi’n cael ei chynnal mewn mannau eraill hefyd. Ta waeth, ‘dwi ddim yn meddwl fy mod yn cam liwio ei ddadl trwy nodi ei fod yn gweld tyndra rhwng cenedlaetholdeb sifig a chenedlaetholdeb ethnig yng Nghymru, a bod llawer o wleidyddion Cymreig yn gweld yr iaith yn nhermau cenedlaetholdeb ethnig ac felly yn rhywbeth amheus neu hyd yn oed ddrwg. Mae’n egluro digwyddiadau megis y penderfyniad i wrthod cynlluniau’r cyngor i ad drefnu yng Nghaerdydd a ‘gwendid’ mesurau iaith arall trwy gyfeirio at y tyndra syniadaethol arall. Simon ydi Simon wrth gwrs, ac mae’r enfant terrible sydd yn rhan ohono yn ymestyn y pwynt i’r graddau y gallai’r pwerau deddfu y byddwn yn pleidleisio ynglyn a nhw maes o law fod yn niweidiol i’r iaith. Mae hon yn gryn naid o’r ddadl wreiddiol, a ‘dydw i ddim am ddelio efo hynny yn y blogiad hwn.

Hwyrach y dyliwn aros yma i nodi mai fersiwn ar genedlaetholdeb sy’n ymwneud a hawliau grwp ethnig neu ddiwylliannol penodol ydi cenedlaetholdeb ethnig, tra bod y fersiwn sifig yn fwy cynhwysol ac yn pwysleisio hunaniaeth cenedlaethol yn nhermau gwladwriaeth gynhwysol yn hytrach na grwp diwylliannol neu ethnig. Am eglurhad llawnach gweler yma ac yma.

Mi hoffwn fodd bynnag wneud dau bwynt. I ddechrau ‘dydi mudiadau cenedlaethol ddim yn syrthio’n dwt i gategoriau arbennig mewn bywyd go iawn. Gellir gweld y ddau ffrwd mewn cenedlaetholdeb Gymreig, ac mi fyddwn yn derbyn yr awgrym sydd ymhlyg yn sylwadau Simon bod y pwyslais wedi symud oddi wrth genedlaetholdeb ethnig tuag at genedlaetholdeb sifig yn ystod y degawdau diwethaf.

Er bod llawer o syniadaeth cenedlaetholdeb Gwyddelig ar lefel arwynebol yn perthyn i’r traddodiad sifig (Wolf Tone, y Chwyldro Ffrengig ac ati) mae cenedlaetholdeb ethnig wedi tra arglwyddiaethu yn y Weriniaeth am y rhan fwyaf o’r ganrif ddiwethaf. Yn wir gellir dehongli strwythur pleidiol y Weriniaeth yn nhermau gwrthdaro rhwng dau fersiwn o genedlaetholdeb – yr ethnig a’r sifig – ac yn wir dau fersiwn o’r Weriniaeth ei hun. Mae’r un peth yn wir i raddau llai am genedlaetholdeb yn yr UDA.

‘Rwan yr hyn sy’n bwysig i’w ddeall ydi hyn – mae i’r ddau fersiwn o genedlaetholdeb eu cyd destun syniadaethol ehangach. Mae cenedlaetholdeb sifig wedi ei wreiddio mewn gwleidyddiaeth ryddfrydig, tra bod cenedlaetholdeb ethnig yn perthyn yn nes o lawer at wleidyddiaeth geidwadol. Mae Cymru’n wlad ryddfrydig – yn wir mi fyddai’n anodd iawn meddwl am wlad mwy rhyddfrydig. Oherwydd hynny ‘dydi hi ddim yn debyg y gall gwleidyddiaeth cadwriaeth iaith lwyddo os ydym yn ei osod oddi mewn i ffram cenedlaetholdeb ethnig. O wneud hynny byddwn yn anfon yr iaith yn erbyn llif syniadaethol cryf iawn. Os ydym i ennill y ddadl ynglyn a’r iaith rhaid gosod y ddadl honno mewn cyd destun sydd yn ei hanfod yn un ryddfrydig – hynny yw un sy’n ymwneud a chynhwysiad, hawliau cyfartal, cydraddoldeb o ran cyfleoedd ac ati. ‘Dydi’r pethau hynny sy’n gysylltiedig a chenedlaetholdeb ethnig – parhad diwylliannol, cadwraeth, ethnigrwydd ac ati ddim yn bethau sy’n tarro deuddeg yn y Gymru sydd ohoni.

Os ydi’r ddadl iaith i’w hennill, mae gen i ofn y bydd rhaid gwneud hynny ar dermau rhyddfrydig – a golyga hynny defnyddio ieithwedd ryddfrydig. Mae hyn yn anodd weithiau, ac mae’n groes i’r graen yn aml – ond dyna’r unig lwybr sydd a chyfle o lwyddo.

A oes bradwr yn y ty hwn?

Mi fydd dilynwyr y blogosffer Cymraeg yn ymwybodol o’r digwyddiadau yn Siambr Dafydd Orwig ddoe, gyda phobl (ac aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn arbennig) yn yr oriel gyhoeddus oedd yn gwrthwynebu cau Ysgol y Parc ger y Bala yn cyhuddo cynghorwyr Plaid Cymru o frad. Mae Dyfrig Jones, Guto Dafydd ac eraill wedi dweud eu pwt ynglyn a’r mater. Ceir mwy yma.


Cyn i mi gychwyn hoffwn bwysleisio nad bwriad y blogiad yma ydi cefnogi na gwrthwynebu cau Ysgol y Parc, na’r un ysgol arall. Yn hytrach ymgais ydyw i wneud ychydig o sylwadau ynglyn a natur cenedlaetholdeb Gymreig ar sail digwyddiadau ddoe.



Mae’r term bradwr yn un sarhaus ym mhob rhan o Gymru wrth gwrs, ond bu gwenwyn anarferol yn perthyn iddo yng nghymunedau Dyffryn Ogwen – megis Gerlan , y gymuned a gynrychiolir gan Dyfrig Jones ar Gyngor Gwynedd. Y rheswm am hyn ydi bod i’r term ystyr a defnydd penodol iawn yn ystod Streic Fawr y Penrhyn – y digwyddiad hanesyddol enwog sydd wedi gadael eu cysgod tros y Dyffryn hyd heddiw.


‘Dwi ddim am aros llawer efo hanes y streic, mae’n weddol adnabyddus bod y streic yn chwarel y Penrhyn ymysg yr hiraf a’r mwyaf chwerw yn hanes diwydiannol y DU. Arweiniodd at ddioddefaint gwirioneddol yn yr ardal, ac oherwydd amgylchiadau dychwelodd llawer o’r gweithwyr at wyneb y graig cyn i’r streic ddod i ben. Roedd yr arwyddion – Nid Oes Bradwr yn y Ty Hwn yn fater o gryn falchder i’r sawl oedd mewn sefyllfa i’w osod yn ffenest y ty – yn arbennig felly at y diwedd fel y gorfodwyd mwy a mwy o ddynion i ddychweld i’w gwaith. Mae’r creithiau cymunedol a adawyd gan y streic yn ddiarhebol wrth gwrs, gyda drwg deimlad rhwng teuluoedd bradwyr a’r sawl arhosodd yn ffyddlon i’r streic yn cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth fel rhyw lun ar drysor teuluol.


‘Rwan o safbwynt y blogiad yma y cwestiwn diddorol ydi hwn – beth yn union oedd y bradwyr yn ei fradychu? Ar un olwg mae’r ateb yn syml – y streic. Ond mae mwy iddi na hynny, byddai’r cwbl o’r streicwyr yn perthyn i ddosbarth gweithiol diwydiannol, mi fyddant bron yn ddi eithriad gyda’r Gymraeg yn famiaith iddynt, a byddai’r rhan fwyaf (er nad y cwbl) yn anghydffurfwyr o ran daliadau crefyddol. Nid oedd perchnogion y Penrhyn yn syrthio i’r un o’r categoriau hyn wrth gwrs. Ar olwg arall roedd y bradwr (yng ngolwg y gymuned ehangach) yn bradychu yr hyn oedd, ei gymuned, ei deulu, ei lwyth roedd yn bradychu ei hunaniaeth ei hun.


Daw hyn a ni yn ol at fradwyr Y Parc. Pam bod pobl megis Ffred Ffransis ac Osian Jones yn ei chael mor hawdd i ddefnyddio’r term ymfflamychol yma mewn perthynas a chenedlaetholwyr oherwydd eu bod yn cymryd penderfyniad fydd yn arwain at gau ysgol mewn cymuned wledig iawn. O edrych ar bethau o bell mae’n anodd gweld bod yna gysylltiad agos rhwng syniadaeth wleidyddol genedlaetholgar (yr hyn fyddai’n nodweddu cynghorwyr Plaid Cymru ac yn eu gwahanu oddi wrth y gweddill a bleidleisiodd i gau) ac ymrwymiad i gynnal ysgolion o faint arbennig. Nid yw penderfyniadau i gau ysgolion yn arwain at gyhuddo cenedlaetholwyr y gwledydd Celtaidd eraill o frad.


Er enghraifft mae yna 33 o ysgolion cynradd a dwy ysgol uwchradd wedi eu cau yn yr Alban yn ystod blwyddyn ysgol 2009 / 2010. Mae yna gynghorwyr o genedlaetholwyr wedi pleidleisio o blaid y cau ar lefel lleol, ac mae yna weinidog (Mike Russell) o genedlaetholwr wedi cadarnhau’r penderfyniadau ar lefel cenedlaethol. Hyd y gwn i ‘does yna neb yn cyhuddo’r SNP o frad. Cenedlaetholwraig ydi’r gweinidog tros addysg yng Ngogledd Iwerddon hefyd, ac mae hithau wedi bod yn cadarnhau penderfyniadau mae cynghorwyr ei phlaid wedi eu cymryd i gau ysgolion. ‘Does yna neb yn disgrifio Sinn Fein fel bradwyr am y rheswm yna beth bynnag. ‘Dydi hyn ddim yn golygu nad oes gwrthwynebiad i gau ysgolion yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon wrth gwrs, mae gwrthwynebiad chwyrn mewn rhai lleoedd. Y gwahaniaeth ydi nad ydi’r penderfyniadau i gau yn cael eu gwneud yn gyfystyr a gweithredoedd o frad.


Fy nheimlad i ydi bod y bennod fach ddiweddar yn eithaf dadlennol o ran deall natur – a rhai o brif wendidau – cenedlaetholdeb Cymreig. Nid ydi cymunedau gwledig iawn Cymraeg eu hiaith yn arbennig o nodweddiadol o Gymru, o Wynedd, nag o’r Gymru Gymraeg hyd yn oed. Mae’r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg Gwynedd yn byw mewn wardiau trefol neu fwrdeisdrefol. Mae mwyafrif llethol pobl Cymru yn byw mewn llefydd felly hefyd. I’r graddau hynny mae cyhuddo cenedlaetholwyr, sydd yn aml yn cynrychioli cymunedau trefol o fradychu cymunedau gwledig yn ymddangos afresymegol.


Ond mae mwy iddi na hynny wrth gwrs – mae’r ddelfryd o Gymru Gymraeg wledig yn rhywbeth sydd wedi treiddio i’r ffordd mae llawer o Gymry Cymraeg yn diffinio eu Cymreictod. Mae hefyd yn rhywbeth sy’n rhan o lawer o’n llenyddiaeth – hyd yn oed llenyddiaeth y pentrefi chwarel. Ar un lefel felly cyhuddiad o fradychu delfryd sy’n annwyl i lawer o Gymru Cymraeg a geir. Ydi hi’n bosibl bradychu delfryd? ‘Dwi ddim yn meddwl rhywsut – mae’n wahanol i fradychu hunaniaeth.


Ond mae yna haenen arall i’r sefyllfa. Nid delfryd yn unig sy’n cael ei fradychu yng ngolwg y sawl sy’n gwneud y cyhuddiad – bradychir ardal neu fro hefyd. Yn wahanol i’r Alban neu Ogledd Iwerddon mae brogarwch yng Nghymru gyda gafael gadarnach ar ddychymyg, a felly deyrngarwch pobl, na chenedlaetholdeb. Mae hyn oherwydd gwendid y syniadaethau sydd ynghlwm a chenedlaetholdeb Cymreig yn hytrach na chryfder brogarwch. ‘Does gennym ni ddim set o ddadleuon cryf wedi eu ffurfio tros annibyniaeth, dim syniad clir am yr hyn sy’n ein gwneud yn un genedl er ein gwahaniaethau, dim ymdeimlad o genedlaetholdeb sific (yn hytrach na llwythol), dim ymdeimlad o ffyddlondeb i ddelfryd genedlaethol, dim llawer o fytholeg sy’n atyniadol i garfanau sylweddol o bobl wedi tyfu o gwmpas y syniadaeth.


Dyma pam bod yr holl stori yn achosi’r fath ddiflastod i mi – mae’n taflu pelydr di drugaredd o oleuni oer ar wendidau seicolegol y traddodiad cenedlaetholgar Gymreig. Mae’r syniadaeth sy’n cynnal y ffordd mae llawer ohonom yn dehongli’n gwlad wedi ei wreiddio mewn delfryd o’r hyn y ‘dylai’ Cymru fod yn hytrach na’r hyn ydyw mewn gwirionedd, ac mae’n is raddio’r cenedlaethol a’r hyn sy’n gyffredin rhyngom– hanfod cenedlaetholdeb – tra’n dyrchafu y lleol a’r hyn sy’n ein gwahanu.

Brogarwch vs Cenedlaetholdeb rhan 1

‘Reit ta, brogarwch a ‘ballu.

Cafwyd cryn ymateb i fy mlogiad oedd yn awgrymu bod honni i fod yn genedlaetholwr / wraig a phleidleisio i bleidiau rhanbarthol yn anghydnaws a’i gilydd. ‘Dydw i ddim yn cytuno efo’r rhan fwyaf o’r cyfraniadau mae gen i ofn. Mi gawn i olwg brysiog ar un neu ddau ohonynt. Mi gychwynwn ni gyda chyfraniad Dyfrig ar ei flog answyddogol.

Dadl lled Adferaidd sydd gan Dyfrig yn y bon – sef bod amddiffyn y Gymraeg yn bwysicach na dim arall gwleidyddol ac mai ar lefel Gwynedd gyfan y gellir gwneud hynny orau. ‘Dwi’n gweld tair problem sylweddol efo’r dadansoddiad yma.

Yn gyntaf tua un siaradwr Cymraeg o pob wyth sy’n byw yng Ngwynedd. Yn ganrannol mae’r Gymraeg yn gryfach yng Ngwynedd nag yw mewn unrhyw sir arall, ond mae dadansoddiad sy’n anwybyddu saith o pob wyth siaradwr Cymraeg yn amlwg yn ddiffygiol. Mae unrhyw strategaeth i amddiffyn y Gymraeg angen bod yn ddeublyg – yn lleol a chenedlaethol.

‘Dwi’n derbyn wrth gwrs bod Gwynedd ar y blaen i pob sir arall o ran amddiffyn y Gymraeg, a ‘dwi hefyd yn nodi mai go brin y byddai’r sir mor flaengar oni bai am ddylanwad cryf Plaid Cymru arni.

Yn ail mae’r feddylfryd Adferaidd wedi dyddio bellach – meddylfryd sy’n canolbwyntio ar y gwledig a’r gorllewinol ydi hi yn y bon. Pan fydd haneswyr yn y dyfodol yn edrych yn ol ar hynt y Gymraeg yn nhraean olaf y ganrif ddiwethaf a chychwyn y ganrif yma, nid y patrwm mwyaf amlwg fydd un o ddirywiad ond yn hytrach ddwy un o ailddosbarthiad. Mae’r blog hwn eisoes wedi nodi bod 19 o’r 20 ward sydd ag 80% neu fwy yn siarad Cymraeg yn rhai trefol (neu o leiaf fwrdeisdrefol). Trefol hefyd ydi’r ardaloedd lle cafwyd twf yn y nifer a’r canrannau sy’n siarad Cymraeg. Ardaloedd gwledig ydi’r rhai lle cafwyd y lleihad mwyaf o ran canrannau a niferoedd.

‘Dydi hi ddim yn bosibl edrych ar Gymru a’r Gymraeg yn yr un ffordd yn 2009 nag oedd hi yn 1979 – mae digwyddiadau, neu yn hytrach brosesau cymdeithasegol wedi trawsnewid pethau. ‘Does yna ddim ffordd sicrach o niweidio’r Gymraeg na chymryd arnom ein bod yn byw mewn gwlad sydd wedi diflannu ers degawdau.

Yn drydydd dydi hi ddim yn bosibl trin un agwedd ar fywyd cenedlaethol a gwleidyddiaeth – un pwysig iawn, ond un cyfyng fel yr unig reswm tros wleidydda yn etholiadol. Nid felly mae gwleidyddiaeth etholiadol yn gweithio.