Y daith o’r UE – rhan 1

Cyn bod blogio wedi bod yn ysgafn, a chyn bod ymadawiad anhrefnus y DU o’r UE yn debygol o ddominyddu’r newyddion tros yr wythnosau nesaf, efallai y byddai’n syniad  gwirio lle’r ydan ni  trwy edrych ar sut mae pethau wedi mynd tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – fel ‘dwi’n eu cofio nhw beth bynnag.  Mae hi’n stori o dypdra, hunan dwyll, traha a chenedlaetholdeb cul ar ei fwyaf cibddall a hurt.  Mae hi hefyd yn stori eithaf maith – felly bydd yn cael ei hadrodd mewn pedwar blogiad tros y pedwar diwrnod nesaf.  ‘Does yna neb yn darllen blogiadau maith. 

  1. Mae’r stori  yn cychwyn yn 2014 pan mae David Cameron yn penderfynu y byddai’n syniad da rhoi refferendwm ar ddyfodol y DU yn Ewrop ym maniffesto’r Toriaid ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol oedd i’w gynnal y flwyddyn ganlynol.  ‘Doedd Cameron ddim yn credu am funud y byddai’n rhaid iddo weithredu ar yr addewid annoeth yma – roedd y polau ar y pryd yn awgrymu mai Llafur fyddai’n ennill yr etholiad ac mai’r gorau un y gallai’r Toriaid obeithio amdano fyddai gallu clymbleidio unwaith eto efo beth bynnag fyddai’n weddill o’r Dib Lems druan.  Fyddai yna ddim cwestiwn o refferendwm petai’r blaid honno o fewn miliwn o filltiroedd i lywodraeth.  Ffordd o gadw ei blaid yn unedig ac i chwystrellu‘r adain Rees-Mogaidd efo benzodiazepine dro dro oedd yr holl ymarferiad.  Ail pell i anghenion y Blaid Doriaidd oedd anghenion y DU – rhywbeth sydd wedi bod yn wir am ddegawdau pan mae’r Toriaid yn ystyried materion sy’n gysylltiedg a’r UE.
  2. Y Blaid Doriaidd yn ennill etholiad 2015 ar ei phen ei hun o fwyafrif bach ond digonol i ffurfio llywodraeth – David Cameron ar ol dod tros y sioc – yn gorfod galw refferendwm y flwyddyn ganlynol ac effaith y benzodiazepine yn pylu a diflannu gyda chyflymder rhyfeddol.
  3. Y refferendwm yn cael ei alw mewn amgylchiadau anodd i’r ochr aros.  Y rhan fwyaf o’r papurau newydd poblogaidd yn orffwyll o wrth Ewropiaidd ac wedi bod yn bychanu, dilorni neu ladd ar yr UE ers degawdau – yn aml iawn ar sail ‘ffeithiau’ cwbl ddychmygol. Ychydig iawn o bapurau sydd ar gael sydd o blaid yr UE – y Guardian a’r FT sydd ddim yn cael eu darllen gan fawr neb a’r Mirror sydd prin byth yn son am yr UE.  Mae’r cannoedd o filoedd o ffoaduriaid yn ffoi o Syria hefyd yn fyw iawn yn y cof.  Roedd y bobl anffodus yma wedi gyrru’r Sun, Express a’r Mail i uchelfanau cwbl newydd o gasineb a dicter tuag at dramorwyr.
  4. Ymgyrch refferendwm anhrefnus ac hynod anymunol yn cael ei chynnal.  Yr ochr Aros yn cynnal ymgyrch hysteraidd sy’n  pwysleisio pob math o erchyllderau economaidd os mai’r ochr Gadael fyddai’n ennill.  Yr ochr Gadael yn canolbwyntio ar bethau ymddangosiadol mwy haniaethol – sofraniaeth a rheolaeth.  Ond symbolau am bethau eraill oeddynt mewn gwirionedd – y drwgdeimlad tuag at fewnfudwyr ymysg llawer yn y DU – drwgdeimlad oedd wedi ei gorddi yn y wasg am flynyddoedd –  a chanfyddiad (cwbl ffug) bod y DU yn wlad bwerus a nerthol sydd yn cael ei dal yn ol gan yr UE.  Fel rheol materion economaidd sy’n ennill yn y diwedd mewn etholiadau, a phetai’r ochr Aros wedi ffocysu ei dadl economaidd yn well byddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol.  Y ddadl y byddai’r DU yn cael ei hollti oddi wrth ei phrif farchnadoedd gan wal dollau oedd ei phrif arf o’r cychwyn ond ni wnaethwyd digon o ddefnydd ohoni, ac ni wnaed ymdrech ddigonol i fynd i’r afael ac ymateb ar ochr Gadael i hynny.  Yr ymateb hwnnw oedd ‘Bydd yr UE eisiau gwerthu gwin a Volkswagens i ni o hyd – felly bydd marchnad rydd yn bodoli rhyngom ni a nhw o hyd’.  Fel cawn weld yn hwyrach nonsens llwyr oedd y ddadl yma, ac un sy’n dangos diffyg dealltwriaeth llwyr o’r hyn ydi’r UE – ond ni wnaed hynny’n glir yn ystod yr ymgyrch.  Daw’n amlwg yn hwyrach bod symiau enfawr o arian wedi eu sianelu i’r ymgyrch Gadael trwy ddulliau amheus – rhai ohonyn nhw yn ol pob tebyg yn anghyfreithlon. 
  5. Y refferendwm yn cael ei gynnal a’r ochr Gadael yn ennill o tua 4% tros y DU.  Yr Alban yn pleidleisio’n drwm i aros a felly hefyd Llundain.  Gogledd Iwerddon yn pleidleisio i aros gyda phob etholaeth efo mwyafrif Pabyddol am aros a phedair o’r rhai efo mwyafrif Protestanaidd.  Cymru wrth reswm yn pleidleisio fel Lloegr gyda”r rhannau o’r boblogaeth oedd wedi elwa fwyaf o aelodaeth o’r UE fwyaf awyddus i adael.

Celwydd yr wythnos 2 _ _ _

_ _ _ neu ‘Dim ond yng Ngwynedd’

Y Celwydd

A’r realiti:
Cafwyd cynnig yng nghyfarfod llawn Cyngor Gwynedd heddiw gan y Cynghorydd Alwyn Griffiths ynglyn a chynlluniau i ail fodelu gwasanaeth ieuenctid Gwynedd.  Wele’r cynnig.
Bod y Cyngor hwn yn gofyn i Gabinet y Cyngor ail-ystyried dyfodol Gwasanaeth Ieuenctid y Sir gan ragdybio o blaid cynnal clybiau ieuenctid a pharhau gyda’r cymorth ariannol traddodiadol i fudiadau gwirfoddol megis yr Urdd a Mudiad y Ffermwyr Ifanc.

Roedd cynnig Alwyn Griffiths yn un digon teilwng – ond roedd yna un gwendid amlwg.  O dderbyn y cynnig gallai  Cabinet Cyngor Gwynedd ail ystyried y bwriad i atal arian i gwahanol wasanaethau ieuenctid a dod i yn union yr un canlyniad – rhagdybiaeth neu beidio – yn wyneb y pwysau cyllidol anferth sydd ar y Cyngor o ganlyniad i doriadau Llafur a Thoriaidd.

Cynigwyd gwelliant i’r cynnig gan y Cynghorydd Menna Baines.  Wele hwnnw isod:

Gwelliant i gynnig Alwyn Gruffydd:

Bod y Cyngor hwn hefyd yn gofyn i Gabinet y Cyngor ailystyried elfennau penodol o’r model newydd ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid y Sir, a hynny oherwydd ein pryderon ar dri chyfrif:

1.  Y newid pwyslais o’r cymunedol i les unigolion
2.  Yr effaith ar ardaloedd mwyaf difreintiedig y sir
3.  Yr effaith ar yr iaith Gymraeg

Gofynnwn felly i’r Cabinet gynnal trafodaethau brys a manwl gyda phob un o’r cynghorau tref, cymuned a dinas ynghyd ag asiantaethau perthnasol eraill. Diben hyn fyddai edrych ar ffyrdd o gydweithredu er mwyn ariannu parhad cynifer â phosib o glybiau ieuenctid y sir – lle dymunir hynny –  ac er mwyn rhoi cymorth priodol i’r mudiadau ieuenctid gwirfoddol a fu’n derbyn nawdd tan yn ddiweddar. Gofynnwn hefyd i’r Cabinet gynnal asesiad ieithyddol o effaith yr ad-drefnu ac asesiad o’i effaith gymunedol ar ardaloedd mwyaf difreintiedig y sir.


I’r sawl sydd ddim yn gyfarwydd ag arferion cyngor, ychwanegiad at gynnig, nid rhywbeth yn ei le ydi gwelliant.  Felly mae cynnig Menna yn golygu bod y cynnig nid yn unig yn cyfarwyddo’r Cabinet  i ail ystyried eu penderfyniad, ond i droi pob carreg yn lleol i ddarganfod y cyllid i gadw sefydliadau yn agored pan mae dymuniad i wneud hynny yn lleol.  ‘Does gen i ddim pwt o amheuaeth bod y gwelliant yn ei gwneud yn fwy tebygol o lawer y bydd sefydliadau ieuenctid yn aros yn agored na’r cynnig ar ei ben ei hun.

Pleidleisiodd y Pleidwyr tros y gwelliant, pleidleisiodd y gwrthbleidiau i gyd ag eithrio un unigolyn yn erbyn y gwelliant.  Wedi i’r gwelliant gael ei dderbyn pleidleisiodd pawb (‘dwi’n meddwl) o blaid y cynnig  a’r gwelliant. 

Ond eto mae gwefan gweplyfr yng Ngwynedd yn honni bod y sawl oedd wedi cynnig y llwybr mwyaf tebygol o gadw sefydliadau yn agored wedi pleidleisio i’w cau,  tra bod y sawl bleidleisiodd tros gymryd llwybr fyddai’n llai tebygol o fod yn  effeithiol wedi pleidleisio i’w cadw’n agored.

Tybed os mai ond yng ngwleidyddiaeth lleol Gwynedd mae’n cael ei ystyried yn briodol i ddweud bod gwyn yn ddu a du yn wyn er mwyn pardduo gwrthwynebwyr?


Dawns y Deinasor – unwaith eto

Mae yna ormod o gwestiynau yng ngholofn Gwilym Owen (Gwarth Cyngor Gwynedd) i’w hateb nhw i gyd – mae yna 9 ohonyn cwestiwn yn ôl fy nghyfri i – a llawer llai o atebion wrth gwrs.  


Carwn fodd bynnag wneud sylw ar un neu ddau o’i sylwadau.


Mae Gwilym yn mynd ati i restru cyflogau cynghorwyr Cyngor Gwynedd fel petai cynghorwyr Gwynedd ydi’r unig rai yng Nghymru sy’n derbyn unrhyw gydnabyddiaeth ariannol – ond yr hyn mae’n ei restru mewn gwirionedd ydi  lwfansau cynghorwyr ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.  Mae’r lwfansau wedi eu pennu gan gorff annibynnol, ac nid yw’r awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn y penderfyniad hwnnw.  Felly hefyd y codiad o £200 y flwyddyn (neu 1.49% o gymharu a chyfradd chwyddiant o 2.5%) mae pob cynghorydd sir yng Nghymru yn derbyn y codiad, a chorff annibynnol sy’n gwneud y penderfyniad.  Mae’n gywir i ddweud bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi awgrymu codiad cyflog yn un o’r ychydig feysydd lle mae disgresiwn ganddo i wneud hynny (mewn perthynas a chadeirydd y Cyngor), ond bydd rhaid i’r Cyngor llawn dderbyn yr argymhelliad, ac mae hynny ymhell, bell o fod yn sicr.  

Ac mae hyn yn nodweddiadol o Gwilym wrth gwrs – trin Gwynedd fel petai yn blaned ar ei phen ei hun – ac anwybyddu’r ffaith bod yna gynghorau eraill – ac mae nifer dda o’r rheiny yn cael eu rheoli gan hoff blaid Gwilym wrth gwrs.  Yr hyn wnewch chi byth ei glywed gan Gwilym, na beirniaid y Blaid yng Ngwynedd ydi’r cyd destun ehangach i’r toriadau mewn gwasanaethau, sef polisi Toriaidd yn Llundain o barhau efo llymder – er ei bod yn amlwg bellach nad yw’n gweithio – a pholisi Llafur yng Nghaerdydd o beidio a throsglwyddo unrhyw gynnydd maent yn ei dderbyn o Lundain i’r cynghorau lleol.

Mae yna un peth arall sydd gen i.


Mae’r cyfeiriad at ‘ddosbarth canol elitaidd sy’n byw yn fras ar Gymreictod (trwy) odro’r pwrs cyhoeddus’ yn honiad mae Gwilym wedi ei wneud droeon yn y gorffennol ac mae’n nonsens sydd hefyd yn  niweidiol i’r Gymraeg.  Yr unig bobl ‘dwi’n gallu meddwl amdanynt sy’n ‘byw ar y Gymraeg’ ydi pobl sy’n gweithio i’r mentrau iaith, neu i Gomiwsiynydd y Gymraeg.  Mae yna bobl sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg wrth gwrs – athrawon, gweithwyr llywodraeth leol (yng Nghwynedd o leiaf), pobl sy’n gweithio i gwmnïau teledu ac ati.  Ond dydyn nhw ddim yn ‘byw ar y Gymraeg’, ddim mwy nag ydi pobl sy’n gwneud union yr un swyddi trwy gyfrwng y Saesneg yn ‘byw ar y Saesneg’.  Yn wir mae’r honiad yn awgrymu cred waelodol ar ran Gwilym bod yna rhywbeth abnormal am weithio trwy gyfrwng y Gymraeg – ac mae’r canfyddiad hwnnw, a’r cyhuddiad sy’n dod yn ei sgil yn sylfaenol niweidiol i’r Gymraeg.  Dwi’n gwybod bod Gwilym yn dipyn o ddeinasor – ond mae gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywbeth sydd wedi ei hen sefydlu bellach – ac efallai y dylai Gwilym wneud rhyw fath o ymdrech i symud ymlaen efo hynny os dim arall.  

Hwre – mwy o newyddion da yn dilyn ail enwi ail Bont Hafren

Gyda dim ond 300,000 o bobl ar hyd a lled y DU yn ddi gartref mae’n amserol iawn bod rhywbeth sy’n galw ei hun yn ‘Gorwel’ yn codi sefyllfa dreuenus y teulu Windsor ac yn awgrymu eu bod angen palas newydd, a hynny yma yng Nghymru.

Go brin y gallai neb wadu bod y teulu anffodus yma angen annedd arall, ac yn wir go brin y gallai unrhyw un wadu y byddai talu am balas bach o’r pwrs cyhoeddis yn symbol pwysig o ymroddiad Cymru i gyfiawnder cymdeithasol.  Meddyliwch am y peth am funud – ar hyn o bryd dim ond Buckingham Palace, Clarence House, Kensington, St James’, Castell Windsor, Hollyrood House, Hillsborough, Sandringham, Anmer Hill, Balmoral, Royal Lodge, Bagshot Park, Thatched House Lodge, Highgrove, Llwynywermod, Tamarisk,  Gatcombe Park, Craigavon Lodge a Delnamph Lodge sydd ar gael i’r teulu anffodus yma.  A pheidiwch a meddwl bod y tai yma’n fawr chwaith – 775 ystafell yn unig sydd yn Buckingham Palace.
Y cwestiwn mawr wrth gwrs ydi ble y dylid lleoli’r balas newydd?   Yn naturiol ddigon bydd rhaid ei roi yn y De – fel pob dim arall.  Fy awgrym i ydi rhywle rhwng Caerdydd ac Abertawe.  Petai Caerdydd ac Aston Villa yn cael dyrchafiad i’r uwch gynghrair, a phetai Abertawe yn aros i fyny – byddai rhywle fel Parc Margam yn leoliad ardderchog i’r Tywysog William aros pan mae  ei hoff dim pel droed yn chwarae yn erbyn un o’r dinasoedd Cymreig.  Mae rhywbeth hyfryd am yr hapusrwydd bachgenaidd mae’n ei arddangos yma pan gurodd y tim o Ganolbarth Lloegr dim prif ddinas Cymru yn ddiweddar.

Plaid Lafur Arfon – eto fyth

Mae’n debyg gen i y bydd darllenwyr Blogmenai sy’n byw yn Arfon yn falch o ddeall bod mae gan Mary Gwen Griffiths – ymgeisydd Llafur yn yr etholiad San Steffan nesaf yn yr etholaeth – gyfri trydar.

Tra nad ydi’r cyfri yn un arbennig o gynhyrchiol ar hyn o bryd mae’r hyn sydd i’w weld yn amlwg yn nhraddodiad ymgyrchu’r Blaid Lafur yn Arfon i’r graddau ei fod braidd yn – ahem – gynnil efo’r gwirionedd.
Er enghraifft ystyrier y trydariad yma.  Cyfeiriad ydyw wrth gwrs at gynlluniau Cyngor Gwynedd i dorri cyllid ac ail fodelu’r gwasanaeth ieuenctid yng Ngwynedd.  Rwan mae’n gwbl briodol i Mary beidio hoffi’r ail fodelu, ac mae hefyd yn briodol i wrthwynebu’r toriad cyllidol – cyn belled a bod ganddi ei syniadau ei hun am ble arall y dylid gwneud y toriad.  

Yr hyn sydd yn briodol fodd bynnag ydi awgrymu nad oes yna unrhyw ymgynghori wedi bod ynglyn a’r mater.  Mae yna lawer iawn o ymgynghori wedi bod – gormod o bosibl – fel mae’r ddelwedd isod yn amlygu.



A daw hyn a ni at y toriadau yn gyffredinol.  Mae yna doriadau ar y ffordd – ac mae’n bosibl y bydd rhaid i gynghorau megis Cyngor Gwynedd wneud toriadau sylweddol fydd o bosibl werth degau o filiynau.  Mae’r Blaid Lafur yn Llundain bellach yn erbyn toriadau mewn gwariant cyhoeddus wrth gwrs – ond datblygiad cymharol ddiweddar ydi hwnnw.  Yn wir yn 2015 roedd Llafur yn ddigon parod i fynd trwy’r lobiau efo’r Toriaid i bleidleisio tros doriadau – a’r toriadau hynny oedd yn gyfrifol am lawer o boen y blynyddoedd diwethaf.
Ond o ran plaid Mary Gwen yng Nghaerdydd, mae ganddynt gyfrifoldeb tros yr hyn sy’n digwydd yng Ngwynedd ac ym mhob cyngor arall yng Nghymru.  Er iddynt dderbyn 2.6% yn eu cyllid o San Steffan ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, 0.6% yn unig gafodd ei drosglwyddo i lywodraeth leol.  Mae hyn yn doriad sylweddol mewn termau real.

Dwi’n siwr y gallwn ddisgwyl llawer o dantro o’r cyfri’ ebost yma fel y bydd Cyngor Gwynedd yn gwneud toriadau tros y blynyddoedd nesaf – ond yr hyn na fyddem yn ei weld yno ydi’r bai yn cael ei briodoli’n onest – mae’n gorwedd yn sgwar ar ysgwyddau Llafur Cymru a’u cyd unoliaethwyr ym mhlaid Doriaidd y DU.

Mae nhw’n eich hoffi chi go iawn

Mae o’n dipyn o syndod i mi a dweud y gwir bod yna cymaint o syndod / sioc oherwydd sylwadau gwrth Gymreig rhywun neu’i gilydd yn y Sunday Times.  Mae sylwadau tebyg yn cael eu gwneud yn rheolaidd – wele enghreifftiau isod.  


Ers talwm roedd sylwadau tebyg yn cael eu gwneud am pob math o grwpiau neu genhedloedd eraill, ond Cymru a Chymry ydi’r unig wlad neu genedl lle mae’n dderbyniol ei gwneud yn destun gwawd erbyn hyn.  


Yn hytrach na chwyno am y peth, efallai y byddai’n rheitiach i ni ofyn i ni’n hunain pam bod y sefyllfa yma’n bodoli, ac os oes yna unrhyw beth allwn ei wneud i newid agwedd ein cymydog agosaf atom.  


Tybed os ydi taegrwydd unigryw yn magu dirmyg unigryw?


Ann Robinson – what are they for?” and “I never did like them ‘

“irritating and annoying”

Jeremy Clarkson – ‘It’s entirely unfair that some people are born fat or ugly or dyslexic or disabled or ginger or small or Welsh. Life, I’m afraid, is tragic’.

‘You can never rely on the French. All they had to do was go to Cardiff last weekend with a bit of fire in their bellies and they’d have denied Wales the Six Nations Grand Slam. But no. They turned up instead with cheese in their bellies and mooched about for 80 minutes, seemingly not at all bothered that we’ve got to spend the next 12 months listening to the sheepsters droning on about their natural superiority and brilliance. Or worse. Give them a Grand Slam and the next thing you know, all our holiday cottages are on fire. There are, of course, other reasons I hoped the French would win. I’d rather live in France than Wales; I’d rather eat a snail than a daffodil; I’d certainly rather drink French fizzy wine; and I’d much rather sleep with Carol Bouquet than Charlotte Church.’

Liddle “I think we are fast approaching the time when the United Nations should start to think seriously about abolishing other languages. What’s the point of Welsh for example? All it does is provide a silly maypole around which a bunch of hotheads can get all nationalistic

Liddle tra’n galw am ddiddymu S4C“miserable, seaweed munching, sheep-bothering pinch-faced hill-tribes” 

Roger Lewis, – “I abhor the appalling and moribund monkey language myself, which hasn’t had a new noun since the Middle Ages.

AA Gill – “loquacious, dissemblers, immoral liars, stunted, bigoted, dark, ugly, pugnacious little trolls.”

A.N Wilson “The Welsh have never made any significant contribution to any branch of knowledge, culture or entertainment.

Stephen Leacock ‘Each section of the British Isles has its own way of laughing, except Wales which doesn’t’.

Tony Blair – ‘Fucking Welsh’.

Syr Dai Llywelyn – ‘I believe that much of what had happened is prompted by the growth of an increasingly xenophobic nationalism that has been stirred up in Wales.  The most insidious example of this is the promotion of the Welsh language which is being used as part of an unhealthy and essentially racist agenda.”