Twr o gelwydd

Un o nodweddion diddorol yr holl ffrae Brexit ydi bod cymaint o ffeithiau  ar gael, ond  bod cymaint o’r ddadl yn ymwneud a gwybodaeth sydd ddim yn ffeithiol gywir – neu gelwydd.

Y celwydd mae pob celwydd arall wedi eu adeiladu arno ydi ei bod yn bosibl rhannu 4 rhyddid yr UE (rhyddid i symud pobl, cyllid, gwasanaethau a nwyddau ar draws ffiniau yn ddi dramgwydd).  Dydi hynny ddim yn bosibl i’r UE, a phetai’r UE yn caniatau i wledydd allanol ddewis yr elfennau o’r Farchnad Sengl byddai’r Farchnad Sengl  a’r UE yn datgymalu yn ddigon cyflym.  

Roedd y celwydd sylfaenol yma yn sail i’r ymgyrch Gadael adeiladu twr o gelwydd ar ei ben – bod cwmniau ceir Almaeneg a ffermwyr Ffrengig am orfodi eu llywodraethau i roi telerau da i’r DU, y byddai’r UE yn crefu am gytundeb efo’r UE, y byddai’r DU yn gallu negydu cytundebau masnach efo gwledydd unigol yn yr UE, y byddai cytundebau yn cael eu cwblhau’n gyflym ac yn hawdd iawn, y byddai’r Gwasanaeth Iechyd yn cael £350m yr wythnos yn ychwanegol, na fyddai yna unrhyw oblygiadau negyddol o ran teithio i’r UE, na fyddai’n rhaid codi ffin yn Iwerddon ac ati, ac ati.

Nid yr ochr Gadael oedd yr unig ochr oedd yn dweud celwydd wrth gwrs.  Roedd yr ochr Aros o dan arweinyddiaeth Cameron ac Osborne wedi cymryd eu hysbrydoliaeth o’r refferendwm ynglyn ag annibyniaeth i’r Alban.  Roedd ochr Cameron ac Osborne wedi ennill y refferendwm hwnnw trwy restru pob dim ofnadwy roeddynt yn gallu meddwl amdano a allai ddigwydd petai’r Alban yn gadael y DU, a’u ailadrodd trosodd a throsodd a throsodd.  Ailadroddwyd y patrwm hwn yn ei dro i raddau helaeth, a dywedwyd ymhellach y byddai’r holl wae a gwewyr yn digwydd yn syth bin.

Mae’r ddwy flynedd diwethaf o ‘negydu’ wedi dangos bod bron iawn i’r cwbl o’r hyn addawyd gan yr ochr Gadael yn amhosibl, ac mae yna fynydd o dystiolaeth bod llawer o ganlyniau negyddol am fod i adael yr UE – yn arbennig os nad oes cytundeb.

Ond yr ymateb ydi mwy o gelwydd.  Roedd hi tua blwyddyn yn ol pan holwyd Iain Duncan Smith ynglyn a datganiad Prif Gwnstabl gwasanaeth heddlu Gogledd Iwerddon – y PSNI – y byddai ffin galed yn Iwerddon yn fygythiad i ddiogelwch y dalaith.  Yn ol Duncan Smith doedd hyn ddim yn wir – roedd o wedi gwasanaethu yn y fyddin yng Ngogledd Iwerddon rhywbryd yn y gorffennol pell ac roedd o’n gwybod nad oedd bygythiad o unrhyw fath.  Mae George Hamilton yn darllen adroddiad gan y gwasanaethau cudd wybodaeth ar y bygythiad diogelwch yng Ngogledd Iwerddon yn wythnosol.  Mae Iain Duncan Smith wedi treulio cyfnod yng Ngogledd Iwerddon tra yn y fyddin  ddeugain mlynedd yn ol – ond mae’n credu bod y profiad hwnnw yn rhoi mwy o arbenigedd iddo ar fygythiadau i ddiogelwch yng Ngogledd Iwerddon na phrif gwnstabl cyfredol y PSNI.

A dyna ydi’r ateb i pob rhybudd – os ydi undebau amaethwyr yn darogan gwae i’w sector nhw mae nhw yn anghywir, mae’r asiantaeth ffiniau yn anghywir pan mae nhw yn paratoi ar gyfer anhrefn mewn porthladdoedd a meysydd awyr, mae’r weinyddiaeth sifil yn anghywir i rybuddio y bydd masnach efo’r cyfandir yn syrthio trwy’r llawr, mae’r heddlu yn anghywir i rybuddio y bydd ffin galed yn arwain at dor cyfraith.  Mae pawb yn anghywir – y CBI, yr IMF, Banc Lloegr, yr LSE, y weinyddiaeth sifil, Nissan, Airbus, Siemens, Pawb – mae Iain a’i ffrindiau yn gwybod yn well.  ‘Does na neb yn deall ond Iain a’i ffrindiau.

Mae celwydd Osborne a Cameron yn 2016 o wedi bod o gymorth wrth gwrs.  Mae pob rhagweld negyddol yn cael ei ddisgrifio fel ‘Project Fear’ – rhywbeth tebyg i brosiect Osborne a Cameron.  Ond dydi llawer o’r darogan gwae a geir bron yn ddyddiol ddim yn rhan o ymgyrch wleidyddol.  Yn amlach na pheidio cyrff proffesiynol neu asiantaethau llywodraethol sy’n paratoi ar gyfer problemau – gydag awduron y trefniadau yn aml yn credu bod eu rhybuddion neu eu trefniadau yn gyfrinachol.

Dwi’n meddwl mai dyfyniad cofiadwy y lladmerydd Brexit arall hwnnw – Boris Johnson – ydi ‘inverted pyramid of piffle’.  Fel mae’n digwydd mae’r dyfyniad yn disgrifio Brexit yn eithaf da.  Mae strwythur felly yn sicr o syrthio’n ddarnau wrth gwrs – a dyna fydd yn digwydd i’r prosiect Brexit.  Y cwestiwn mawr wrth gwrs ydi sut fydd y darnau’n syrthio.  Mae’r ateb i’r cwestiwn hwnnw am effeithio ar bawb am gyfnod maith. 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s