Pwy sy’n trydar yn y Gymraeg?

Yn dilyn rhyddhau ffigyrau Cymdeithas yr Iaith sy’n dangos mai ychydig iawn o Gymraeg fyddai’n cael ei ddefnyddio yn y Cynulliad oni bai am aelodau Plaid Cymru roeddwn yn rhyw feddwl y byddai’n syniad cael cip ar faint o ddefnydd sy’n cael ei wneud o’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol gan gwahanol wleidyddion Cymreig.  Felly dyna fynd ati i edrych ar gyfrifon trydar nifer o wleidyddion sydd wedi eu dewis oherwydd eu bod nhw’n ystyried eu hunain yn gefnogol i’r iaith Gymraeg a ‘u bod yn rhugl(ish) eu Cymraeg.
Gair o rybydd i ddechrau – edrych ar y 20 trydariad (nid ail drydariad) diwethaf wnes i – mae hynny’n sampl bach, ac mae’n anheg efo un neu ddau.  Er enghraifft mae yna fwy o drydyriadau Saesneg yn sampl Rhun ap Iorwerth na sy’n arferol ganddo oherwydd iddo gael ei hun mewn dadl efo rhywun di Gymraeg yn ystod cyfnod y sampl.
Ta waeth – mae’r ffigyrau’n eithaf diddorol.  Mae trydyriadau Cymraeg Dafydd Elis-Thomas wedi mynd yn hynod brin ers iddo gael ei godi’n weinidog.  Mae Sion Jones yn trydar i’w etholwyr bron yn llwyr yn Saesneg er ei fod yn cynrychioli un o’r hanner dwsin ward mwyaf Cymraeg yng Nghymru, a dim ond pan mae’n cyfeirio at y Gymraeg mae’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg yn defnyddio’r iaith.  Mae’r Prif Weinidog yn ailadrodd pob trydariad Saesneg gair am air yn y Gymraeg – ac felly’n trydar hanner yr amser yn Gymraeg.  Un gair mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ei ‘sgwennu’n Gymraeg mewn 20 trydariad – diolch – a hynny ar ddiwedd neges oedd fel arall yn uniaith Saesneg oedd wedi ei chyfeirio at ysgol cyfrwng Cymraeg. 
Fel arall mae pethau yn mynd yn ol y disgwyl – Pleidwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg. 

Diweddariad ynglyn a chyfrifon swyddogol – hy Carwyn Jones – diolch i Aled ap Dafydd
A diolch i Vaughan am y diweddariad:
Mae’r cyfri personol Carwyn Jones fwy neu lai yn uniaith Saesneg (ar wahan i ail drydar) gyda 19 o’r 20 trydariad diwethaf yn Saesneg a’r un sy’n weddill yn llongyfarch un o’i etholwyr Cymraeg ei iaith – yn ddwyieithog.  

O’r diwedd y Gogledd ar flaen ciw Llafur Cymru

Mae’r blog yma wedi cwyno yn y gorffennol sawl gwaith yn y gorffennol bod llywodraeth Lafur Cymru yn benderfynol o beidio lleoli dim y tu hwnt i goridor yr M4 ac y byddai’n well ganddynt wynebu tragwyddoldeb yn Uffern na lleoli unrhyw beth yn y Gogledd.

Ond – am unwaith mae’r Gogledd yn cael blaenoriaeth gan Lafur Cymru – blaenoriaeth llwyr a hynny mewn maes pwysig iawn – cael gwared o swyddi gweision sifil.  Pan mae’n dod i greu swyddi cyhoeddus mae’r Gogledd ar gefn ciw Llafur Cymru – ond pan mae’n dod i ddifa swyddi rydym ar flaen y ciw.

Diolch bois.

Yr hen gyfryngau unochrog ‘na


And I also feel sure that the appallingly biased presentation of debate by some of the media, intended to undermine the UK in negotiations to the extent that we might reject the final negotiated deal is making the British people more in favour of leaving.

Mae’n rhan o naratif cefnogwyr Brexit wrth gwrs bod y cyfryngau a’r sefydliad i gyd yn eu erbyn. Er cywirdeb dwi’n rhestru isod y cyfryngau oedd o blaid ac yn erbyn Brexit adeg y refferendwm ynghyd a’u cylcgrediad.

O blaid Brexit:

Sun (1.7m cylchrediad)
Daily Mail (1.5m)
Telegraph (490k)
Mail on Sunday (1.3m)
Sunday Times (797k)
Sunday Telegraph (797k)
Daily Star – heb ddatgan, ond y cyfeiriad golygyddol o blaid Brexit (425k)
Daily Express (427k)
Sunday Express (396k)
Sun on Sunday (1.45m).

O blaid Aros:

Times (438k)
Daily Mirror (776k)
I –  heb ddatgan, ond y cyfeiriad golygyddol o blaid Aros (284k)
Guardian (165k)
FT (118k)
Observer (194k)
Sunday Mirror (1.8m)

Ac ar ben hynny mae nifer o’r papurau sydd o blaid Brexit yn uwd o gelwydd ac yn llawn optimistiaeth gorffwyll cwpl ddi dystiolaeth.

Ffigyrau’r flwyddyn

Yn ol statcounter dyma’r flwyddyn fwyaf prysur erioed i Flogmenai – nid fy mod yn credu’r ffigyrau a dweud y gwir.  ‘Dwi wedi blogio llai yn 2017 ‘na dwi wedi ei wneud ers blynyddoedd – a ‘dwi ddim yn siwr beth ydi’r neges i’w chymryd os ydi llai o flogio yn arwain at ddarlleniad uwch!

Rhagweld 2018 – rhan 4

Theresa May.  Flynyddoedd maith yn ol roedd yna swydd yn India oedd gyda’r gwaethaf yn y Byd.  Disgwylid i ddeilydd y swydd dreulio ei ddiwrnod gyda’i ddwylo ynghanol afon o garffosiaeth agored yn chwilio am rhywbeth – unrhyw beth – o werth ynghanol y budreddi –  pres, darn o fetel, potel – unrhyw beth. Mae swydd bresenol Theresa May yn ymdebygu i’r swydd anymunol yma mewn rhai ffyrdd.

Mae’r greadures  wedi goroesi hyd yn hyn oherwydd nad oes neb arall eisiau ei swydd yn yr amgylchiadau sydd ohonynt.  Pan ddaw’n glir mai derbyn cyfarwyddiadau gan yr UE fydd y ‘negydu’ yn y flwyddyn newydd – yn union fel y ‘negydu’ sydd eisoes wedi mynd rhagddo, mi fydd yna ychydig o gicio a strancio gan Rees Mogg, Duncan Smith ac ati, a bydd y DUP yn chwythu ffiws os bydd ffin rhyngwladol yn cael ei bloncio ynghanol y Mor Celtaidd.  Ond yn y diwedd bydd y DU yn dilyn cyfarwyddiadau’r UE a bydd y setliad y byddwn yn ei gael yn rhywbeth gwaeth – ac efallai gwaeth o lawer – na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd.  Y rheswm am hynny ydi bod pawb yn deall erbyn hyn pwy sydd efo’r grym, a phwy nad oes ganddynt unrhyw rym – ond ‘dydi’r sawl sydd wedi’n arwain i lle’r ydym ar hyn o bryd byth, byth am gyfaddef hynny. Byddant yn derbyn yr hyn y byddant yn ei gael yn union fel y gwnaethant yn gynharach y mis hwn.

Wedi’r setliad, ac wedi i’r DU adael yr UE bydd y gem yn newid – mi fydd rhaid i rhywun gymryd y bai am wneud smonach o bethau – a joban Theresa May fydd honno.  Bydd yn goroesi 2018 am resymau rydym eisoes wedi cyffwrdd a nhw, a bydd yn goroesi Brexit.  Wedyn – yn ystod hydref 2019 yn ol pob tebyg bydd yn cael ei hel i fyny’r planc ac yn cael ei lluchio i’r siarcod a bydd rhywun megis Jacob Rees Mogg yn cymryd ei lle.  Gallwn wedyn ddisgwyl llwyth o gimics bach diwerth fel y pasport glas.  Gall y system addysg ddisgwyl y pleser o gyflwyno dulliau mesur imperial i’r plantos.  

Rhagweld 2018 – rhan 3

Mae’r UE yn debygol i barhau i gefnogi llywodraeth Sbaen a bydd goblygiadau hir dymor i hynny.  Bwriad gwreiddiol yr UE oedd dod a’r rhyfeloedd hynod waedlyd sydd wedi ‘sgubo tros gyfandir Ewrop tros y canrifoedd i ben trwy roi buddiannau tebyg i bob gwlad – ac mae hynny wedi bod yn hynod lwyddiannus.  Ond mae cymryd agwedd na all y ffiniau rhyngwladol oddi mewn i’r UE byth newid yn creu risg newydd i heddwch oddi mewn i’r UE.  Mae ffiniau gwleidyddol wedi newid ac  esblygu erioed, a byddant yn gwneud hynny am byth.  

Yn y gorffennol roedd y newidiadau hyn yn aml – ond nid pob tro –  yn digwydd oherwydd concwest milwrol, ond yn ddiweddar maent wedi adlewyrchu dymuniadau democrataidd y bobl sy’n byw o fewn eu ffiniau.   Lle nad oes cyfle i bobl fynegi eu hunaniaeth trwy ddulliau democrataidd, mae’r tebygrwydd o wrthdaro milwrol yn uwch.  Roedd y rhyfeloedd hir yng Ngogledd Iwerddon a Gwlad y Basg wedi eu hachosi – yn eu gwahanol ffyrdd – gan ddiffg cyfleoedd democrataidd i fynegi hunaniaeth genedlaethol.  Os ydi’r UE yn datblygu i fod yn rhwystr i newidiadau sy’n deillio o ewyllys democrataidd carfannau o bobl sy ‘n byw yn yr UE bydd tyndra gwleidyddol yn adeiladu mewn gwahanol rannau o’r Undeb, a bydd tros amser yn arwain at dywallt gwaed.

Rhagweld 2018 – rhan 2

Carwyn Jones.  Beth bynnag ddaw o’r ymchwiliad swyddogol i fwlio yng nghoridorau pwer Bae Caerdydd, mae gan Carwyn Jones lawer o elynion oddi mewn i’r Blaid Lafur Gymreig bellach a bydd llawer o’r rheiny  eisiau gweld gwaed.  

Mae’r Blaid Lafur yn ehangach bellach wedi syrthio i ddwylo dilynwyr Corbyn, ac mae hynny wedi cael ei adlewyrchu yn y newid yn arweinyddiaeth Plaid Lafur yr Alban.  A gadael y sefyllfa Carl Sergeant o’r neilltu, mae Carwyn yn edrych yn greadur digon rhyfedd yng nghyd destun yr hyn ydi’r Blaid Lafur bellach.  Mae’n anodd credu y bydd gyda ni am hir.  Bydd yn syndod i mi os bydd yn goroesi’r flwyddyn fel arweinydd y Blaid Lafur Gymreig a Phrif Weinidog Cymru.

Rhagweld 2018 – rhan 1

Os ydi’r blynyddoedd diwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni – y ffaith nad yw’n syniad da ceisio rhagweld y dyfodol ydi un o’r rheiny.  Ond mi wnawn ni anwybyddu’r wers honno a cheisio edrych ymlaen ar un peth pob dydd rhwng rwan a’r flwyddyn newydd.  Mi gychwynwn ni efo Brexit – lle arall?

Fel 2016 a 2017 Brexit fydd yn dominyddu 2018 yn wleidyddol.  Bydd y DU yn parhau i ogor droi yn ei hunfan o ran deddfwriaeth seneddol, ond bydd rhaid dod i bendrefyniadau mawr yn gynnar yn y flwyddyn ynglyn a’r math o Brexit mae’r DU ei eisiau.  Bydd pob math o broblemau a chymlethdodau’n dod i’r amlwg, fel ddigwyddodd yn 2017 – ond y cwestiwn mawr fydd rhaid ei ateb ydi os bydd ffin rhyngwladol llawn rhwng y DU ac Iwerddon, ac os felly ymhle fydd y ffin.  
Mae’r DU eisoes wedi addo i’r UE na fydd ffin ar ynys Iwerddon, ac i’r DUP na fydd Gogledd Iwerddon yn cael ei thrin yn wahanol i weddill y DU.  Rhesymeg hynny ydi na fydd yna ffin ryngwladol go iawn ynghanol y Mor Celtaidd chwaith.  Os ydi hynny’n cael ei wireddu ni fydd y DU yn gallu crwydro ymhell oddi wrth safonau’r UE o ran masnach a bydd yn parhau i fod yn atebol i’r ECJ.  Bydd ei gallu i lunio cytundebau masnach efo gwledydd eraill wedi ei gyfyngu’n sylweddol hefyd.  Os digwydd hynny bydd llawer o Doriaid yn ofnadwy, ofnadwy o flin.  
Mae yna rhywun am gael ei siomi – ac yn ymarferol naill ai’r DUP neu Jacob Rees Mogg ac Iain Duncan Smith fydd yn siomedig. O’r ddau ddewis mae’n debyg y bydd May yn dewis siomi’r DUP – a bydd hynny yn di sefydlogi’r llywodraeth ymhellach – a bydd yna oblygiadau i Gymru wrth gwrs.