Ah BoJo

I”There’s no border between Islington, Camden and Westminster, but when I was mayor of London we anaesthetically and invisibly took hundreds of millions of pounds from people travelling between those two boroughs without any need for border checks,” – Boris Johnson.


Ok, joc ydi’r un olaf.

Canlyniadau’r refferendwm fesul etholaeth

Bydd y sawl sy’n cofio noson cyfri refferendwm Ewrop yn cofio i’r canlyniadau gael eu rhyddhau fesul awdurdod lleol ym mhob man ag eithrio Gogledd Iwerddon. Mae’n debyg bod y ffigyrau wedi eu coledu bellach yn ol etholaeth seneddol – sy’n rhoi darlun ychydig yn wahanol ar bethau.  Wele ganlyniadau Cymru isod.  Gellir gweld y canlyniadau llawn yma.

Canol Caerdydd – 69.7
Arfon – 65.1
Gogledd Caerdydd – 60.9
Gorllewin Abertawe – 57.4
Gorllewin Caerdydd – 55.2
De Caerdydd – 55.1
Ceredigion – 54.6
Pontypridd – 54.2
Mynwy – 52.2
Meirion Dwyfor – 51.7
Pen y Bont – 50.4
Gwyr – 49.9
Ynys Mon – 49.1
Brycheiniog a Maesyfed – 48.3
Bro Morgannwg – 47.7
Gorllewin Clwyd – 47.5
Gorllewin Casnewydd – 47
Aberconwy – 46.7
Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr – 46.3
Castell Nedd – 45.8
Delyn – 45.3
Caerffili -44.9
Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro – 44.7
Llanelli – 44.6
Preseli Penfro – 44.3
Trefaldwyn – 44.1
Dyffryn Clwyd – 44.1
Cwm Cynon – 43.1
Wrecsam – 42.7
Alun a Glannau Dyfrdwy – 42.3
Merthyr – 41.6
Islwyn – 41.2
Ogwr – 40.3
Aberafon – 40.1
De Clwyd 39.8
Dwyrain Casnewydd 39.8
Torfaen – 39.2
Rhondda – 38.8
Blaenau Gwent – 38
Dwyrain Abertawe 38

Gwilym Owen eto fyth

Wedi cael y myll am bod Jess Blair (neu ‘Jess bach’ chwedl yntau)wedi awgrymu y dylai bod mwy o ferched yng ngwleidyddiaeth Cymru mae Gwilym y tro hwn

Yn wir roedd Gwil wedi ypsetio cymaint nes iddo fynd a ni am dro o gwmpas Ynysoedd Prydain i dynnu sylw at yr hyn mae’n ei ystyried yn fethiannau mawr mewn sefyllfaoedd sy’n cael eu harwain gan ferched – y methiant i ddod i gytundeb rhwng pleidiau Gogledd Iwerddon, ffreao mewnol ym Mhlaid Cymru, colli seddi a gohirio’r alwad am refferendwm gan yr SNP a methiant y Toriaid i ennill Etholiad Cyffredinol 2017.

Rwan, mae’r ymarferiad yma’n un cwbl idiotaidd – hyd yn oed o dan safonau Gwilym. Mae’n esiampl dda o gau resymu.  Mae’r sefyllfoedd anodd mae Gwilym wedi eu dethol yn aml yn rhai sy’n cael eu gyrru gan amgylchiadau cymhleth, ond mae’n eu priodoli i statws arweinyddol merched mewn gwleidyddiaeth gan awgrymu bod merched – trwy ddiffiniad – yn dda i ddim am wleidydda ac arwain.

O ddethol sefyllfaoedd penodol yn ofalus gallem ddefnyddio’r un dechneg i ‘brofi’  bod pobl croen dywyll, dynion, Mwslemiaid, Iddewon, pobl hoyw, cefnogwyr Everton neu bobl sy’n bwyta pizza yn anobeithiol am redeg sefydliadau.  I ddweud y gwir gallem ddefnyddio’r math yma o resymu i gefnogi unrhyw ragfarn hyll rydym yn ei harddel. 

Does yna ddim problem o gwbl os ydi Gwilym Owen eisiau dadlau bod cwotau rhyw / ethnigrwydd ac ati yn amhriodol.  Does yna ddim problem chwaith iddo amddiffyn hawl pobl mewn oed mawr i wleidydda’n broffesiynol.  A dweud y gwir, dwi’n rhyw gytuno efo fo ynglyn a hynny – effeithlionrwydd gwleidydd ydi’r peth pwysig, nid blwyddyn ei eni.  Ond mae’n broblem pan mae’n defnyddio rhesymeg ysgol feithrin i awgrymu bod grwp mewn cymdeithas yn anaddas i arwain – ac yn arbennig felly os ydi’r grwp hwnnw’n un mwyafrifol.

Mae dyn yn deall pam bod Golwg yn teimlo y dylent gyflogi cefnogwr boncyrs o gibddall o’r Blaid Lafur – mae Cymru yn wladwriaeth un plaid i bob pwrpas, ac mae’r cylchgrawn yn ddibynnol  ar gymorthdaliadau cyhoeddus.  Ond ‘dydi rhai o’r agweddau mae Gwilym yn eu harddel ddim yn perthyn i’r Blaid Lafur, nag yn wir i’r unfed ganrif ar hugain.  Na ail hanner yr ugeinfed ganrif.  Mae cael amrywiaeth  barn yn un peth, ond mae rhoi llais i agweddau o’r Oesoedd Tywyll yn rhywbeth gwahanol.  Efallai ei bod yn bryd i Golwg ystyried beth ydi eu gwerthoedd creiddiol.

Sylw neu ddau ynglyn a lleoliad gwleidyddol y Blaid

Mae problem y Blaid yn eithaf syml yn y bon ac mae’n ymwneud a lleoliad gwleidyddol.  Cyn ymddangosiad Corbyn ar y ffurfafen wleidyddol roedd y Blaid wedi ei lleoli i’r chwith i Lafur – ac roedd y fan honno yn lle eithaf defnyddiol i fod yn wleidyddol.  Roedd Llafur Milliband yn lled gefnogi’r consensws Prydeinig ynglyn a llymdra ac roedd hynny’n rhoi cyfle i’r Blaid ddenu pobl na fyddai’n edrych i’w chyfeiriad fel rheol.  Adlewyrchwyd hynny yn Etholiad Cyffredinol 2015 – er mai dim ond tri aelod seneddol etholwyd, o safbwynt canrannol roedd y perfformiad (o safbwynt canrannol) ymysg y gorau yn hanes y Blaid.  Adlewyrchwyd hynny i raddau yn Etholiad Cynulliad 2016 pan ddaeth y Blaid yn ail o ran nifer pleidleisiau a seddi a rhoi pwysau sylweddol ar Lafur yn rhai o’i chadarnleoedd traddodiadol.

Y broblem efo Corbyn o safbwynt y Blaid – neu o leiaf y fersiwn boblogaidd o Corbyn sy’n bodoli ar hyn o bryd – ydi nad ydi hi’n bosibl i blaid arall leoli ei hun i’r chwith iddo.  Felly mae’n rhaid gwneud rhywbeth arall.  Pan ‘dwi’n dweud hyn wrth bobl maent yn aml yn camddeall ac yn cymryd fy mod o blaid newid lleoliad y Blaid ar y sbectrwm De / Chwith.  Nid dyna dwi’n ei awgrymu – dwi’n hollol gyfforddus efo’r lleoliad sydd gennym ar hyn o bryd – angen gwneud pethau ychwanegol yn fwy effeithiol ydym ni, nid gwneud pethau amgen.  Mewn geiriau eraill rydym angen pwysleisio rhai o’r pethau eraill sy’n ein gwahaniaethu ni oddi wrth y Blaid Lafur.
I mi mae yna dri thema cyffredinol  lle gellir gwneud hynny.  Maent fel a ganlyn:
Y mater mawr – ac amlwg – i fynd ar ei ol ydi gydael yr Undeb Ewropiaidd.  Yn y bon mae agwedd Corbyn at y mater holl bwysig hwn fwy neu lai yn union yr un peth ag un Jacob Rees Mogg.  Mae’r rhesymau pam bod y ddau eisiau cymryd cwrs fydd yn cymhlethu’n fawr mynediad y DU i’w phrif farchnadoedd yn gwbl wahanol, ond mae’r polisi ei hun fwy neu lai yn union yr un peth.  Mae Ress Mogg a Corbyn eisiau gadael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, ac maent eisiau gwneud hynny beth bynnag y niwed fydd hynny yn ei wneud i safonau byw a chyflwr materol pobl.  Mae rhesymeg y ddau wedi ei seilio ar ffantasi llwyr ynglyn a phwysigrwydd y DU.  Mae’r ddau yn meddwl bod yr UE am negydu efo’r DU oherwydd bod marchnadoedd y DU yn bwysig iddi.  ‘Dydi’r UE ddim am negydu mewn ffordd allai danseilio cyfraith a rheoliadau’r UE – y cwbl mae nhw ei eisiau ydi deall yn union beth mae’r DU ei eisiau ac ymateb i hynny yng nghyd destun cyfraith Ewrop.  Ni fydd rhan 2 o’r trafodaethau fawr gwahanol i rhan 1- proses o’r UE yn dweud wrth y DU beth i’w wneud fydd hi, gyda’r DU yn strancio a tantro cyn derbyn y cyfarwyddiadau.  Bydd canlyniadau codi ffin galed rhwng y DU a’i phrif farchnadoedd yn hynod niweidiol i bron i bawb yng Nghymru.  Mae’r Blaid angen bod mewn sefyllfa lle mae’r gwahaniaeth rhyngddi hi a Llafur Corbyn yn gwbl, gwbl amlwg i pob copa walltog yng Nghymru.
Mae’r ail yn ymwneud a natur sylfaenol Brydeinig Llafur Corbyn.  ‘Dydi Corbyn ddim yn deall datganoli, a ‘dydi o ddim yn deall y gwahaniaeth yn hunaniaeth Cymru a gweddill y DU.  Mae hyn yn cael ei adlewyrchu mewn pob math o bethau – gyda helynt dewis ymgeisydd Llafur yn Arfon yn esiampl diweddar iawn.  Mae’n cael ei adlewyrchu hefyd gan fethiant Llafur Corbyn i ddangos parch at ddymuniadau Llafur Carwyn Jones ym Mae Caerdydd.  Gallwn ddisgwyl i arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru i gwympo i’r Corbynistiaid yn ystod y flwyddyn hon a bydd hynny’n gwaethygu’r sefyllfa.  Mewn geiriau eraill mae dominyddiaeth Corbyn o’i blaid yn rhoi cyfleoedd i’r Blaid ymosod ar Lafur am beidio bod yn ddigon Cymreig.  
Yn drydydd mae methiant parhaus Llafur yn cynnig cyfleoedd.   Fel gwlad rydym wedi bod yn pleidleisio i Lafur ers canrif ac mae’r Blaid honno wedi dominyddu’r Cynulliad Cenedlaethol ers ei chychwyn ac rydym ar waelod pob tabl rhyngwladol. Rydym angen canolbwyntio mwy ar feirniadu’r nghyfartaledd cwbl grotesg mewn gwariant ar is adeiledd yng Nghymru, methiant y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd i fynd i’r afael a thlodi yn ei chadarn leoedd ei hun, methiant Llafur yng Nghymru i wella safon gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i unrhyw raddau arwyddocao, methiant llywodraeth Lafur Cymru i wella’r economi ac ati, ac ati.
Mae canolbwyntio mwy ar y ddau thema olaf am wneud i’r Blaid ymddangos yn fwy negyddol, yn fwy cwynfanus ac yn fwy popiwlistaidd nag yw ar hyn o bryd – ond yn yr oes sydd ohoni gwleidyddiaeth felly sy’n cynhyrchu pleidleisiau.

Pawb yn hapus a chytun ar long llawen Llafur Arfon

Mae’n debyg gen i nad fi ydi’r unig berson sy’n teimlo’n rhwystredig gyda Phleidwyr / cenedlaetholwyr sy’n anghytuno ac yn ffraeo yn gyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol yn hytrach na defnyddio strwythurau mewnol i ddadlau eu hachos.  Wedi’r cwbl os ydi rhywun yn teimlo’n gryf am rhywbeth dydi’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol ddim yn dylanwadu o gwbl ar ddisgwrs mewnol plaid – ond mae’n tynnu sylw at y sawl sy’n cwyno wrth gwrs.


Ond mae’n dipyn o gysur bod aelodau o bleidiau eraill yn euog o’r un ffaeleddau – a neb mwy felly na’n hen gyfeillion ym Mhlaid Lafur Arfon.  Ar yr wyneb ffrae ydi hi ynglyn a rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad San Steffan nesaf sydd ddim yn cynnwys unrhyw un sy’n siarad Cymraeg.  Mae Arfon wrth gwrs yn fwy Cymraeg ei hiaith na’r un etholaeth arall yng Nghymru ac mae’r holl wardiau 80%+ ag eithrio pedair wedi eu lleoli yno. 

Ond mae’r ffrae yn dinoethi holl rwygiadau Llafur Arfon – ac mae yna lwyth ohonyn nhw.  Ceir yr hollt arferol rhwng dilynwyr a gelynion Corbyn ond ceir hefyd hollt rhwng pobl dosbarth canol a dosbarth gweithiol, Cymry Cymraeg a phobl llai rhugl eu Cymraeg, pobl sy’n blaenori hawliau merched a rhai sydd ddim, pobl sy’n weddol newydd i’r Blaid Lafur a phobl sydd yno ers oes yr arth a’r blaidd.  

Wele rhywfaint o’r myllio isod.  Fy hoff ran i o’r ffrae ydi consyrn honedig Owein Prendergast am deimladau ‘cymuned iaith Saesneg’ Arfon oherwydd bod Sion yn dadlau y dylid cael ymgeisydd sy’n siarad y Gymraeg yn ogystal a’r Saesneg. 

Alun a Glannau Dyfrdwy

Reit – gair brysiog ynglyn ag is etholiad heddiw yn Alun a Glannau Dyfrdwy.
Wele’r canlyniad yn 2016:

Yn anarferol iawn yn y DU bydd yr etholiad yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth.
Dydi hi ond y 4ydd is etholiad yn hanes y Cynulliad.  Y lleill oedd:
Ynys Mon 2013 (42.4% cyfradd pleidleisio) 
Blaenau Gwent 2006 (50.5%) 
 Dwyrain Abertawe 2001 (22.6%). 
A chofio bod  y gyfradd pleidleisio yn yr etholaeth yma’n isel iawn fel rheol beth bynnag (35% yn 2016), y ffaith bod yr etholiad yn cael ei chynnal ynghanol gaeaf ac nad ydi’r tywydd yn dda mae’n bosibl y bydd y 22.6% a gafwyd yn Nwyrain yn cael ei herio.  
Rhywbeth sy’n gyffredin i’r dair ydi bod y bleidlais Llafur a’r bleidlais Doriaidd wedi syrthio cryn dipyn pob tro o gymharu a’r etholiad blaenorol.  Mae record Plaid Cymru yn fwy cymysg.

Llafur sydd wedi dal yr etholaeth ym mhob etholiad San Steffan a cynulliad ers ei chreu, ac maent yn ffefrynnau i ddal yr etholaeth heno.  Ond ar gyfraddau pleidleisio isel iawn gall pethau anisgwyl ddigwydd.  Yn ychwanegol at hynny fydd y ffaith i’r ymgeisydd Llafur jibio’r ddadl deledu ddim wedi gwneud llawer o les iddo – mae gan jibio dadleuon hanes diweddar digon negyddol o ran yr effaith etholiadol.  Ond wedi dweud hynny mae Llafur yn boblogaidd yn y polau Prydeinig ar hyn o bryd – ac mae’r ardal yma o Gymru yn adlewyrchu gwleidyddiaeth y DU mwy nag unrhyw le arall yng Mghymru.A son am y ddadl deledu, mae’n weddol amlwg bod ymgeisydd Plaid Cymru, Carrie Harper ben ag ysgwydd yn well na’r tri ymgeisydd arall yn y ddadl.
Felly Llafur yn debygol o ennill – ond cyfle da i Carrie symud y Blaid yn ei blaen yn yr etholaeth.

Beth ydi’r gwahaniaeth?

Cafodd Alun Davies y sac fel gweinidog yr amgylchedd gan Carwyn Jones yn ol yn 2014 am roi pwysau ar swyddogion yn y gwasanaeth sifil i roi gwybodaeth iddo nad oedd yn gyhoeddus am y cymorthdaliadau amaethyddol oedd nifer o ACau  neu eu partneriaid yn eu derbyn.  Mae’n debyg ei fod eisiau’r wybodaeth er mwyn gwneud defnydd gwleidyddol o’r honno.  

Gwrthododd y gweision sifil roi’r wybodaeth iddo, ac wedi sawl ymgais tynnwyd sylw Carwyn Jones at y sefyllfa a bu’n rhaid i hwnnw ddiswyddo Alun Davies gan nodi ei fod yn ‘gwbl anghywir’ i geisio dod o hyd i’r wybodaeth. 

Cais tebyg am wybodaeth gan Fwrdd Hywel Dda nad yw’n gyhoeddus gafwyd eleni gan Carwyn Jones – ac wrth gwrs roedd y Bwrdd ond yn rhy hapus i ildio’r wybodaeth – ac yn nodweddiadol o Fwrdd Iechyd doedden nhw ddim digon trylwyr i ddod o hyd i’r wybodaeth gywir.  Defnydd gwleidyddol a wnaethwyd o’r wybodaeth anghywir a dderbyniodd Carwyn Jones wrth gwrs.
Onid yr unig wahaniaeth rhwng cais y ddau ddyn mewn gwirionedd ydi bod gweision sifil yn benderfynol o gadw gwagle rhyngddyn nhw eu hunain a’r llywodraeth, tra bod y byrddau iechyd yn barod i gael eu defnyddio’n wleidyddol gan y llywodraeth?
Hynny yw ‘does yna ddim gwahaniaeth rhwng gweithredoedd na chymhelliad Carwyn Jones yn 2018 ac Alun Davies yn 2014.  Yr unig wahaniaeth ydi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn fodlon cydweithredu efo man wleidydda gweinidogion ym Mae Caerdydd tra nad oedd y gweision sifil yn fodlon cael eu defnyddio.

Gwilym Owen – rhif 111

‘Dydw i ddim yn un am ‘sgwennu i’r papurau, ond mi anfonais bwt i Golwg dro’n ol yn ymateb i un o golofnau fy hen gyfaill, Gwilym Owen.  Ymateb oedd y llythyr i honiad gan Gwil bod y wasg Gymreig yn rhy parod i amddiffyn y Sefydliad Cymreig.  Cytuno efo fo oedd y llythyr, tra’n nodi mai rhan o’r broblem ac nid rhan o ‘r ateb oedd colofn Gwil cyn ei bod yn hynod gyndyn i herio’r llywodraeth, ond ei bod yn ymosod ar un o’r gwrthbleidiau pob gafael.

Dwi ddim yn gwybod os cafodd y llythyr effaith, ond mae Gwil wedi cynhyrchu ambell i golofn sy’n herio’r llywodraeth Lafur ers hynny.  Ond yr hyn sy’n ddigri ydi bod yr ymosodiadau ar Lafur yn rhyfeddol o swil a gwan galon.  Er enghraifft pan dorrodd y stori anffodus am farwolaeth Carl Sargent a’r honiadau o fwlio oddi mewn i’r llywodraeth Lafur, aeth Gwil ati i son am y stori – ond ei brif darged oedd y cyfryngau newyddion am beidio sylwi ar y bwlio honedig yn hytrach na’r sawl oedd yn gyfrifol amdano.
Mae’r ymdrech yn rhifyn cyfredol Golwg yn dangos yr un swildod rhyfedd.  Mae traean gyntaf yr erthygl yn rhyw hanner beirniadol o Lafur ac mae’r gweddill yn ymysodiad ar Blaid Cymru.  Mae’r gwahaniaeth yn y ddau ymdriniaeth yn ddadlennol – ac yn wir yn ogleisiol.  
Ceir cyfeiriad at Alun a Glannau Dyfrdwy yn y rhan sy’n cyfeirio at Lafur – ond dydi Gwil ddim eisiau ymhelaethu pam na fyddai’n briodol i Carwyn Jones ymddangos mewn darllediad gwleidyddol cyn yr is etholiad.  Mae ei sylwadau ar Lafur Cymru yn hynod gul – ymddengys ei fod yn poeni nad oedden nhw’n ddigon parod i gydnabod poblogrwydd Jeremy Corbyn yn y gorffennol, a’i fod yn gobeithio y byddant yn sefydlu dull dewis arweinydd sy’n sicrhau ethol un o ddilynwyr Corbyn.
Mae’r ymosod ar Blaid Cymru yn dangos llai o ffocws – pam bod Leanne Wood yn ail godi polisiau Sosialaidd (dydi’r cwestiwn hwn ddim yn cael ei anelu at Corbyn wrth gwrs), ‘dydi ei Chymraeg hi ddim digon da i Gwil, mae Gwil yn flin oherwydd ei fod yn credu i Rhun ap Iorwerth fynegi y byddai’n fodlon cyd weithio efo’r Toriaid,  a dydi Gwil ddim yn meddwl llawer o’r drefn gwynion chwaith.  
Mae’r cyferbyniad rhwng arddull dau ran yr erthygl yn ddigri hefyd.  Mae’r darn cyntaf yn foel ac yn bwyllog.  Mae Gwil yn cael ei hun mewn cryn stad wrth ‘sgwennu’r ail hanner –  mae’n llawn iaith liwgar ‘chware plant personol, cecru mewnol plentynaidd,  milain’ a chymhariaeth efo UKIP. 
Os mai ffordd Gwil o ddangos y gall fod yn feirniadol o’r Blaid Lafur Gymreig ydi sgwennu truth poenus sy’n mynegi nad ydyn nhw’n ddigon tebyg i ‘r Blaid Lafur Seisnig – ac os ydi’r llythyr ‘sgwennais i’n gyfrifol am yr ymdrechion rhwymedig yma i feirniadu Llafur Cymru, dwi’n difaru ei ‘sgwennu.

Argymhellion y Comisiwn Ffiniau yng Ngwynedd – rhan 1

 Mae’r Comisiwn Ffiniau wedi cyhoeddi eu cynigion drafft diweddaraf ar gyfer Cyngor Gwynedd.  Mae’r nifer cynghorwyr yn syrthio o 75 i 69.  ‘Dwi’n bwriadu cymryd cip ar y newidiadau yn Arfon, Dwyfor a Meirion tros y dyddiau nesaf, gan ddechrau efo Arfon.
Y peth cyntaf i’w nodi mae’n debyg ydi’r gyflafan ym Mangor gyda nifer y cynghorwyr yn disgyn o ddeg i chwech.  Mae yna or gynrychiolaeth wedi bod yn y ddinas ers cryn gyfnod gyda ambell i gynghorydd yn cael ei ethol efo nifer cymharol fach o bleidleisiau – ymhell o dan 100 mewn ambell i achos.
Un enghraifft o hyn ydi’r argymhelliad isod i uno ward dau gynghorydd Menai efo ward un cynghorydd Garth i greu  un ward un aelod. 

Bron mor drawiadol ydi’r datblygiadau ar yr ochr arall i’r ddinas gyda Marchog (Maes G i bob pwrpas) yn colli un o’i ddau aelod.

Mae pethau’n mynd i’r cyfeiriad arall yn Nyffryn Ogwen gyda wardiau un aelod Bethesda a Gerlan yn cael eu huno ac yn cael aelod ychwanegol.

Draw yng Nghaernarfon cymharol ychydig o newid sydd – ond bod y prif newid o ddiddordeb arbennig i’r blogiwr yma.  Ar hyn o bryd mae’n cynrychioli ward dau aelod Seiont (gan ddod yn ail pell i’r Cynghorydd annibynnol Roy Owen ym mis Mai).  Mae’r ward honno’n cael ei rhannu’n ddau (Hendre a Chanol y Dref) ac mae darnau cymharol fach o wardiau cyfagos yn cael eu hychwanegu at y ward newydd yng nghanol y dref. 

Datblygiad diddorol rhwng Caernarfon a Bangor ydi’r hyn sy’n digwydd yn ardal Felinheli / Bethel.  Bethel ydi ward Sion Jones wrth gwrs.  Mae’r ddwy ward un aelod yn cael eu cyfuno i greu ward dau aelod.  Mae’r Felinheli gyda phoblogaeth llawer uwch nag un Bethel, ac mae’n gaer etholiadol i Blaid Cymru ers blynyddoedd.  Mae’n debyg bod cefnogaeth y Blaid gyda’r uchaf yng Nghymru yn y rhan yma o lannau’r Fenai.
 
 Mae yna nifer o newidiadau eraill yn Arfon – er bod y rhan fwyaf ohonynt yn weddol fach.  Un sy’n ddiddorol o bosibl ydi gwahanu pentrefi cyfagos Rhostryfan a Rhosgadfan i’r gorllewin o Gaernarfon a’u lleoli mewn wardiau gwahanol. 

Gellir gweld yr adroddiad llawn yma.

Mymryn o gymorth i Donald Trump

Nid yn aml y bydd Blogmenai yn ceisio cynnig cymorth i Arlywydd Unol Daleithiau’r America, ond cyn bod Donald Trump methu deall pam nad ydi pobl yn symud i fyw i America o Norwy, mi wna i geisio egluro.
Os ydych yn byw yn Norwy rydych yn debygol o fyw  yn hirach nag os ydych yn byw  yn America.  Gallwch ddisgwyl byw i fod yn  79 years os ydych yn ddyn yn y wlad ac yn 83 os ydych yn ddynas.  Y ffigyrau cyfatebol ar gyfer UDA ydi 76 a 81.
Ac wedyn wrth gwrs rydych yn debygol o fod yn gyfoethocach os ydych yn byw yn Norwy – GDP y pen yn y wlad honno ydi $73,450 – sy’n gyfforddus uwch na’r $61,687 a geir yn America.
Os ydi pethau’n mynd o chwith mae gan Norwy gronfa genedlaethol o – $1000,000,000,000 – tua $190.000 am pob un o drigolion yr wlad.  Does gan America ddim cronfa gyfatebol – er bod rhai o’r taleithiau unigol  efo rhai – ond mae nhw’n llawer iawn llai. 
Mae’r ddwy wlad yn agos at ei gilydd o ran cyflawniad addysgol ( fel mae hwnnw’n cael ei ddiffinio gan gynghrair Pisa), gyda Norwy mymryd ar y blaen.  
Dydi cymdeithas anghyfartal ddim yn ddelfrydol i fyw ynddi – a does yna’r un wlad llai anghyfartal na Norwy.  O dan y mesur anghyfartaledd rhyngwladol – Gini – mae Norwy yn sgorio 23.5, y sgor isaf yn y Byd.  Sgor America ydi 41.1.  
Mesuriad datblygiad dynol ydi HDI (cyfuniad o ystadegau addysg, incwm a hyd bywyd)   Unwaith eto mae Norwy gydasgor o  0.949 yn perfformio’n well na’r un gwlad arall.  Mae sgor America hefyd yn uchel iawn – 0.920 – sy’n ei rhoi’n ddegfed.
Mae Norwy yn bedwerydd ym Mynegai Hapusrwydd y Byd tra bod yr UDA yn drydydd ar ddeg.  
Ac yna wrth gwrs mae’r UDA hefyd yn lle uffernol o berygl i fyw ynddo.  Mae tros i 15,000 o drigolion yr wlad anffodus yma’n cael eu llofruddio’n flynyddol gan eu cyd Americanwyr – yn bennaf efo’r gynnau sydd i’w cael ym mhob man yno.  Mae trigolion America yn ofni ei gilydd i’r fath raddau mae ganddynt 300m o ynnau i amddiffyn ei hunain rhag eu cymdogion.  Mae’r gyfradd llofruddiaeth yn 4.88 am pob 100,000 o’r boblogaeth.  Os ydych yn byw yn agos at Donald ei hun yn Washington DC mae’r gyfradd yn llawer, llawer uwch.  Mae llofruddiaeth yn brin iawn yn Norwy gyda tua 1 llofruddiaeth am pob 200,000 o’r boblogaeth.
Felly mae’r ateb i gwestiwn Donald yn eithaf syml – dydi pobl ddim yn symud o wlad gyfoethog, hapus, diogel, cyfartal, ddatblygedig i wlad sy’n llai cyfoethog, llai hapus, llai cyfartal, llai diogel a llai datblygedig yn aml iawn.
Gyda llaw – peidiwch a gofyn am Gymru – ar wahan i’r ffaith nad ydym yn rhai mawr am lofruddio’n gilydd, rydym yn perfformio’n waeth na’r naill wlad na’r llall ar bob mesur.  Mae’n amlwg bod y DU yn gweithio’n wych i ni.