Llafur Treganna unwaith eto

Rydym wedi edrych ar hyn eisoes -ond mae’n ymddangos bod Llafur Treganna yn mynd yn codi hen grachan.  Roedd yna homar o ffrae yn ystod y cyfnod pan roedd y Dib Lems a Phlaid Cymru yn rhedeg Cyngor Caerdydd oherwydd cynllun i ail strwythuro’r gwasanaeth ysgolion yn Nhreganna (a mewn wardiau eraill).  

Y cefndir oedd bod twf sylweddol yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal a bod yr ysgol Gymraeg leol yn llawn hyd yr ymylon tra bod yr ysgolion Saesneg gyda nifer fawr o leoedd gwag.  Bwriad y weinyddiaeth oedd datrys y broblem trwy droi un o’r ysgolion Saesneg yn ysgolcyfrwng Cymraeg.  
Mewn gwirionedd gweinyddu dau o bolisiau’r llywodraeth ym Mae Caerdydd oedd y weinyddiaeth – lleihau’r nifer o lefydd gwag mewn ysgolion a chynyddu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg.  Roedd Llafur wrth gwrs yn chwyrn yn erbyn y cynllun, ac yn y diwedd perswadwyd y llywodraeth i gamu i mewn ac ariannu ysgol newydd sbond cyfrwng Cymraeg a chaniatau i’r ysgolion Saesneg (hanner gwag) aros yn agored.
Beth bynnag, mae’r holl beth yn cael ei ail godi yn yr ymgyrch hynod ffyrnig am dair sedd Treganna ar Gyngor Caerdydd – a hynny ar y stepan drws ac ar dudalennau masnachol Facebook.

Rwan, fydd yna ddim cynllun i ehangu addysg Gymraeg yn Nhreganna y tro hwn oherwydd bod yr ysgol (anferth) a godwyd i yn cyflenwi’r galw am addysg Gymraeg – ymarferiad mewn codi bwganod ydi’r cyfan.
Fel rydym wedi nodi eisoes mae’n ddigon hawdd i Alun Davies son am filiwn o siaradwyr Cymraeg.  Ond yr unig ffordd y gellir gwneud hynny ydi trwy ehangu ‘r ddarpariaeth addysg Gymraeg – ond pan mae awdurdodau lleol yn ceisio gwneud hynny mae Llafur – o Langenech i Dreganna – yn ceisio elwa’n etholiadol trwy ymosod ar yr union gynlluniau hynny.

Byth yn dysgu

Mae Golwg360 wedi penderfynu arwai yr arlwy heddiw efo ‘pol piniwn’  sy’n awgrymu bod y Toriaid yn gwneud yn anhygoel o dda yng Nghymru a phawb arall yn sal iawn.  Fel mae digwyddiadau diweddar wedi dangos mae angen cymryd gofal gyda pholiau ar y gorau – ond mae hynny ‘n arbennig o wir yn yr achos yma.

Yr unig broblem ydi nad ydi’r pol yn bol go iawn – rhan o bol Prydain gyfan ydyw a gymerwud gan ORB International ydyw.
Mae yna ddau egwyddor pwysig wrth bolio:
1). Bod y sampl yn ddigon mawr i fod yn ystyrlon.
2). Bod y sampl yn gynrychioladol o’r boblogaeth pleidleisio yn ei chyfanrwydd.
‘Dydi’r is set Cymreig ddim yn ateb yr un o’r ddau egwyddor yma.  Dydi’r 100 o bobl sydd wedi eu polio yng Nghymru ddim yn adlewyrchu’r boblogaeth bleidleisio yng Nghymru – er bod y pol cyfan yn adlewyrchu’r boblogaeth pleidleisio Prydeinig.
Ac mae sampl o 100 gyda lwfans gwall (margin of error) o tua 10%.
Mae’r fethedoleg am y pol Prydain gyfan mor ddibynadwy ag unrhyw bol arall – ond ‘dydi’r elfen ranbarthol i’r pol ddim – yn arbennig lle mae’r ‘rhanbarthau’ yn rhai a phoblogaeth bach – fel Cymru. 

Beth fydd effaith yr etholiad cyffredinol ar yr etholiadau lleol?

Mae’r etholiadau cynghorau lleol yn rhai hynod anarferol oherwydd bod etholiad cyffredinol yn eu dilyn ychydig wythnosau’n ddiweddarach.  Fedra i ddim cofio i’r un peth ddigwydd yng Nghymru – er bod etholiadau lleol ac etholiad arall yn dogwydd ar union yr un diwrnod weithiau.  Y cwestiwn diddorol ydi pa effaith gaiff yr etholiad cyffredinol ar yr etholiadau lleol?  Mae’n amhosibl dweud i sicrwydd wrth gwrs – ond mae’n bosibl ceisio bwrw amcan.  Mae’r canlynol yn fy nharo.  

1). Bydd yna fantais i’r Toriaid.  Mae eu cefnogaeth wedi cynyddu ers galw’r etholiad cyffredinol a bydd hynny yn ol pob tebyg yn cael ei adlewyrchu ddydd Iau.
2). Doedd yna neb yn disgwyl i UKIP gael fawr ddim yng Nghymru beth bynnag, ond mae pethau’n edrych hyd yn oed yn waeth rwan – mae galw’r etholiad cyffredinol wedi prysuro’r broses o drosglwyddo pleidleisiau UKIP i’r Blaid Geidwadol.  Byddant yn lwcus o gael un sedd.
3). Bydd pethau’n waeth i Lafur na fyddai wedi bod yn absenoldeb etholiad cyffredinol.  Mae eu cefnogaeth wedi syrthio yn y rhan fwyaf o bolau ers galw’r etholiad.  Bydd eu harweinydd Prydeinig wedi cael ei golbio’n gyson gan y wasg am wythnosau cyn yr etholiad – ac mae hyn yn siwr o gael effaith negyddol ar y bleidlais Llafur.  Bydd hyn wrth gwrs yn fanteisiol i’r pleidiau sydd yn erbyn Llafur – Plaid Cymru yn y Cymoedd, y Blaid, y Toriaid a’r Dib Lems yng Nghaerdydd, y Toriaid yng Nghasnewydd ac Abertawe ac ati.
4). Gallai pethau fod yn fwy anodd i ymgeiswyr annibynnol a grwpiau bach oherwydd y bydd y prif bleidiau wedi cael sylw di ddiwedd cyn yr etholiad.  Gallai hyn fod yn arwyddocaol yn Ynys Mon yn arbennig – ond gallai hefyd fod yn bwysig ar hyd a lled Cymru.   

Ah, y Dib Lems

Kate Hoey oedd un o’r ychydig ASau Llafur a ymgyrchodd i adael yr UE.  Mae’n aelod seneddol Vauxhall – etholaeth yn Lambeth – bwrdeisdref yn Llundain lle pleidleisiodd 67.5% o’r boblogaeth i aros yn Ewrop.  
Mae’r Dib Lems yn eu ffordd dihafal eu hunain yn gwybod sut droi hynny i’w melin eu hunain.

Pol Cymreig heddiw

Ar y ffigyrau yma byddai Llafur yn colli pob sedd sydd ganddynt yn y Gogledd – Ynys Mon, De Clwyd, Wrecsam, Delyn ac Alyn a Glannau Dyfrdwy.  

Byddant hefyd yn colli’r ddwy sedd Casnewydd, De Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, Pen y Bont.  Byddai risg sylweddol hefyd i Orllewin Abertawe a Thorfaen.

Aw!

Polau Prydain gyfan ydi’r isod wrth gwrs – ond os oes yna rhywbeth tebyg i’r tri pol cyntaf yn digwydd yng Nghymru – ac mi gawn ni weld pan fydd pol Cymreig yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun – mae ‘n bosibl nad y Blaid Lafur fydd yr un fwyaf yng Nghymru yn dilyn etholiad cyffredinol.
Mae’n rhaid i ni fynd yn ol bron i ganrif ers i hynny ddigwydd ddiwethaf.
Mae’n amhosibl meddwl na fydd y ffigyrau isel yma i Lafur yn cael effaith ar eu perfformiad yn etholiadau lleol Mai 4 hefyd.

Y seddi Llafur sydd mewn perygl

Dyna i ni sioc – yn arbennig i rhywun sydd wedi bod yn ymladd etholiad leol am rhai wythnosau a sydd yn Gyfarwyddwr Ymgyrchu ar Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru.  Mae’r wythnosau nesaf am fod yn rhai hir.
Mi geisiwn ni ddod o hyd i’r amser i fynd i’r afael ar bethau cyn amled a phosibl.
Mae’n debyg mai Llafur fydd yn dioddef pan ddaw etholiad Mis Mehefin – ac mae’n debygol y bydd map gwleidyddol Cymru 2017 yn edrych yn dra gwahanol i un 2015.  Dwi’n rhestru isod y seddi sydd mewn mwyaf o berygl:
Alyn a Glannau Dyfrdwy 3,343 – 8.1%
Pen y Bont 1927 – 4.9%
Canol Caerdydd 4981 – 12.9%
Gorllewin Caerdydd  6789 15.5%
De Clwyd 2402 – 6.9%
Delyn 2930 – 7.8%
Llanelli 7095 – 18.4%
Dwyrain Casnewydd 4705 – 13.4%
Gorllewin Casnewydd 3510 – 8.7%
Wrecsam 1831 – 5.6%
Ynys Mon – 229 – 0.7%
Y Toriaid oedd yn ail ym mhob etholaeth ag eithrio Llanelli, Ynys Mon a Chanol Caerdydd gyda Phlaid Cymru yn ail yn y ddwy etholaeth gyntaf a’r Dib Lems yn y llall.
Mae’n werth nodi bod etholiadau Cynulliad 2016 hefyd yn awgrymu bod y  Rhondda mewn perygl (mae Chris Bryant wedi bod yn difa pleidleisiau yno o etholiad i etholiad ers etifeddu’r sedd), Gorllewin Caerdydd a Blaenau Gwent o fewn cyrraedd Plaid Cymru.  Fel rheol mae’r Blaid yn gwneud yn well mewn etholiadau Cynulliad na mewn rhai San Steffan – ond mae’r etholiad yma am fod yn un unigryw.
Byddwch yn sylwi bod perygl gwirioneddol i pob un o seddi Llafur yng Ngogledd Cymru.  Petai Llanelli’n syrthio ni fyddai ganddynt sedd yn y Canolbarth a’r Gorllewin chwaith – a ni fyddai Llafur efo unrhyw sedd y tu allan o’r hen siroedd Morgannwg a Gwent.