Cymorth i ddarllenwyr rheolaidd Golwg360

Mi fydd darllenwyr rheolaidd Golwg360 wedi sylwi bod y wefan newyddion bellach yn arbenigo mewn cynhyrchu straeon di ddiwedd am ffraeo oddi mewn i Blaid Cymru neu newyddion drwg o Gynghorydd r Gwynedd – cyngor sydd wrth gwrs yn cael ei reoli gan Blaid Cymru.  Os oes yna rhywun yn rhywle yn ‘sgwennu llythyr sy’n feirniadol o Gyngor Gwynedd, neu bod aelod unigol o rhyw gangen afradlon yn rhywle yn gwneud rhyw ddatganiad neu’i gilydd gallwch fentro y bydd ar ben tudalen flaen Golwg360 – ac felly yn stori bwysicach na’r un stori arall yn y Byd mawr crwn ar y diwrnod dan sylw.


Un o’r problemau sy’n deillio o’r diddordeb obsesiynol yma mewn straeon negyddol am un o’r gwrthbleidiau Cymreig ydi y gallai rhywun sydd ond yn cael ei newyddion gan Golwg360 fod yn gwbl anwybodus o’r straeon negyddol am bawb arall. Dwi’n gwybod y bydd un neu ddau yn ei chael yn anodd credu bod yna gymaint ag un copa walltog yng Nghymru sydd ond yn cael ei newyddion o’r ffynhonnell arbennig yma – ond a barnu oddi wrth gyfraniadau rhai o’r cyfeillion sy’n gadael sylwadau ar ddiwedd y straeon, dwi’n tueddu i anghytuno.

Felly fel arfer mae Blogmenai yn awyddus iawn i helpu.  Dyma un neu ddwy o straeon bach negyddol eraill sydd ddim yn cael llawer o sylw gan Golwg360 a sydd felly yn creu perygl bod ei darllenwyr yn llafurio efo’r cysyniad mai Plaid Cymru ydi’r unig blaid yng Nghymru – a’i bod yn un ddrwg iawn, iawn sy’n gwneud smonach o bob dim.

–  Mae Paul Orders, Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd (Llafur) yn ennill £173,417 y flwyddyn.  Mwy na phrif weinidogion y DU.

– Bydd cynnydd o 12.5% yn nhreth y cyngor Sir Benfro (Annibynnol) yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.

– Mae Llafur Prydain wedi ei chladdu mewn honiadau a chwynion am ymddygiad gwrth Semitaidd ar hyn o bryd – ac wedi colli 17,000 aelod oherwydd hynny.

– Mae tri ymchwiliad wedi eu galw i amgylchiadau o gwmpas marwolaeth Carl Sargeant.  Doedd a wnelo’r diweddar weinidog na’r ymchwiliadau ddim oll a Phlaid Cymru.

– Mae cyn weinidog yn Llywodraeth Cymru yn honni bod yna ddiwylliant gwenwynig o fwlio wrth galon Llywodraeth Cymru.  Does a wnelo Plaid Cymru ddim oll a Llywodraeth Cymru.


– Mae’r Toriaid Cymreig yn caniatau i foi sydd eisiau trafod ail sefydlu erledigaeth crefyddol yn Ewrop i siarad trostynt ar y cyfryngau torfol.


– Mae Cyngor Bro Morgannwg (Toriaidd) yn bwriadu gostwng eu nifer o weithwyr ieuenctid o 53 i 25 yn ystod y flwyddyn ariannol yma.


– Mae Cyngor (Llafur) Caerffili wedi llwyddo i chwythu £3m yn ceisio cael gwared o’i prif weithredwr ac aelod blaenllaw arall o’u staff.


– Mae adroddiad gan bwyllgor craffu Cyngor Powys (Annibynnol / Toriaidd) yn darogan y bydd £5.4m o ddyled gan ysgolion y sir erbyn blwyddyn addysgol 2019-20.


– Mae Cyngor Castell Nedd Port Talbot (Llafur) wedi llwyddo i ‘golli’ 2,500 o’u staff mewn cwta bum mlynedd.


– Mae dwy o ysgolion uwchradd Dinas Casnewydd (Llafur) mewn mesurau arbennig.


– Mae Cyngor Caerffili yn gwario llai na’r un cyngor arall yng Nghymru ar addysg plant y sir (a llawer, llawer llai na’r cynghorau sy’n cael eu harwain gan Blaid Cymru).


– Mae yna ychydig o helynt ar hyn o bryd am bod yna Aelod Seneddol Llafur efo hanes o guro’i wraig.


– Teresa May (Tori dwi’n meddwl) yn  bersonol oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i beidio a thrydaneiddio’r rheilffordd yr holl ffordd i Abertawe.


– Mae un o aelodau UKIP yn y Cynulliad wedi ei wahardd rhag siarad yno am flwyddyn, mae un arall wedi ymddiswyddo ac mae’r aelod a gymrodd ei le wedi gafael UKIP.


Dwi’n dechrau ‘laru ar hyn – mae yna gannoedd o straeon cyfredol negyddol am bleidiau a gwleidyddion unoliaethol i’w cael os ydi rhywun yn chwilio amdanyn nhw – ond mae’n rhaid gwneud mymryn o ymdrech i ddod o hyd iddyn nhw – ac os ydi eich holl ynni yn cael ei wario ar chwilio am fan straeon negyddol am (ar hyn o bryd) drydydd blaid y Cynulliad, a’r unig un sydd y tu allan i’r consensws unoliaethol, does yna ddim amser i wneud hynny.

Datganiad i’r wasg Plaid Cymru yn sgil ennill y frwydr i atal codi 366 ym Mhen y Ffridd, Bangor

Gweithiodd Plaid Cymru Bangor yn ddiflino i wrthod y cynllun i ddatblygu cynifer o dai ym Mangor ar sail y buddsoddiad angenrheidiol i isadeiledd yr ardal, y pwysau dybryd sydd eisoes ar wasanaethau cyhoeddus a’r effaith andwyol anochel ar yr iaith Gymraeg yn y ddinas.

Nodir ym mhenderfyniad yr Arolygydd bod diddymu’r ardal o ffin ddatblygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a fabwysiadwyd ym mis Gorffennaf llynedd, wedi cael effaith fawr ar benderfyniad yr Arolygydd Cynllunio i wrthod y cais cynllunio ar gyfer Pen y Ffridd.

Prif ystyriaethau gwrthod yr apêl oedd:

  • priodoldeb y safle ar gyfer datblygiad preswyl nad yw wedi ei ddynodi ar gyfer defnydd preswyl yn y cynllun datblygu
  • cyflenwad tir ar gyfer tai
  • digonolrwydd yr asesiadau ieithyddol a gyflwynwyd

Yn ei llythyr, dywed Ysgrifennydd y Cabinet Llafur, Lesley Griffiths, a ganiataodd y cais cynllunio nôl ym mis Gorffennaf 2017, fod yr Arolygydd o’r farn: “bod y sefyllfa [yng Ngwynedd] wedi newid yn sylweddol yn sgil mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a’i bod yn bosibl y byddai effaith y datblygiad ar y Gymraeg yn newid hefyd. Mae’r Arolygydd yn rhannu pryderon y Cyngor, ac nid yw’n argyhoeddedig bellach fod y wybodaeth a gyflwynwyd yn profi na fyddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar y Gymraeg.”

Cynhaliodd Plaid Cymru Gwynedd drafodaethau lu ac ymgynghoriad cyhoeddus gyda thrigolion lleol yr ardal i wyntyllu barn a gwrthododd aelodau Plaid Cymru’r cais mewn cyfarfod cynllunio rhai misoedd yn ôl.

Yn ôl Gareth Roberts Y Cynghorydd Sir sy’n cynrychioli trigolion yr ardal ar Gyngor Gwynedd: “Buom yn gadarn ein barn o’r dechrau cyntaf. Doedd trigolion yr ardal ddim am weld datblygiad o’r maint yma yn dod i’r Ward, byddai ei effaith wedi bod yn andwyol iawn. Rydym yn ymfalchïo heddiw yn newyddion yr Ysgrifennydd bod yr Arolygydd Cynllunio wedi gwrthod yr hawl i ddatblygu’r tir.”

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Ward ym mis Hydref 2016 i glywed barn pobl leol, a chynrychiolwyd y trigolion lleol gan Y Cynghorydd Roberts, yn ogystal ag eraill o gynghorwyr Plaid Cymru Bangor mewn cyfarfodydd apêl.

“Doedd dim amheuaeth y byddai datblygiad o’r maint yma’n cael effaith enfawr ar fywydau trigolion Bangor. Roedd gwir bryder am effaith datblygiad o’r fath ar yr iaith Gymraeg a diwylliant cyffredinol yr ardal. Diolch byth, mae’r Arolygydd wedi gweld synnwyr yn ein dadleuon ac wedi sicrhau bod tegwch, llais y bobl a’n lleisiau ninnau fel Plaid wedi eu clywed,” meddai Cynghorydd Elin Walker-Jones, Ward Glyder, Bangor.

“Mae gwaith enfawr wedi digwydd i sicrhau bod aelodau’r Ward yn cael tegwch, bod ardal Bangor yn cael chwarae teg a bod Gwynedd gyfan ddim yn cael ei heffeithio’n andwyol gan ddatblygiad o’r maint hwn. Mae heddiw’n ddiwrnod da iawn i’r ardal gyfan!” ychwanegodd Y Cynghorydd Elin Walker-Jones.

Yn ôl Y Cynghorydd Menna Baines, Ward Pentir, Bangor: “Rhaid i ni ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein hymgyrch ac wedi gweithio’n ddiflino gyda ni, yn drigolion lleol, arbenigwyr yn y maes, swyddogion y Cyngor, Aelodau Cynulliad a Seneddol Plaid Cymru a’n staff – mae wedi bod yn waith tîm o’r dechrau i’r diwedd. Mae’n newyddion da iawn i Fangor ac i Wynedd gyfan.”

Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon: “Does dim amheuaeth bod angen tai newydd ar gyfer pobl leol, ond mae angen iddynt fod yn gartrefi o’r math cywir yn y lleoliad cywir ac ar raddfa sy’n dderbyniol i’r ardal leol. Mae’n braf gweld synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd a bod yr Arolygydd Cynllunio yn gweld y problemau all godi o ddatblygu cynifer o dai mewn ardal o Fangor.

“Fel Plaid, byddwn yn parhau i bwyso am gyfundrefn gynllunio sydd yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion lleol a’r iaith Gymraeg. Mae angen i drigolion lleol fod yn hyderus bod Cymru yn cael y grym yn ôl i’w dwylo eu hunain gan benderfynu tynged cymunedau gyda sustem gynllunio Gymreig.”

Ah – y Toriaid Cymreig

Hmm – felly eithafwr adain dde gafodd ei ddal yn ceisio dechrau trafodaeth am ddychwelyd at yr erledigaeth o Iddewon a Mwslemiaid yn yr Oesoedd Canol efo eithafwr adain dde arall o Sweden sy’n cynrychioli’r Toriaid Cymreig ar Pawb a’i Farn ‘fory.  Dweud y cyfan rhywsut.

Patrwm ‘negydu’ Brexit yn ailadrodd ei hun

Efallai y bydd rhai o ddarllenwyr Blogmenai yn cofio’r blogiad yma.  

Dadl y blogiad oedd bod yr holl ddathlu pan ganiatawyd i’r DU fynd i gam 2 o’r trafodaethau Brexit efo’r DU yn anwybyddu un gwirionedd anghyfleus – y rheswm bod y DU wedi cael mynd ymlaen i gymal 2 oedd oherwydd ei bod wedi ildio i pob gorchymyn gan yr UE.  
Aeth y blogiad yn ei flaen i ddadlau mai dyma fyddai patrwm yr holl drafodaethau – y DU yn gwneud synnau ynglyn a sefyll ei thir, llinellau coch ac ati, cyn dilyn cyfarwyddiadau’r UE yn ddof.  Y rheswm am hyn ydi bod y DU angen cytundeb efo’r UE yn llawer, llawer mwy na mae’r UE angen cytundeb efo’r DU.
Ac mae yna ddathlu mawr wedi bod yr wythnos yma oherwydd y cytundeb ynglyn a’r cyfnod pontio.  Ond – yr un yn union ydi’r patrwm wedi bod, efo’r DU yn taflu pob llinell goch o’r neilltu.  
– Lleihau’r cyfnod pontio o ddwy flynedd i 21 mis
-Cynnwys cymal cosb am fethu â chydymffurfio â rheolau’r UE.  Mae’r cymal yn berthnasol i’r DU ac nid i’r UE.
– Polisi Pysgodfeydd Cyffredin i barhau yn ystod y cyfnod pontio heb unrhyw gynnydd yng nghwota Y DU.  
– Hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd i barhau tros y cyfnod pontio
– Y ‘backstop’ ar gyfer Gogledd Iwerddon i ddigwydd os na cheir ffordd arall o  atal ffin galed yng Ngogledd Iwerddon.
– Cadarnhad bod Sbaen a’r gair olaf ynglyn ag unrhyw drefniadau sy’n ymwneud â Gibraltar.

Rhyfeddodau Brexit

Dwi’n gwybod nad oes gan y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai fawr o ddim byd i’w wneud efo’u hamser, felly dyma ychydig o waith darllen tros y penwythnos.  Mwynhewch.


Ffonau symudol:

https://news.sky.com/story/roaming-charges-may-be-back-after-brexit-11279406

Pleser yn y porthladdoedd:

http://www.independent.co.uk/news/uk/politics/brexit-uk-must-start-preparing-for-dover-chaos-in-event-of-a-no-deal-a8023976.html

http://www.dutchnews.nl/news/archives/2018/02/at-least-750-extra-customs-officers-to-be-hired-as-netherlands-prepares-for-brexit/

Diogelu Gibraltar 

https://www.theguardian.com/world/2017/apr/02/eu-will-not-go-soft-on-gibraltar-brexit-talks-diplomats-say-spain

Magu perthynas ego’r Iwerddon

http://www.independent.co.uk/news/uk/politics/brexit-eu-talks-irish-border-tusk-varadkar-northern-ireland-uk-solution-dup-a8246216.html

https://uk.finance.yahoo.com/news/brexit-already-raising-tough-questions-002834934.html

https://www.rte.ie/news/brexit/2018/0308/945869-tusk-varadkar-brexit-talks/

https://www.irishtimes.com/news/world/europe/european-council-links-irish-border-commitment-with-trade-deal-for-uk-1.3418042?mode=amp

Ail ennill sofraniaeth

https://uk.finance.yahoo.com/news/uk-must-keep-eu-laws-workers-rights-exchange-free-trade-deal-174933121.html

Economi a Masnach

https://www.irishtimes.com/news/world/europe/european-council-links-irish-border-commitment-with-trade-deal-for-uk-1.3418042?mode=amp

https://uk.finance.yahoo.com/news/5-charts-secret-brexit-impact-121246645.html

https://www.theguardian.com/politics/2018/mar/07/philip-hammond-reignites-the-no-deal-brexit-argument

http://www.cityam.com/281762/government-issued-stark-warning-over-trade-deals-cliff-edge

Iechyd

https://uk.finance.yahoo.com/news/brexit-risks-delaying-cancer-treatment-085449870.html

http://www.politics.co.uk/comment-analysis/2018/03/06/no-matter-what-gove-says-brexit-will-deal-a-hammer-blow-to-a

Amaeth

http://www.politics.co.uk/comment-analysis/2018/03/06/no-matter-what-gove-says-brexit-will-deal-a-hammer-blow-to-a

Awyrennau

https://uk.finance.yahoo.com/news/ryanair-boss-threatens-ground-planes-expose-brexit-lies-114751656.html

https://www.dentons.com/en/insights/alerts/2017/march/30/brexit-and-the-aviation-industry-up-in-the-air

https://www.telegraph.co.uk/business/2017/03/22/will-brexit-mean-uk-airline-industry/

https://centreforaviation.com/insights/analysis/the-great-brexit-aviation-debate-a-transition-deal-is-needed-to-avoid-disaster-for-uk-airlines-380522

https://www.euractiv.com/section/uk-europe/news/aviation-industry-prepares-for-bumpy-brexit-ride/

http://www.iata.org/publications/Pages/brexit-impact-uk.aspx

http://uk.businessinsider.com/open-skies-us-trade-deal-brexit-trump-2018-3

Banciau a’r system ariannol:

http://www.independent.co.uk/news/business/analysis-and-features/brexit-passporting-rights-eea-explained-what-does-it-mean-for-banks-economy-pound-euro-a8065131.html

http://www.independent.co.uk/news/business/news/brexit-euroclear-headquarters-move-london-brussels-financial-services-uk-latest-a8243771.html

https://www.reuters.com/article/us-britain-eu-goldman-exclusive/exclusive-goldman-puts-some-london-staff-on-notice-for-german-move-by-june-sources-idUSKCN1GJ1L7?utm_source=twitter&utm_medium=Social&__twitter_impression=true

Felixwatch

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn gwybod mai un o brif bwrpasau’r blog ydi egluro i bobl am beth mae’r Tori asgell dde eithafol, Felix Aubel yn ymddiheuro wedi iddo orfod  chwalu rhyw drydariad neu’i gilydd.  Beth bynnag dyma’r ymddiheuriad diweddaraf:

A dyma wrthrych yr ymddiheuriad.
  

I’r graddau bod yr ‘ymddiheuriad’ yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, mae’n ymddangos ei fod yn awgrymu mai ceisio mynegi ei hoffter o eira roedd yn hytrach na gwyntyllu honiad cyfangwbl ffug am fewnfudwyr i Loegr.

Barnwch chi – a barnwch pam y byddai rhywun eisiau gwasgaru honiad celwyddog am grwp mawr o bobl.

Pol BBC / ICM heddiw

Dwi wedi dwyn y ffigyrau isod oll o flog gwych Roger Scully.  Mae’r  ffigyrau yn amlwg o dda o safbwynt Llafur, je nd maen nhw hefyd yn gadarnhaol iawn o ran Plaid Cymru.  O gael eu gwireddu ar lefel y Cynulliad, byddai’r Blaid yn ail clir i Lafur.  

San Steffan
Labour: 49% (+0.1)
Conservatives: 32% (-1.6)
Plaid Cymru: 11% (+0.6)
Liberal Democrats: 5% (+0.5)
UKIP: 2% (no change)
Others: 3% (+2.5)
Cynulliad uniongyrchol
Labour: 40% (+5.3)
Plaid Cymru: 24% (+3.5)
Conservatives: 22% (+0.9)
Liberal Democrats: 6% (-1.7)
UKIP: 5% (-7.5)
Others: 3% (-0.5)
Cynulliad Rhanbarthol
Labour: 36% (+4.5)
Plaid Cymru: 22% (+1.2)
Conservatives: 21% (+2.2)
UKIP: 8% (-5.0)
Liberal Democrats: 6% (-0.5)
Others: 5% (-4.5)
Seddi Cynulliad
Labour 30 seats (27 constituency, 3 regional)
Plaid Cymru 15 seats (6 constituency, 9 regional)
Conservative 13 seats (6 constituency, 7 regional)
UKIP 1 seat (1 regional)
Liberal Democrats 1 seat (1 constituency)