Ydi 90 Aelod Cynulliad yn ormodol?

O diar, mwy o anhapusrwydd i Felix – mae o’n ystyried cynnydd yn y nifer o Aelodau Cynulliad fel ‘gorffwylldra llwyr’.



Ymddengys bod ‘gorffwylldra llwyr’ yn beth cyffredin braidd pan mae’n dod i senedd-dai a siambrau cyngor.

Cymru 3.06m
(60 AS).

Y DU – poblogaeth 64m

Ty’r Arglwyddi (812)

Ty’r Cyffredin (650) 
Cyfanswm (1462)

Powys 133,000 poblogaeth.
(73 cynghorydd).  

Gwynedd 122,000 poblogaeth.
(75 cynghorydd)

Yr Alban 5.3m poblogaeth.
(129 Aelod Senedd yr Alban).

Gogledd Iwerddon 1.8m poblogaeth
(108 aelod Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Iwerddon –  4.6m poblogaeth
(156 TD)

Gwlad yr Ia – 323,000 poblogaeth
(65 Aelod Althing)

Blaenau Gwent – poblogaeth, fawr o neb.
(42 cynghorydd).

Dydi Felix ddim yn hapus

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn gwybod ein bod yn ymweld a chyfri trydar eithaf boncyrs Felix Aubel o bryd i’w gilydd – er fy mod wedi cael fy mlocio rhag dilyn y cyfri ers talwm.  Er enghraifft cawsom gip ar drydariadau ac aildrydyriadau anoddefgar y dyn yma.  Mae’r math yma o beth yn llai cyffredin y dyddiau hyn – ers i  Felix gael ei hun mewn dwr poeth oherwydd iddo  gael cyhoeddusrwydd anffafriol wedi iddo geisio dechrau trafodaeth efo eithafwr adain dde o Sweden ynglyn erlid pobl am resymau crefyddol.  





Ac am unwaith yn ei fywyd mae Felix yn gwbl gywir – mae’r DU wedi ildio ar pob dim roeddynt yn dweud oedd y ‘linellau coch’ ychydig amser yn ol.  Yn anhygoel mae’r cytundeb yn nodi y bydd y DU yn cadw at reoliadau a safonau Ewropiaidd os mai dyna’r unig ffordd o sicrhau nad oes ffin rhyngwladol yn yr Iwerddon.  Efallai y byddai’n syniad egluro pam bod hyn wedi digwydd er budd Felix a’i debyg.


Y peth cyntaf i’w ddweud ydi nad proses o negydu yn yr ystyr arferol ydi’r hyn sydd wedi dod i fwcl heddiw.  Yn hytrach mae’n broses o’r UE yn dweud wrth y DU beth sy’n rhaid iddi ei wneud cyn cael trafod trefniadau masnach yn y dyfodol, a’r DU – ar ol tipyn o theatrics – yn cytuno i’r hyn maent yn gofyn amdano.  

Mae’r rheswm pam bod hyn yn digwydd yn eithaf syml yn y bon – mae pethau’n unochrog iawn – mae’n ‘negydu’ rhwng bloc masnachu anferth a gwlad ganolig ei maint sydd ddim efo cytundeb masnach efo unrhyw wlad yn annibynnol o’r UE. Byddai methu a dod i gytundeb yn niweidiol i’r UE – ond byddai’n gwbl drychinebus i’r DU o safbwynt masnachol.

Gallwn ddisgwyl i’r ‘negydu’ tros y flwyddyn nesaf fod yn ddigon tebyg – gyda’r DU yn gorfod dilyn un gorchymyn ar ol y llall.

Felly rydym mewn sefyllfa lle mae pobl fel Felix sydd wedi bod yn ymgyrchu i adael Ewrop wedi’n cael mewn sefyllfa lle rydym yn gorfod talu swmiau mawr o arian i’r UE, lle bydd y Llys Ewropiaidd yn dal efo dylanwad yn y DU a lle bydd Gogledd Iwerddon yn symud oddi wrth gweddill y DU o ran ei threfniadau masnachol a rhai o’i threfniadau economaidd.

Ac mae yna rhywbeth arall hefyd.  Mae Iwerddon wedi cael pob dim roedd am ei gael o’r broses yma tra bod y DU wedi cael nesaf peth i ddim – ag eithrio cael mynd ymlaen i gael ei gicio o gwmpas eto yn ail gam y negydu.  Yn hanesyddol mae’r DU wedi arfer cael gwthio’r Iwerddon o gwmpas yr iard yn ddi dramgwydd.  Ni ddigwyddodd hynny y tro hwn oherwydd bod y Gwyddelod – fel aelodau parhaol o’r UE – gyda chefnogaeth gwledydd Ewrop, tra nad oedd gan Brydain gefnogaeth neb.  Cafodd y bwli ei fwlio gan endid llawer llai na fo’i hun.

Mae Felix a’i ffrindiau wedi gwneud y DU yn wanach ar y llwyfan rhyngwladol nag yw wedi bod erioed.  Mae’n anodd peidio chwerthin.















Pam bod sylwadau fel rhai Liam Fox yn cythruddo Gweriniaeth Iwerddon

Gan bod Liam Fox wedi cael ei hun yn y newyddion heddiw oherwydd ei sylwadau am Brexit a’r ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth waeth i mi ddweud pwt.  

Yr hyn sy’n fy nharo ydi mor ddi ddeall ydi pobl fel Liam Fox a’r cyfryngau Seisnig o arwyddocad y ffin i’r Weriniaeth a’r graddau mae eu sylwadau yn cythruddo Gwyddelod ac yn gwneud feto o’u cyfeiriad nhw yn llawer mwy tebygol.  Mi geisiaf egluro.  

1). Mae’r ffin yn ffrwydrol – mae yna lawer iawn o bobl wedi eu lladd ar ei hyd – yr holl ffordd o Muff ar eithaf Gogledd Orllewinol y ffin  i Warrenpoint ar ei eithaf de Ddwyreiniol.

2). Dydi hi ddim yn bosibl selio’r ffin – mae’n rhedeg trwy bentrefi, trefi, ffermydd, gerddi, coedwigoedd, mynyddoedd, corsydd.  Ni lwyddwyd i’w selio pan roedd 55,000 o aelodau o’r lluoedd diogelwch ar gael gyda cart blanche i chwythu lonydd a phontydd i fyny os oeddynt eisiau, hofrenyddion rhyfel yn hedfan uwchlaw fwy neu lai yn barhaol ac ugeiniau o adeiladau milwrol wedi eu lleoli ar ei hyd.  

3). Mae agwedd gyffredinol Prydain yn corddi llywodraeth Iwerddon fel mae’n corddi llywodraethau eraill yn Ewrop.  Mae’r cyfuniad o’r penderfyniad i adael yr UE – sy’n benderfyniad a wnaed gan y DU a’r DU yn unig – ynghyd a’r disgwyliad i wledydd eraill i ddod o hyd i ddatrysiadau i’r problemau lu sy’n codi yn sgil hynny yn ddigon drwg.  Mae’r addewidion cyffredinol iawn yn absenoldeb unrhyw fanylion, ac yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth o fod wedi ystyried y manylion yn  gwneud pethau’n waeth.  

4). Mae’r penderfyniad i adael yr UE yn broblem economaidd sylweddol i’r Iwerddon.  Does yna ddim mewath o gydnabyddiaeth o hynny yn dod o gyfeiriad y DU.

5). Mae’r ddadl na ddylai Gogledd Iwerddon gael ei thrin mewn unrhyw ffordd yn wahanol i. ‘Weddill’ y DU yn afresymegol.  Mae’n cael ei thrin yn wahanol mewn pob math o ffyrdd – gan gynnwys cyfreithlondeb erthyliad a phriodas hoyw.

6). Mae’r cyferbyniad rhwng  ymddygiad llywodraeth Prydain wrth ymateb i’w dyled i’r Undeb Ewropeaidd â sut y cafodd y Gwyddelod eu trin ni pan gawsant eu hannibyniaeth hefyd yn achos cynnen.

Gorfodwyd Iwerddon i gymryd  7% o ddyled rhyfel y DU a pharhau i ad-dalu blwydd-daliadau tir i Brydain, tra bod perchnogion Seisnig neu Eingl Wyddelig y rhan fwyaf o gyfoeth y wlad wedi mynd a phob ased oedd posibl ei symud i’r DU.  Gwnaed yn glir bod rhaid i’r wladwriaeth newydd glymu ei harian i sterling ac ildio i bolisi ariannol Banc Lloegr neu gael ei gwahardd o’r marchnadoedd cyllid rhyngwladol yn Llundain.

Dyna pam – yn wahanol i wledydd y Baltic, Fifindir, Gwlad Pwyl, Hwngari ac Iwgoslafia-  na lwyddodd economi’r Wladwriaeth Wyddelig i godi ar ei draed rhwng diwedd y Rhyfel Mawr a dechrau’r Dirwasgiad Mawr.

Ar hyn o bryd mae Prydain yn flin bod yna fil unwaith ac am byth o £40m i £60m ar y ffordd.  Pan adawodd Iwerddon y DU.  Dydi hyn ddim yn edrych yn llwyth o bres o ochr arall y Mor Celtaidd.  Byddai’r swm yma yn ychwanegu 2% i 2.5% o ddyled cenedlaethol y DU.  Mae hyn yn llawer is na’r hyn mae Iwerddon wedi bod yn ei ad dalu yn flynyddol ers trychineb ariannol 2009.

Winston Churchill sydd biau’r dyfyniad enwog yma yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf: 

“As the deluge subsides and the waters fall short, we see the dreary steeples of Fermanagh and Tyrone emerging once again. The integrity of their quarrel is one of the few institutions that have been unaltered in the cataclysm which has swept the world.”

Ac mae yna rhywfaint o wirionedd yn hynny ( er mai ‘our quarrel’ nid ‘their quarrel’ sy’n gywir)  mae’r ffrae am statws cyfansoddiadol Iwerddon yn un oesol ac yn un sy’n codi ym mhob math o gyd destynnau.  

Is etholiadau sydd ar y gweill

Ymddiheuriadau am flogio ysgafn (iawn) tros yr wythnosau diwethaf – mi geisiaf flogio’n amlach hyd yn oed os mai blogiadau byr fel hwn ydi rhai ohonynt.

Felly dyma gychwyn trwy restru’r is etholiadau sydd i’w cynnal yn y dyfodol agos sydd o ddiddordeb i’r Blaid.

     *   Bydd Huw Marshall yn sefyll tros y Blaid mewn is etholiad cyngor cymuned ym Mhontycymer, Pen y Bont ar 16/11/17.
     *   Bydd Dawn Lynne Jones yn sefyll i Blaid Cymru mewn is etholiad yn ward Cadnant yng Nghyngor Tref Caernarfon ar 23//11/17.
     *   Bydd Jo Hale yn sefyll mewn is etholiad yn Ne Bryncoch ar gyfer Cyngor Castell Nedd ar 23/11/17

Beth mae’r helynt Carl Sargeant yn dweud wrthym am y Blaid Lafur Gymreig

Reit mae hon yn un dipyn bach mwy sensitif nag arfer – ond byddai’n well i ni ddweud gair neu ddau mae’n debyg gen i.


Mae marwolaeth annisgwyl yn naturiol yn ennyn ar deimladau cryf – a mynegiant o’r teimladau hynny – a dyna sydd wedi digwydd yn sgil hunan laddiad Carl Sarjeant yn gynharach yr wythnos yma.  Ond mae digwyddiadau sydd yn ennyn ar deimladau cryf hefyd yn tueddu i daflu goleuni i gorneli sydd ddim yn gweld y golau yn aml – ac mae hyn wedi digwydd yma hefyd.



Y peth pwysicaf sydd wedi dod i’r amlwg ydi bod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi bod yn cuddio holltau ers talwm, a bod yr holltau hynny wedi ffrwydro i’r wyneb yn sgil digwyddiadau diweddar.

Cafwyd rhai o bwysigion Llafur yn mynd ati i wneud i Carwyn Jones yr hyn mae rhai ohonynt yn ei gyhuddo yntau o wneud i Carl Sargeant – ei gael yn euog cyn bod unrhyw ymchwiliad wedi digwydd.


Mae Leighton Andrews wedi ail ymddangos ar y ffurfafen wleidyddol i ddweud wrthym am awyrgylch wenwynig a bwlio oddi mewn i Lywodraeth Cymru a bod Carl Sargeant wedi cael ei dargedu ac nad oes trefn addas i ymchwilio i mewn i gwynion gan y Llywodraeth.  Roedd hefyd yn dweud bod Carwyn Jones yn ymwybodol bod Carl Sargeant yn fregus.  Gan nad yw Leighton Andrews yn Weinidog nag yn wir yn wleidydd Llafur bellach mae’n rhydd i siarad, a ‘dydi Carwyn Jones ddim mewn lle i ddial arno na’i niweidio.  Mae’n eithaf sicr bod Leighton Andrews yn siarad tros nifer sydd mewn sefyllfa sy’n 

ei gwneud yn llawer anos iddynt ddweud eu dweud.  


Rydan ni wedi clywed cryn dipyn tros y dyddiau diwethaf o ganmol rhagoriaethau Carl Sargeant fel gweinidog, gydag Alun Michael yn mynd ati i’w ddisgrifio fel un o’r gweinidogion mwyaf effeithiol iddo ddod ar ei draws yng Nghaerdydd nag yn wir Llundain.  Dydan ni ddim wrth gwrs bellach yn clywed nag yn debygol o glywed fawr ddim am yr honiadau yn ei erbyn.  


Tra bod marw yn ffordd wych o gael ein dyrchafu i’r cymylau a chael pobl i anghofio eich gwendidau – gwir neu dybiedig –mae’n amlwg bod o leiaf rhywfaint o’r canmol a’r clodfori yn ymysodiadau anuniongyrchol ar Carwyn Jones a’i arweinyddiaeth.  Mae’r hollti yn y Blaid Lafur Gymreig yn cael ei arddangos trwy brism ymatebion i ddigwyddiadau anffodus yr wythnosau diwethaf.


Ac mae’n debyg bod dimensiwn arall i’r gwrthwynebiad i Carwyn Jones – sef yr hollt rhwng dilynwyr Corbyn a’r sefydliad Llafur yn y DU, ac mae’n debyg bod y ffaith i Corbyn ddewis peidio a chefnogi Carwyn Jones yn adlewyrchu hyn.  Byddai Corbinistiaid Llafur wrth eu boddau petai ganddynt lywodraeth i’w rheoli yng Nghymru cyn yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf.  


Felly mae sefyllfa Carwyn Jones yn fwyaf sydyn yn hynod wan, gyda holltau sydd wedi bodoli ers talwm yn cael eu dinoethi’n gyhoeddus.  Mae’n fwy na phosibl na fydd Carwyn Jones yn arwain Llywodraeth Cymru erbyn diwedd y gwanwyn – ac mae’n fwy tebygol hyd yn oed na fydd Theresa May chwaith yn arwain Llywodraeth y DU.  Mae’n debyg y bydd y flwyddyn nesaf yn rhoi llechen lan i ni yn y ddau ddeddfwrfa.