Ynglyn a disgyblion sy’n siarad y Gymraeg yn y cartref

Rydw i wedi nodi sawl gwaith yn y blog yma y thu hwnt mai un o’r pethau rhyfeddaf am wleidyddiaeth iaith cyfoes Cymru ydi’r ffaith mai’r sawl sydd fwyaf tebygol o ddarogan tranc y Gymraeg ydi gelynion yr iaith a rhai o garedigion blaenllaw’r iaith.  Mae’r naill garfan yn darogan marwolaeth yr iaith oherwydd eu bod eisiau dadlau nad oes pwrpas i gymryd camau i’w hachub tra bod y garfan arall yn darogan yr un peth oherwydd eu bod eisiau dadlau nad oes digon yn cael ei wneud i’w hachub.

Bwriad y blogiad yma ydi dangos nad ydi’r darogan gwae yma’n dal dwr mewn gwirionedd.

Dwi’n meddwl bod ffigyrau cyfrifiad yn eithaf adnabyddus, felly wna i ddim aros gormod efo’r rheiny.  Yn fras maent yn dangos bod llai o lawer o gymunedau sydd efo canrannau uchel iawn o siaradwyr Cymraeg yn byw ynddynt nag oedd hanner canrif yn ôl – ond nad oes fawr o gwymp wedi bod yn y ganran tros Gymru sy’n siarad yr iaith nag yn y niferoedd sy’n siarad yr iaith.

‘Dydi’r ffigyrau moel ddim wedi atal y daroganwyr gwae rhag darogan gwae wrth gwrs.  Un naratif a geir ydi bod y canrannau a’r niferoedd yn weddol gadarn, ond bod llawer o bobl sydd ddim yn siarad y Gymraeg yn rhugl nag yn aml yn cael eu cyfri – a bod hynny’n cuddio cwymp gwirioneddol mwy arwyddocaol.

Gydag hyn mewn golwg dwi wedi cymryd cip ar ddata llywodraeth Cymru er mwyn gweld beth ydi’r patrymau o ran plant ysgol sy’n siarad y Gymraeg yn y cartref.  Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd y byddai rhywun yn disgwyl y byddai siarad y Gymraeg yn y cartref yn arfer fyddai’n mynd yn llai cyffredin petai’r iaith yn wynebu perygl yn y dyfodol agos neu ganolig.  Yn wir byddai’n rhesymol disgwyl cwymp beth bynnag – mae llawer llai o gartrefi lle mae’r ddau riant yn siarad y Gymraeg heddiw nag oedd yn y gorffennol.  Yn anffodus fedra i ond mynd yn ôl i 2003/4 – cafwyd newid yn y ffordd mae’r data yn cael ei hel bryd hynny – a ni fyddai cymhariaeth efo blynyddoedd cynharach yn gymhariaeth o debyg efo’i debyg.  Hefyd dwi wedi gadael Dwyrain De Cymru allan o’r rhan fwyaf o’r blogiad yma oherwydd bod y ffigyrau yn isel iawn yno.

Felly beth ydym yn gallu ei gasglu o’r ymarferiad yma.  Y peth cyntaf i’w ddweud o bosibl ydi nad oes yna llawer o dystiolaeth o ostyngiad tros Gymru – yn wir mae’r rhifau yn anhygoel o gyson gydag amrediad o llai nag 1% tros gyfnod o tua 15 mlynedd.

Beth felly am yr ardaloedd mwyaf Cymreig? Y rhanbarth Cymreiciaf ydi Gogledd Cymru lle mae 22.1% o blant ysgol yn siarad y Gymraeg adref ar hyn o bryd.  Mae hyn yn cymharu efo 21.47% yn 2003 / 4.  Y ddwy sir Gymreiciaf yn y rhanbarth ydi Gwynedd a Mon.  Cafwyd gostyngiad o tua 1% yn y ganran o blant sy’n siarad y Gymraeg adref tros y cyfnod yng Ngwynedd, a chynnydd o tua 4% yn Ynys Mon.

Mae Canolbarth Cymru a Gorllewin De Cymru unwaith eto yn gyson gydag amrediad eto o lai nag 1%. O ran y ddwy sir fwyaf Cymraeg o ran iaith y nodwedd mwyaf amlwg ydi cwymp cymharol fawr o tua 8% yng Ngheredigion tra bod Caerfyrddin wedi bod yn gymharol gyson tros yr un cyfnod.

Ar wahân i gynnydd sylweddol yng Nghaerdydd yn 2004 / 05 a  chwymp yn dilyn hynny – rhywbeth sy’n anodd iawn i’w egluro – mae yna batrwm o gynnydd cyson ond araf ar hyd y rhanbarth ac yn y ddwy sir lle mae yna’r mwyaf o blant yn siarad y Gymraeg adref – Caerdydd a Rhondda Cynon Taf.

G

Rhan o’r stori yn unig sydd i’w gael o edrych ar ganrannau – mae niferoedd yr un mor bwysig wrth gwrs.  Un o nodweddion y pymtheg mlynedd diwethaf yng Nghymru ydi cwymp eithaf sylweddol yn y nifer o ddisgyblion sydd yn ysgolion Cymru – dyma ydi’r cefndir i’r gwahanol sefyllfaoedd yng Nghymru lle mae ysgolion yn cael eu cau wrth gwrs.

Ond mae’r cwymp yma yn anghyson.  Er bod cwymp wedi bod ym mhob rhanbarth yng Nghymru bu cynnydd yn y nifer o blant yn ysgolion Caerdydd.  

O edrych ar y niferoedd sy’n siarad y Gymraeg adref y brif nodwedd ydi cynnydd yng Nghanol De Cymru a chwymp yn y Gogledd a’r Canolbarth / Gorllewin De Cymru.

Yn 2003 / 2004 roedd y ffigyrau fel a ganlyn:

Gwynedd 10171
Ynys Mon 4171


Ceredigion 4125
Caerfyrddin 6459


RCT 1877
Caerdydd 2084

Erbyn hyn bu ychydi o newid.  Yn 2017 / 2018 roeddynt fel a ganlyn:

Gwynedd 9008
Ynys Mon 3998


Ceredigion 2983
Caerfyrddin 5942


RCT 2489
Caerdydd 3013

Felly mae yna fwy o blant sy’n siarad y Gymraeg adref yn byw yng Nghaerdydd na sydd yng Ngheredigion – a ‘does yna ddim bwlch mawr rhwng RCT a Cheredigion.

Cyn gorffen hoffwn esbonio fy mod ychydig yn anghyfforddus yn gwahaniaethu rhwng gwahanol fath o Gymru Cymraeg – y sawl sydd wedi dysgu’r iaith y tu allan i’r cartref sydd yn aml efo’r mwyaf o ymrwymiad iddi.  Ond mae’r wybodaeth uchod yn bwysig o safbwynt yr hyn mae’n ei ddweud wrthym am pa mor effeithiol mae’r Gymraeg yn cael ei drosglwyddo yn y cartref – ac mae’r hyn a ddysgir ymhell o fod yn rheswm i ddigaloni ynglŷn a dyfodol y Gymraeg.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s