Ynglyn a disgyblion sy’n siarad y Gymraeg yn y cartref

Rydw i wedi nodi sawl gwaith yn y blog yma y thu hwnt mai un o’r pethau rhyfeddaf am wleidyddiaeth iaith cyfoes Cymru ydi’r ffaith mai’r sawl sydd fwyaf tebygol o ddarogan tranc y Gymraeg ydi gelynion yr iaith a rhai o garedigion blaenllaw’r iaith.  Mae’r naill garfan yn darogan marwolaeth yr iaith oherwydd eu bod eisiau dadlau nad oes pwrpas i gymryd camau i’w hachub tra bod y garfan arall yn darogan yr un peth oherwydd eu bod eisiau dadlau nad oes digon yn cael ei wneud i’w hachub.

Bwriad y blogiad yma ydi dangos nad ydi’r darogan gwae yma’n dal dwr mewn gwirionedd.

Dwi’n meddwl bod ffigyrau cyfrifiad yn eithaf adnabyddus, felly wna i ddim aros gormod efo’r rheiny.  Yn fras maent yn dangos bod llai o lawer o gymunedau sydd efo canrannau uchel iawn o siaradwyr Cymraeg yn byw ynddynt nag oedd hanner canrif yn ôl – ond nad oes fawr o gwymp wedi bod yn y ganran tros Gymru sy’n siarad yr iaith nag yn y niferoedd sy’n siarad yr iaith.

‘Dydi’r ffigyrau moel ddim wedi atal y daroganwyr gwae rhag darogan gwae wrth gwrs.  Un naratif a geir ydi bod y canrannau a’r niferoedd yn weddol gadarn, ond bod llawer o bobl sydd ddim yn siarad y Gymraeg yn rhugl nag yn aml yn cael eu cyfri – a bod hynny’n cuddio cwymp gwirioneddol mwy arwyddocaol.

Gydag hyn mewn golwg dwi wedi cymryd cip ar ddata llywodraeth Cymru er mwyn gweld beth ydi’r patrymau o ran plant ysgol sy’n siarad y Gymraeg yn y cartref.  Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd y byddai rhywun yn disgwyl y byddai siarad y Gymraeg yn y cartref yn arfer fyddai’n mynd yn llai cyffredin petai’r iaith yn wynebu perygl yn y dyfodol agos neu ganolig.  Yn wir byddai’n rhesymol disgwyl cwymp beth bynnag – mae llawer llai o gartrefi lle mae’r ddau riant yn siarad y Gymraeg heddiw nag oedd yn y gorffennol.  Yn anffodus fedra i ond mynd yn ôl i 2003/4 – cafwyd newid yn y ffordd mae’r data yn cael ei hel bryd hynny – a ni fyddai cymhariaeth efo blynyddoedd cynharach yn gymhariaeth o debyg efo’i debyg.  Hefyd dwi wedi gadael Dwyrain De Cymru allan o’r rhan fwyaf o’r blogiad yma oherwydd bod y ffigyrau yn isel iawn yno.

Felly beth ydym yn gallu ei gasglu o’r ymarferiad yma.  Y peth cyntaf i’w ddweud o bosibl ydi nad oes yna llawer o dystiolaeth o ostyngiad tros Gymru – yn wir mae’r rhifau yn anhygoel o gyson gydag amrediad o llai nag 1% tros gyfnod o tua 15 mlynedd.

Beth felly am yr ardaloedd mwyaf Cymreig? Y rhanbarth Cymreiciaf ydi Gogledd Cymru lle mae 22.1% o blant ysgol yn siarad y Gymraeg adref ar hyn o bryd.  Mae hyn yn cymharu efo 21.47% yn 2003 / 4.  Y ddwy sir Gymreiciaf yn y rhanbarth ydi Gwynedd a Mon.  Cafwyd gostyngiad o tua 1% yn y ganran o blant sy’n siarad y Gymraeg adref tros y cyfnod yng Ngwynedd, a chynnydd o tua 4% yn Ynys Mon.

Mae Canolbarth Cymru a Gorllewin De Cymru unwaith eto yn gyson gydag amrediad eto o lai nag 1%. O ran y ddwy sir fwyaf Cymraeg o ran iaith y nodwedd mwyaf amlwg ydi cwymp cymharol fawr o tua 8% yng Ngheredigion tra bod Caerfyrddin wedi bod yn gymharol gyson tros yr un cyfnod.

Ar wahân i gynnydd sylweddol yng Nghaerdydd yn 2004 / 05 a  chwymp yn dilyn hynny – rhywbeth sy’n anodd iawn i’w egluro – mae yna batrwm o gynnydd cyson ond araf ar hyd y rhanbarth ac yn y ddwy sir lle mae yna’r mwyaf o blant yn siarad y Gymraeg adref – Caerdydd a Rhondda Cynon Taf.

G

Rhan o’r stori yn unig sydd i’w gael o edrych ar ganrannau – mae niferoedd yr un mor bwysig wrth gwrs.  Un o nodweddion y pymtheg mlynedd diwethaf yng Nghymru ydi cwymp eithaf sylweddol yn y nifer o ddisgyblion sydd yn ysgolion Cymru – dyma ydi’r cefndir i’r gwahanol sefyllfaoedd yng Nghymru lle mae ysgolion yn cael eu cau wrth gwrs.

Ond mae’r cwymp yma yn anghyson.  Er bod cwymp wedi bod ym mhob rhanbarth yng Nghymru bu cynnydd yn y nifer o blant yn ysgolion Caerdydd.  

O edrych ar y niferoedd sy’n siarad y Gymraeg adref y brif nodwedd ydi cynnydd yng Nghanol De Cymru a chwymp yn y Gogledd a’r Canolbarth / Gorllewin De Cymru.

Yn 2003 / 2004 roedd y ffigyrau fel a ganlyn:

Gwynedd 10171
Ynys Mon 4171


Ceredigion 4125
Caerfyrddin 6459


RCT 1877
Caerdydd 2084

Erbyn hyn bu ychydi o newid.  Yn 2017 / 2018 roeddynt fel a ganlyn:

Gwynedd 9008
Ynys Mon 3998


Ceredigion 2983
Caerfyrddin 5942


RCT 2489
Caerdydd 3013

Felly mae yna fwy o blant sy’n siarad y Gymraeg adref yn byw yng Nghaerdydd na sydd yng Ngheredigion – a ‘does yna ddim bwlch mawr rhwng RCT a Cheredigion.

Cyn gorffen hoffwn esbonio fy mod ychydig yn anghyfforddus yn gwahaniaethu rhwng gwahanol fath o Gymru Cymraeg – y sawl sydd wedi dysgu’r iaith y tu allan i’r cartref sydd yn aml efo’r mwyaf o ymrwymiad iddi.  Ond mae’r wybodaeth uchod yn bwysig o safbwynt yr hyn mae’n ei ddweud wrthym am pa mor effeithiol mae’r Gymraeg yn cael ei drosglwyddo yn y cartref – ac mae’r hyn a ddysgir ymhell o fod yn rheswm i ddigaloni ynglŷn a dyfodol y Gymraeg.

Canlyniad y refferendwm fesul etholaeth

Un o nodweddion bach y refferendwm ar aelodaeth y DU o’r UE ydi’r ffaith bod y canlyniadau yn cael eu datgan fesul sir – yn hytrach nag etholaeth – ym mhob man ag eithrio Gogledd Iwerddon.  

Mae yna waith wedi ei wneud gan yr Athro Chris Hanretty o Brifysgol Royal Holloway i amcagyfri’r canlyniadau ar sail etholaethau.  Mae’r darlun rydym yn ei gael o’r tirwedd Cymreig yn ddigon diddorol o edrych arno o’r cyfeiriad hwnnw. 

Pleidleisiodd 11 o’r 40 etholaeth yng Nghymru i aros – ychydig mwy na chwarter.  Mae hyn yn eithaf tebyg i’r patrwm tros Cymru a Lloegr.

Pleidleisiodd mwy na 60% i aros mewn tair etholaeth – Canol Caerdydd (69%), Arfon 65% a Gogledd Caerdydd (61%).  Pleidleisiodd llai na 40% i aros mewn 6 etholaeth – De Clwyd (39.8%), Dwyrain Casnewydd (39.8%), Torfaen (39%), Rhondda (39%), Dwyrain Abertawe (38%), Blaenau Gwent (38%).  

Yr etholaethau sydd o dan ddylanwad sylweddol prifysgolion ydi Ceredigion, Arfon, Canol Caerdydd a Gorllewin Abertawe.  Pleidleisiodd y cwbl i aros yn eithaf cyfforddus. 

Mae yna 9 etholaeth y byddwn yn gallu eu disgrifio fel rhai dinesig – 4 yng Nghaerdydd, 2 yng Nghasnewydd, 2 yn Abertawe ac 1 yn Wrecsam.  Pleidleisiodd y mwyafrif ohonynt i aros (5/4) – y bedair yng Nghaerdydd a Gorllewin Abertawe.

Mae yna bedair etholaeth yn nwylo Plaid Cymru.  Pleidleisiodd tair i aros (Arfon, Dwyfor Meirion a Cheredigion), ond pleidleisiodd Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr i adael.  Plaid Cymru ydi’r unig blaid yng Nghymru sydd a’r rhan fwyaf (3/4) o’r etholaethau mae’n ei chynrychioli wedi pleidleisio i aros.  O edrych y tu hwnt i Gymru pleidleisiodd y 35 etholaeth yr SNP i aros a’r 7 etholaeth Sinn Fein yn ogystal ag unig etholaeth y Blaid Werdd.  Pleidleisiodd 75% o etholaethau Toriaidd i adael a thua 60% o etholaethau Llafur.  Pleidleisiodd y rhan fwyaf o etholaethau y Lib Dems i aros.  Pleidleisiodd 3 o 10 etholaeth y DUP i aros gyda llaw, ac roedd rhai o’r lleill yn agos iawn.

Pleidleisiodd 7 o’r 8 etholaeth Doriaidd yng Nghymru i adael.  Mynwy oedd yr eithriad.

Mae gan Lafur 28 sedd yng Nghymru.  Pleidleisiodd 7 i aros – pedair etholaeth Caerdydd, Gorllewin Abertawe, Pontypridd a Phen y Bont.

Mae yna 8 etholaeth yng Nghymru efo mwy na 45% o’u poblogaeth sy’n gweithio mewn swyddi proffesiynol neu reolaethol – y bedair etholaeth yng Nghaerdydd, Arfon, Pen y Bont, Pontypridd a Mynwy.  Pleidleisiodd yr 8 i aros.

Yr etholaethau mwyaf Cymraeg o ran iaith ydi Arfon (66%), Meirion Dwyfor (65%), Ynys Mon (57%), Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr (55%) a Cheredigion (47%).  Pleidleisiodd Ceredigion, Arfon a Meirion Dwyfor i aros, a byddai Ynys Mon wedi gwneud hefyd oni bai am dref Seisnig (o ran iaith) Caergybi.  Aeth Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr yr un ffordd a gweddill y De Orllewin.

Dim ond tair etholaeth sydd a mwy na 5% o’i phoblogaeth mewn amaethyddiaeth, pysgota neu goedwigaeth – Preseli Penfro, Brycheiniog a Maesyfed a Threfaldwyn.  Pleidleisiodd y cwbl i adael.

Mae 28 o etholaethau Cymru yn derbyn arian Amcan 1 o’r UE.  6 bleidleisiodd i aros – Arfon, Gorllewin Abertawe, Ceredigion, Pontypridd, Meirion Dwyfor a Phen y Bont.  Pleidleisiodd y gweddill i adael.

Dydi edrych ar y refferendwm yn y ffordd yma ddim yn newid y canlyniad mewn unrhyw ffordd wrth gwrs ond mae o’n ymarferiad digon diddorol.  Mae’n egluro’n rhannol agweddau’r gwahanol bleidiau yng Nghymru i’r sefyllfa rydym yn cael ein hunain ynddi – ac yn bwysicach o bosibl mae’n rhoi syniad i bleidiau sut y dylid ymgyrchu mewn etholaethau gwahanol.

Twr o gelwydd

Un o nodweddion diddorol yr holl ffrae Brexit ydi bod cymaint o ffeithiau  ar gael, ond  bod cymaint o’r ddadl yn ymwneud a gwybodaeth sydd ddim yn ffeithiol gywir – neu gelwydd.

Y celwydd mae pob celwydd arall wedi eu adeiladu arno ydi ei bod yn bosibl rhannu 4 rhyddid yr UE (rhyddid i symud pobl, cyllid, gwasanaethau a nwyddau ar draws ffiniau yn ddi dramgwydd).  Dydi hynny ddim yn bosibl i’r UE, a phetai’r UE yn caniatau i wledydd allanol ddewis yr elfennau o’r Farchnad Sengl byddai’r Farchnad Sengl  a’r UE yn datgymalu yn ddigon cyflym.  

Roedd y celwydd sylfaenol yma yn sail i’r ymgyrch Gadael adeiladu twr o gelwydd ar ei ben – bod cwmniau ceir Almaeneg a ffermwyr Ffrengig am orfodi eu llywodraethau i roi telerau da i’r DU, y byddai’r UE yn crefu am gytundeb efo’r UE, y byddai’r DU yn gallu negydu cytundebau masnach efo gwledydd unigol yn yr UE, y byddai cytundebau yn cael eu cwblhau’n gyflym ac yn hawdd iawn, y byddai’r Gwasanaeth Iechyd yn cael £350m yr wythnos yn ychwanegol, na fyddai yna unrhyw oblygiadau negyddol o ran teithio i’r UE, na fyddai’n rhaid codi ffin yn Iwerddon ac ati, ac ati.

Nid yr ochr Gadael oedd yr unig ochr oedd yn dweud celwydd wrth gwrs.  Roedd yr ochr Aros o dan arweinyddiaeth Cameron ac Osborne wedi cymryd eu hysbrydoliaeth o’r refferendwm ynglyn ag annibyniaeth i’r Alban.  Roedd ochr Cameron ac Osborne wedi ennill y refferendwm hwnnw trwy restru pob dim ofnadwy roeddynt yn gallu meddwl amdano a allai ddigwydd petai’r Alban yn gadael y DU, a’u ailadrodd trosodd a throsodd a throsodd.  Ailadroddwyd y patrwm hwn yn ei dro i raddau helaeth, a dywedwyd ymhellach y byddai’r holl wae a gwewyr yn digwydd yn syth bin.

Mae’r ddwy flynedd diwethaf o ‘negydu’ wedi dangos bod bron iawn i’r cwbl o’r hyn addawyd gan yr ochr Gadael yn amhosibl, ac mae yna fynydd o dystiolaeth bod llawer o ganlyniau negyddol am fod i adael yr UE – yn arbennig os nad oes cytundeb.

Ond yr ymateb ydi mwy o gelwydd.  Roedd hi tua blwyddyn yn ol pan holwyd Iain Duncan Smith ynglyn a datganiad Prif Gwnstabl gwasanaeth heddlu Gogledd Iwerddon – y PSNI – y byddai ffin galed yn Iwerddon yn fygythiad i ddiogelwch y dalaith.  Yn ol Duncan Smith doedd hyn ddim yn wir – roedd o wedi gwasanaethu yn y fyddin yng Ngogledd Iwerddon rhywbryd yn y gorffennol pell ac roedd o’n gwybod nad oedd bygythiad o unrhyw fath.  Mae George Hamilton yn darllen adroddiad gan y gwasanaethau cudd wybodaeth ar y bygythiad diogelwch yng Ngogledd Iwerddon yn wythnosol.  Mae Iain Duncan Smith wedi treulio cyfnod yng Ngogledd Iwerddon tra yn y fyddin  ddeugain mlynedd yn ol – ond mae’n credu bod y profiad hwnnw yn rhoi mwy o arbenigedd iddo ar fygythiadau i ddiogelwch yng Ngogledd Iwerddon na phrif gwnstabl cyfredol y PSNI.

A dyna ydi’r ateb i pob rhybudd – os ydi undebau amaethwyr yn darogan gwae i’w sector nhw mae nhw yn anghywir, mae’r asiantaeth ffiniau yn anghywir pan mae nhw yn paratoi ar gyfer anhrefn mewn porthladdoedd a meysydd awyr, mae’r weinyddiaeth sifil yn anghywir i rybuddio y bydd masnach efo’r cyfandir yn syrthio trwy’r llawr, mae’r heddlu yn anghywir i rybuddio y bydd ffin galed yn arwain at dor cyfraith.  Mae pawb yn anghywir – y CBI, yr IMF, Banc Lloegr, yr LSE, y weinyddiaeth sifil, Nissan, Airbus, Siemens, Pawb – mae Iain a’i ffrindiau yn gwybod yn well.  ‘Does na neb yn deall ond Iain a’i ffrindiau.

Mae celwydd Osborne a Cameron yn 2016 o wedi bod o gymorth wrth gwrs.  Mae pob rhagweld negyddol yn cael ei ddisgrifio fel ‘Project Fear’ – rhywbeth tebyg i brosiect Osborne a Cameron.  Ond dydi llawer o’r darogan gwae a geir bron yn ddyddiol ddim yn rhan o ymgyrch wleidyddol.  Yn amlach na pheidio cyrff proffesiynol neu asiantaethau llywodraethol sy’n paratoi ar gyfer problemau – gydag awduron y trefniadau yn aml yn credu bod eu rhybuddion neu eu trefniadau yn gyfrinachol.

Dwi’n meddwl mai dyfyniad cofiadwy y lladmerydd Brexit arall hwnnw – Boris Johnson – ydi ‘inverted pyramid of piffle’.  Fel mae’n digwydd mae’r dyfyniad yn disgrifio Brexit yn eithaf da.  Mae strwythur felly yn sicr o syrthio’n ddarnau wrth gwrs – a dyna fydd yn digwydd i’r prosiect Brexit.  Y cwestiwn mawr wrth gwrs ydi sut fydd y darnau’n syrthio.  Mae’r ateb i’r cwestiwn hwnnw am effeithio ar bawb am gyfnod maith. 

Beth fydd yn digwydd tros yr wythnosau nesaf?

Reit ta – beth sy’n debygol o ddigwydd tros yr wythnosau nesaf?  Yr ateb wrth gwrs ydi nad oes yna neb yn gwybod.  Ond o ran ceisio darogan y dyfodol mae yna waeth ffyrdd o fynd ati nag edrych ar beth mae’r marchnadoedd betio yn awgrymu.  Dyma beth maent yn awgrymu o ran tebygolrwydd gwahanol ddigwyddiadau.

Theresa May yn ennill ei phleidlais ddydd Mawrth – 17%

Ail Refferendwm – 36%

Theresa May yn peidio a bod yn Brif Weinidog eleni – 69%

Etholiad Cyffredinol eleni – 40%

Ac mi arhoswn ni efo’r olaf.  Petai yna etholiad yn y dyfodol agos, beth fyddai’n digwydd?  Ond mae’n bosibl edrych ar y sefyllfa gyfredol, etholiad 2017 a bwrw amcan ar sail hynny.

Y peth cyntaf i’w ddweud ydi ei bod yn rhyfeddol – ag ystyried pob dim sydd wedi digwydd ers Etholiad Cyffredinol 2017 – pa mor debyg ydi’r polau rwan i ganlynad yr etholiad.  

Canlyniad Etholiad Cyffredinol oedd.

Er enghraifft roedd y pol Cymreig diweddaraf gan ITV Cymru fel a ganlyn.

Felly y prif wahaniaeth ydi cwymp yng nghefnogaeth Llafur – ond cwymp sy’n eu gadael yn y sefyllfa gryfaf o ddigon.

A bod yn onest dwi ddim yn meddwl ei bod yn debygol y byddai Etholiad Cyffredinol yn cynhyrchu canlyniad mor debyg i un 2017.  Byddai etholiad cyffredinol yn arwain at i bob dim gael ei luchio i’r awyr – a phan mae hynny’n digwydd mae’n anarferol i bob dim syrthio’n ol yn yr un lle.  Gallai rhywbeth tebyg i’r hyn ddigwyddodd yn etholiad 2017 ddigwydd gyda symudiadau sylweddol mewn lefelau cefnogaeth yn ystod y cyfnod ymgyrchu.

Doedd yna ddim newidiadau mawr yn y nifer seddi yng Nghymru (na’r DU) oherwydd i gefnogaeth y ddwy blaid unoliaethol fawr symud i’r un cyfeiriad – Llafur + 12% a’r Toriaid + 6% yng Nghymru.  Mae’r rhain yn symudiadau mawr iawn.

Rwan petai’r ddwy brif blaid unoliaethol yn symud i gyfeiriad gwahanol byddai yna newidiadau mawr mewn seddi seneddol.  Er enghraifft petai yna ogwydd o 6% oddi wrth y Toriaid tuag at Lafur byddai yna gyflafan.  Byddai eu seddi i gyd  yng Nghymru ag eithrio tair yn syrthio – Trefaldwyn, Brycheiniog a Maesyfed a Mynwy.

Byddai gogwydd tebyg oddi wrth Lafur tuag at y Toriaid yn arwain gyflafan fwy.  Byddai Wrecsam, Alyn a Glannau Dyfrdwy, Pen y Bont, Gogledd Caerdydd, De Clwyd, Delyn, Gwyr a Dyffryn Clwyd yn syrthio.  Byddai Ynys Mon a Gorllewin Casnewydd hefyd yn agos iawn.

Ond mae’n bosibl – neu’n debygol hyd yn oed – y bydd y ddwy blaid unoliaethol fawr yn ymladd yr etholiad tra’n cefnogi Brexit.  Wedi’r cwbl dyna beth ddigwyddodd yn 2017.  Wnaeth y pleidiau llai gwrth Brexit (Dib Lems, Gwyrddion, SNP a Phlaid Cymru) ddim llwyddo i fanteisio ar hynny yn 2017.  Ond mae yna lawer iawn o ddwr wedi llifo o dan y bont ers hynny, ac mae agweddau’r ddwy ochr wedi caledu – a chwerwi.  

Mae’n bosibl felly y byddai etholiad cyffredinol yn arwain at symudiad sylweddol oddi wrth y ddwy blaid unoliaethol fawr a thuag at bleidiau llai sydd yn amlwg wrth Brexit.  Byddai angen symudiad gwirioneddol fawr o’r math hwn i arwain at newid mawr o ran niferoedd seddi.  Ond gallai newid llai fraeanu’r tir ar gyfer yr ail strwythuro gwleidyddol mwyaf ers yr 80au cynnar – os nad ers 1918.

Brexit – beth sy’n debygol o ddigwydd

Tri phosibilrwydd sydd yna mewn gwirionedd:

– Mae Prydain yn gadael yr UE ar delerau cytundeb May

– Prydain yn gadael heb unrhyw fargen

– Prydain yn aros yn yr UE.

Mae’n annhebygol y bydd Ty’r Cyffredin yn derbyn cytundeb May.  Ymddengys bod tros 400 AS am bleidleisio yn erbyn y cytundeb cyn y Nadolig.  Does yna ddim llawer wedi newid ers hynny.  Yr unig beth allai newid pethau ydi bod Llafur yn newid eu safbwynt – a gan mai’r hyn mae nhw eisiau fwy na dim arall ydi Etholiad Cyffredinol mae hynny’n anhebygol iawn.  

Mae hynny’n ein gadael ni efo dau bosibilrwydd – aros neu adael heb gytundeb.  Mae’r llwybr tuag at aros yn gymhleth.

Er mwyn aros yn yr UE, rhaid i Brydain roi gwybod i’r UE ei bod yn tynnu ei hysbysiad Erthygl 50 yn ôl cyn y 29ain o Fawrth.  Golyga hyn mewn gwirionedd y byddai’n rhaid cael mandad newydd gan etholwyr y DU – naill ai trwy refferendwm newydd neu trwy etholiad cyffredinol.  Mae’n anodd iawn gweld y gallai May alw Erthygl 50 yn ol heb etholiad na refferendwm – byddai hynny’n wirioneddol niweidiol i’r Blaid Geidwadol – a byddai yn ol pob tebyg yn ei hollti.  Mae anghenion mewnol y Blaid Doriaidd wedi cael blaenoriaeth trwy’r holl hanes Brexit – a does yna ddim lle i feddwl y bydd hynny’n newid yn y dyfodol agos – na phell.

Cyn cael ail refferendwm byddai’n rhaid wrth ymgynghoriad cyhoeddus ynglyn a natur y cwestiynau a byddai rhaid fframio’r trefniadau mewn Mesur Refferendwm.  Byddai’n  rhaid i’r Senedd ei basio a byddai’n rhaid  darparu o leiaf ddau fis ar gyfer dadl gyhoeddus cyn y pleidleisio. 

Ag ystyried yr amrediad barn ynglŷn â’r materion hyn a gwrthwynebiad y brif wrthblaid a llawer oddi mewn i’r blaid lywodraethol nid yw’n debydol y gellid cynnal ail refferendwm cyn hydref nesaf ar y cynharaf.  Byddai’n rhaid i’r DU wneud cais i’r UE am estyniad i Erthygl 50 – ac estyniad cymharol faith ar hynny.  

Byddai hyn ymhell o fod yn ddelfrydol i’r UE oherwydd bod etholiadau ar gyfer Senedd Ewrop yn cael eu cynnal rhwng 26 a 29 Mai eleni.  Pe byddai’r DU yn yr UE o hyd bryd hynny mae’n debyg y byddai’n rhaid i’r DU fynd trwy’r broses etholiadol hefyd.  Dydi hyn ddim yn ddelfrydol o ran yr UE gan fod newidiadau eisoes wedi digwydd yn y niferoedd o aelodau sy’n cael eu darparu i wledydd yr UE yn sgil penderfyniad y DU i ymadael.  Byddai’n rhaid newid hynny ac ethol ASEau o’r DU heb wybod os byddai’r DU yn rhan o’r UE am fwy nag ychydig fisoedd wedyn.

 Problem arall ydi y bydd rhaid i Senedd yr Undeb Ewropiaidd ethol Llywydd nesaf y Comisiwn cyn dechrau mis Gorffennaf, nid yw’n debygol y byddai’r UE yn caniatau ymestyn cyfnod Erthygl 50 y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw. 

O ganlyniad, byddai Prydain yn ol pob tebyg wedi gadael yr UE cyn y gallai ail refferendwm ddigwydd – a byddai ceisio dod yn ol ar ol gadael yn creu llawer o gymhlethdodau ynddo’i hun.  Ar ben hynny mae’n debyg y byddai ymadawiad o dan yr amgylchiadau yma yn un anhrefnus a heb sail cyfreithiol iddo – a byddai’r refferendwm yn cael ei gynnal mewn amgylchiadau argyfyngus.  Byddai galw refferendwm arall hefyd yn hollti’r Blaid Doriaidd.

Gallai etholiad cyffredinol ddigwydd yn llawer cynt a mwy di drafferth a gallai Senedd newydd gyda mandad i wrthdroi Brexit trwy alw’r  datganiad Erthygl 50 yn ol yn fuan wedi’r etholiad – ond byddai’n rhaid galw’r etholiad erbyn y 1af o Chwefror ar yr hwyraf  i ganiatau galw Erthygl 50 yn ol cyn 29ain o Fawrth. 

Gallai’r UE gytuno i ymestyn Erthygl 50 am tua dau fis arall i ganiatáu mwy o amser ar gyfer yr etholiad os byddai angen hynny.  Gellid galw Erthygl 50 yn ol yn fuan wedi etholiad – ond mae’n anodd gweld y gellid ei alw yn ol heb i’r blaid fuddugol – y Toriaid neu Lafur – fod wedi mynd i’r etholiad ar y ddealltwriaeth eu bod am wneud hynny.  Mae’n anodd gweld y byddai hynny’n bosibl i’r Toriaid ond mae’n bosibl i Lafur – er bod yna’r cymhlethdod bach bod arweinyddiaeth (ond nid aelodaeth)  y blaid honno eisiau Brexit.

Mae etholiad cyffredinol yn bosibl mewn amgylchiadau eraill hefyd – byddai gadael yr UE heb sail gyfreithiol i wneud hynny ac heb gyfnod trosiannol yn debygol o arwain at argyfwng gwleidyddol fyddai’n cyd redeg efo’r argyfwng economaidd.  Gallai hyn yn hawdd esgor ar etholiad cyffredinol.  Dydi hi ddim tu hwnt i bosibilrwydd chwaith y byddai’n well gan May wynebu etholiad cyffredinol na symud i ymadawiad caled a gorfod perchnogi hynny.  Byddai yna bethau gwaeth o safbwynt y Blaid Doriaidd na chyfnod fel gwrthblaid yn edrych ar Lafur yn ceisio gwneud rhywbeth efo’r llanast.

Mae etholiad cyffredinol felly yn llawer mwy tebygol na refferendwm.  

Ond gan nad yw’r Torïaid na’r Blaid Lafur yn ddigon unedig i ymrwymo i wyrdroi’r broses Brexit y perygl – yn wir y tebygrwydd ydi – y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb oherwydd nad ydi hi’n bosibl cytuno i wneud unrhyw beth arall.  Lleiafrif gweddol fach sydd eisiau Brexit caled – ond lleiafrif sydd eisiau unrhyw beth yn y cyswllt yma.  

Mae etholiad cyffredinol eleni yn debygol iawn – ac mae gadael yr UE heb gytundeb yn fwy tebygol na pheidio.

Pam y bydd dim cytundeb yn arwain at ffin yn yr Iwerddon

Reit, beth am gael cip ar Iwerddon – a’r ffin sy’n achosi cymaint o ddrwg deimlad ymysg y cyfeillion sydd eisiau gadael yr UE?


Mae yna ddigon o son gan Rees Mogg, Ian Duncan Smith ac ati mai rhyw gynllwyn maleisus i gadw’r DU yn yr UE ydi penderfyniad Iwerddon a’r UE na fydd yna ffin rhyngwladol weledol yn yr Iwerddon.  ‘Wedi’r cwbl dydi’r  UE ddim eisiau un, dydi’r DU ddim eisiau un a dydi Iwerddon ddim eisiau un – felly fydd yna ddim un.’

Yn anffodus  ‘dydi pethau ddim cweit mor syml a hynny. 
‘Dydi Iwerddon ddim am ystyried ffin galed oherwydd y byddai ffin felly yn fygythiad i ddiogelwch y wladwriaeth.  Mae yna lawer iawn o bobl wedi eu lladd ar hyd y ffin tros y blynyddoedd.


Ond dydi Iwerddon na’r UE ddim mewn sefyllfa i ystyried gadael i gynnyrch a nwyddau symud yn rhydd o’r DU ar draws y ffin i’r UE chwaith.  Fyddai hynny ddim yn broblem yn syth bin, ond pan y byddai’r DU yn dechrau cymryd nwyddau a chynnyrch rhad o safon isel o wledydd y tu hwnt i’r DU – UDA Trump er enghraifft – yna byddai’r ffin yn ddrws cefn i pob math o stwff ansawdd isel gael mynediad i’r UE.  Byddai hynny’n fygythiad uniongyrchol i hygrededd y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.
Byddai hynny yn ei dro yn golygu y byddai’n rhaid i’r UE ac Iwerddon benderfynu lle i godi ffin – ar y ffin bresenol rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth, neu rhwng tir mawr Ewrop a’r Weriniaeth.  Mae’r naill mor annerbyniol a’r llall i’r UE a’r Werinaeth fel ei gilydd.


Byddai rhywun yn meddwl hefyd y byddai’r DU eisiau rheoli eu ffin nhw efo’r UE – gan mai rheoli ffiniau a chadw tramorwyr allan oedd rhai o’r prif ddadleuon tros adael yr UE.  Os ydi awgrymiad Jacob Rees Mogg i adael y ffin yn agored o’r ochr Brydeinig yn cael ei galw, fyddai yna ddim byd i rwystro Ffrainc rhag hedfan y sawl sydd yn Calais sy’n ceisio cael mynediad i’r DU i Ddulyn a mynd a nhw mewn bysus i borthladd fferi Larne yng Ngogledd Iwerddon.  Fyddai’r DU methu gwneud llawer i rwystro Ryan Air rhag hedfan pobl o Ogledd Affrica i Shannon a mynd a hwythau hefyd i Larne. 

Y gwir ydi y byddai’r DU yn cau’r ffin o fewn ychydig fisoedd o gael eu traed yn rhydd o’r UE, ac mai’r sawl sydd fwyaf cegog na fydd ffin yn Iwerddon ar hyn o bryd fyddai’r uchaf eu cloch tros gael un.  Ac mae’r Iwerddon a’r UE yn deall hynny’n iawn.

Ac yn ychwanegol at hynny byddai’n rhaid i’r DU godi ffin os ydynt eisiau cadw at reoliadau’r WTO.  I gadw ar yr ochr gywir o’r rheolau hynny ni chai’r DU godi tollau ar unrhyw wlad ar nwyddau neu gynyrch petai yn peidio a chodi tollau ar unrhyw wlad yn absenoldeb cytundeb – gwledydd yr UE yn yr achos yma.  Petai’r DU yn peidio a chodi tollau ar wledydd eraill tra bod gwledydd eraill yn codi tollau ar y DU byddai hynny’n gymhelliad cryf i ddiwydiant adael y DU cyn gynted a phosibl.

Mewn geiriau eraill os nad oes cytundeb bydd yna ffin yn Iwerddon – beth bynnag mae’r DU, y Weriniaeth a’r UE yn ei ddweud.

Ynglyn a gadael yr UE

Wrth baratoi i ail gychwyn blogio ddoe roeddwn yn edrych tros hen flogiadau ac roedd yn fy nharo bod os oes egwyddor cyson o gwbl y tu ol i Flogmenai mai’r gred bod gwleidyddiaeth a’r prosesau sy’n ymwneud a gwleidyddiaeth yn eu hanfod yn syml hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn gymhleth ydi hwnnw.  

Fy mwriad ydi parhau i ddilyn y trywydd hwnnw – ac mi wnawn ni ddechrau efo’r mater ymddangosiadol gymhleth hwnnw – ymadawiad y DU a’r UE.

Dros i flwyddyn yn ol – pan roedd y DU wrthi’n cael ei llusgo trwy gam cyntaf y negydu mi ysgrifennais yr isod ar Flogmenai.

Y peth cyntaf i’w ddweud ydi nad proses o negydu yn yr ystyr arferol ydi’r hyn sydd wedi dod i fwcl heddiw.  Yn hytrach mae’n broses o’r UE yn dweud wrth y DU beth sy’n rhaid iddi ei wneud cyn cael trafod trefniadau masnach yn y dyfodol, a’r DU – ar ol tipyn o theatrics – yn cytuno i’r hyn maent yn gofyn amdano.  

Mae’r rheswm pam bod hyn yn digwydd yn eithaf syml yn y bon – mae pethau’n unochrog iawn – mae’n ‘negydu’ rhwng bloc masnachu anferth a gwlad ganolig ei maint sydd ddim efo cytundeb masnach efo unrhyw wlad yn annibynnol o’r UE. Byddai methu a dod i gytundeb yn niweidiol i’r UE – ond byddai’n gwbl drychinebus i’r DU o safbwynt masnachol.

Dwi’n meddwl bod y darn bach yna o ddarogan wedi goroesi yn eithaf da – a ‘dydi’r ffeithiau sylfaenol oedd y tu ol iddo ddim wedi newid llawer.  Yn sylfaenol maent fel a ganlyn:

  1. ‘Dydi’r negydu ddim rhwng negydwyr cyfartal.  Mae’r UE yn llawer mwy pwerus yn economaidd na’r DU – ac mae angen y DU am gytundeb yn llawer mwy nag un y DU. 
  2. Er bod yr UE yn greadur eithaf cymhleth, yr hyn yw yn waelodol ydi bloc masnachu.  Mae bloc masnachu pob amser am roi ffafriaeth i’w aelodau ei hun tros bawb arall.  Partneriaid agos sy’n dod yn ail.  Trydydd gwledydd sy’n dod yn – wel – drydydd.  Pe na fyddai bloc yn ymddwyn yn y ffordd yma  ni fyddai unrhyw gymhelliad i unrhyw wlad ymuno a’r bloc, aros yn y bloc na sefydlu trefniadau arbennig efo’r bloc.  
  3. Mae cyfraith yr UE yn adlewyrchu’r realiti uchod, a felly fydd cyfraith yr UE ddim yn cael ei newid na’i addasu i gyfarfod ag anghenion gwlad sy’n gadael yr UE – a sydd o bosibl eisiau bod yn drydydd gwlad.  Mae hyn yn cyfyngu yn sylweddol ar yr hyn y gellir ei gynnig i’r DU.

Camddealltwriaeth – bwriadol neu anfwriadol – ynglyn a hyn arweiniodd at ganlyniad refferendwm 2016.  Gwerthwyd – a phrynwyd – y syniad ei bod yn bosibl i’r DU adael yr UE a chadw’r manteision tra’n hepgor yr anfanteision.  ‘Doedd hyn ddim yn bosibl yn 2016, ‘dydi o ddim yn bosibl rwan a fydd o byth yn bosibl. 

Un waith eto er mwyn eglurder – ‘dydi hi ddim yn bosibl gadael orbit rheoliadol a chyfreithiol yr UE a chadw’r manteision o fod yn yr orbit hwnnw.  Byddai caniatau hynny yn weithred o hunan laddiad ar ran yr UE. 

Ac mae’r stori o ddwy flynedd o trafodaethau Brexit wedi adlewyrchu methiant Prydain i ddod i dermau efo’r ffaith bod Brexit wedi ei werthu ar sail celwydd gwaelodol.  Mae’r llywodraeth yn gofyn am rhywbeth amhosibl. Dywedir wrthi nad ydi’r hyn mae’n gofyn amdano yn  bosibl. Mae’r llywodraeth wedyn yn mynd ati i ofyn am union yr un peth 27 gwaith eto trwy fynd o gwmpas y gwahanol lywodraethau a gofyn yn unigol iddynt am rhywbeth amhosibl.  Mae’r rheiny yn dweud 27 gwaith mai’r UE ac nid llywodraethau unigol negydu. Ar ol hir a hwyr mae rhywun ar ochr yr UE yn gweiddi  nad ydi’r hyn mae llywodraeth y DU yn gofyn amdano yn bosibl.

Mae’r cyfryngau Prydeinig wedyn yn dechrau wylofain a stampio eu traed a gweiddi bod yr UE yn bod yn afresymol, anheg ac anhyblyg.   Yn y cyfamser mae’r  llywodraeth yn pwdu am ddiwrnod neu ddau cyn mynd ati i feddwl am gais arall cwbl amhosibl.  Mae  hwnnw‘n cael ei wrthod ac yna mae’r  broses uchod yn cael ei hailadrodd.

Ar ol gofyn am bedwar neu bump o bethau amhosibl gwahanol a mynd trwy’r un rigmarol pob tro rydan  ni’n dod yn ol at at y cais amhosibl cyntaf, ac yna’n ailadrodd y cylch.  Mae’r DU – a’i chyfryngau torfol – wedyn y dechrau ymddwyn fel plentyn bach dyflwydd oed sydd heb gael llawer o gwsg am ddau neu dri diwrnod ac yn cael un meltdown cyhoeddus ar ol y llall.  

Ar ol hir a hwyr daeth y llywodraeth – neu rai yn y llywodraeth – i sylweddoli bod amgylchiadau yn cyfyngu’n sylweddol ar sut gytundeb trosoannol oedd yn bosibl i ‘r DU, a ffrwyth y sylweddoliad hwnnw ydi cytundeb May – mae’n gytundeb sydd wedi ei negydu yn unol a’r hyn sy’n dderbyniol i’r UE.  ‘Dydi’r geiniog heb syrthio i elfennau sylweddol oddi mewn i’r Blaid Geidwadol, a dyna pam bod llawer o’r sawl sydd o blaid Brexit yn gwrthwynebu’r cytundeb.  Mae’r sawl sydd eisiau aros yn gwrthwynebu am resymau eraill wrth gwrs.

Ac yn sylfaenol dyna lle’r ydan ni lai na thri mis cyn gadael yr UE.  Mae yna berygl gwirioneddol i ni adael yr UE heb gytundeb a heb sail cyfreithiol oherwydd na all y Blaid Geidwadol – neu elfennau arwyddocaol ohoni dderbyn bod y math o Brexit roeddynt yn ei gynnig wedi ei seilio ar gelwydd.  

Mae’r ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth yn rhan o’r stori yma wrth gwrs – a byddwn yn edrych ar hynny yn hwyrach wythnos yma.

Adduned flwyddyn newydd

Fel y byddwch wedi sylwi ‘dwi heb fod yn blogio rhyw lawer yn ystod y flwyddyn diwethaf.  Pan wnes i ymddeol ddwy flynedd yn ol roeddwn yn credu y byddai gennyf fwy o amser ac amynedd i flogio – ond am resymau nad wyf am eich blino efo’u manylion, llai nid mwy o amser ac amynedd ddaeth fy ffordd.


Ta waeth, dwi wedi gwneud adduned flwyddyn newydd i flogio ychydig yn amlach.  Dwi’n bwriadu cadw at yr adduned, ond bydd yna un neu ddau o newidiadau.


  1. Yn wythnosol y byddaf yn blogio gan amlaf.  Y bwriad ydi cyhoeddi blogiad pob dydd Llun.  Byddaf yn blogio ychydig yn amlach weithiau.  Mae’n debyg y bydd yna fwy nag un blogiad wythnos yma oherwydd bod yna cymaint o waith dal i fyny efo Brexit.
  2. ‘Dwi’n chwarae efo’r syniad o newid platfform o Blogspot i WordPress.  Y rheswm am hyn ydi mai oddi ar ffon neu ddyfeisiadau symudol eraill y byddaf yn blogio gan amlaf, a dwi’n tueddu i golli rheolaeth ar ddelweddau, graffiau ac ati wrth wneud hynny.   Felly byddaf yn argraffu’r un blogiad ar WordPress a Blogspot am sbel tra dwi’n asesu os ydi hi’n werth newid platfform yn llwyr.  Bydd cyfeiriad y blog newydd ar gael efo’r blogiad nesaf.

ON – diolch i bawb (a rydan ni’n son am dipyn go lew o bobl yma) sydd wedi holi am y blog ers i mi beidio blogio’n rheolaidd. ‘Dwi’n mawr werthfawrogi’r sylwadau caredig.

Yr etholiad am arweinyddiaeth Y Blaid – un neu ddau o sylwadau brysiog

Dwi’n eistedd ar long o Ddulyn i Gaergybi ar hyn o bryd.  Mewn bar coffi yng nghanol Dulyn oeddwn i pan gafodd canlyniad yr etholiad ei gyhoeddi.  Efallai bod pellter yn anfantais o ran trafod rhywbeth fel hyn yn ystyrlon – ond mae pellter weithiau’n cynnig ychydig o wrthrychedd.  

Y peth cyntaf i’w ddweud ydi bod y bleidlais (ond efallai ddim y canlyniad) yn anisgwyl.  Ychydig fyddai wedi meddwl am wn i y byddai Adam wedi dod o fewn trwch adenydd gwybedyn i ennill ar y cyfri cyntaf, ac ychydig fyddai wedi disgwyl i Leanne ddod yn drydydd.  Yn sicr roedd hynny – fel rhywun a bleidleisiodd tros Leanne – yn anisgwyl i mi.  

Mae’n debyg bod y rhesymau tros y canlyniad yn gymhleth ac yn amrywiol – ac mae eraill wedi sgwennu am y rhesymau hynny ac mae eraill yn debygol o wneud hynny.  Dwi ddim yn bwriadu ceisio ychwanegu at y dadansoddiadau hynny.  

Ond un peth y byddwn yn hoffi ffocysu arno ydi bod Adam wedi llwyddo i grisialu ei weledigaeth yn hynod o effeithiol – yn yr hystings a thu hwnt.  Dwi’n eithaf siwr yn fy meddwl mai dyma un o’r prif resymau tros ei fuddugoliaeth ysgubol.   Mae’r weledigaeth honno yn ymwneud a gweld y Blaid yn dod i lywodraeth i sicrhau annibyniaeth, sicrhau ffyniant economaidd a thegwch cymdeithasol a dyfodol fel gwlad fodern sy’n rhan o’r Undeb Ewropiaidd.  Mae’r  weledigaeth yma yn hynod o debyg yn y bon i weledigaeth y ddau ymgeisydd arall.  

Dwi’n gwybod bod pobl wedi eu siomi – yn arbennig cefnogwyr Leanne – ond mi hoffwn ddweud dau beth wrthynt.  

Yn gyntaf, mae Leanne wedi llwyddo i ail ddiffinio’r hyn ydi’r Blaid i lawer o bobl yng Nghymru ac wedi rhoi wyneb cyhoeddus iddi sy’n atynadol i lawer iawn o bobl – rhai sy’n pleidleisio i’r Blaid a rhai sydd ddim yn gwneud hynny eto.  Dydi hynny ddim yn fater bach – ac mae’n rhywbeth i ymfalchio ynddo.

Yn ail dwi’n credu mai’r hyn y dylai pawb ei wneud rwan ydi rhoi’r lle a’r gefnogaeth i Adam arwain y Blaid.  Y ffordd orau o sicrhau gwaddol Leanne ydi trwy wneud yn siwr bod ei gweledigaeth hi – ein gweledigaeth ni i gyd fel Pleidwyr – yn cael y lle a’r cyfle i ddatblygu yn dilyn yr etholiad nesaf yn 2021.  Dylai Adam gael 100% o’n cefnogaeth ni oll – sut bynnag wnaethom bleidleisio.  Chwarae i ddwylo’r pleidiau unoliaethol fyddai gwneud unrhyw beth arall.

Cais bach i aelodau’r Blaid

Yn hanesyddol dydi etholiadau arweinyddol heb fod yn brofiadau cadarnhaol iawn i bleidiau gwleidyddol yn y DU – na thu hwnt o ran hynny.  Yn wir mae rhai ohonynt wedi agor holltau sydd wedi diferu gwenwyn i mewn i gylchrediad pleidiau am flynyddoedd – neu ddegawdau.  Mae hyn wedi tueddu i fod yn arbennig o wir yng nghyd destun her i arweinydd cyfredol plaid.  Meddylier Heath / Thatcher neu Thatcher / Major er enghraifft.

Ond mae yna lawer mwy na hynny – ac nid yn hanes y Toriaid yn unig – roedd yr etholiad am is arweinyddiaeth y Blaid Lafur rhwng Tony Benn a Dennis Healy ymysg y gornestau mwyaf gwenwynig a chynhenus yn hanes gwleidyddiaeth y DU.  Mae’n debyg i ymdrechion dan din Harold Wilson i gymryd arweinyddiaeth Llafur oddi ar Gaitskell yn 1960 a’r dirprwy arweinyddiaeth oddi ar George Brown yn 1962 greu drwg deimlad wnaeth barhau am flynyddoedd – er i Wilson gael ei ffordd yn 1963 wrth gwrs.

Arweiniodd yr ornest ddiwethaf i’r Blaid yn 2012 yn anuniongyrchol at ymadawiad ei chyn arweinydd Dafydd Elis Thomas.  Wnaethom ni ddim dod allan o’r ymgais arweinyddol flaenorol i DET gymryd rhan ynddi  – yr un yn erbyn Dafydd Wigley yn 1991 – yn ddi graith chwaith.  

Mae’n cyfeillion Gwyddelig yn gwneud y pethau yma yn well na neb arall wrth gwrs.  Mae’n  debyg i un o’r nifer o geisiadau i ddiorseddu Charlie Haughey fel arweinydd Fianna Fail arwain at ymladd corfforol rhwng rhai o’i haelodau seneddol yng nghoridorau Dáil Éireann.  Holltodd y blaid yn fuan wedyn.

Rwan mae ymgyrchu negyddol yn anorfod mewn Etholiad Cyffredinol.  Mae’r dechneg o glustfeinio ar union eiriad rhyw wleidydd neu’i gilydd, dehongli’r hyn sydd wedi ei ddweud mewn modd sy’n gwneud i bwy bynnag sydd wedi eu llefaru ymddangos i gymryd safbwynt afresymegol neu amhoblogaidd a rhoi cyhoeddusrwydd i hynny yn rhan o wead etholiadau rhwng pleidiau gwahanol.  Dwi wedi ei wneud o fy hun – dwi ddim yn arbennig o gyfforddus pan dwi’n gwneud hynny – ond ‘does yna ddim llawer o ddewis pan mae pob plaid arall wrthi.

Mae moesoli  yn rhan o wleidyddiaeth etholiadol hefyd – gweld drygioni mawr yn safbwynt pobl eraill.  Dydi dweud bod y Toriaid yn ‘elynion y bobl’ – er ei bod yn ymddangos bellach na ddywedwyd y  geiriau yna- ddim yn rhoi unrhyw un y tu allan i werthoedd sifig arferol chwaith.

Mae plaid sy’n defnyddio ei grym llywodraethol i geisio gwneud trwch y boblogaeth yn dlotach am resymau sy’n ymwneud a’i gwleidyddiaeth mewnol ei hun yn elyn i drwch y boblogaeth.  Ffaith syml ydi o – os cafodd yr ymadrodd ei ddweud neu beidio.  Dyna sydd yn digwydd efo Brexit – mae’r llywodraeth Doriaidd yn gwybod gyda sicrwydd 100% y bydd Brexit yn gwneud y rhan fwyaf o bobl yn dlotach nag ydyn nhw rwan – ond mae nhw’n gwthio ymlaen efo’r peth beth bynnag.

Mae etholiad oddi fewn plaid yn wahanol.  Rydan ni wedi gweithio efo’n gilydd yn y gorffennol, a bydd rhaid i ni weithio efo’n gilydd yn y dyfodol.  Mae hyn yn arbennig o wir am blaid sydd a’i haelodaeth yn gymharol fach – rhywfaint i’r gogledd o 8,000.  Dylai natur sylfaenol etholiad mewnol fod yn wahanol i etholiad lle mai’r gwrthwynebwyr ydi cynrychiolwyr pleidiau eraill.  

Ar pob cyfri dylai cefnogwyr ganmol eu hymgeisydd eu hunain am ei agwedd tuag at Brexit, annibyniaeth, mwd niwclear neu beth bynnag.  Does yna ddim o’i le mewn honni bod barn un person yn rhagori ar farn y gweddill chwaith.  Does yna ddim o’i le mewn gwneud achos tros un ymgeisydd yn hytrach nag un arall chwaith.  Ond mae crafu o gwmpas am gyfle i gam gynrychioli agwedd a barn wleidyddol un neu fwy o’r ymgeiswyr eraill yn sylfaenol hunan niweidiol o safbwynt pleidiol.  

Felly – os gwelwch yn dda un ac oll – a gawn ni wneud hyn mewn ffordd gall a chwrtais?