Y Byd ar Bedwar a Julian Ruck

Mae’n debyg nad oedd hi’n anisgwyl i’r cyfryngau Cymreig benderfynu dilyn eu meistri Prydeinig a rhoi cyfweliad i Julian Ruck – mae yn natur pethau bod ci yn dilyn ei feistr, hyd yn oed pan mae’n ymwybodol bod y dywydedig feistr yn mynd i’r cyfeiriad anghywir.  Dyna pam y penderfynodd Y Byd ar Bedwar bod barn Mr Ruck yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o’r ddadl ynglyn a’r iaith Gymraeg a mynd ati i roi cyhoeddusrwydd iddo.

Rwan mae gan Mr Ruck, fel pawb arall hawl i’w farn ac mae yna bobl eraill sy’n rhannu’r farn honno yng Nghymru.  Ond dydi Mr Ruck ddim yn siarad tros neb yn benodol (ag eithrio criw bach sy’n myllio ar y We am yr iaith Gymraeg a charedigion yr iaith) – ac mae ei farn ymhell y tu hwnt i’r ddisgwrs wleidyddol yng Nghymru ynglyn a’r iaith.  Dydi’r cyfryngau  gan amlaf ddim yn mynd ati i chwilio am bobl sydd a barn sydd ar eithafion y sbectrwm yn y rhan fwyaf o feysydd.  Er bod dealltwriaeth y Bib yn Llundain o’r ddisgwrs ynglyn a’r Gymraeg yn llawer mwy amrwd na dealltwriaeth ITV yng Nghymru o’r ddisgwrs honno, aeth ati i  ddilyn arweiniad Llundain beth bynnag.  Mae’r math yma o waseidd-dra yn DNA y cyfryngau Cymreig mae gen i ofn.
Ta waeth, rydym yn gwybod hyn oll yn barod.  Yr hyn sy’n fwy dadlennol ydi’r ffordd y cafodd Mr Ruck ei holi.  Yn sylfaenol ei naratif ydi bod yr iaith Gymraeg yn marw a felly ‘does yna ddim pwrpas taflu arian cyhoeddus i’w chyfeiriad.  Cafodd rhan o naratif Mr Ruck ei herio – union gost honedig y Gymraeg i’r trethdalwr – ond ni chafodd craidd y naratif ei herio, sef bod y Gymraeg yn marw.  Mae’r canfyddiad hwnnw wedi ei wreiddio yn y ffordd mae llawer o bobl yn edrych ar y Gymraeg, ac mae hynny mor wir am lawer o garedigion yr iaith nag yw am ei gelynion a phobl sy’n byw y tu allan i Gymru.  Y drwg efo’r canfyddiad  ydi nad oes yna lawer iawn o dystiolaeth i gefnogi’r canfyddiad mewn gwirionedd.
Mae yna sawl ffordd o wneud hyn – ond i bwrpas yr ymarferiad yma mi wna i dynnu fy nhystiolaeth i gyd o Arolwg Llywodraeth Cymru o’r Defnydd o’r Iaith Gymraeg 2013 i 2015.  
Er nad ydi pob dangosydd ar y graff cyntaf yn symud i’r cyfeiriad cywir – dydi’r darlun a geir yma ddim yn un o ddirywiad di gymysg – o bell ffordd.
Mae’r nifer sy’n siarad y Gymraeg yn aml ar gynnydd
Mae’r nifer sy’n siarad yr iaith yn rhugl ychydig yn uwch ac mae’r nifer sydd wedi eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ychydig yn uwch.
O edrych ar hanes y Gymraeg o ddechrau’r ganrif ddiwethaf ceir patrwm o ddirywiad mewn niferoedd sy’n siarad yr iaith hyd 1981 ac wedyn sefydlogi.  Mae’n wir bod rhywfaint o gwymp rhwng 2001 a 2011 – ond mae’r ffigwr yn uwch nag oedd yn 1981 a 1991.  Ar ben hynny mae yna le i gredu bod gor gyfrifo ymysg plant yn 2001. 
Mae’r patrwm demograffig hefyd yn eithaf iach – yn gyffredinol yr ieuengaf ydi rhywun sy’n byw yng Nghymru y mwyaf tebygol ydi o neu hi i allu siarad yr iaith.
O edrych ar y niferoedd o siaradwyr rhugl mae’r darlun yn gymysg, gyda chwymp yn y Gymru Gymraeg a chynnydd mewn lleoedd eraill, ond mae yna gynnydd sylweddol tros Gymru o edrych ar siaradwyr llai rhugl mae yna gynnydd anferth. 
Y bobl ieuengaf sydd fwyaf tebygol o ddefnyddio’r iaith yn ddyddiol – mae’n debyg oherwydd y system addysg.
A’r ieuengaf ydi rhywun y mwyaf llythrennog ydi o neu hi yn y Gymraeg.
Tros Gymru mae’r patrwm o faint o bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn gymysg – er bod cynnydd tros y wlad yn ei chyfanrwydd.
Rwan rhag ofn bod camddealltwriaeth ‘dydw i ddim yn honni am funud bod pob dim yn dda ar yr iaith.  Mae’r darlun yn gymysg ac yn gymhleth gyda rhai dangosyddion yn rhoi lle i fod yn wirioneddol obeithiol am ei dyfodol ynghyd a thystiolaeth ei bod o dan cryn dipyn o bwysau mewn rhai rhannau o Gymru.  
Ond yr hyn rydwyf yn ei ddweud ydi nad oes yna unrhyw sail tystiolaeth i’r naratif bod y Gymraeg am farw.  Yn anffodus mae rhai o garedigion yr iaith yn hyrwyddo’r canfyddiad hwn – ac yn hynny o beth maent yn derbyn naratif Mr Ruck a’i debyg.  Os oedd y Byd ar Bedwar yn teimlo eu bod wirioneddol angen holi Mr Ruck dylid bod wedi herio’r naratif yma yn hytrach na chwestiynu sail ei ffigyrau ariannol  (sydd hefyd yn ffug wrth gwrs).  Mae’r canfyddiad yma wrth wraidd y ffordd mae pobl fel Mr Ruck yn gweld y Byd – ac mae’n ganfyddiad cwbl ffug.

Catalonia a’r gyfraith

Mae’r ffaith bod llywodraeth Prydain ac arweinyddiaeth yr UE yn cefnogi llywodraeth Sbaen yn eu anghydfod efo llywodraeth Catalonia wedi ei seilio ar y ddadl bod llywodraeth Sbaen yn gweithredu’n unol a’r gyfraith tra bod llywodraeth Catalonia yn gweithredu’n groes i’r gyfraith.  Tra bod cymhelliad o’r fath yn ddealladwy i’r graddau bod y sawl sy’n llunio cyfreithiau am fod a pharch mawr tuag at gyfreithiau, mae hefyd yn broblematig.  
Mae ffiniau cenedlaethol yn newid trwy’r amser ac mae gwladwriaethau’n mynd a dod.  Mae yna newidiadau sylweddol iawn wedi bod mewn ffiniau cenedlaethol yn y gorffennol cymharol agos – yn achos yr Undeb Sofietaidd a’r hen Iwgoslafia er enghraifft.  Roedd yna newidiadau mwy arwyddocaol yng nghanol y ganrif ddiwethaf pan roedd yr hen ymerodraethau Ewropiaidd yn datgymalu. Mae’r newidiadau hyn wedi digwydd yn aml – ond ddim pob tro – yn groes i’r gyfraith gyfredol. 
Petai parchu cyfraith gyfredol yn egwyddor holl orchfygol ni fyddai llawer o’r newidiadau cymdeithasol tros y canrifoedd diwethaf erioed wedi digwydd.
Mae cyfreithiau’r gorffennol yn aml wedi gwneud yr hyn rydym yn ei gymryd yn ganiataol heddiw yn ganiataol.  
Arweiniodd Nelson Mandela fudiad cwbl anghyfreithlon.
Roedd pleidlais i ferched yn anghyfreithlon ar un amser.
Roedd bod yn Gatholig yn anghyfreithlon yn y gorffennol.
Roedd llawer o’r hyn wnaeth Martin Luther King yn anghyfreithlon.
Roedd bod yn hoyw yn anghyfreithlon yn y gorffennol cymharol agos.
Mae rhywun yn cymryd na fyddai arweinyddiaeth yr UE na’r DU yn dadlau na ddylai merched yn Saudi Arabia gael gyrru oherwydd bod hynny’n anghyfreithlon yn y wlad honno hyd yn ddiweddar.  .
Gallwn barhau yn y cywir hwn am amser hir iawn, iawn.  
Mae’r sefyllfaoedd uchod yn aml wedi cael eu newid oherwydd bod pobl yn fodlon torri’r gyfraith er mwyn sicrhau’r newidiadau hynny.  Ac mae llawer o’r hawliau iaith sydd gennym ni heddiw – Sianel Deledu, arwyddion ffordd Cymraeg ac ati wedi dod i fodolaeth oherwydd bod pobl wedi bod yn fodlon torri’r gyfraith er mwyn eu sicrhau.
Yn y pen draw dydi’r ffaith bod rhywbeth yn gyfreithiol ddim yn golygu ei fod yn gyfiawn – y gwrthwyneb sydd yn wir weithiau.  Yr egwyddor o hunan benderfyniad – self determination – ydi’r mater pwysicaf yma – ac mae’n egwyddor i’w choleddu yma – egwyddor sydd fel mae’n digwydd yn greiddiol i’r Cenhedloedd Unedig.
O.N – newydd wedld dadl debyg iawn ar flog penigamp Dylan Llyr.

Negydu i adael yr UE – problem y DU

Felly mae canolfan rwdlan digidol Cymru – blog yr Aelod Seneddol Toriaidd Glyn Davies – wrthi’n rwdlan unwaith eto.  Yr hyn sydd ganddo’r tro hwn ydi bod y negydu i adael yr UE yn mynd yn union fel roedd Glyn yn disgwyl o’r dechrau’n deg, ac os ydi pethau’n mynd o chwith mai bai yr Undeb Ewropiaidd fawr ddrwg ‘na ydi pob dim.  
I raddau mae’r blogiad yn ddiddorol yn yr ystyr ei fod yn adlewyrchu’r newid sylweddol a gafwyd yn naratif gwleidyddion a chyfryngau sydd wedi hyrwyddo gadael yr Undeb Ewropiaidd o’r cychwyn.  Ar y dechrau roeddem yn cael ein sicrhau ganddynt y byddwn yn siwr o ddod i gytundeb masnach rydd heb fawr o drafferth efo’r UE oherwydd eu bod nhw’n awyddus i werthu BMWs a Prosecco i ni.  Ers iddi ddod yn amlwg nad ydi hynny am ddigwydd mae’r naratif wedi ei haddasu i rhywbeth fel ‘Mi fyddem ni’n cael cytundeb marchnad rydd efo’r UE oni bai bod y diawled drwg eisiau’n cosbi ni’.  
Rydym angen pwt o eglurhad dwi’n meddwl.  
Mae’r DU ar hyn o bryd yn rhan o’r UE ac oherwydd hynny mae’n cael yr holl gyfleoedd (a’r problemau) sy’n gysylltiedig â hynny.  Mae hynny’n cynnwys masnachu’n ddi doll efo 27 gwlad arall yr UE.
Penderfynasom adael, ond am ryw reswm rydym yn credu bod gennym hawl barhau i gael y manteision masnachu rhydd beth bynnag.  Gan ein bod wedi gadael byddai rhywun yn meddwl ei bod yn weddol amlwg nad oes gennym bellach yr hawliau hynny.  Mae ein safbwynt dipyn  fel un rhywun sy’n gadael clwb golff ar ol bod yn perthyn iddo am flynyddoedd maith, ond yn llafurio o dan yr argraff ei bod yn gwbl briodol iddo barhau i ddefnyddio’r cwrs golff a’r cyfleusterau eraill.
Ond Mae Glyn a’i debyg yn mynd ati i rincian dannedd a wylofain a chwyno ein bod yn cael ein bwlio pan nad ydi’r UE yn cytuno efo’r canfyddiad rhyfedd yma.  
Y rheswm mae gwleydydd yn ciwio i ymuno efo blociau masnachu megis yr UE ydi oherwydd bod byd masnach rhyngwladol yn hynod gystadleuol, ac mae pwer negydu bloc mawr yn llawer cryfach na phwer negydu uned fechan.  Pan mae’r DU yn gadael yr UE bydd yn peidio a bod yn rhan o floc masnachu, a bydd yn dechrau cystadlu efo’r UE .  Does yna ddim rheswm o gwbl pam y byddai’r UE eisiau eu gwneud yn hawdd i ni gystadlu yn eu herbyn.  I’r gwrthwyneb.  

Plant sy’n siarad y Gymraeg adref – Gwynedd a Mon

Dydi’r iaith mae plant yn ei siarad adref ddim o anghenwraid yn dweud wrthym os ydynt yn gwneud defnydd cymdeithasol ohoni, a dydi o ddim yn dweud chwaith pwy sy’n siarad yr iaith yn rhugl.  Mae yna lawer o bobl yn siarad y Gymraeg yn gwbl rhugl sydd ddim yn ei defnyddio ar yr aelwyd.

Serch hynny mae’n rhoi syniad o ble mae iaith yn gryf – a beth sy’n debyg o ddigwydd yn y dyfodol mewn ardal.  Dydi hyn ddim yn wir am ystadegau cyfrifiad moel.  Felly dyma gyhoeddi ffigyrau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwynedd a Mon.  Gellir dod o hyd i’r ffigyrau Cymru gyfan yma.

Argymhellion y Comisiwn Ffiniau

Mae’n debyg y bydd yna gryn dipyn o ddoethinebu am y newidiadau i’r etholaethau San Steffan sydd wedi eu cyhoeddi gan y Comisiwn Ffiniau heddiw.  Mae’r ymarferiad yn un cwbl ddibwynt i raddau helaeth – mae’n anhebygol iawn o ddigwydd.

Mae’r llywodraeth – fel mae pawb yn gwybod bellach – yn llwyr ddibynol ar bleidleisiau’r DUP.  Er nad ydi’r argymhellion diwygiedig ar gyfer Gogledd Iwerddon heb eu cyhoeddi, os ydynt yn rhywbeth tebyg i’r rhai a gynhyrchwyd y llynedd byddant yn costio tair sedd i’r DUP.  Byddai dileu etholaeth East Londonderry yn dileu un o’u seddi yn syth, a byddai hollti West Belfast yn ddwy a’u uno efo North Belfast a South Belfast yn tywallt degau o filoedd o genedlaetholwyr i ddwy sedd unoliaethol ymylol.  Yn wir byddai’r newidiadau yn arwain at fwy o seddi Sinn Fein na rhai unoliaethol – rhywbeth fyddai’n anathema llwyr i’r DUP.
Mae’n bosibl symud ymlaen efo’r cynlluniau heb gynnwys Gogledd Iwerddon wrth gwrs, ond mae yna wrthwynebiad chwyrn ymysg aelodau seneddol Toriaidd sydd yn ofn gweld eu etholaethau’n diflanu – a byddai triniaeth ffafriol yn dan ar eu crwyn nhw.  Ychwaneger at hynny y ffaith bod anawsterau Brexit wedi arwain at pob darn o ddeddfwriaeth cynhenus arall yn cael ei daflu tros ymyl y cwch dyllog, a gallwn gymryd mai dyna fydd yn digwydd i’r cynllun yma hefyd.

Trosodd atoch chi Mr Davies

Mae Sandy Clubb yn gwbl gywir i ddweud nad ydi Cyngor (Llafur) Caerdydd yn dod yn agos at wneud eu rhan i wireddu uchelgais honedig llywodraeth Cymru i ‘greu’ miliwn o siaradwyr Cymraeg.  Yr hyn sydd ddim yn ymddangos yn y stori ydi mai prin iawn ydi’r cynghorau – gan gynnwys – neu yn arbennig  gynghorau Llafur.

Y peth cyntaf i’w ddweud ydi nad oes modd gor ddweud pwysigrwydd y sector addysg i’r Gymraeg.  Yn y gorffennol roedd y rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn dysgu’r iaith ar yr aelwyd – lleiafrif sy’n gwneud hynny bellach.  Mae’n debyg mai tua 21% o siaradwyr Cymraeg rhwng 3 a 15 sy’n dysgu’r Gymraeg ar yr aelwyd erbyn hyn, mae’r ganran gyfatebol ar gyfer pobl 65+ yn agos at 80%.  Mae’r gwahaniaeth yma yn sylweddol ac yn arwyddocaol iawn.

                                 Dosbarthiad ysgolion cyfrwng Cymraeg

Yr ail bwynt i’w wneud ydi bod pedair sir orllewinol yn ysgwyddo llawer iawn, iawn o’r faich o addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg – sef Ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.  Er mai 13% yn unig o blant ysgolion  cynradd Cymru sy’n cael eu addysgu yn y bedair sir yma, mae 57% o’r ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yno – ac mae 44% o’r plant sy’n cael addysg Gymraeg yn y siroedd hyn.  Mae’n debyg bod y gwir ffigwr yn uwch mewn gwirionedd gan bod ysgolion canol yng Ngheredigion yn cael eu di ystyru.  
I roi pethau mewn ffordd arall mae 87% o’r plant ysgolion cynradd yn yr 18 sir sy’n weddill yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Saesneg – er bod cryn dipyn o dystiolaeth bod yna lawer iawn o alw am addysg Gymraeg ar hyd rhannau sylweddol o’r siroedd hynny. 
Ac mae yna fater bach arall hefyd – Plaid Cymru sy’n arwain yn y bedair sir orllewinol tra mai Llafur sy’n arwain yn y rhan fwyaf o siroedd eraill.  
Does gan bleidiau Llafur lleol ddim llawer o broblem pan mae’n dod i ddefnyddio addysg cyfrwng Cymraeg fel arf gwleidyddol os ydi hynny’n gyfleus.  Cafwyd ymgyrch yn Llangennech yn erbyn newid statws yr ysgol leol gan Lafur eleni er enghraifft.  Roedd deunydd etholiadol Llafur yn Nhreganna yn ystod yr etholiadau lleol eleni yn codi bwganod am gau ysgolion cyfrwng Saesneg er mwyn agor rhai cyfrwng Cymraeg ym mis Ebrill a Mai eleni.
Felly os ydi Alun Davies eisiau ei filiwn o siaradwyr Cymraeg mae’n rhaid iddo ddod a’i blaid efo fo – yn genedlaethol ac ar lefelau lleol.  Wedi’r cwbl mae’r cynnydd yn y ganran o blant sydd mewn addysg Gymraeg yn boenus o araf – 18.81% oedd y ffigwr yn 2000/2001 a 23.86% ydi o erbyn hyn.  Mae’r ffigwr wedi bod yn statig am bron i ddegawd.  
Ond mae pob dim rydym yn ei wybod am y Blaid Lafur Gymreig yn awgrymu na fydd Alun Davies na Carwyn Jones na neb arall yn dangos y dewrder gwleidyddol i geisio mynd a’u plaid efo nhw.  Yn hanesyddol pan mae’n dod i faterion penodol Gymreig, cadw’r gwch yn wastad yn fewnol ydi blaenoriaeth Llafur.  Cyfaddawdu am resymau mewnol oedd yn gyfrifol am y setliad datganoli rhyfedd a bisar a gafodd Cymru, a dyna sy’n gyfrifol am y rhwyfo yn ol diweddar yng nghyd destun y Gymraeg.

Ystadegau oddi yma ac yma

Llafur Arfon a thlodi – rhaid wrth dderyn glan i ganu

Ar y Maes yng Nghaernarfon ddoe oedd fy nhad pan gafodd ei ganfasio gan actifydd Llafur – o bosibl y tro cyntaf iddo gael y profiad hwnnw yn ei fywyd (mae o ‘n 90 oed).  A dweud y gwir cafodd ei ganfasio ddwywaith – y tro cyntaf ar y ffordd i Stryd Llyn a’r ail waith ar y ffordd oddi yno.  
Mae’n ddigon naturiol bod Llafur eisiau gwneud ymdrech ychwanegol yn Arfon wrth gwrs – o drwch blewyn yn unig enillwyd yr etholaeth gan Blaid Cymru ym mis Mai ac maen nhw’n rhagweld etholiad arall yn gynt yn hytrach na’n hwyrach.  Digon teg.
Yr hyn sy’n llai teg fodd bynnag ydi pitch eu canfaswyr.  Y neges gafodd fy nhad oedd bod Arfon yn dlawd, ac mai’r rheswm am hynny ydi bod Arfon yn dlawd ac mai’r rheswm am hynny ydi ei bod wedi ei chynrychioli gan Blaid Cymru am hir.  Oni bai am y ffaith amlwg mai rhan o Arfon yn unig sydd wedi ei chynrychioli gan y Blaid am hir mae yna broblem arall – wrth safonau Cymreig ‘dydi Arfon ddim yn dlawd. A dyna ddywedwyd wrth un o’r canfaswyr gan fy nhad ‘Os ydych chi eisiau gweld ardaloedd tlawd ewch i’r rhai rydych chi wedi eu rheoli am ganrif yng Nghymoedd y De’.  Daeth hynny a’r sgwrs i ben a throdd yr actifydd ei chefn i chwilio am rhywun arall i’w fwydro.
Ymddengys felly mai’r strategaeth ydi argyhoeddi trigolion etholaeth sydd ddim yn dlawd (mae cyflogau cyfartalog Arfon yn uwch nag unrhyw le yn y Gogledd ag eithrio Delyn er enghraifft) eu bod yn dlawd ac mai bai eu cynrychiolwyr etholedig ydi hynny.

Beth am gael golwg felly ar yr ardaloedd tlotaf yng Nghymru yn ol gwahanol fesuriadau?  Isod ‘dwi ‘n rhestru’r pump etholaeth sydd ar waelod y tablau Cymreig.  Ffigyrau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2015 ydyn nhw i gyd a dwi wedi eu cymryd oddi yma.

Mi wnawn ni ddechrau efo’r ganran o bobl sydd yn byw yn y 10% o gymunedau tlotaf yng Nghymru:

Gorllewin Caerdydd 26%
Rhondda 26% 
Merthyr 24%
Blaenau Gwent 23%
De Caerdydd 23%
Dwyrain Abertawe 23%
Mae’r chwech etholaeth yn cael eu cynrychioli yn San Steffan gan Lafur – ac maen nhw wedi cael eu cynrychioli gan y blaid honno fwy neu lai trwy gydol eu hanes ers i bleidlais rydd gael ei gyflwyno.
Y ffigwr ar gyfer Arfon ydi 8%.
Beth am y cymunedau mwyaf cyfforddus yn economaidd?  Wel mae’r ffigyrau isod yn dangos pa ganran o boblogaeth gwahanol etholaethau sy’n byw yn y 50% o gymunedau lleiaf difreintiedig:
Rhondda 4%
Cwm Cynon 14%
Blaenau Gwent 15%
Merthyr 17%
Dwyrain Abertawe 27%
Eto Llafur un ac oll.
Y ffigwr ar gyfer Arfon ydi 65%
Fel y byddai rhywun yn disgwyl mae pobl yn marw yn gynt os ydyn nhw’n byw mewn etholaethau Llafur.  Mae hyd bywyd cyfartalog dynion yng Nghymru yn 78.5.  Yn Arfon mae’n uwch na hynny – 79.4.  Pump etholaeth Llafur sydd ar waelod y tabl:
Rhondda – 75.9
Blaenau Gwent 76.2
Aberafan – 76.5
Dyffryn Clwyd – 76.7
Ogwr – 76.7
Ac eto fel y byddai rhywun yn disgwyl mae diweithdra’n uwch mewn etholaethau Llafur nag ydynt yng ngweddill Cymru.  Y rhif cyfartalog yng Nghymru yn 2015 oedd 7% – union ganran Arfon.  Ond wele’r 5 isaf – pob un ohonynt yn etholaethau Llafur wrth gwrs:
Blaenau Gwent – 14%
Rhondda – 12%
Aberafan – 10%
Merthyr 10%
Cwm Cynon 10%.
Beth am weithgaredd economaidd?  Mae’r ganran o bobl Cymru sydd ddim yn economaidd weithredol yn 21%.  Mae’n is na hynny yn Arfon – 19% – ond mae’n uwch o lawer mewn nifer o etholaethau Llafur:
Merthyr – 26%
Rhondda – 26%
Aberafan – 25%
Canol Caerdydd – 24%
Ogwr – 19%.
A wedyn rydych chi’n llai tebygol o lawer i fod mewn swydd broffesiynol os ydych yn ddigon anffodus i fyw mewn etholaeth Lafuraidd.  Mae yna 39.7% o boblogaeth Cymru mewn swyddi proffesiynol, ac mae’n uwch na hynny yn Arfon – 46% a bod yn fanwl gywir.  Etholaethau Llafur sydd ar waelod y tabl wrth reswm:
Rhondda – 27%
Cwm Cynon – 28%
Ogwr – 29%
Blaenau Gwent – 28%
Merthyr 30%.
Mae’r ganran o boblogaeth Arfon sydd heb unrhyw gymwysterau addysgol o gwbl fymryn yn uwch na’r cymedr Cymreig (11% o gymharu a 10%).  Ond unwaith eto etholaethau Llafur sydd ar waelod y tabl:
Rhondda – 17%
Cwm Cynon – 17%
Ogwr – 16%
Merthyr – 15%
Blaenau Gwent – 15%
Ond pan mae’n dod i gymwysterau uwch – NQF 4 neu uwch – mae Arfon (38%) yn uwch na’r cymedr cenedlaethol (32%) ac yn llawer, llawer uwch na’r cymedr Llafur.  Yr isaf – fel arfer ydi:
Blaenau Gwent – 18%
Rhondda – 18%
Cwm Cynon – 18%
Ogwr – 21%
Aberafan – 24%
Islwyn – 24%
Torfaen 24%
Rwan does yna ddim pwt o amheuaeth mai’r rhannau tlotaf o Gymru o dan y rhan fwyaf o fesuriadau ydi’r rhai traddodiadol Lafur.  Ond nid bai Ann Clwyd yn uniongyrchol ydi o bod Cwm Cynon ar waelod cymaint o’r tablau isod, ac nid bai Chris Bryant ydi o bod y Rhondda mor isel.  ‘Does gan y naill na’r llall ohonynt y pwerau cyfansoddiadol i ddenu buddsoddiad i’w etholaethau.  
Ond mae’n ffaith nad ydi pleidleisio i Lafur am ganrif wedi bod o fudd economaidd i Gymru, a’r ardaloedd sydd wedi dioddef fwyaf ydi’r rhai sydd wedi bod fwyaf cyson eu cefnogaeth i Lafur.  Mae’r rhesymau pam bod yna gydberthyniad mor agos rhwng pleidleisio i Lafur yng Nghymru a methiant economaidd, ond un o’r ffactorau pwysicaf ydi methiant y blaid honno pan mae wedi cael y cyfle i ddarparu Cymru, a chymunedau Cymru, efo’r arfau i ddenu buddsoddiad a datblygu’r economi mewn ffordd gytbwys.  

Amaethyddiaeth, y Gymraeg a Brexit

Mae gen i gof i ffrwyth rhyw ymchwil neu’i gilydd i sut bleidleisiodd ffermwyr yng Nghymru yn refferendwm Ewrop a gafodd ei gyhoeddi yn Sioe Frenhinol y llynedd awgrymu i tua 60% ohonynt bleidleisio i adael yr UE.  Wna i ddim cymryd arnaf fy mod yn deall sut a pham aeth un o’r cydrannau hynny o’r economi sydd wedi elwa fwyaf o’r UE ati i bleidleisio i adael.  Ond mae’n werth edrych ar ganlyniadau posibl gadael yr Undeb serch hynny.

I ddechrau mae taliadau o’r UE yn cyfrif am tua 55% o incwm amaethyddol yn y DU, ac mae 73% o allforion amaethyddol y DU yn mynd i’r UE.  Mae’n anhebygol iawn y bydd y sector amaethyddol yn flaenoriaeth i lywodraeth y DU wrth iddi negydu cytundebau masnach yn y dyfodol – mae’r sector amaeth yn cyfri am tua 0.7% o GDP’r DU yn unig.  Byddai hyn yn rhoi’r sector yn weddol agos at ddiwedd y ciw o ran cael ei blaenori – ac mi fyddai’r gydadran Gymreig yn ei thro ar ddiwedd y ciw hwnnw.  O safbwynt llywodraeth y DU mae barwniaid grawn East Anglia yn llawer pwysicach na ffermwyr defaid Eryri.  

Ac nid dyna’r gwaethaf.  Un o’r prif ddadleuon tros adael yr UE oedd y byddai hynny’n galluogi’r DU i negydu cytundebau masnach rydd efo gwledydd y tu hwnt i’r DU.  Petai hyn yn digwydd byddai yn arwain at lawer mwy o fewnforion rhad o ansawdd is na’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd ar y farchnad.   Mae cig o Seland Newydd (er enghraifft) eisoes yn hynod gystadleuol yn y DU, er iddo gael ei gynhyrchu yn ddi gymhorthdal, iddo gael ei symud o un ochr i’r Byd i’r llall a bod tollau wedi ei dalu arno.  

Mae’n bosibl dadlau y bydd llywodraeth y DU yn dod o hyd i’r pres ar gyfer cymorth daliadau wrth gwrs – a gellir dadlau hefyd nad ydi’r gyfundrefn CAP ond wedi ei sicrhau hyd at 2021 ac na chaiff ei adnewyddu.  Ond y gwir amdani ydi bod gan y sector amaethyddol lawer mwy o rym gwleidyddol yn Ewrop na sydd ganddi yma.  Yn ychwanegol at hynny bydd cynnig cymorthdaliadau yn llawer anoddach yn wleidyddol os nad yw’n cael ei ariannu o Ewrop. Os yw’n cael ei dalu yn uniongyrchol o gyllideb llywodraeth y DU bydd yn cystadlu efo addysg, gofal, pensiynau, iechyd ac ati am gyllid – a bydd yn anodd iawn ennill y ddadl yna.

Mewn geiriau eraill gallai gadael yr UE fod yn drychineb i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

Felly ydi o dragwyddol bwys bod y diwydiant amaeth yng Nghymru yn crebachu ymhellach – wedi’r cyfan mae’n rhan gweddol fach o ‘r economi?  Wel mae’n dibynnu beth sy’n bwysig i chi.  Un o batrymau amlycaf y degawdau diwethaf o ran y Gymraeg ydi ei bod wedi datblygu i fod yn iaith llai gwledig a mwy trefol.  Y rheswm am hyn ydi bod pobl gynhenid (a Chymraeg eu iaith) wedi bod yn symud o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol yng Nghymru, tra bod pobl o Loegr wedi bod yn symud i ardaloedd Cymraeg eu hiaith.  Dyna pam bod Caernarfon (dyweder) yn llawer mwy Cymraeg o ran iaith heddiw na Phen Llyn – er mai’r gwrthwyneb oedd yn wir trwy gydol hanes Cymru.  

Mae un cydadran o’r Gymru wledig wedi parhau’n Gymreig a Chymraeg iawn fodd bynnag – yr adran  amaethyddol.  Byddai colli honno’n ergyd sylweddol i’r Gymraeg yn y Gymru wledig yn gyffredinol ac yn ergyd farwol mewn rhannau helaeth ohoni.